Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Paul Hinge a Lynford Thomas am na fedrent ddod i’r cyfarfod |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Diweddariad ar recriwtio Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion sy'n Siaradwyr Cymraeg PDF 114 KB Cofnodion: Ystyriwyd
Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal a oedd yn rhoi
diweddariad i’r Pwyllgor ynglŷn â Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion sy’n
siaradwyr Cymraeg. Aelodau’r Pwyllgor oedd wedi gofyn am y diweddariad. Dywedwyd bod y
Gwasanaeth Maethu yng Ngheredigion yn darparu lleoliadau hirdymor a thymor byr
ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yng Ngheredigion. Ystod oedran y gwasanaeth
oedd plant o’u geni hyd at 18 mlwydd oed. Ar hyn o bryd, roedd gan Gyngor Sir
Ceredigion 31 o Deuluoedd Maeth cofrestredig. Roedd gan y Sir
hefyd 16 o ofalwyr sy’n berthnasau (a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel teulu
a ffrindiau) ac roeddent wedi symud ymlaen drwy’r un prosesau â’r Gofalwyr
Maeth prif ffrwd. Roeddent wedi’u cofrestru i roi gofal a chefnogaeth i
blentyn/plant sy’n derbyn gofal penodol, fel yr amlinellir yn eu cofrestriad
unigol. Lleolir y gofalwyr hyn ledled y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd,
roedd llai na 5 o blant mewn lleoliadau maethu prif ffrwd/maethu gan berthnasau
yng Ngheredigion a oedd wedi nodi mai’r Gymraeg oedd yr iaith a ffefrir ganddynt. Fodd bynnag, roedd yna blant a oedd yn
derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac roedd y gwasanaeth yn cydnabod pwysigrwydd
cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant. Rhannwyd y tabl
isod a oedd yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â gallu
gofalwyr maeth o ran y Gymraeg; Lefel
ALTE Gwrando a siarad Cymraeg Darllen Cymraeg Ysgrifennu Cymraeg (nifer y
gofalwyr) (nifer y
gofalwyr) (nifer y gofalwyr) 0 6 11 14 1 9 9 5 2 5 1 2 3 2 0 1 4 0 1 0 5 1 1 1 O ran meysydd
gwasanaeth yr oedd angen eu datblygu ymhellach, nodwyd y canlynol:- ·
Recriwtio
- Elfen allweddol ar gyfer y gwasanaeth wrth symud ymlaen yw gweithio gydag
ymgyrchoedd recriwtio Cenedlaethol a Rhanbarthol a fydd yn rhoi ystod o
gyfleoedd wedi’u targedu’n benodol sy’n defnyddio adnoddau Cenedlaethol gan
gynnwys y cyfryngau e.e. hysbysebion ar S4C ac ITV. Ychwanegir at hyn gan
gynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu Sirol a fydd yn canolbwyntio ar dargedu
ymgyrchoedd penodol wedi’u gyrru gan anghenion dynodedig ar gyfer ein Plant
sy’n Derbyn Gofal yng Ngheredigion e.e. ymgysylltu â chlybiau Ffermwyr Ifanc,
Merched y Wawr a grwpiau yn y gymuned ehangach. ·
Cefnogi
Iaith - rhoi cyfleoedd i Ofalwyr Maeth Ceredigion wella eu sgiliau iaith drwy
gael mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd a ddarperir drwy Borth Cymorth
Cynnar. ·
Cefnogaeth
ddiwylliannol - datblygu cynllun integreiddio a chymdeithasu blynyddol gan
fanteisio i’r eithaf ar dreftadaeth a diwylliant Ceredigion a rhoi’r wybodaeth
a’r mynediad i’r Gofalwyr Maeth i gyfoeth o weithgareddau’n ymwneud â
diwylliant a threftadaeth ac amgylcheddau naturiol yn lleol. Bydd y gwasanaeth
yn gweithio mewn cydweithrediad â Phorth Cymorth Cynnar, yr adran Addysg a
sefydliadau trydydd sector i ehangu a dathlu’r cyfoeth o ddarpariaeth leol sydd
ar gael i Ofalwyr Maeth Ceredigion. Yn dilyn
cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ynghylch y canlynol:- (i) nodi’r
adroddiad er gwybodaeth; (ii) bod adroddiad cynnydd am y Gwasanaeth Maethu yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Darpariaeth Gofal Cartref PDF 179 KB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal am y
ddarpariaeth Gofal Cartref yng Ngheredigion. Dywedwyd bod y ddarpariaeth Gofal Cartref dros
nifer o flynyddoedd yng Ngheredigion wedi parhau i gael
ei ddiwallu drwy’r Fframwaith Comisiynu ar gyfer
Caffael, er mwyn darparu gofal
i ddefnyddwyr gwasanaeth unigol. Yr enw ar y broses hon oedd e-dendro. Ar ôl bodloni
cyfres o ofynion caffael, roedd holl ddarparwyr Ceredigion yn cael eu
cofrestru ar gyfer y Fframwaith ac yna roeddent yn
gallu derbyn contractau am wasanaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion. Cyn gynted ag y bo gweithiwr cymdeithasol
wedi nodi anghenion gofal cymwys, yn sgil
Asesiad yn ôl Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant, byddai cais am wasanaeth yn cael
ei wneud. Cyn gynted ag y bo hwn wedi
ei gadarnhau, byddai’r hysbysiad yn cael ei
roi ar borthol
caffael e-dendro ar GwerthwchiGymru. Yna, byddai’r darparwyr
a oedd wedi’u cofrestru i ddarparu gofal yng Ngheredigion
yn gallu edrych ar y pecynnau
gofal oedd eu hangen yn
y gymuned a chyflwyno cynigion er mwyn
darparu’r gofal hwnnw. Byddai’r cynigion hyn yn
cael eu gwneud
i’r teulu ac unwaith y byddent wedi’u derbyn, byddai trefniadau yn cael eu
gwneud er mwyn dechrau ar
y gofal. Os byddai’r teulu yn gwrthod y cynnig
(er enghraifft os na fyddai’r
amserau gofal yn bodloni eu
dewis personol ac os na fyddai
modd dod o hyd i gyfaddawd), yna byddai’r cais
am ofal yn parhau ar y porthol
caffael hyd nes y byddai cynnig
arall yn dod i law. O ran anghenion gofal cymhleth iawn, gallai’r pecyn gofal a chymorth
gynnwys anghenion gofal a fyddai’n gofyn am 2 aelod o staff gofal am hyd at 4 gwaith y dydd, 7 niwrnod yr wythnos,
52 wythnos y flwyddyn. Byddai’r anghenion gofal eraill yn
cynnwys yr holl anghenion hyd at yr ymyraethau
ar lefel is, sef gofal unwaith
neu ddwywaith yr wythnos i gynorthwyo
gyda rhoi bath a chawod, er enghraifft.
Roedd Gofal a Chymorth yn y cartref
yn canolbwyntio ar gyflenwi sgiliau
er mwyn darparu
gofal personol ac anghenion llesiant. Drwy gydol pandemig
y Covid-19, roedd y Darparwyr
Gofal Cartref wedi gweithio’n ddiflino i ddiwallu anghenion gofal a chymorth ein cymunedau.
Roedd y staff yn parhau i ddarparu cymorth i unigolion bregus er eu
bod yn cynyddu’r risg iddynt hwy
eu hunain a’u teuluoedd wrth
iddynt roi gofal a chymorth a oedd yn golygu
eu bod yn agos atynt. Roedd
ymdrechion y staff hyn wedi eu cydnabod,
ac yn parhau i gael eu cydnabod,
yn ymdrechion eithriadol ar adeg
nas gwelwyd ei thebyg o’r
blaen. Yn dilyn trafodaeth hir, cynigiodd un o Aelodau’r Pwyllgor argymhelliad i’r Cabinet a chafodd y cynnig ei eilio
gan aelod arall. Nid oedd
rhai o’r aelodau yn gyfforddus
â’r argymhelliad hwn am amrywiol resymau ac felly cynhaliwyd pleidlais ymhlith aelodau’r Pwyllgor. Roedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Camddefnyddio Sylweddau yng Ngheredigion a'r gwasanaethau a ddarperir PDF 876 KB Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
pwynt pŵer i’r Aelodau am gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd ac amlinellwyd
y wybodaeth ganlynol:- ·
Mae
Llywodraeth Cymru wedi llunio Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau
2019-2022 (Diwygiwyd mewn Ymateb i Covid-19) ·
Y
Darlun Cenedlaethol ·
Alcohol ·
Ystadegau
Meddygon Teulu Ceredigion ·
Gwasanaethau
yng Ngheredigion ·
Info
Base Cymru- 2019-2020 Hywel Dda Ceredigion ·
Barod ·
Achosion
gerbron Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Cyngor Sir Ceredigion ·
Yr
Heddlu - mynd i’r afael â chyflenwadau ·
Troseddau
meddiant cyffuriau ‒ Data Heddlu Dyfed-Powys ·
Troseddau
Masnachu Cyffuriau – Data Heddlu Dyfed-Powys ·
Marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau fesul Sir ·
Gorddosau sydd ddim yn angheuol fesul Sir Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol. |
|
Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4, 2020-2021 PDF 683 KB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2020 -
2021. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn
monitro
cynnydd Plant sy'n Derbyn Gofal drwy
waith craffu Swyddogion Adolygu Annibynnol o'u cynlluniau a'u lleoliadau yn ystod
pedwerydd chwarter
2020/2021. Roedd y wybodaeth
hon yn cynorthwyo’r Aelodau i gyflawni eu swyddogaethau fel Rhieni Corfforaethol. Roedd yr adroddiad
hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur
y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal
adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad
Llywodraeth Cymru. Ar sail y
wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r
Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun
gofal y plentyn/ person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell
newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y
cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen
cymorth ar y plentyn/ person ifanc i nodi pobl eraill berthnasol er mwyn iddynt
roi cyngor cyfreithiol/ cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol
o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y
cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r
Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau
dynol y plentyn/ person ifanc a gallai gyfeirio'r achos at CAFCASS Cymru. Ni
chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw adolygiad yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adroddiadau
hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Amlasiantaethol
‘Plant sy'n Derbyn Gofal’ sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn
gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes
gwaith hwn. Mae'r adroddiadau
hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta
Corfforaethol yr Awdurdod Lleol dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Alun Williams,
Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant a Diwylliant, a chynhelir y
cyfarfodydd hyn bob chwarter. CRYNODEB O’R PRIF
BWYNTIAU: Ø Ar ddiwedd y
Chwarter hwn, sef Chwarter 4, ar 31 Mawrth 2021, roedd 85 o blant yn derbyn
gofal gan yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn gynnydd o ran nifer y plant sy'n derbyn
gofal. Ar ddiwedd Chwarter 3 roedd 79 o blant yn derbyn gofal. Ø Adolygwyd 58 o
blant yn y chwarter hwn. Adolygwyd 89.7% o fewn yr amserlen statudol. Ø Dychwelwyd un
plentyn adref i'r teulu yn ystod y chwarter hwn, o'i gymharu â phedwar plentyn
yn Chwarter 3. Ø Roedd y
ddarpariaeth o ran lleoli’r plant a adolygwyd yn y chwarter hwn yn amrywio o 20
a leolwyd mewn Darpariaeth Gofal Maeth Awdurdod Lleol, 12 a leolwyd gyda
theulu, 9 a leolwyd gyda rhieni, 8 mewn Darpariaeth Gofal Maeth Annibynnol, 3
mewn gofal preswyl a 3 gyda gofalwyr sy'n berthnasau. Ø O blith y plant
a adolygwyd yn y chwarter hwn, cafodd 87.9% ohonynt ymweliad statudol. Ø Roedd 32 o blant a adolygwyd yn destun Gorchymyn Gofal Llawn, roedd 16 yn destun Gorchymyn Gofal ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Drafft Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 142 KB Cofnodion: Ystyriwyd Blaenraglen Waith 2021-22 fel y’i cyflwynwyd. CYTUNWYD i
nodi’r eitemau yn amodol ar gynnwys yr adroddiadau cynnydd a ofynnwyd amdanynt
ynglŷn â recriwtio Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion sy’n siaradwyr Cymraeg
a’r ddarpariaeth Gofal Cartref. |
|
Cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor 17 Medi 2021 ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt PDF 139 KB Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor gadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 17 Medi yn rhai cywir. Materion yn codi Dim. |