Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Manteisiodd y Cynghorydd Rhodri Evans ar y cyfle i
longyfarch y Cadeirydd, y Cynghorydd Keith Evans, ar gael ei ethol yn
Is-gadeirydd y Cyngor yng nghyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar Fai 19eg
2023. Hefyd llongyfarchodd y Cadeirydd y
Cynghorydd Maldwyn Lewis a etholwyd yn Gadeirydd yn yr un cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorwyr Geraint Wyn Hughes a Ceris
Jones am fethu mynychu'r cyfarfod. Ymddiheurodd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol, am ei hanallu i fynychu'r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Datgelodd
y Cynghorydd Rhodri Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4 ar yr
agenda, Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol Cyfun CYSUR / CWMPAS Chwarter 3 2022/23 PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
yr aelodau ystyriaeth i Adroddiad Diogelu Chwarter 3 y Grŵp Gweithredu
Lleol Cyfun CYSUR/CWMPAS, rhwng y cyfnod 1.10.2022 a 31.12.2022, 2022/23. Croesawodd
y Cadeirydd Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i roi crynodeb o’r
pwyntiau allweddol, a oedd fel a ganlyn: Crynodeb o'r Pwyntiau
Allweddol: ·
Yn Chwarter 3, bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd
ynghylch plant / pobl ifanc o’i gymharu â Chwarter 2. Derbyniwyd 1112 o
gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 3 o’i gymharu â 1030 yn Chwarter 2. · Bu cynnydd yng nghyfanswm y cysylltiadau /
adroddiadau a arweiniodd at gymryd camau o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant.
Roedd 193 yn Chwarter 3 o’i gymharu â 171 yn Chwarter 2. · Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth
yn y chwarter hwn oedd 17.3% o’i gymharu â 16.7% yn Chwarter 2. ·
Yn Chwarter 3, aeth 7.3% o’r adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47 o’i
gymharu ag 8.3% yn Chwarter 2. Roedd angen i 0.97% o’r adroddiadau symud ymlaen
i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 2 o’i gymharu ag 1.6% yn y
chwarter hwn, sef Chwarter 3. Felly bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau /
adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 3 a arweiniodd at gynnydd yn nifer y
trafodaethau strategaeth a gynhaliwyd a chynnydd yn nifer y plant a oedd yn
destun Cynadleddau Cychwynnol Amddiffyn Plant. ·
Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn
yn dilyn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 31 o’i gymharu ag 16 yn
Chwarter 2. ·
Cyfanswm y plant a dynnwyd oddi ar y gofrestr yn y chwarter hwn yn dilyn y
Gynhadledd Adolygu Amddiffyn Plant oedd 28 o’i gymharu â 13 yn Chwarter 2. ·
Cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 81
o’i gymharu ag 86 yn Chwarter 2. Yn y chwarter hwn, cafodd 59 o’r ymholiadau eu
cynnal ar y cyd â’r Heddlu a chafodd 22 eu cynnal gan y Gwasanaethau
Cymdeithasol fel Asiantaeth Sengl. ·
Y prif gategorïau o
gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 3 oedd cam-drin
corfforol (40), cam-drin / cam-fanteisio’n rhywiol (15), esgeulustod (13) a
cham-drin emosiynol (9). Mae hyn yn
dilyn yr un patrwm â’r hyn a welwyd yn Chwarter 2. ·
Roedd 49 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn,
o’i gymharu â 46 ar ddiwedd Chwarter 2. Yn y chwarter hwn, cofrestrwyd 29 o dan
y categori cam-drin emosiynol / seicolegol, 14 o dan y categori esgeulustod a 6
o dan y categori esgeulustod a cham-drin corfforol. ·
Y prif ffactorau risg ar gyfer y 49 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant ar 31/12/2022 oedd cam-drin domestig, iechyd meddwl rhieni, rhieni’n
camddefnyddio sylweddau / alcohol a rhieni’n gwahanu. · O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a / neu eu hesgeuluso, gyda 128 oedolyn yn cael eu hadrodd yn y chwarter hwn o’i gymharu â 113 yn Chwarter 2. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, Diana
Davies a Tim Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i gyflwyno Cynllun Llesiant Lleol
Ceredigion a chyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar Ebrill 24ain 2023. O dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau
bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r pŵer i graffu ar y
penderfyniadau a wneir, neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Mae Adran
39 hefyd yn nodi bod yn rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus anfon copi o’i
Gynllun Llesiant Lleol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol. Mae’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg
a Chraffu wedi derbyn diweddariadau yn y gorffennol am y broses o ddatblygu’r
Asesiad Llesiant Lleol a Chynllun Llesiant Lleol 2023-2028 yng Ngheredigion. Ar ôl i Gynllun Llesiant Lleol
2023-28 gael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar
Fawrth 6ed 2023, gwnaeth pob un o sefydliadau statudol y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried y Cynllun Llesiant Lleol yng nghyfarfodydd eu
byrddau yn unigol, gan wneud hynny rhwng Mawrth 22ain ac Ebrill 20fed.
Gallwn gadarnhau bod pob un o aelodau statudol unigol y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus wedi cymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol 2023-28 drwy eu trefniadau
llywodraethu arferol. Fel un o’r aelodau statudol, cymeradwyodd Cyngor Sir
Ceredigion y cynllun yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar
Fawrth 22ain 2023, y Cabinet ar Ebrill 4ydd 2023 a’r
Cyngor llawn ar Ebrill 20fed 2023. Cyfarfu’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ar Ebrill 24ain 2023 i gadarnhau’r broses o gymeradwyo’r
Cynllun Llesiant 2023-28 a bu i’r holl bartneriaid gytuno’n unfrydol. Cytunwyd
y byddai’r Cynllun yn cael ei gyhoeddi ar 2il Mai, gan fodloni’r terfyn amser
statudol fel y nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (ddim hwyrach na
blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir pob etholiad cyffredin o dan adran 26 o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972). Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn
dwyn dyddiad Ebrill 24ain 2023.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd
y canlynol: ·
Swyddogion i adrodd yn ôl drwy e-bost ar y cwestiwn a ofynnwyd ynghylch sut
mae’r cynnydd o 1% yn nifer y perchnogion tai yng Ngheredigion, yn unol â
Chyfrifiad 2021, yn cymharu ag Awdurdodau eraill, ·
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Adroddiad Sylfaenol Cyfoeth
Naturiol Cymru o ran Risgiau yn Sgil y Newid yn yr Hinsawdd, bydd Swyddogion a
Chadeirydd y pwyllgor hwn yn codi’r cwestiwn yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu ag Aelodau’r
Pwyllgor, ·
Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y ffigurau cyflogaeth a
Statws Gweithgarwch Economaidd a ddangoswyd yn y Cyfrifiad diwethaf. Dywedwyd bod y ffigurau hyn yn cael eu
monitro’n barhaus gan Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac
felly mae’r blaenoriaethau yn y Cynllun Llesiant Lleol yn adlewyrchu’r sefyllfa
bresennol. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor i: 1. Nodi bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dyletswydd Trais Difrifol PDF 116 KB Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y
Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet, Diana Davies a Tim Bray,
Swyddogion, i gyflwyno'r adroddiad. Dechreuodd y Ddyletswydd Trais
Difrifol ar Ionawr 31ain 2023 ac mae’n cynnwys y gofynion a nodir ym
Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu, a’r Llysoedd 2022.
Mae’r rhain yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau penodedig i gydweithio i atal a
lleihau trais difrifol. Mae’r awdurdodau penodedig yn cynnwys Awdurdodau Lleol,
Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub, y Sector Heddlua a Chyfiawnder
(timau prawf a throseddu ieuenctid). Y sefydliadau hyn sy’n gyfrifol am
gyflawni’r ddyletswydd ac sy’n gyd-atebol am gyflawni prif gerrig milltir yr
arian grant rhanbarthol a ddarperir gan y Swyddfa Gartref i weithredu gofynion
y Ddyletswydd. Yn ogystal â’r awdurdodau
penodedig a nodir uchod, mae yna awdurdodau perthnasol sy'n cynnwys awdurdodau
addysgol (ynghyd ag awdurdodau dalfa ieuenctid a charchardai). Mae gofyn i’r
awdurdodau hyn gydweithio â’r awdurdodau penodedig, yn ôl yr angen, i
gyflawni’r ddyletswydd a hefyd rhaid i’r awdurdodau penodedig ymgynghori â nhw
wrth baratoi’r strategaeth. Rhaid i awdurdodau penodedig nodi'r mathau o drais
difrifol sy'n digwydd yn yr ardal, achosion y trais hwnnw (cyhyd ag y bo modd
gwneud hynny), a pharatoi a gweithredu strategaeth ar gyfer atal a lleihau
trais difrifol yn yr ardal. Dylai'r strategaeth gynnwys atebion pwrpasol i atal
a lleihau trais difrifol. Rhaid cadw golwg ar hyn ac adolygu yn flynyddol a'i
ddiweddaru pan fo angen. Asesiad o Anghenion Strategol I fwydo i’r broses,
dylai awdurdodau penodedig wneud dadansoddiad ar y cyd, yn seiliedig ar
dystiolaeth o achosion trais difrifol o fewn eu hardal, a defnyddio'r
dadansoddiad hwn i ddatblygu Asesiad o Anghenion Strategol a ddylai lywio'r
strategaeth leol. Bydd hyn yn cynnwys ystod eang o ddata, er enghraifft gallai
gynnwys data lleol a chenedlaethol am droseddau, data’r cyfrifiad, a data
ysbytai a gofal sylfaenol. O safbwynt awdurdod lleol, gallai hefyd gynnwys data
addysgol megis presenoldeb, data am atal a gwahardd disgyblion, a data am ofal
cymdeithasol plant. Bydd yr Asesiad o Anghenion Strategol yn cynnwys
dealltwriaeth gyffredin o'r carfanau sydd fwyaf agored i drais difrifol a bydd
angen i'r strategaeth leol ddangos sut mae pob ardal yn cyfeirio adnoddau i’r
boblogaeth ddiffiniedig sydd fwyaf angen cymorth. Nid yw'r Ddyletswydd yn diffinio trais difrifol oherwydd mae’n fater i bob ardal unigol wneud hynny ‒ bydd hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth leol ar gyfer yr Asesiad o Anghenion Strategol. Wrth ystyried yr Asesiad, mae’n eglur nad yw trais yn gyfyngedig i drais corfforol yn erbyn person. Mae'n darparu, at ddibenion y Ddyletswydd, bod trais yn cynnwys cam-drin domestig, troseddau rhyw, trais yn erbyn eiddo a bygythiadau o drais. At hynny, mae Strategaeth Trais Difrifol 2018 yn nodi fod Trais Difrifol yn ymwneud â mathau penodol o droseddau megis lladd, trais â chyllyll a gynnau, a meysydd lle mae trais difrifol neu ei fygythiad yn gynhenid, megis mewn gangiau a llinellau cyffuriau. Mae hefyd yn cynnwys bygythiadau sy'n dod i'r amlwg mewn rhai ardaloedd o'r wlad, megis defnyddio sylweddau cyrydol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad ar ddefnydd yr Awdurdod o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet, a Harry Dimmack,
Swyddog Llywodraethu, i gyflwyno’r Adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf
Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 i Aelodau’r Pwyllgor. Cyflwynwyd
Polisi RIPA diwygiedig i’r Pwyllgor ar 23ain Tachwedd 2022, ac fe’i
cymeradwywyd gan y Cyngor ar 26ain Ionawr 2023. Cafodd yr aelodau
ddiweddariad hefyd yn dilyn arolygiad gan Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau
Ymchwilio (IPCO) yng nghyfarfod mis Tachwedd. Yn ogystal â’r newidiadau a
gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ar 23ain Tachwedd 2022, gwnaeth y Cyngor
gymeradwyo dau newid pellach i’r adran a geir yn y polisi RIPA ar y Weithdrefn
ar gyflwyno cais am Awdurdodiad Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig (gweler adroddiad y
Cyngor am ragor o wybodaeth). Cymeradwywyd y newidiadau ychwanegol hyn cyn
cyfarfod y Cyngor a hynny gan Gadeirydd y Pwyllgor hwn. Y
Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu sy’n gyfrifol am fonitro defnydd y Cyngor o
Ddeddf RIPA. Cyflwynwyd y diweddariad diweddaraf ynglŷn â gweithgarwch
RIPA i’r Pwyllgor ar 26ain Medi 2022. Cyflwynir adroddiadau bob 6
mis. Rhwng 4ydd
Gorffennaf 2022 a 26ain Ebrill 2023, cafodd un cais am wyliadwriaeth
gyfeiriedig ei gyflwyno a’i gymeradwyo.
Cafodd yr awdurdodiad ei gymeradwyo gan ynadon ar 13eg Ionawr
2023 a daeth i ben ar 13eg Ebrill 2023 (3 mis). Gwnaed adolygiad ar
11eg Ebrill 2023 a ddaeth i’r casgliad na ddylai’r awdurdodiad gael
ei adnewyddu. Ar Fai’r 12fed 2023
cafodd diweddariad RIPA gan yr Uwch-swyddog Cyfrifol ei gyhoeddi ar Newyddion Cerinet a hynny ar gyfer holl staff y Cyngor. Roedd hwn yn
hysbysu’r staff bod Dogfen Bolisi a Gweithdrefnau Corfforaethol y Cyngor ar
Wyliadwriaeth Gyfeiriedig, Ffynonellau Cuddwybodaeth
Dynol a Data Cyfathrebu, ar sail Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA)
RHAN II, wedi cael eu diweddaru. Roedd y diweddariad hwn hefyd yn rhoi braslun
i’r staff o’r ffurflenni a’r canllawiau RIPA a oedd ar gael ar CeriNet. Bwriedir cylchredeg negeseuon ar Cerinet bob chwe mis i sicrhau bod unrhyw staff newydd yn
ymwybodol o’r angen i ystyried RIPA. Mae
cylchlythyr chwarterol hefyd wedi’i gyhoeddi gan Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau
Ymchwilio (IPCO) ac mae ar gael i’w weld ar eu Gwefan. https://www.ipco.org.uk/publications/correspondence/ Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd y canlynol: ·
Codwyd cwestiwn ynghylch ceisiadau Rhyddid
Gwybodaeth. Cadarnhaodd y Swyddog Llywodraethu y byddai'n rhaid i'r Awdurdod
gadw at y polisi Rhyddid Gwybodaeth wrth ymateb i unrhyw gais. Yn dilyn
trafodaeth, gofynnwyd i'r Aelodau nodi'r adroddiad. Cytunodd
yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad, er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn cael
y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd y Cyngor o RIPA a gweithrediad polisïau. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny PDF 97 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y
cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 fel cofnod cywir o’r trafodion
ac nid oedd dim materion sy’n codi o’r
cofnodion hynny. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd
pob Cadeirydd (neu Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd) yn ei dro
ddiweddariad ar Flaengynlluniau Gwaith eu Pwyllgorau priodol. 1.
Cymunedau Ffyniannus Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â
blaengynllun gwaith Cymunedau Ffyniannus. Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Evans y Cadeirydd
am drefnu cyfarfod diweddar i drafod sefyllfa’r Gwastraff. 2.
Cymunedau Iachach Rhoddodd y Cadeirydd
ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith Cymunedau Iachach. Roedd yr aelodau’n siomedig
bod yr adroddiad ynghylch Recriwtio//cadw Llesiant Gydol Oed wedi’i symud
ymlaen i 3ydd Gorffennaf 2023 o gyfarfod y Pwyllgor ar 24ain
Mai 2023. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â
blaengynllun gwaith Cymunedau sy'n Dysgu.
Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor gwestiwn mewn
perthynas â Datganiad o Ddiddordeb a dywedodd y Swyddog Safonau a Chraffu y
dylai'r Cynghorydd gysylltu â'r Swyddog Monitro. 4.
Adnoddau Corfforaethol Rhoddodd y Cadeirydd
ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith Adnoddau Corfforaethol. 5.
Pwyllgor Cydlynu Rhoddodd y Cadeirydd
ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith y Pwyllgor Cydlynu. Nodir ar hyn o bryd y bydd y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydlynu ar 29 Mehefin 2023. Dywedodd Cadeirydd yr Adnoddau Corfforaethol,
y Cynghorydd Rhodri Evans, y dylid cyflwyno’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig
i’r Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol gan ei fod yn dod o dan gylch gorchwyl y
Pwyllgor hwn. Dywedodd y Swyddog
Trosolwg a Chraffu ei bod wedi bod mewn cysylltiad â Duncan Hall, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol. Y broblem yw'r
amserlen ar gyfer cwblhau adroddiadau.
Fodd bynnag, efallai y bydd cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol
ar Orffennaf y 19eg 2023 yn bosibilrwydd. Awgrymwyd y dylai pob Pwyllgor
gael adroddiad yn yr Hydref ar sefyllfa'r Gyllideb er mwyn i'r Aelodau allu
paratoi ar gyfer cyfarfodydd mis Chwefror.
Byddai hyn yn rhoi cyfle i drafod lle mae arbedion yn debygol o fod yn
rhoi mwy o fewnbwn gan Aelodau ynghylch yr opsiynau sydd ar gael. Awgrymodd Aelod y dylid
cynnwys Caffael ar Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor perthnasol. Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r
Pwyllgor, Aelodau’r Cabinet, Swyddogion am fynychu a daeth y trafodion i ben am
12 hanner dydd. |