Eitem Agenda

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4, 2020-2021

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2020 - 2021. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn monitro cynnydd Plant sy'n Derbyn Gofal drwy waith craffu Swyddogion Adolygu Annibynnol o'u cynlluniau a'u lleoliadau yn ystod pedwerydd chwarter 2020/2021. Roedd y wybodaeth hon yn cynorthwyo’r Aelodau i gyflawni eu swyddogaethau fel Rhieni Corfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/ person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal.

 

Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/ person ifanc i nodi pobl eraill berthnasol er mwyn iddynt roi cyngor cyfreithiol/ cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw.

 

Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/ person ifanc a gallai gyfeirio'r achos at CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw adolygiad yn ystod y cyfnod hwn.

 

Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Amlasiantaethol ‘Plant sy'n Derbyn Gofal’ sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn.

 

Mae'r adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant a Diwylliant, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter.

 

CRYNODEB O’R PRIF BWYNTIAU:

 

Ø  Ar ddiwedd y Chwarter hwn, sef Chwarter 4, ar 31 Mawrth 2021, roedd 85 o blant yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn gynnydd o ran nifer y plant sy'n derbyn gofal. Ar ddiwedd Chwarter 3 roedd 79 o blant yn derbyn gofal.

Ø  Adolygwyd 58 o blant yn y chwarter hwn. Adolygwyd 89.7% o fewn yr amserlen statudol.

Ø  Dychwelwyd un plentyn adref i'r teulu yn ystod y chwarter hwn, o'i gymharu â phedwar plentyn yn Chwarter 3.

Ø  Roedd y ddarpariaeth o ran lleoli’r plant a adolygwyd yn y chwarter hwn yn amrywio o 20 a leolwyd mewn Darpariaeth Gofal Maeth Awdurdod Lleol, 12 a leolwyd gyda theulu, 9 a leolwyd gyda rhieni, 8 mewn Darpariaeth Gofal Maeth Annibynnol, 3 mewn gofal preswyl a 3 gyda gofalwyr sy'n berthnasau.

Ø  O blith y plant a adolygwyd yn y chwarter hwn, cafodd 87.9% ohonynt ymweliad statudol.

Ø  Roedd 32 o blant a adolygwyd yn destun Gorchymyn Gofal Llawn, roedd 16 yn destun Gorchymyn Gofal Dros Dro, 1 yn destun Gorchymyn Lleoli ac roedd 9 o dan statws cyfreithiol Adran 76.

Ø  Cofnodwyd bod 100% o'r cynlluniau gofal a chymorth yn diwallu anghenion y plant/pobl ifanc a adolygwyd yn y chwarter hwn.

Ø  Nifer a chanran y plant (o ddealltwriaeth ddigonol) a fu’n ymwneud â'u hadolygiad neu yr ymgynghorwyd â nhw, oedd 100%.

Ø  Nifer a chanran y plant a gafodd wybod am eu hawl i gael gwasanaeth eiriolaeth, oedd 100%.

Ø  Canran y bobl ifanc a oedd yn gymwys i gael Cynllun Llwybr ac sydd gydag un ar waith, ac ymgynghorydd personol i'w cefnogi, yw 100%.

Ø  Cwblhawyd 25 o Adolygiadau Cynllun Llwybr yn y chwarter hwn. Cwblhawyd 80% o fewn yr amserlen.

Ø  Dangosodd 96% o'r Adolygiadau a wnaed fod y Cynlluniau Llwybr a oedd ar waith yn diwallu anghenion y bobl ifanc.

Ø  Roedd 80% o'r Adolygiadau Cynllun Llwybr a wnaed naill ai’n cynnwys cynrychiolaeth o farn y person yn yr adolygiad neu roedd y person ifanc yn bresennol yn ei adolygiad.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol.

 

Dogfennau ategol: