Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y
Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet, Diana Davies a Tim Bray,
Swyddogion, i gyflwyno'r adroddiad.
Dechreuodd y Ddyletswydd Trais
Difrifol ar Ionawr 31ain 2023 ac mae’n cynnwys y gofynion a nodir ym
Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu, a’r Llysoedd 2022.
Mae’r rhain yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau penodedig i gydweithio i atal a
lleihau trais difrifol. Mae’r awdurdodau penodedig yn cynnwys Awdurdodau Lleol,
Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub, y Sector Heddlua a Chyfiawnder
(timau prawf a throseddu ieuenctid). Y sefydliadau hyn sy’n gyfrifol am
gyflawni’r ddyletswydd ac sy’n gyd-atebol am gyflawni prif gerrig milltir yr
arian grant rhanbarthol a ddarperir gan y Swyddfa Gartref i weithredu gofynion
y Ddyletswydd. Yn ogystal â’r awdurdodau
penodedig a nodir uchod, mae yna awdurdodau perthnasol sy'n cynnwys awdurdodau
addysgol (ynghyd ag awdurdodau dalfa ieuenctid a charchardai). Mae gofyn i’r
awdurdodau hyn gydweithio â’r awdurdodau penodedig, yn ôl yr angen, i
gyflawni’r ddyletswydd a hefyd rhaid i’r awdurdodau penodedig ymgynghori â nhw
wrth baratoi’r strategaeth. Rhaid i awdurdodau penodedig nodi'r mathau o drais
difrifol sy'n digwydd yn yr ardal, achosion y trais hwnnw (cyhyd ag y bo modd
gwneud hynny), a pharatoi a gweithredu strategaeth ar gyfer atal a lleihau
trais difrifol yn yr ardal. Dylai'r strategaeth gynnwys atebion pwrpasol i atal
a lleihau trais difrifol. Rhaid cadw golwg ar hyn ac adolygu yn flynyddol a'i
ddiweddaru pan fo angen. Asesiad o Anghenion Strategol I fwydo i’r broses,
dylai awdurdodau penodedig wneud dadansoddiad ar y cyd, yn seiliedig ar
dystiolaeth o achosion trais difrifol o fewn eu hardal, a defnyddio'r
dadansoddiad hwn i ddatblygu Asesiad o Anghenion Strategol a ddylai lywio'r
strategaeth leol. Bydd hyn yn cynnwys ystod eang o ddata, er enghraifft gallai
gynnwys data lleol a chenedlaethol am droseddau, data’r cyfrifiad, a data
ysbytai a gofal sylfaenol. O safbwynt awdurdod lleol, gallai hefyd gynnwys data
addysgol megis presenoldeb, data am atal a gwahardd disgyblion, a data am ofal
cymdeithasol plant. Bydd yr Asesiad o Anghenion Strategol yn cynnwys
dealltwriaeth gyffredin o'r carfanau sydd fwyaf agored i drais difrifol a bydd
angen i'r strategaeth leol ddangos sut mae pob ardal yn cyfeirio adnoddau i’r
boblogaeth ddiffiniedig sydd fwyaf angen cymorth.
Nid yw'r Ddyletswydd yn
diffinio trais difrifol oherwydd mae’n fater i bob ardal unigol wneud hynny
‒ bydd hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth leol ar gyfer yr Asesiad o Anghenion
Strategol. Wrth ystyried yr Asesiad,
mae’n eglur nad yw trais yn gyfyngedig i drais corfforol yn erbyn person. Mae'n
darparu, at ddibenion y Ddyletswydd, bod trais yn cynnwys cam-drin domestig,
troseddau rhyw, trais yn erbyn eiddo a bygythiadau o drais. At hynny, mae
Strategaeth Trais Difrifol 2018 yn nodi fod Trais Difrifol yn ymwneud â mathau
penodol o droseddau megis lladd, trais â chyllyll a gynnau, a meysydd lle mae
trais difrifol neu ei fygythiad yn gynhenid, megis mewn gangiau a llinellau cyffuriau.
Mae hefyd yn cynnwys bygythiadau sy'n dod i'r amlwg mewn rhai ardaloedd o'r
wlad, megis defnyddio sylweddau cyrydol fel arf.
Mae'r ddyletswydd hon yn creu
‘dull iechyd cyhoeddus’ newydd o fynd i'r afael â Throseddau Treisgar gan
nodi'r hyn sy'n achosi trais a chanfod ymyriadau sy'n gweithio er mwyn atal
trais rhag lledaenu. Mae’r ‘dull iechyd cyhoeddus’ yn cynnwys nifer o
wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol sy'n gweithio gyda'i gilydd i roi
ymyriadau cynnar ar waith i atal pobl rhag mynd ynghlwm â throseddau treisgar.
Bwriad y Ddyletswydd yw creu'r
amodau cywir i awdurdodau gydweithio a chyfathrebu'n rheolaidd, gan ddefnyddio
partneriaethau presennol lle bo modd a rhannu gwybodaeth a chymryd camau
effeithiol, cydlynus, yn eu hardaloedd lleol. Bydd pob sefydliad ac asiantaeth
sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd yn atebol am eu gweithgarwch a'u
cydweithredu.
Dywedodd y swyddogion wrth
Aelodau’r Pwyllgor am yr amserlen bresennol, sef:
• 31ain Ionawr
2023 – dechrau’r Ddyletswydd Trais Difrifol
• 31ain Mawrth
2023 – cadarnhau’r cytundeb partneriaeth
• 28ain Ebrill
2023 – llunio fersiwn dros dro o’r cynllun cyflawni a chadarnhau’r defnydd a
wneir o gyllid y Swyddfa Gartref
• 29ain Medi
2023 – cytuno ar fersiwn uwch o’r cynllun cyflawni
• 31ain Ionawr
2024 – cwblhau’r Asesiad o Anghenion Strategol o ran Trais Difrifol
31ain Ionawr
2024 – cwblhau’r Strategaeth Leol (gan gynnwys fersiwn derfynol o’r cynllun
cyflawni)
Gellir gweld dogfen y
Canllawiau Statudol fel y’i cyhoeddwyd ar 16eg Rhagfyr 2022 ar y
Wefan ganlynol: Dyletswydd Trais Difrifol - GOV.UK (www.gov.uk) (noder y
Canllawiau penodol i Gymru o dudalennau 20 ymlaen).
Dyrannwyd cyllid i ranbarth
Dyfed-Powys gan y Swyddfa Gartref i weithredu'r Ddyletswydd Trais Difrifol, ac
yn unol â'r ddeddfwriaeth bydd hyn yn cael ei oruchwylio gan y Comisiynydd
Heddlu a Throseddu, a fydd hefyd yn darparu cymorth, yn monitro gweithgarwch ac
yn adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Cadarnhawyd cyllid gan y
Swyddfa Gartref hyd at 2024/2025, ar sail y dyraniadau blynyddol canlynol:
2022/2023: Costau llafur
£30,000 Costau heb gynnwys llafur: £0
2023/2024: Costau llafur
£180,000 Costau heb gynnwys llafur: £39,737.48
2024/2025: Costau llafur
£77,041.71 Costau heb gynnwys llafur: £111,655.25
Ar hyn o bryd, mae'r adnodd yn
cael ei ddyrannu i gynyddu capasiti dadansoddi Heddlu Dyfed-Powys, er mwyn
paratoi a chyflawni’r Asesiad rhanbarthol o Anghenion Strategol. Ar ben hyn, y
bwriad yw defnyddio’r cyllid i gydlynu'r cynllun cyflawni, y strategaeth a’r
llifoedd gwaith cysylltiedig yn y rhanbarth.
Mae Crest Advisory wedi ei
gomisiynu gan y Swyddfa Gartref i weithio gyda’r sefydliadau a fanylir yn y Ddyletswydd
Trais Difrifol (noder uchod) a’r partneriaid lleol yn ystod 2023 i weld a ydynt
yn barod ar gyfer y Ddyletswydd ac i roi cymorth pwrpasol i ddatblygu a sicrhau
cydymffurfiaeth. Mae partneriaid ledled y rhanbarth, gan gynnwys Cyngor Sir
Ceredigion, wedi mynychu cyfarfodydd gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac
mae arweinwyr Trais Difrifol wedi’u nodi mewn sefydliadau allweddol. Yr
Arweinydd Strategol ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion yw Barry Rees, sef Cadeirydd
y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, a’r ymarferwyr a enwebwyd yw Diana Davies
(Rheolwr Corfforaethol - Partneriaethau a Pherfformiad) a Tim Bray (Rheolwr
Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil).
Gellir defnyddio’r trefniadau
partneriaeth presennol i gyflawni'r Ddyletswydd hon gan fod y Canllawiau
Statudol yn nodi nad oes rheidrwydd creu partneriaethau newydd. Felly cytunwyd
mai'r lle cywir i arwain ar gynllunio a gweithredu gofynion y Ddyletswydd Trais
Difrifol yw’r strwythur presennol ar gyfer Trais Difrifol a Throseddu
Cyfundrefnol, a’r Bwrdd Rhanbarthol Trais Difrifol. Mae'r Rheolwr Corfforaethol
- Partneriaethau a Pherfformiad a'r Rheolwr Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil
yn mynychu cyfarfodydd Rhanbarthol Trais Difrifol a Throseddu Cyfundrefnol ar
hyn o bryd, a byddant yn parhau i wneud hynny ac i adrodd yn ôl lle bo angen.
At hynny, i gydnabod rôl hanfodol addysg wrth ddiogelu, argymhellir bod
cynrychiolydd o fyd addysg strategol yr ardal yn mynychu’r cyfarfodydd i drafod
y Ddyletswydd Trais Difrifol. Bydd hyn yn gymorth i gynnig dolen rhwng yr
awdurdodau cyfrifol penodedig a sefydliadau unigol, a rhwng Cwricwlwm newydd
Cymru a'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno o ran cefnogi maes llesiant.
Cynigir bod y Ddyletswydd Trais Difrifol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet, er
gwybodaeth, ar 6ed Mehefin 2023.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd
y canlynol:
· Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn
gweithgarwch o ran cyffuriau a Llinellau Cyffuriau yn y Sir a chytunodd
Aelodau’r Pwyllgor y dylid monitro hyn yn agos.
· Ymhellach i gwestiwn ynghylch dyraniad cyllid,
cadarnhaodd y Swyddog nad yw'n glir eto pa asiantaeth fydd yn arwain ar ddod o
hyd i allu ychwanegol i gydlynu'r gwaith hwn. Dylid cadarnhau hyn erbyn Medi
2023.
Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd
i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad a ganlyn:
i.
Nodi’r Ddyletswydd newydd o ran Trais Difrifol a’r goblygiadau i Gyngor Sir
Ceredigion ac i’r partneriaethau perthnasol a fynychir gan gynrychiolwyr Cyngor
Sir Ceredigion.
Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i
nodi’r Ddyletswydd newydd o ran Trais Difrifol a’r goblygiadau i Gyngor Sir
Ceredigion ac i’r partneriaethau perthnasol a fynychir gan gynrychiolwyr Cyngor
Sir Ceredigion.
Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu
Trosolwg a Chraffu ddeall y dyletswyddau ychwanegol y mae’n rhaid i Gyngor Sir
Ceredigion ymateb iddynt ac ystyried.
Diolchodd y Cadeirydd i'r
Aelod o’r Cabinet a'r Swyddogion am fynychu a chyflwyno'r wybodaeth i'r
Pwyllgor.
Dogfennau ategol: