Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Llun, 11eg Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, Chwarter 2 2023-2024 pdf eicon PDF 680 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2 2023/2024. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddiwyd i fesur y canlyniadau ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal a phlant oedd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail y wybodaeth oedd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 2 plentyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oedd yn, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiadau.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Elizabeth Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd recriwtio yn parhau i fod yn her, yn benodol o fewn y Tîm Gofal wedi’i Gynllunio. Roedd nifer o ffactorau i gyfrif am y problemau staffio yn chwarter 2, gan gynnwys staff ar wyliau blynyddol a staff yn symud rhwng bod ar gontract gydag un tîm i fod ar gontract gyda thîm arall. Roedd hyn wedi effeithio ar y gallu i gwblhau cynlluniau gofal a chymorth ar amser. Serch hynny, roedd sylw priodol yn cael ei roi i hyn ac roedd y sefyllfa’n cael ei monitro. 

·       Roedd tair uned breswyl yn cael eu datblygu ar draws y sir a fyddai’n darparu gofal 24 awr ar gyfer rhwng 7 a 9 o blant a phobl ifanc. Yr amcan oedd creu amgylchedd teuluol a chaniatáu i unigolion ddychwelyd i’r sir neu aros yn y sir.

·       Roedd nifer o grantiau Llywodraeth Cymru yn cael eu sianelu drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a lle bo hynny’n addas, roedd yr Awdurdod Lleol yn manteisio’n llawn ar unrhyw gyllid a oedd ar gael.

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad a’r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol ac i ofyn am adroddiad ar y ddarpariaeth breswyl fewnol, gan gynnwys gwybodaeth am yr arbedion o ran cost a’r manteision i’r Rhaglen Llesiant Gydol Oes.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth cyfan.

4.

Adroddiad Blynyddol Uned Gofalwyr Ceredigion 2022-2023 pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) adroddiad ar gyflawniadau Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion a’r cynnydd yn erbyn eu targedau a'u hamcanion y cytunwyd arnynt yn ystod y flwyddyn 2022-2023. Roedd y Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol yn dod a’r Swyddogion Datblygu Gofalwyr, Cysylltwyr Cymunedol a Swyddog Heneiddio'n Dda at ei gilydd i weithio mewn un tîm oedd yn canolbwyntio ar roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl a chefnogi aelodau'r gymuned yng Ngheredigion. Diffinnir gofalwr fel 'Unrhyw un sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed, yn methu ymdopi heb eu cymorth’. Roedd gan Ofalwyr hawl i fywyd y tu hwnt i'w rôl ofalu ac i wneud hynny, roedd angen gwasanaethau effeithiol arnynt i gefnogi'r bobl roeddent yn gofalu amdanynt ac ar eu cyfer nhw fel Gofalwyr yn eu rhinwedd eu hunain.

 

Roedd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at "Gymru sy'n Gyfeillgar i Ofalwyr", gan nodi bod Gofalwyr di-dâl o bob oed yn rhan werthfawr o gymdeithas. Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod tua 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru oedd yn cyfateb i 10.5% o boblogaeth dros 5 oed y wlad. Dangosodd y Cyfrifiad hefyd fod 7,246 o bobl yng Ngheredigion yn rhoi gofal di-dâl ac o'r nifer hwn, roedd 3,664 yn rhoi mwy nag 20 awr o ofal di-dâl yr wythnos. Roedd adroddiad a ysgrifennwyd ar y cyd gan Carers UK a Phrifysgol Sheffield yn dangos bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru a Lloegr yn cyfrannu £162 biliwn y flwyddyn i’r economi.

 

Bu i’r Cynghorydd Alun Williams longyfarch y gwasanaeth am baratoi adroddiad hawdd ei ddarllen a oedd yn adlewyrchu ymrwymiad yr Awdurdod Lleol i Ofalwyr.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Bu i’r Aelodau ddiolch i bawb a oedd yn ymgymryd â rôl ofalu ar draws y sir ac am eu cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas.

·       Roedd dwy ran o dair o gyllideb y Cyngor yn cael ei gwario ar Ofal Cymdeithasol ac Addysg. Roedd hyn yn debyg i Awdurdodau Lleol eraill ar hyd a lled y wlad. 

·       Cytunodd y Tîm i rannu manylion y Cysylltwyr Cymunedol â’r Aelodau Etholedig ac i roi gwybod iddynt am unrhyw ddigwyddiadau galw heibio cymunedol a oedd yn lleol iddyn nhw.

·       Rhoddwyd sicrwydd bod y Tîm yn rhan o’r trafodaethau gyda Gwasanaeth Porth Gofal ynglŷn ag ail-ddylunio cyfleoedd o ran seibiant a gofal dydd.

·       Roedd y Tîm yn parhau i archwilio ffyrdd o gefnogi gofalwyr i wella eu bywydau y tu hwnt i’w rôl ofalu e.e. ehangu seibiannau i ofalwyr.

 

CYTUNWYD i dderbyn Adroddiad Blynyddol y Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol.

 

Bu i Aelodau’r Pwyllgor longyfarch y Tîm am ei waith caled a’i ymrwymiad.

 

5.

Y Strategaeth Dai Leol Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth Dai Leol – Tai i Bawb (2023 – 2028). Er mwyn cyflawni’r Strategaeth Dai Leol, roedd y camau gweithredu a’r mesurau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu yn cael eu monitro drwy’r Bartneriaeth Tai Leol a, lle bo’n berthnasol, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Amlygodd y Cynllun Gweithredu yr amcanion a nodwyd yn y Strategaeth Dai Leol, ynghyd â’r camau gweithredu a’r manylion ynghylch sut roedd yr Awdurdod Lleol yn rhagweld y byddai hyn yn cael ei gyflawni. Roedd gan bob pwynt gweithredu fesur neu fesurau clir a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Cydnabuwyd nad oedd modd i’r Tîm Tai gyflawni’r Strategaeth Dai a’r camau gweithredu ar ei ben ei hun ac felly roedd gweithio mewn partneriaeth wedi’i nodi’n glir yn y Cynllun. Rhagwelwyd y byddai’r Cynllun Gweithredu’n cael ei adolygu, ei addasu a’i ddiweddaru’n flynyddol drwy gydol cyfnod y Strategaeth a’r bwriad oedd cyflwyno’r adroddiad cynnydd cyntaf i’r Bartneriaeth Tai Strategol ym mis Ebrill 2024.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       O ran y Cynllun Gweithredu, rhoddwyd amserlen fwriadol o 5 mlynedd ar gyfer rhai o’r camau gweithredu, er mwyn rhoi’r cyfle i flaenoriaethu a chydweithio â gwasanaethau a’r asiantaethau sy’n bartneriaid i gyflawni’r camau.

·       Esboniwyd bod Fforymau’r Landlordiaid yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn a bod hyn yn bodloni’r angen ar hyn o bryd ond y byddai modd eu cynnal yn fwy aml neu’n llai aml os byddai angen.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.   

6.

Asesiad o'r Farchnad Dai Leol pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) fod yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn ofyniad statudol ar bob Awdurdod Lleol, o dan Ddeddf Tai 1985, oedd yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu lefel yr angen am dai yn y Sir o dro i dro. Ystyriwyd Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau Datblygu Strategol a Strategaethau Tai Lleol. Roedd disgwyl i Awdurdodau Lleol ailysgrifennu Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol bob pum mlynedd ac adnewyddu’r Asesiad hwnnw o'r Farchnad Dai Leol unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw o bum mlynedd (rhwng blynyddoedd dau a thri). Ar hyn o bryd roedd Ceredigion yn y cyfnod adnewyddu a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno oedd 29 Mawrth 2024.

 

Defnyddiodd Timau Ymchwil, Tai a Pholisi Chynllunio o fewn Cyngor Sir Ceredigion y teclyn newydd a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith adnewyddu hwn. Yn anffodus, nid oedd rhai fersiynau o’r teclyn yn gweithio oherwydd camgymeriadau technegol a’r rhagamcanion a oedd yn nodi gostyngiad o ran yr aelwydydd yng Ngheredigion. Roedd hyn felly wedi arwain at oedi o ran paratoi Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’r teclyn, ac roedd yr Awdurdod Lleol yn awr yn gweithio ar fersiwn 3.2, a oedd wedi darparu’r  allbynnau a nodir yn yr adroddiad. Er gwaethaf hyn, nid oedd yr Awdurdod Lleol yn hollol fodlon â’r ffigurau yr oedd y teclyn wedi’u paratoi o ystyried y gwahaniaeth sylweddol rhwng y ffigurau hyn a’r ffigurau a ddarparwyd yn hanesyddol, yn benodol ynghylch yr angen am dai fforddiadwy a thai marchnad agored. 

 

Ar gyfer yr Asesiad nesaf o’r Farchnad Dai Leol, y bwriad oedd i gomisiynu demograffydd/ymgynghorydd cynllunio i gynhyrchu amrywiaeth o senarios twf poblogaeth a thwf tai ar gyfer Ceredigion. Byddai hyn yn rhoi eglurder pellach o ran opsiynau’r twf tai sydd ar gael, a all fwydo i declyn Llywodraeth Cymru o ran Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Bydd ystyriaeth bellach i hyn a'r costiadau dilynol maes o law a rhan o'r comisiynu fydd rhoi dull methodolegol o weithredu i'r Cyngor ei ddefnyddio'n fewnol yn y tymor hwy, ar gyfer cynnal yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn y blynyddoedd i ddod.

 

Rhoddodd Caitlin Theodorou, Swyddog Ymchwil a Pherfformiad drosolwg o’r prif benawdau o ran yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Dywedwyd bod Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi anfon llythyr at Weinidog Tai Cymru i fynegi pryderon am fethodoleg y teclyn a’r allbynnau. Roedd ymateb ysgrifenedig wedi dod i law yn gynnar ym mis Chwefror. Y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn agored i drafodaethau y tro nesaf y byddai hyn oll yn cael ei ailysgrifennu. 

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd y teclyn yn amcangyfrif mai’r angen mwyaf oedd yr angen am gartrefi un ystafell wely. Roedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cynllun Ailgartrefi Cyflym Ceredigion pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu ‘Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd’ yn ôl ym mis Tachwedd 2021, oedd yn ymrwymo i wneud digartrefedd yn rhywbeth ‘prin, byrhoedlog ac na fydd yn cael ei ailadrodd'. Roedd hyn yn dilyn egwyddorion model Llesiant Gydol Oes i raddau helaeth, ac felly dyfeisiwyd cynllun ailgartrefu cyflym y Gwasanaethau Tai gyda hyn mewn golwg. Roedd Ailgartrefu Cyflym yn ddull o weithredu a gydnabyddir yn rhyngwladol oedd yn sicrhau y gallai unrhyw un oedd yn profi digartrefedd symud i gartref sefydlog cyn gynted â phosibl, yn hytrach nag aros mewn llety dros dro am gyfnodau hir.

 

Nodwyd meysydd ffocws allweddol a fydd yn galluogi’r newid i ddull ailgartrefu cyflym o weithredu. Hefyd, roedd pum blaenoriaeth wedi'u nodi o fewn y Cynllun gyda Chamau Gweithredu wedi'u rhestru i helpu a monitro eu heffeithiolrwydd. O safbwynt ariannol, amcan y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym oedd nodi ffynonellau eraill o gyllid a chyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a allai gynorthwyo ag atal a lliniaru digartrefedd a gwella llwybrau i ddefnyddwyr gwasanaethau.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo'r cynllun a'r blaenoriaethau a nodwyd.

8.

Adroddiad ar Ailddynodir Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yng Ngheredigion pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) yr adroddiad ar Ail-ddynodi'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yng Ngheredigion. Roedd Deddf Tai 2004 Rhan 2 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (TA) o dri llawr neu fwy, pump neu fwy o bobl, oedd yn ffurfio dau neu fwy o aelwydydd. Darparwyd trosolwg o nod y ddeddfwriaeth. Yn ogystal â Thrwyddedu Tai Amlfeddiannaeth Gorfodol, gall yr Awdurdod Lleol hefyd ddynodi trwyddedu ychwanegol, yn ardal gyfan neu ran o ardal yr Awdurdod, yn seiliedig ar nifer y meddianwyr/cartrefi a lloriau).

 

Roedd yr Awdurdod Lleol wedi gweithredu Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ers  2009, pan gafodd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ei ddynodi am y tro cyntaf rhwng 1 Ebrill 2009 a 31 March 2014 ar gyfer Ceredigion gyfan. Roedd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol wedi’i ddynodi ddwywaith ar ôl hynny gyda rhai mân newidiadau a byddai’r diweddaraf yn dod i ben ar 14 Ebrill 2024. Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 10 wythnos ar ailddynodi’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol. Cafwyd 17 o ymatebion i’r ymgynghoriad ac roedd 65% o blaid y cynllun. Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried y 3 opsiwn a oedd wedi’u cyflwyno yn yr adroddiad, cyn y byddai’r Cabinet yn rhoi ei sêl bendith.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       O safbwynt gweithredol, roedd y gwasanaeth yn sicrhau bod unrhyw Dai Amlfeddiannaeth newydd neu rai a adnewyddwyd yn cydymffurfio â’r cynllun trwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth.

·       Roedd y Cynllun Trwyddedu Gorfodol o ran Tai Amlfeddiannaeth ar gyfer y sir gyfan ac roedd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn canolbwyntio ar ardaloedd lle’r oedd, o bosib, fwy o broblemau.

·       Cododd yr Aelodau bryderon am y sbwriel yr oedd rhai o drigolion y Tai Amlfeddiannaeth yn ei adael. Roedd dyletswydd ar bob landlord i gydymffurfio â’r drwydded Tai Amlfeddiannaeth. Anogwyd yr aelodau i gysylltu â CLIC pe byddai’r problemau yn parhau, fel y gallai’r gwasanaeth mwyaf priodol ymchwilio i’r mater.

·       Yn dilyn y penderfyniad a wnaed yn ystod proses pennu cyllideb 24/25 i beidio â chaniatáu mwy na 3 bag du ar gyfer gwastraff gweddilliol fesul aelwyd breswyl fesul casgliad bob 3 wythnos, codwyd pryderon am ymarferoldeb hyn ac effaith y penderfyniad hwn ar Dai Amlfeddiannaeth.

 

CYTUNWYD i argymell Opsiwn 1 fel amlinellwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet.

9.

Ystyried Rhaglen Waith y Dyfodol pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Diweddariad am y ddarpariaeth breswyl fewnol i blant a phobl ifanc

·       Diweddariad am sefyllfa ariannol y gwasanaethau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor (Gorffennaf 2024)

·       Diweddariad am Gartrefi Gofal Preswyl Tregerddan / Hafan y Waun

10.

Ystyried cofnodion y cyfarfod blaenorol ac unrhyw faterion yn codi ohonynt pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024.

 

Materion sy’n codi: Dim.