Cofnodion:
Eglurodd y Cynghorydd Matthew
Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a
Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) fod yr Asesiad
o'r Farchnad Dai Leol yn ofyniad statudol ar bob Awdurdod Lleol, o dan Ddeddf
Tai 1985, oedd yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu lefel yr angen
am dai yn y Sir o dro i dro. Ystyriwyd Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol fel rhan
o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau
Datblygu Strategol a Strategaethau Tai Lleol. Roedd disgwyl i Awdurdodau Lleol
ailysgrifennu Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol bob pum mlynedd ac adnewyddu’r
Asesiad hwnnw o'r Farchnad Dai Leol unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw o bum
mlynedd (rhwng blynyddoedd dau a thri). Ar hyn o bryd roedd Ceredigion yn y
cyfnod adnewyddu a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno oedd 29 Mawrth 2024.
Defnyddiodd Timau
Ymchwil, Tai a Pholisi Chynllunio o fewn Cyngor Sir Ceredigion y teclyn newydd
a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith adnewyddu hwn. Yn anffodus,
nid oedd rhai fersiynau o’r teclyn yn gweithio oherwydd camgymeriadau technegol
a’r rhagamcanion a oedd yn nodi gostyngiad o ran yr aelwydydd yng Ngheredigion.
Roedd hyn felly wedi arwain at oedi o ran paratoi Asesiad o'r Farchnad Dai
Leol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’r teclyn, ac roedd yr
Awdurdod Lleol yn awr yn gweithio ar fersiwn 3.2, a oedd wedi darparu’r allbynnau a nodir yn yr adroddiad. Er
gwaethaf hyn, nid oedd yr Awdurdod Lleol yn hollol fodlon â’r ffigurau yr oedd
y teclyn wedi’u paratoi o ystyried y gwahaniaeth sylweddol rhwng y ffigurau hyn
a’r ffigurau a ddarparwyd yn hanesyddol, yn benodol ynghylch yr angen am dai
fforddiadwy a thai marchnad agored.
Ar gyfer yr Asesiad nesaf o’r Farchnad Dai Leol, y
bwriad oedd i gomisiynu demograffydd/ymgynghorydd
cynllunio i gynhyrchu amrywiaeth o senarios twf poblogaeth a thwf tai ar gyfer
Ceredigion. Byddai hyn yn rhoi eglurder pellach o ran opsiynau’r twf tai sydd
ar gael, a all fwydo i declyn Llywodraeth Cymru o ran Asesiad o’r Farchnad Dai
Leol. Bydd ystyriaeth bellach i hyn a'r costiadau dilynol maes o law a rhan o'r
comisiynu fydd rhoi dull methodolegol o weithredu i'r Cyngor ei ddefnyddio'n
fewnol yn y tymor hwy, ar gyfer cynnal yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn y
blynyddoedd i ddod.
Rhoddodd Caitlin
Theodorou, Swyddog Ymchwil a Pherfformiad drosolwg o’r prif benawdau o ran yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Dywedwyd bod Arweinydd
Cyngor Sir Ceredigion wedi anfon llythyr at Weinidog Tai Cymru i fynegi
pryderon am fethodoleg y teclyn a’r allbynnau. Roedd ymateb ysgrifenedig wedi
dod i law yn gynnar ym mis Chwefror. Y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru
yn agored i drafodaethau y tro nesaf y byddai hyn oll yn cael ei
ailysgrifennu.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y
Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Roedd y teclyn
yn amcangyfrif mai’r angen mwyaf oedd yr angen am gartrefi un ystafell wely.
Roedd y teclyn yn defnyddio data o’r Gofrestr Dai ac o ystyried bod mwy na hanner y bobl a oedd
mewn llety brys yn bobl sengl, roedd angen clir am lety 1 ystafell wely yn y
trefi; mwy o angen na’r hyn a fu yn y gorffennol.
· Ystyriwyd bod
darparu tai ar gyfer y dyfodol yn allweddol. Serch hynny, nodwyd bod y Gofrestr
Dai yn ystyried anghenion yn hytrach na dymuniadau pobl ac felly dyna paham
mai’r angen am gartrefi un ystafell wely oedd yn cael ei ystyried fel yr angen
mwyaf. Gallai fod goblygiadau o ran fforddiadwyedd,
megis y dreth ystafell wely, pe byddai’r eiddo yn rhy fawr.
· O ystyried yr
oedi o ran paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd, effaith gyfyngedig fyddai’r
Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn ei chael. Fodd bynnag, byddai Cynllun Datblygu
Strategol neu Gynllun Datblygu Lleol newydd yn golygu y byddai angen
ailysgrifennu’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn llawn a byddai angen i hynny
ddigwydd erbyn Mawrth 2025. Roedd y gwaith diweddaru wedi caniatáu i’r Awdurdod
Lleol godi pryderon am fethodoleg y teclyn a’r allbynnau.
· Er y byddai
darparu 145 o unedau fforddiadwy y flwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf yn mynd i’r
afael â’r ôl-groniad a fodolai o ran anghenion tai, byddai angen tai digonol
drwyddi draw.
CYTUNWYD i gymeradwyo’r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn dilyn
diwedd y cyfnod ymgynghori a’i fabwysiadu.
Dogfennau ategol: