Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Adroddiad am y gwasanaeth Olrhain a Diogelu yng Ngheredigion PDF 499 KB Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Matthew
Vaux (Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a
Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad
am y gwasanaeth Olrhain a Diogelu yng Ngheredigion. Ym mis Gorffennaf 2022,
sefydlwyd model newydd ond dros dro ar gyfer cyflenwi’r Gwasanaeth Olrhain a
Diogelu yn rhanbarth Hywel Dda. Cafodd y gwasanaeth newydd ei ffurfio mewn
ymateb i’r amcanion a nodir yn “Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel -
COVID-19: cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i
endemig” a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r cyllid Olrhain
Cysylltiadau ostwng yn fawr yn 2022-23 h.y. bydd y gyllideb honno yn cyfateb i
40% o’r hyn a gafwyd ar gyfer 2021/22. Oherwydd bod y gyllideb yn llai a bod
nifer y staff wedi gostwng, mae Gwasanaethau Profi, Olrhain a Diogelu Sir
Benfro a Cheredigion wedi uno er mwyn sicrhau arbedion maint a meithrin cydnerthedd ar draws y ddau awdurdod lleol. Mae’r tîm cyfun
yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Sir Gaerfyrddin. Eglurodd Carwen Evans fod gan Geredigion dîm tracio ac
olrhain effeithiol iawn yn ystod ac ers y pandemig fel yr adlewyrchwyd yn yr
adroddiad. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Yn dilyn y gyfarwyddeb a roddwyd gan Lywodraeth Cymru,
roedd ffocws y tîm tracio ac olrhain bellach ar y rheini sydd fwyaf agored i
niwed yn y gymuned. Roedd cyllid wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru am flwyddyn
arall i barhau â'r gwasanaeth hwn. · Gan fod profi yn y gymuned wedi dod i ben yn 2022, codwyd
pryderon bod llai o bobl yn barod i brofi gan fod pecynnau profi gartref yn
ddrud i'w prynu. · Ym mis Rhagfyr, roedd cyfradd achosion Covid-19 wedi
cynyddu ychydig nad oedd yn syndod, fodd bynnag, roedd y ffigurau wedi gostwng
eto erbyn mis Ionawr. · Roedd dau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Arbenigol a gafodd
eu hadleoli fel mater o flaenoriaeth yn ystod y pandemig i gefnogi’r tîm Covid wedi dychwelyd yn rhannol i’w rôl o fewn Tîm
Diogelu’r Cyhoedd. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr adroddiad a derbyn yr
adroddiad er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol cwarter 1 a 2 PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros
Wasanaethau Gydol Oes a Lles) adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol
Chwarter 1 a 2 2022/2023. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus
o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y
Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau
cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n
cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth sydd ar
gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu
Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y
plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r
cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu, bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol
yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill
berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog
Adolygu Annibynnol o'r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 4 plentyn (2 yn
Chwarter 1 a 2 yn Chwarter 2 2022/23). Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu
Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y
plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni
chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod
hwn. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn
Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol
sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau
hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta
Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter.
Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau
Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiadau. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu
hateb gan Elizabeth Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau
a godwyd: · Roedd y cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn
gofal ers Covid-19 yn duedd genedlaethol. Nid oedd dim esboniad penodol ar gael
ar hyn o bryd am hyn, ond cynyddodd yr adrodd unwaith yr oedd plant yn cael eu
gweld eto gan weithwyr proffesiynol. · Ni soniwyd am ddim problemau gyda phresenoldeb gweithwyr
proffesiynol na gofalwyr maeth mewn adolygiadau plant sy'n derbyn gofal. Roedd
cyfarfodydd fel arfer y tu allan i'r amserlenni oherwydd problemau wrth drefnu
dyddiad addas i bawb dan sylw. · O ran anghenion iechyd y plant, gweithiodd yr awdurdod yn
agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mynychodd nyrs plant sy'n derbyn
gofal gyfarfodydd monitro ac adolygu, felly gellid codi unrhyw faterion megis
apwyntiadau deintyddol. Mewn achosion lle nad oedd plant wedi'u cofrestru gyda
deintydd o fewn 20 diwrnod, roedd yr oedi fel arfer oherwydd logisteg mynychu'r
practis. · Roedd llawer o leoliadau y tu allan i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddwyd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n
Dysgu i arsylwi ar yr eitem hon ar yr agenda. Eglurodd y Cynghorydd Catrin M S.
Davies (Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid)
mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybod i’r aelodau am y prif ganfyddiadau ar
gyfer Ceredigion o Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru. Mae’r Arolwg yn
rhoi cipolwg i awdurdodau lleol am lefelau cyfranogi, ymddygiad ac agweddau
pobl ifanc yng Nghymru. Roedd barn pobl ifanc yn cael ei
hystyried yn bwysig wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Carwyn Young fod yr
Arolwg a gynhaliwyd am y pedwerydd tro yn allweddol i ddeall lefelau
gweithgarwch a lles pobl ifanc ar lefel sirol a rhanbarthol. O ran Ceredigion,
ymatebodd 2,762 o bobl ifanc i'r arolwg (1,288 Cynradd a 1,474 Uwchradd).
Cyfeiriwyd at y cefndir a gynhwyswyd yn yr adroddiad, at y prif ganfyddiadau a
rannwyd yn 4 prif adran (Cenedl Egnïol, Pawb, Gydol Oes a Mwynhad), at y
casgliadau ac at y sefyllfa ar hyn o bryd. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · O ystyried pwysigrwydd chwaraeon, roedd y cydbwysedd
rhwng llwyddiant a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle yn
hollbwysig. · Teimlai'r aelodau y byddai cynnwys ffigurau ysbrydoledig
o fudd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nodwyd bod unigolion a
gynrychiolodd Gymru mewn chwaraeon yn gymwys ar gyfer Cynllun y Cerdyn Aur,
sy'n rhoi defnydd am ddim o gyfleusterau hamdden. Roedd mwy o gardiau wedi’u
dosbarthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf nag yn y blynyddoedd blaenorol ac roedd
pawb a fu’n ymwneud â Thaith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r
Gymanwlad 2022 yn rhan o’r cynllun. Yn ogystal, roedd gwaith ymchwilio’n mynd
rhagddo o ran ailgyflwyno’r Seremoni Wobrwyo a gynhelir bob blwyddyn cyn
Covid-19 i gydnabod llwyddiannau unigolion a oedd wedi cynrychioli Cymru. · Cydnabuwyd, oherwydd y pellter o gyfleusterau ymarfer cenedlaethol, fod
pobl ifanc Ceredigion o bosibl dan anfantais, felly roedd yn rhaid i gyrff
llywodraethu ystyried sut yr oeddent yn cefnogi unigolion o ardaloedd gwledig.
Byddai'r awdurdod lleol yn fwy na pharod i gydweithio â'r cyrff llywodraethu i
sicrhau bod y ddarpariaeth i alluogi pobl i ddod yn egnïol ac ymarfer yn lleol
ar gael. Roedd hyn yn cynnwys y ddarpariaeth a wnaed yn bosibl gan
ymddiriedolaethau cymunedol a chlybiau chwaraeon cymunedol. Pwysleisiwyd hefyd
bod yn rhaid ystyried y costau gweithredu a chynnal a chadw wrth ddatblygu
unrhyw gyfleusterau newydd. · O ran y grant
o hyd at £1500 i ysgolion uwchradd i ehangu eu harlwy o ran gweithgaredd
allgyrsiol, roedd yn ofynnol i ysgolion gyflwyno cynllun yn amlinellu sut y
byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio. Rhaid i'r cynllun gynnwys o leiaf un
gweithgaredd sy'n targedu merched. Byddai argaeledd y grant hwn yn y dyfodol yn
dibynnu ar ddenu cyllid oddi wrth Chwaraeon Cymru. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth. |
|
Cyflwyniad gan y Tîm Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) PDF 139 KB Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Angela Lodwick a diolchodd iddi am fynychu
ac am ei pharodrwydd i siarad ag Aelodau’r Pwyllgor. Gwahoddwyd y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu i arsylwi ar yr eitem hon ar yr agenda. Rhoddodd Angela Lodwick
gyflwyniad i'r aelodau, yn amlinellu'r canlynol: ·
Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda ·
Gwasanaethau iechyd
meddwl plant uwchradd a’r glasoed y GIG (Rôl a Swyddogaeth, Llwybr Atgyfeirio
a Mewngymorth i’r Ysgol) ·
Gwasanaeth Iechyd Meddwl
Cynradd ·
Lles Emosiynol/ Ysgolion ·
Fframwaith Gwasanaeth
gwasanaethau iechyd meddwl plant uwchradd a’r glasoed a Gwasanaethau Arbenigol
GIG Cymru ·
Atgyfeiriadau wedi’u
cael ac wedi’u derbyn (data am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cheredigion) ·
Gweithlu Gwasanaethau
iechyd meddwl plant uwchradd a'r glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a
Cheredigion ·
Effaith a chanlyniadau
cadarnhaol oherwydd Covid-19 ·
Cydgynhyrchu: Future Minds,
Gwasanaeth Cwnsela Digidol Ar-lein KOOTH gan gynnwys problemau ymgyflwyno ac Arts Boost ·
Iechyd a Lles Diogel
Plant a phobl ifanc sydd mewn trallod iechyd meddwl a chanlyniadau ·
Ymyriadau i hybu lles
meddyliol Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Angela Lodwick. Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd: · Roedd pryderon a godwyd gyda meddygon teulu yn ymwneud â
diffyg atgyfeirio plant a phobl ifanc a chydag
amseroedd aros; roedd pob meddyg teulu yn ymwybodol o lwybr atgyfeirio’r
Un Pwynt Cyswllt. Roedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau yn cael eu gwneud gan
ysgolion, o bosibl gan fod staff a nyrsys ysgolion yn fwy cyfarwydd â’r plant
a’r bobl ifanc. Y targed gan Lywodraeth Cymru oedd i bob asesiad gael ei gynnal
o fewn 28 diwrnod i’r atgyfeiriad, ond yn ystod Covid-19, bu oedi gyda
gwasanaethau iechyd meddwl plant cynradd a’r glasoed oherwydd cynnydd sylweddol
mewn atgyfeiriadau. ·
Awgrymwyd bod angen codi
ymwybyddiaeth y cyhoedd o ffyrdd o gael gafael ar wasanaethau. Roedd y wefan
wrthi’n cael ei diweddaru. · Roedd KOOTH yn cyflogi cwnselwyr
hyfforddedig, ond ni chafodd ei ddatblygu yn lle gwasanaethau iechyd meddwl
plant a’r glasoed. Roedd system wedi'i sefydlu i roi gwybod i wasanaethau
iechyd meddwl plant a’r glasoed os ystyrir bod plant a phobl ifanc yn risg
uchel. O ran KOOTH, roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr rhwng 14-17 oed. Nid oedd
dadansoddiad o ryw'r defnyddwyr ar gael yn ystod y cyfarfod. · Cydnabuwyd bod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r
glasoed wedi datblygu'n sylweddol dros y degawd diwethaf ynghyd â sgyrsiau am
iechyd meddwl. Roedd ffocws gwasanaethau iechyd meddwl plant cynradd a’r
glasoed ar ymyrraeth gynnar ac mae Gwasanaethau Mewngymorth
Ysgolion wedi bod yn weithgar yng Ngheredigion ers 3 blynedd sydd wedi codi
hyder athrawon mewn iechyd meddwl plant a’r glasoed. · Darparodd gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed
wasanaethau i bobl ifanc hyd at 18 oed; roedd arweinydd pontio yn ei le i
gynorthwyo gyda'r pontio i wasanaethau iechyd meddwl oedolion. · Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gael safle mwy addas ar
gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed yn Aberystwyth gan nad oedd
Tŷ Helyg yn cael ei ystyried yn addas i'r diben. · Mewn achosion lle na dderbyniodd gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adroddiad Blynyddol Uned Gofalwyr Ceredigion 2021-2022 PDF 11 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams yr adroddiad ar gyflawniadau Tîm Gofalwyr a
Chefnogaeth Gymunedol a datblygiadau yn erbyn y targedau ac amcanion cytûn yn
ystod 2021-2022. Fel rhan o'r trawsnewidiad tuag at
Fodel Gydol Oed a Llesiant, gwelwyd dau dîm (yr Uned Gofalwyr a Phorth y
Gymuned) yn uno i greu'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol. Rhoddwyd trosolwg o
Amcanion Busnes yr Uned Gofalwyr. Eglurodd Iwan Davies fod maes
cyntaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am bobl yn y
gymuned. Rhoddwyd ffigurau’n ymwneud â’r hyn yr oedd Uned y Gofalwyr wedi’i
gyflawni yn 2021-22 yn ystod Covid-19, a oedd yn cynnwys £98528 o Gronfa
Gofalwyr Ceredigion yn cael ei ddyfarnu’n uniongyrchol i ofalwyr i wella eu
hiechyd a’u lles a danfon 1600 o de prynhawn Cymreig ‘Break in a Box’. Yn
ogystal, roedd Cerdyn Gofalwr a oedd yn rhoi mynediad am ddim i'r holl
gyfleusterau hamdden neu ofalwyr sy'n eiddo i'r Cyngor wedi'i ddatblygu. Roedd ail ran yr adroddiad yn
canolbwyntio ar Gysylltwyr Cymunedol, a roddodd wybodaeth i gymunedau ac a
hyrwyddodd Dewis Cymru. Cyfeiriwyd at gysylltiad Cysylltwr Cymunedol â Fforwm
Cymunedol Penparcau ‘HUBGRUB’. Rhoddwyd crynodeb o'r camau nesaf ynghyd â'r
Amcanion Busnes ar gyfer 2022-23. Yn ddiweddar, roedd digwyddiadau personol
wedi'u trefnu ar gyfer gofalwyr ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Dewis Cymru. Byddai datblygu seibiannau cynaliadwy i ofalwyr
yn parhau fel blaenoriaeth hyd y gellir rhagweld. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Iwan Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Codwyd cwestiynau ynghylch pam nad oedd Ceredigion wedi
ymuno â'r cyfeiriadur Menter Gofal a Chymorth yn Arberth, gan fod awdurdodau
lleol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi gwneud hynny. Roedd Ceredigion wedi
comisiynu ymarfer cwmpasu yn ddiweddar i sicrhau bod ganddynt yr ateb gorau ar
gyfer cymunedau Ceredigion. Byddai gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu mentrau
micro a mentrau cymdeithasol yn y dyfodol. · Parhaodd recriwtio ar draws y sector gofal yng Nghymru i
fod yn broblem; awgrym i adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law. · Roedd pwysigrwydd adnabod gofalwyr yn y gymuned yn
allweddol. Cydnabuwyd bod gan Gynghorwyr rôl i sicrhau bod trigolion Ceredigion
yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. · Diolchwyd i Staff Uned y Gofalwyr am y gwaith rhagorol a
wnaed yn enwedig yn ystod cyfnod anodd gyda phandemig Covid-19. Canmolodd yr Aelodau Susan Kidd,
Swyddog Datblygu Gofalwyr am gynhyrchu adroddiad proffesiynol a darllenadwy.
Canmolwyd Sara Humphreys, Rheolwr Tîm a swyddogion eraill o Dîm y Gofalwyr a
Chymorth Cymunedol hefyd am eu cyfraniad gwerthfawr i'r adroddiad. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi Adroddiad
Blynyddol Uned Gofalwyr Ceredigion 2021-2022. |
|
Adroddiad Blynyddol Grwp Datblygu Gofalwyr Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru PDF 2 MB Cofnodion: Eglurodd y
Cynghorydd Alun Williams bod yr adroddiad wedi’i lunio ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn amlinellu’r cynnydd a wnaed
o ran cyflawni blaenoriaethau Gofalwyr Llywodraeth Cymru gan Grŵp Datblygu
Gofalwyr Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Darparwyd y cefndir a'r sefyllfa bresennol fel y
nodwyd yn yr adroddiad. Tynnodd Iwan Davies sylw at y
ffaith bod y cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc a ddatblygwyd yng Ngheredigion
wedi'i gyflwyno ers hynny yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Yn ogystal, roedd
Uned Gofalwyr Ceredigion wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, Gweithredu
dros Blant ac Arad Goch i gynhyrchu ffilm i hybu gofalwyr ifanc i
hunan-adnabod, a fyddai’n cael ei dangos mewn ysgolion a chlybiau
ieuenctid. Cyfeiriwyd at y gwaith a
wnaed i gefnogi busnesau bach a chanolig i godi ymwybyddiaeth o Ofalwyr o safbwynt
y gweithwyr a'r cleientiaid. Roedd yr adroddiad nid yn unig yn adlewyrchu'r hyn
oedd yn digwydd yng Ngheredigion ond yn rhanbarthol, a dylanwad Ceredigion ar
lefel ranbarthol. Eglurodd y Cynghorydd Alun
Williams, er bod gan Geredigion y nifer isaf o ofalwyr ar y gronfa ddata o
gymharu â Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, roedd ganddi hefyd y boblogaeth isaf.
Roedd nifer y gofalwyr sy’n hunan-adnabod yng Ngheredigion wedi cynyddu 53%, o
1575 yn 2019-20 i 2419 yn 2021-22. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i'r adran am eu
gwaith caled yn cyflawni hyn. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi Adroddiad Blynyddol Grŵp Gofalwyr Rhanbarthol Partneriaeth Gofal
Gorllewin Cymru 2021-22. |
|
I dderbyn cofnodion y cyfarfod diweddara a thrafod unrhyw faterion sy'n codi ohonynt PDF 114 KB Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022. Materion sy’n codi: Dim. |