Cofnodion:
Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar
gyfer Gydol Oes a Llesiant) mai pwrpas yr adroddiad oedd craffu ar ganlyniad yr
ymgynghori cyhoeddus a’r Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd, a gwneud
argymhellion i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion os oes angen. Maes blaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion oedd datblygu Cynllun Gweithredu
lleol ar gyfer dementia i gefnogi'r Strategaeth Dementia Ranbarthol. Ar 6
Rhagfyr 2022, penodwyd Attain i gynnal a hwyluso
sesiynau ymgysylltu i weld pa gamau oedd eu hangen i gefnogi pobl oedd yn byw
gyda dementia yng Ngheredigion. Parodd y cyfnod ymgysylltu am chwe wythnos
rhwng 13.02.2023 a 31.03.2023. Yn ystod y cyfnod ymgysylltu, siaradodd Attain ag ystod eang o randdeiliaid,
o unigolion oedd yn byw gyda dementia, eu gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o
bob rhan o faes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys rhwydweithiau cymorth
yn y 3ydd sector. Fel rhan o’r gwaith hwn, roedd Attain
wedi llunio adroddiad a Chynllun Gweithredu i gefnogi Cyngor Sir Ceredigion a
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth iddynt fynd i’r afael â rhai o’r heriau
a’r bylchau a nodwyd.
Roedd prif
ganfyddiadau’r adroddiad terfynol yn awgrymu bod tua 1,260 o bobl yng
Ngheredigion yn byw gyda dementia ac erbyn 2040, rhagwelwyd y byddai rhwng 600
a 2000 yn fwy o bobl yn byw gyda dementia. Rhoddwyd trosolwg o’r prif themâu,
yr argymhellion a’r camau nesaf fel yr oeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Roedd yr
awdurdod lleol yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol cyfagos drwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru i sicrhau bod y modd y darperir
gwasanaethau dementia yn gyson a bod modd cael mynediad at gyfran fawr o gyllid
yn rhanbarthol. Er mwyn sicrhau bod trigolion Ceredigion yn elwa, rhoddwyd
pwyslais ar y cynllun cyflawni lleol ac ystyriwyd hefyd y gwaith a oedd yn mynd
rhagddo gyda’r gwasanaethau seibiant a’r gwasanaethau dydd.
· Teimlai’r
Aelodau fod cyfleoedd i’r awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
gydweithio i sicrhau bod cleifion dementia yn aros yn eu cymunedau lleol.
Byddai uned breswyl newydd ar gyfer pobl â dementia yn agor yn fuan yng
Nghartref Gofal Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan.
· Cydnabuwyd mai
isel iawn oedd y gyfradd ddiagnosis yn rhanbarthol, yn rhannol oherwydd nad
oedd Meddygon Teulu yn cael digon o hyfforddiant ynghylch rhoi diagnosis o
ddementia. Hefyd, roedd canfyddiad y cyhoedd o’r diffyg cefnogaeth a fodolai ar
ôl derbyn diagnosis yn ffactor allweddol. Roedd rôl Cysylltydd Dementia yn cael
ei datblygu i gefnogi unigolion ar eu taith.
· Eglurodd yr
Aelod Cabinet fod dementia wedi’i gynnwys yn ei rôl ef fel Eiriolwr Pobl
Hŷn Ceredigion. Nid oedd ganddo ran uniongyrchol yn y trafodaethau â Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ond roedd yn allweddol bod swyddogion yr awdurdod
lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn gweithio’n agos.
Nodwyd bod
argymhelliad wedi’i wneud yn un o’r cyfarfodydd blaenorol y dylai’r Cynghorydd
Rhodri Evans, sef yr aelod etholedig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gael
ei hysbysu pan fyddai eitem am y Bwrdd Iechyd ar yr agenda.
Bu i’r
Cadeirydd ganmol y ffaith bod cynifer o sefydliadau wedi bod yn rhan o’r broses
ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i
nodi’r adroddiad er gwybodaeth ac argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun
Gweithredu Dementia Ceredigion, yn amodol ar y canlynol:
·
Cyflwyno i Grŵp Strategol Ceredigion Iachach a chreu
Grŵp Datblygu Integredig ar Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector
i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu.
·
Rhannu canfyddiadau cychwynnol yr ymgysylltu gyda’r
cyhoedd, a datblygu Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu gan sicrhau bod y cyhoedd
yn ymwybodol o’r cynnydd parhaus mewn perthynas â chyflawni’r cynllun
gweithredu.
Dod yn ôl i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach gydag Adroddiad Cynnydd Blynyddol.
<AI5>
Dogfennau ategol: