Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan am nad oedd yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: i. Datganodd y Cynghorydd Eryl Evans
fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4.
ii. Datganodd y Cynghorydd Alun Williams
fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 5.
|
|
ADRODDIAD RHEOLI PERFFORMIAD Y GWASANAETH ADOLYGU ANNIBYNNOL CHWARTER 4 2022 – 2023 PDF 906 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles)
adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2022/2023. Caiff
adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod
Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr
adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a
ddefnyddiwyd i fesur y canlyniadau ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal a phlant
oedd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys
Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth oedd ar gael
a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu
Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y
plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r
cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol
yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl
eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y
Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 7
plentyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol
yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person
ifanc ac, os oedd yn, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr
angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yr
adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant
oedd yn Derbyn Gofal Amlasiantaethol oedd yn cwrdd
bob chwarter; roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill oedd yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Roedd yr
adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhaliwyd y
cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno
Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiadau. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau
a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd: · Roedd nifer o
resymau am y cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys effaith yr
argyfwng costau byw, amrywiol gymhlethdodau a’r gwell cyfradd ymateb o ran
atgyfeiriadau. · O dan
gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu’r gallu i wneud elw o ofalu am blant sy’n
derbyn gofal,
roedd yr awdurdod lleol wrthi’n datblygu adnoddau mewnol mewn 3 lleoliad ar
draws y sir ac roedd disgwyl i’r rhain agor yn 2024. Er bod gan Geredigion lai
o unigolion mewn lleoliadau y tu allan i’r sir o gymharu ag awdurdodau lleol
eraill, yr amcan oedd caniatáu i blant aros yn eu cymunedau lleol a chaniatáu
iddynt gadw cysylltiadau â’u teuluoedd a’r ysgolion. · O ystyried yr adnoddau a oedd eu hangen, y prinder manylion a oedd wedi dod i law oddi wrth y Swyddfa Gartref a’r pwysau ariannol ar gyllideb yr awdurdod lleol, codwyd pryderon ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Esboniodd y
Cynghorydd Matthew Vaux (yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol
a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal
ynghylch y Strategaeth Dai Ddrafft a hynny ar ôl i’r Pwyllgor Craffu a’r
Cabinet gytuno iddi. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 5 Mai a daeth i ben ar 30
Mehefin 2023. Gofynnodd Arolwg yr Ymgynghoriad gyfanswm o 10 cwestiwn, ac o’r
canfyddiadau, roedd y mwyafrif yr ymatebion yn gadarnhaol ac yn cytuno â’r
strategaeth arfaethedig. Felly, roedd y Tîm Tai yn parhau i fod yn hyderus bod
y cyfarwyddiadau hyn yn addas i'r diben ac nad oedd angen eu newid. Thema allweddol
i’w nodi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad oedd eiddo gwag. Roedd y maes hwn wedi
cael ei gydnabod gan y Gwasanaeth Tai ac wedi cael ystyriaeth a blaenoriaeth
briodol o fewn y Strategaeth Dai ac felly, roedd yn gadarnhaol gweld bod pobl
yn cytuno bod angen rhoi sylw i’r maes gwaith hwn yn yr ymatebion a
dderbyniwyd. Rhoddwyd trosolwg o’r ychwanegiadau i’r Strategaeth Dai yn dilyn
yr ymgynghoriad a’r gwaith adolygu mewnol. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd
ffosffadau yn broblem fawr yn y sir ac roedd yn atal datblygiadau. Serch hynny,
nid oedd hyn o fewn cwmpas y Strategaeth Dai. · Wrth ymateb i
bryderon bod yna lai o ymwneud ag adeiladwyr bach lleol na’r hyn a arferai fod
yn y gorffennol, dywedwyd bod partneriaid y Bartneriaeth Dai Strategol yn
cynnwys y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r datblygwyr preifat. · Mynegodd yr
Aelodau eu siom bod cyn lleied wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Serch hynny, roedd
natur yr ymatebion yn gadarnhaol. Awgrymwyd bod cyfraddau ymateb isel i
ymgynghoriadau yn broblem genedlaethol. · Gan fod yr
ymgynghoriad yn un dienw, nid oedd manylion am ddemograffeg yr ymatebwyr ar
gael megis lleoliad y sawl oedd yn ymateb ac nid oedd modd cael gwybod a oedd
yr ymateb gan unigolyn neu sefydliad. · Roedd y
gwasanaeth wedi nodi cynlluniau eraill i gynyddu’r cyflenwad tai, megis y
Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag ac roedd y rhain wedi’u cynnwys yn y Cynllun
Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol. |
|
Cyflwyno i’r Pwyllgor ganlyniad Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion PDF 5 MB Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar
gyfer Gydol Oes a Llesiant) mai pwrpas yr adroddiad oedd craffu ar ganlyniad yr
ymgynghori cyhoeddus a’r Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd, a gwneud
argymhellion i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion os oes angen. Maes blaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion oedd datblygu Cynllun Gweithredu
lleol ar gyfer dementia i gefnogi'r Strategaeth Dementia Ranbarthol. Ar 6
Rhagfyr 2022, penodwyd Attain i gynnal a hwyluso
sesiynau ymgysylltu i weld pa gamau oedd eu hangen i gefnogi pobl oedd yn byw
gyda dementia yng Ngheredigion. Parodd y cyfnod ymgysylltu am chwe wythnos
rhwng 13.02.2023 a 31.03.2023. Yn ystod y cyfnod ymgysylltu, siaradodd Attain ag ystod eang o randdeiliaid,
o unigolion oedd yn byw gyda dementia, eu gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o
bob rhan o faes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys rhwydweithiau cymorth
yn y 3ydd sector. Fel rhan o’r gwaith hwn, roedd Attain
wedi llunio adroddiad a Chynllun Gweithredu i gefnogi Cyngor Sir Ceredigion a
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth iddynt fynd i’r afael â rhai o’r heriau
a’r bylchau a nodwyd. Roedd prif
ganfyddiadau’r adroddiad terfynol yn awgrymu bod tua 1,260 o bobl yng
Ngheredigion yn byw gyda dementia ac erbyn 2040, rhagwelwyd y byddai rhwng 600
a 2000 yn fwy o bobl yn byw gyda dementia. Rhoddwyd trosolwg o’r prif themâu,
yr argymhellion a’r camau nesaf fel yr oeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd yr
awdurdod lleol yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol cyfagos drwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru i sicrhau bod y modd y darperir
gwasanaethau dementia yn gyson a bod modd cael mynediad at gyfran fawr o gyllid
yn rhanbarthol. Er mwyn sicrhau bod trigolion Ceredigion yn elwa, rhoddwyd
pwyslais ar y cynllun cyflawni lleol ac ystyriwyd hefyd y gwaith a oedd yn mynd
rhagddo gyda’r gwasanaethau seibiant a’r gwasanaethau dydd. · Teimlai’r
Aelodau fod cyfleoedd i’r awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
gydweithio i sicrhau bod cleifion dementia yn aros yn eu cymunedau lleol.
Byddai uned breswyl newydd ar gyfer pobl â dementia yn agor yn fuan yng
Nghartref Gofal Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan. · Cydnabuwyd mai
isel iawn oedd y gyfradd ddiagnosis yn rhanbarthol, yn rhannol oherwydd nad
oedd Meddygon Teulu yn cael digon o hyfforddiant ynghylch rhoi diagnosis o
ddementia. Hefyd, roedd canfyddiad y cyhoedd o’r diffyg cefnogaeth a fodolai ar
ôl derbyn diagnosis yn ffactor allweddol. Roedd rôl Cysylltydd Dementia yn cael
ei datblygu i gefnogi unigolion ar eu taith.
· Eglurodd yr
Aelod Cabinet fod dementia wedi’i gynnwys yn ei rôl ef fel Eiriolwr Pobl
Hŷn Ceredigion. Nid oedd ganddo ran uniongyrchol yn y trafodaethau â Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ond roedd yn allweddol bod swyddogion yr awdurdod
lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn gweithio’n agos. Nodwyd bod argymhelliad wedi’i wneud yn un o’r cyfarfodydd blaenorol y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf
2023. Materion sy’n codi: Dim. |
|
I ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor 2023-2024 PDF 168 KB Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Audrey Somerton-Edwards, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol Dros Dro: Porth Cynnal am ei hymrwymiad i’r gwaith a
dymunodd yn dda iddi at y dyfodol. Dywedwyd y byddai hi’n golled fawr i’r
awdurdod lleol. Roedd Ricky Cooper, a oedd wedi dechrau ar ei waith fel Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal wedi gadael y cyfarfod yn gynnar ac
felly, byddai’n cael ei groesawu yn y cyfarfod nesaf. Bu i’r Cynghorydd Alun Williams ategu geiriau’r
Cadeirydd gan ddweud y bu’n bleser gweithio gydag Audrey Somerton-Edwards a
oedd yn eiriolwr cryf dros anghenion y bobl fwyaf bregus. |