Eitem Agenda

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol Cyfun CYSUR / CWMPAS Chwarter 3 2022/23

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i Adroddiad Diogelu Chwarter 3 y Grŵp Gweithredu Lleol Cyfun CYSUR/CWMPAS, rhwng y cyfnod 1.10.2022 a 31.12.2022, 2022/23.

 

Croesawodd y Cadeirydd Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i roi crynodeb o’r pwyntiau allweddol, a oedd fel a ganlyn:

 

Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol:

·       Yn Chwarter 3, bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch plant / pobl ifanc o’i gymharu â Chwarter 2. Derbyniwyd 1112 o gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 3 o’i gymharu â 1030 yn Chwarter 2.

·       Bu cynnydd yng nghyfanswm y cysylltiadau / adroddiadau a arweiniodd at gymryd camau o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant. Roedd 193 yn Chwarter 3 o’i gymharu â 171 yn Chwarter 2.

·       Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 17.3% o’i gymharu â 16.7% yn Chwarter 2.

·       Yn Chwarter 3, aeth 7.3% o’r adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47 o’i gymharu ag 8.3% yn Chwarter 2. Roedd angen i 0.97% o’r adroddiadau symud ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 2 o’i gymharu ag 1.6% yn y chwarter hwn, sef Chwarter 3. Felly bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 3 a arweiniodd at gynnydd yn nifer y trafodaethau strategaeth a gynhaliwyd a chynnydd yn nifer y plant a oedd yn destun Cynadleddau Cychwynnol Amddiffyn Plant.

·       Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 31 o’i gymharu ag 16 yn Chwarter 2.

·       Cyfanswm y plant a dynnwyd oddi ar y gofrestr yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Adolygu Amddiffyn Plant oedd 28 o’i gymharu â 13 yn Chwarter 2.

·       Cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 81 o’i gymharu ag 86 yn Chwarter 2. Yn y chwarter hwn, cafodd 59 o’r ymholiadau eu cynnal ar y cyd â’r Heddlu a chafodd 22 eu cynnal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel Asiantaeth Sengl.

·       Y prif gategorïau o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 3 oedd cam-drin corfforol (40), cam-drin / cam-fanteisio’n rhywiol (15), esgeulustod (13) a cham-drin emosiynol (9).  Mae hyn yn dilyn yr un patrwm â’r hyn a welwyd yn Chwarter 2. 

·       Roedd 49 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, o’i gymharu â 46 ar ddiwedd Chwarter 2. Yn y chwarter hwn, cofrestrwyd 29 o dan y categori cam-drin emosiynol / seicolegol, 14 o dan y categori esgeulustod a 6 o dan y categori esgeulustod a cham-drin corfforol.

·       Y prif ffactorau risg ar gyfer y 49 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 31/12/2022 oedd cam-drin domestig, iechyd meddwl rhieni, rhieni’n camddefnyddio sylweddau / alcohol a rhieni’n gwahanu.

·       O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a / neu eu hesgeuluso, gyda 128 oedolyn yn cael eu hadrodd yn y chwarter hwn o’i gymharu â 113 yn Chwarter 2. Yn arbennig, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion yr adroddwyd eu bod mewn perygl yn ystod mis Tachwedd (67) o’i gymharu â 53 ym mis Hydref a 37 ym mis Rhagfyr. Nid yw’n glir pam y bu cymaint o gynnydd yn y mis hwnnw, ond roedd yr adroddiadau’n ymwneud â phryderon ynghylch cam-drin domestig.

·       Unwaith eto'r categori o gam-drin yr adroddwyd amdano fwyaf yn ystod y chwarter hwn oedd cam-drin emosiynol / seicolegol, gyda 64 adroddiad yn datgan mai hwn oedd y prif gategori o gam-drin. Esgeulustod oedd yr ail brif gategori o gam-drin a adroddwyd (51), yna cam-drin ariannol (42), cam-drin corfforol (33) a cham-drin rhywiol (23). Mae hyn yn dilyn patrwm y chwarter blaenorol. 

·       O’r adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch pob categori o gam-drin, menywod oedd mwyafrif y bobl yr adroddwyd eu bod mewn perygl, ac roedd nifer y menywod yn sylweddol uwch na nifer y dynion. Fodd bynnag, o ran cam-drin ariannol adroddwyd bod bron yr un nifer o ddynion a menywod mewn perygl (20 dyn, 22 menyw).  3

·       Yn Chwarter 3, yr Heddlu oedd prif ffynhonnell yr adroddiadau (40) o’i gymharu â Chwarter 2 lle gwelwyd mai’r brif ffynhonnell oedd Asiantaethau Darparu (30). Yn Chwarter 3, roedd nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu yn sylweddol uwch nag unrhyw asiantaeth arall. Y ffynhonnell â’r ail nifer uchaf oedd Asiantaethau Darparu (26).

 

Yn dilyn trafodaethau, nodwyd y canlynol:

·       Yn dilyn cwestiwn ynghylch cynnydd mewn atgyfeiriadau amddiffyn plant, cytunwyd y byddai'r Swyddog yn rhoi gwybodaeth am dueddiadau atgyfeirio amddiffyn plant cyn covid hyd yma,

·       Gofynnwyd am eglurhad ar y diffiniad o ‘gam-drin ariannol’ – rhoddodd y Swyddog rai enghreifftiau o hyn,

·       Gofynnwyd am esboniad i’r broses atgyfeirio Amddiffyn Plant, h.y., y camau sydd ynghlwm wrth y broses o roi plentyn ar y gofrestr a chymryd plentyn oddi ar y gofrestr,

·       Yn dilyn cwestiwn, bydd y Swyddog yn codi pryderon y Pwyllgor gyda chydweithwyr Addysg ynglŷn â chyfanswm y plant (229) sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref yn y Sir.

 

Cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol, fel bod llywodraethu gweithgarwch yr Awdurdod Lleol a'i asiantaethau partner yn cael eu monitro.

 

Dogfennau ategol: