Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Angela Lodwick a diolchodd iddi am fynychu
ac am ei pharodrwydd i siarad ag Aelodau’r Pwyllgor. Gwahoddwyd y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu i arsylwi ar yr eitem hon ar yr agenda.
Rhoddodd Angela Lodwick
gyflwyniad i'r aelodau, yn amlinellu'r canlynol:
·
Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda
·
Gwasanaethau iechyd
meddwl plant uwchradd a’r glasoed y GIG (Rôl a Swyddogaeth, Llwybr Atgyfeirio
a Mewngymorth i’r Ysgol)
·
Gwasanaeth Iechyd Meddwl
Cynradd
·
Lles Emosiynol/ Ysgolion
·
Fframwaith Gwasanaeth
gwasanaethau iechyd meddwl plant uwchradd a’r glasoed a Gwasanaethau Arbenigol
GIG Cymru
·
Atgyfeiriadau wedi’u
cael ac wedi’u derbyn (data am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cheredigion)
·
Gweithlu Gwasanaethau
iechyd meddwl plant uwchradd a'r glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a
Cheredigion
·
Effaith a chanlyniadau
cadarnhaol oherwydd Covid-19
·
Cydgynhyrchu: Future Minds,
Gwasanaeth Cwnsela Digidol Ar-lein KOOTH gan gynnwys problemau ymgyflwyno ac Arts Boost
·
Iechyd a Lles Diogel
Plant a phobl ifanc sydd mewn trallod iechyd meddwl a chanlyniadau
·
Ymyriadau i hybu lles
meddyliol
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Angela Lodwick. Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd:
· Roedd pryderon a godwyd gyda meddygon teulu yn ymwneud â
diffyg atgyfeirio plant a phobl ifanc a chydag
amseroedd aros; roedd pob meddyg teulu yn ymwybodol o lwybr atgyfeirio’r
Un Pwynt Cyswllt. Roedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau yn cael eu gwneud gan
ysgolion, o bosibl gan fod staff a nyrsys ysgolion yn fwy cyfarwydd â’r plant
a’r bobl ifanc. Y targed gan Lywodraeth Cymru oedd i bob asesiad gael ei gynnal
o fewn 28 diwrnod i’r atgyfeiriad, ond yn ystod Covid-19, bu oedi gyda
gwasanaethau iechyd meddwl plant cynradd a’r glasoed oherwydd cynnydd sylweddol
mewn atgyfeiriadau.
·
Awgrymwyd bod angen codi
ymwybyddiaeth y cyhoedd o ffyrdd o gael gafael ar wasanaethau. Roedd y wefan
wrthi’n cael ei diweddaru.
· Roedd KOOTH yn cyflogi cwnselwyr
hyfforddedig, ond ni chafodd ei ddatblygu yn lle gwasanaethau iechyd meddwl
plant a’r glasoed. Roedd system wedi'i sefydlu i roi gwybod i wasanaethau
iechyd meddwl plant a’r glasoed os ystyrir bod plant a phobl ifanc yn risg
uchel. O ran KOOTH, roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr rhwng 14-17 oed. Nid oedd
dadansoddiad o ryw'r defnyddwyr ar gael yn ystod y cyfarfod.
· Cydnabuwyd bod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r
glasoed wedi datblygu'n sylweddol dros y degawd diwethaf ynghyd â sgyrsiau am
iechyd meddwl. Roedd ffocws gwasanaethau iechyd meddwl plant cynradd a’r
glasoed ar ymyrraeth gynnar ac mae Gwasanaethau Mewngymorth
Ysgolion wedi bod yn weithgar yng Ngheredigion ers 3 blynedd sydd wedi codi
hyder athrawon mewn iechyd meddwl plant a’r glasoed.
· Darparodd gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed
wasanaethau i bobl ifanc hyd at 18 oed; roedd arweinydd pontio yn ei le i
gynorthwyo gyda'r pontio i wasanaethau iechyd meddwl oedolion.
· Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gael safle mwy addas ar
gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed yn Aberystwyth gan nad oedd
Tŷ Helyg yn cael ei ystyried yn addas i'r diben.
· Mewn achosion lle na dderbyniodd gwasanaethau iechyd
meddwl plant a’r glasoed atgyfeiriad, roedd y plant a phobl ifanc yn cael eu
cyfeirio/yn cael cyngor neu’n cael eu hatgyfeirio at
wasanaeth gwahanol.
· O ran y ddarpariaeth Gymraeg a ystyriwyd yn allweddol,
roedd disgwyl i wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed gadw at Ddeddf yr
Iaith Gymraeg. Fe ddygwyd staff Cymraeg eu hiaith o'r gwasanaeth i mewn i
gynnal asesiadau a thriniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc pan fo angen.
· Roedd gorbryder/straen wedi
cynyddu’n sylweddol ers pandemig Covid-19 ac ar hyn o bryd, dyma’r broblem
fwyaf o ran ymgyflwyno mewn plant a phobl ifanc.
Roedd llwybr wedi'i ddatblygu i staff nodi a darparu ymyrraeth.
· Er bod tîm anhwylderau bwyta ym Mhen-y-bont ar Ogwr,
codwyd pryderon gan nad oedd uned haen 4 benodedig ar gyfer anhwylderau bwyta
yng Nghymru.
Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y
Pwyllgor, i Angela Lodwick
am fynychu ac am ei chyfraniad gwerthfawr. Nododd fod y drafodaeth yn sicr wedi
codi cwestiynau ac wedi amlygu'r angen am fwy o gymorth i blant a phobl ifanc. Cytunwyd y byddai copi
o'r cyflwyniad yn cael ei rannu gydag Aelodau'r Pwyllgor maes o law.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r wybodaeth
ac i ddarparu adborth i'r Cabinet os oes angen.
Dogfennau ategol: