Eitem Agenda

Darpariaeth Gofal Cartref

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal am y ddarpariaeth Gofal Cartref yng Ngheredigion.

 

Dywedwyd bod y ddarpariaeth Gofal Cartref dros nifer o flynyddoedd yng Ngheredigion wedi parhau i gael ei ddiwallu drwy’r Fframwaith Comisiynu ar gyfer Caffael, er mwyn darparu gofal i ddefnyddwyr gwasanaeth unigol. Yr enw ar y broses hon oedd e-dendro. Ar ôl bodloni cyfres o ofynion caffael, roedd holl ddarparwyr Ceredigion yn cael eu cofrestru ar gyfer y Fframwaith ac yna roeddent yn gallu derbyn contractau am wasanaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion.

 

Cyn gynted ag y bo gweithiwr cymdeithasol wedi nodi anghenion gofal cymwys, yn sgil Asesiad yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, byddai cais am wasanaeth yn cael ei wneud. Cyn gynted ag y bo hwn wedi ei gadarnhau, byddai’r hysbysiad yn cael ei roi ar borthol caffael e-dendro ar GwerthwchiGymru. Yna, byddai’r darparwyr a oedd wedi’u cofrestru i ddarparu gofal yng Ngheredigion yn gallu edrych ar y pecynnau gofal oedd eu hangen yn y gymuned a chyflwyno cynigion er mwyn darparu’r gofal hwnnw. Byddai’r cynigion hyn yn cael eu gwneud i’r teulu ac unwaith y byddent wedi’u derbyn, byddai trefniadau yn cael eu gwneud er mwyn dechrau ar y gofal. Os byddai’r teulu yn gwrthod y cynnig (er enghraifft os na fyddai’r amserau gofal yn bodloni eu dewis personol ac os na fyddai modd dod o hyd i gyfaddawd), yna byddai’r cais am ofal yn parhau ar y porthol caffael hyd nes y byddai cynnig arall yn dod i law. O ran anghenion gofal cymhleth iawn, gallai’r pecyn gofal a chymorth gynnwys anghenion gofal a fyddai’n gofyn am 2 aelod o staff gofal am hyd at 4 gwaith y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Byddai’r anghenion gofal eraill yn cynnwys yr holl anghenion hyd at yr ymyraethau ar lefel is, sef gofal unwaith neu ddwywaith yr wythnos i gynorthwyo gyda rhoi bath a chawod, er enghraifft. Roedd Gofal a Chymorth yn y cartref yn canolbwyntio ar gyflenwi sgiliau er mwyn darparu gofal personol ac anghenion llesiant.

 

Drwy gydol pandemig y Covid-19, roedd y Darparwyr Gofal Cartref wedi gweithio’n ddiflino i ddiwallu anghenion gofal a chymorth ein cymunedau. Roedd y staff yn parhau i ddarparu cymorth i unigolion bregus er eu bod yn cynyddu’r risg iddynt hwy eu hunain a’u teuluoedd wrth iddynt roi gofal a chymorth a oedd yn golygu eu bod yn agos atynt. Roedd ymdrechion y staff hyn wedi eu cydnabod, ac yn parhau i gael eu cydnabod, yn ymdrechion eithriadol ar adeg nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, cynigiodd un o Aelodau’r Pwyllgor argymhelliad i’r Cabinet a chafodd y cynnig ei eilio gan aelod arall. Nid oedd rhai o’r aelodau yn gyfforddus â’r argymhelliad hwn am amrywiol resymau ac felly  cynhaliwyd pleidlais ymhlith aelodau’r Pwyllgor.

 

Roedd canlyniad y bleidlais fel a ganlyn:- roedd 4 o blaid y cynnig, 1 yn erbyn ac 8 wedi ymatal.

 

Gan fod 4 o blaid y cynnig, CYTUNWYD i:

(i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth,

(ii) argymell i aelodau’r Cabinet eu bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio cyllid o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i ddarparu pecyn ariannu arloesol er mwyn cefnogi’r broses o recriwtio staff i’r Sector Darparwyr Gofal Cartref lle mae’r angen yn fawr;

(iii) cefnogi’r broses o gyflwyno Cynllun Taliad Bonws am Atgyfeirio a ddefnyddiwyd mewn cartref Gofal Preswyl i annog gweithwyr i’r maes hwn; a

(iv) diolch i bawb sy’n rhan o’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth Gofal Cartref

Dogfennau ategol: