Eitem Agenda

Diweddariad ar recriwtio Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion sy'n Siaradwyr Cymraeg

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ynglŷn â Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion sy’n siaradwyr Cymraeg. Aelodau’r Pwyllgor oedd wedi gofyn am y diweddariad.

 

Dywedwyd bod y Gwasanaeth Maethu yng Ngheredigion yn darparu lleoliadau hirdymor a thymor byr ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yng Ngheredigion. Ystod oedran y gwasanaeth oedd plant o’u geni hyd at 18 mlwydd oed. Ar hyn o bryd, roedd gan Gyngor Sir Ceredigion 31 o Deuluoedd Maeth cofrestredig.

 

Roedd gan y Sir hefyd 16 o ofalwyr sy’n berthnasau (a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel teulu a ffrindiau) ac roeddent wedi symud ymlaen drwy’r un prosesau â’r Gofalwyr Maeth prif ffrwd. Roeddent wedi’u cofrestru i roi gofal a chefnogaeth i blentyn/plant sy’n derbyn gofal penodol, fel yr amlinellir yn eu cofrestriad unigol. Lleolir y gofalwyr hyn ledled y Deyrnas Unedig.

 

Ar hyn o bryd, roedd llai na 5 o blant mewn lleoliadau maethu prif ffrwd/maethu gan berthnasau yng Ngheredigion a oedd wedi nodi mai’r Gymraeg oedd yr iaith a ffefrir ganddynt. Fodd bynnag, roedd yna blant a oedd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac roedd y gwasanaeth yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant.

 

Rhannwyd y tabl isod a oedd yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â gallu gofalwyr maeth o ran y Gymraeg;

 

Lefel ALTE     Gwrando a siarad Cymraeg    Darllen Cymraeg      Ysgrifennu Cymraeg

                              (nifer y gofalwyr)              (nifer y gofalwyr)           (nifer y gofalwyr)

0          6          11        14

1          9          9          5

2          5          1          2

3          2          0          1

4          0          1          0

5          1          1          1

 

O ran meysydd gwasanaeth yr oedd angen eu datblygu ymhellach, nodwyd y canlynol:-

·         Recriwtio - Elfen allweddol ar gyfer y gwasanaeth wrth symud ymlaen yw gweithio gydag ymgyrchoedd recriwtio Cenedlaethol a Rhanbarthol a fydd yn rhoi ystod o gyfleoedd wedi’u targedu’n benodol sy’n defnyddio adnoddau Cenedlaethol gan gynnwys y cyfryngau e.e. hysbysebion ar S4C ac ITV. Ychwanegir at hyn gan gynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu Sirol a fydd yn canolbwyntio ar dargedu ymgyrchoedd penodol wedi’u gyrru gan anghenion dynodedig ar gyfer ein Plant sy’n Derbyn Gofal yng Ngheredigion e.e. ymgysylltu â chlybiau Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a grwpiau yn y gymuned ehangach.

·         Cefnogi Iaith - rhoi cyfleoedd i Ofalwyr Maeth Ceredigion wella eu sgiliau iaith drwy gael mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd a ddarperir drwy Borth Cymorth Cynnar.

·         Cefnogaeth ddiwylliannol - datblygu cynllun integreiddio a chymdeithasu blynyddol gan fanteisio i’r eithaf ar dreftadaeth a diwylliant Ceredigion a rhoi’r wybodaeth a’r mynediad i’r Gofalwyr Maeth i gyfoeth o weithgareddau’n ymwneud â diwylliant a threftadaeth ac amgylcheddau naturiol yn lleol. Bydd y gwasanaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â Phorth Cymorth Cynnar, yr adran Addysg a sefydliadau trydydd sector i ehangu a dathlu’r cyfoeth o ddarpariaeth leol sydd ar gael i Ofalwyr Maeth Ceredigion.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ynghylch y canlynol:-

(i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth;

(ii) bod adroddiad cynnydd am y Gwasanaeth Maethu yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y dyfodol;

(iii) rhoi’r eitem hon ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor; a

(iv) diolch i’r gwasanaeth am ei holl waith o fewn y Gwasanaeth Maethu

 

Dogfennau ategol: