Eich Cynghorwyr by Grŵp Gwleidyddol

Etholir Cynghorwyr Lleol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai'r cyngor wneud ei weithgareddau amrywiol. Maent yn cynrychioli budd y cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy'n byw yn y ward y maent wedi’u hethol i'w gwasanaethu am gyfnod.

Maent yn cyfathrebu â’r cyhoedd yn rheolaidd trwy gyfarfodydd cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae cymorthfeydd yn cynnig cyfle i unrhyw drigolyn siarad â'i gynghorydd wyneb yn wyneb, a chynhelir y rhain yn rheolaidd.

Ni thelir Cynghorwyr am eu gwaith, ond maent yn derbyn lwfans. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob aelod o’r Cyngor lenwi ffurflen datganiad o fuddiant. Cyhoeddir manylion am y ffurflen hon bob blwyddyn.

I ddod o hyd i’ch cynghorydd defnyddiwch y dolenni isod:

 Plaid Cymru

 Annibynnol

 Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

 Di-grŵp

 Heb ei nodi