Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles)
adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2022/2023. Caiff
adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod
Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr
adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a
ddefnyddiwyd i fesur y canlyniadau ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal a phlant
oedd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys
Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth oedd ar gael
a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu
Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y
plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r
cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol
yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl
eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y
Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 7
plentyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol
yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person
ifanc ac, os oedd yn, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr
angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd yr
adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant
oedd yn Derbyn Gofal Amlasiantaethol oedd yn cwrdd
bob chwarter; roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill oedd yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Roedd yr
adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhaliwyd y
cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno
Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiadau.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau
a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd:
· Roedd nifer o
resymau am y cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys effaith yr
argyfwng costau byw, amrywiol gymhlethdodau a’r gwell cyfradd ymateb o ran
atgyfeiriadau.
· O dan
gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu’r gallu i wneud elw o ofalu am blant sy’n
derbyn gofal,
roedd yr awdurdod lleol wrthi’n datblygu adnoddau mewnol mewn 3 lleoliad ar
draws y sir ac roedd disgwyl i’r rhain agor yn 2024. Er bod gan Geredigion lai
o unigolion mewn lleoliadau y tu allan i’r sir o gymharu ag awdurdodau lleol
eraill, yr amcan oedd caniatáu i blant aros yn eu cymunedau lleol a chaniatáu
iddynt gadw cysylltiadau â’u teuluoedd a’r ysgolion.
· O ystyried yr adnoddau
a oedd eu hangen, y prinder manylion a oedd wedi dod i law oddi wrth y Swyddfa
Gartref a’r pwysau ariannol ar gyllideb yr awdurdod lleol, codwyd pryderon
ynghylch y modd y gweithredir y Protocol y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol o
ran Plant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches.
· Roedd gofalwyr
maeth ychwanegol wedi’u recriwtio’n ddiweddar ond araf a chyson oedd yr ymgyrch
ar y cyfan. Gan fod y cohort presennol o ofalwyr
maeth yn heneiddio, anogwyd yr Aelodau i recriwtio yn eu cymunedau.
· Roedd sicrhau
Cynllun Parhad erbyn yr ail adolygiad, os nad oedd cynlluniau ar gyfer
dychwelyd adref wedi’u rhoi ar waith, yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan
gynnwys yr angen i gael cyngor arbenigol, a allai arwain at oedi. Roedd yn
allweddol sicrhau bod y penderfyniad iawn yn cael ei wneud yn hytrach na
phenderfyniad sydyn.
· Roedd yr
ysgolion wedi nodi athrawon ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ac arweinydd
diogelu dynodedig. Roedd pob ysgol yn canolbwyntio ar anghenion y plant ac
roedd ganddynt ddyletswydd gofal i bawb.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr
adroddiad a'r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol.
Dogfennau ategol: