Eitem Agenda

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol cwarter 1 a 2

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles) adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 1 a 2 2022/2023. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu, bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 4 plentyn (2 yn Chwarter 1 a 2 yn Chwarter 2 2022/23). Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.

 

Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiadau.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Elizabeth

Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd y cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal ers Covid-19 yn duedd genedlaethol. Nid oedd dim esboniad penodol ar gael ar hyn o bryd am hyn, ond cynyddodd yr adrodd unwaith yr oedd plant yn cael eu gweld eto gan weithwyr proffesiynol.

·       Ni soniwyd am ddim problemau gyda phresenoldeb gweithwyr proffesiynol na gofalwyr maeth mewn adolygiadau plant sy'n derbyn gofal. Roedd cyfarfodydd fel arfer y tu allan i'r amserlenni oherwydd problemau wrth drefnu dyddiad addas i bawb dan sylw.

·       O ran anghenion iechyd y plant, gweithiodd yr awdurdod yn agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mynychodd nyrs plant sy'n derbyn gofal gyfarfodydd monitro ac adolygu, felly gellid codi unrhyw faterion megis apwyntiadau deintyddol. Mewn achosion lle nad oedd plant wedi'u cofrestru gyda deintydd o fewn 20 diwrnod, roedd yr oedi fel arfer oherwydd logisteg mynychu'r practis. 

·       Roedd llawer o leoliadau y tu allan i'r sir oherwydd anghenion cymhleth y plant a'r diffyg lleoliadau yng Ngheredigion, a fu'n heriol mewn argyfwng. Byddai darpariaeth breswyl mewn 3 lleoliad gwahanol ar draws y sir ar gael erbyn yr Haf gobeithio, a fyddai'n sicrhau bod plant yn aros mor agos â phosibl i'r gymuned.

·       Ymyrryd ac atal yn gynnar oedd y prif amcanion ond mewn rhai sefyllfaoedd roedd yn rhaid symud plant o'r cartref oherwydd lefel y risg. Roedd nifer y plant a arhosodd mewn gofal am 2 flynedd neu ragor yng Ngheredigion yn debyg i awdurdodau lleol cyfagos.

·       Oherwydd problemau yn y Tîm Gofal wedi'i Gynllunio, bu rhywfaint o oedi wrth roi cymorth cofleidiol i blant sy'n derbyn gofal.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i'r adran ac fe wnaeth hi gydnabod bod y gwasanaeth yn parhau i wynebu heriau o ran recriwtio.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol.

Dogfennau ategol: