Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards am na fedrai ddod
i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Dim. |
|
Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023 PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Hazel Lloyd Lubran, Prif
Weithredwr CAVO a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Diana Davies a
Timothy Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i gyflwyno cofnodion cyfarfod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. . O dan Adran 35 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015, roedd yn rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau
Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar y penderfyniadau a wnaed, neu gamau
eraill a gymerwyd, gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal yr
Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Y prif bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth oedd y
canlynol: · Yn dilyn cwestiwn ynghylch yr Is-grŵp Adsefydlu Ffoaduriaid a’r cyllid
yr oedd Cyngor Sir Ceredigion yn ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas
Unedig i gefnogi pobl o Wcráin am 12 mis, pobl o Affganistan am 3 blynedd a
phobl o Syria am 5 mlynedd, cadarnhaodd Diana Davies y byddai’n rhannu’r
adroddiad llawn a gyflwynwyd i gyfarfod diwethaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
a fyddai’n rhoi mwy o fanylion i Aelodau’r Pwyllgor. · Yn dilyn cwestiwn, cadarnhaodd Hazel Lloyd-Lubran
fod y Bwrdd wedi ymateb drwy Cynnal y Cardi i gynllun Ffermio Cynaliadwy
Llywodraeth Cymru. · Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod y Bwrdd yn cydweithio ag awdurdodau
cyfagos, a bod hyn yn debygol o gynyddu yn ystod y misoedd nesaf. · Cyfeiriwyd at Ddangosfwrdd Gorwel (Gorwel yw
platfform ar y we a ariennir gan grant rhanbarthol Llywodraeth Cymru i Fyrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus i gynorthwyo nid yn unig wrth gynhyrchu’r Asesiadau
Llesiant Lleol, ond i ganiatáu i ddefnyddwyr gydweithio a rhannu gwybodaeth am
brosiectau a chasglu gwybodaeth fwy lleol fel canlyniadau grwpiau ffocws ac
arolygon). Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor ba mor hyblyg oedd y Bwrdd o ran
addasu’r amcanion pan fo’r dangosfwrdd yn denu sylw
at fater penodol. Nododd Cadeirydd y Bwrdd fod yn rhaid i’r Bwrdd fod yn hyblyg
a phwysleisiodd y Rheolwr Corfforaethol bwysigrwydd cydweithio ag ardaloedd
eraill yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: i. Derbyn cofnodion drafft cyfarfod
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu
Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor
i dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a
gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023. Diolchodd y Cadeirydd i
Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Swyddogion am ddod i’r cyfarfod a
chyflwyno’r wybodaeth. |
|
Diweddariad Chwythu'r Chwiban PDF 84 KB Cofnodion: Croesawyd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a
Swyddog Monitro, i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad. Esboniwyd mai dyma oedd y sefyllfa ar y pryd: Rhwng mis Ebrill 2019 a mis
Rhagfyr 2023 gwnaethpwyd 6 cyfeiriad datgelu Chwythu’r Chwiban i’r Swyddog
Monitro. Ar 20/12/23: Roedd 5 wedi’u cwblhau, O’r rhain: doedd dim
ymchwiliad ffurfiol. Datryswyd y rhain drwy: • weithredoedd mewnol • hyfforddiant • prosesau ymchwilio eraill Roedd ymchwiliad yn parhau
ynghylch 1. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad. Rheswm dros yr
argymhelliad: Sicrhau cryfhau a gwella’r
drefn Chwythu’r Chwiban. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor
i nodi cynnwys yr adroddiad. Cytunwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno
bob blwyddyn yn y dyfodol. Hefyd, awgrymwyd y dylai’r Swyddogion Arweiniol
Corfforaethol sicrhau bod yr holl swyddogion yn cwblhau hyfforddiant diweddaru
bob tair blynedd fel y nodwyd yn yr adroddiad. Hefyd, dylid casglu rhagor o
fanylion ynghylch nifer y swyddogion nad oedd wedi cwblhau’r hyfforddiant, a
faint oedd yn hyfforddiant diweddaru. |
|
Adrodd ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) PDF 109 KB Cofnodion: Y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg
a Chraffu oedd yn gyfrifol am adolygu defnydd y Cyngor o RIPA. Fel arfer, cyflwynwyd
adroddiadau i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu bob 6 mis; fodd bynnag
cyflwynwyd yr adroddiad hwn 9 mis wedi’r adroddiad diwethaf oherwydd diffyg
gweithgarwch RIPA. Cyflwynodd Elin Prysor, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol a Swyddog Monitro, y prif bwyntiau sef: 1) Gweithgarwch RIPA Ni fu unrhyw weithgarwch
RIPA gan unrhyw un o wasanaethau’r Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 22 Mai 2023 a
31 Mawrth 2024. Cadarnhaodd y Swyddogion Awdurdodi nad oeddent wedi ystyried
unrhyw geisiadau RIPA yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y datganiad blynyddol
a gyflwynwyd i Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) yn adlewyrchu hyn.
2) Hyfforddiant Roedd gweithdy hyfforddi
diwrnod llawn ynghylch RIPA wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ebrill 2024, a byddai’n
cael ei gynnal gan ddarparwr lleol i swyddogion perthnasol. Dylai’r hyfforddiant hwn a’r
sesiynau blaenorol sicrhau bod gan swyddogion perthnasol y wybodaeth
angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion RIPA. 3) Swyddogion Awdurdodi Y Swyddogion Awdurdodi
presennol ar gyfer Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig, awdurdodiadau Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (CHIS) ac awdurdodiadau nad ydynt yn
rhai RIPA oedd: Y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd; Y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth; a Chyfarwyddwr Statudol y
Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal. Y Prif Weithredwr oedd y
Swyddog Awdurdodi o ran rhoi awdurdodiadau mewn perthynas â gwybodaeth
gyfrinachol neu freintiedig, ffilmio unrhyw Aelod Etholedig, Cyfarwyddwr
Corfforaethol neu Swyddog Arweiniol Corfforaethol, neu wyliadwriaeth yn ymwneud
â phobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed. Y Swyddog Rheng Cymeradwy ar
gyfer Data Cyfathrebu oedd: Y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd Yr Eilyddion amgen (os nad
oedd y Swyddog Rheng Cymeradwy uchod ar gael) oedd: Y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth; a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Porth Cynnal. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: Bod y Pwyllgor yn nodi
cynnwys yr adroddiad. Y rheswm dros yr
argymhelliad: Sicrhau bod y pwyllgor yn
cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd y Cyngor o RIPA a gweithredu polisïau.
Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor
i nodi cynnwys yr adroddiad a diolchodd y Cadeirydd i Elin Prysor am ddod i’r
cyfarfod a chyflwyno’r wybodaeth. |
|
Polisi Diogelu Corfforaethol PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diweddarwyd y Polisi Diogelu
Corfforaethol er mwyn adlewyrchu Gweithdrefnau Diogelu diwygiedig Cymru.
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, yr adroddiad gyda
chymorth Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a
Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y Grŵp Diogelu
Corfforaethol wedi’i ailsefydlu ar ôl i bethau fod ar stop dros gyfnod y
pandemig. Roedd y Grŵp wedi goruchwylio’r gwaith o ddrafftio’r Polisi
Diogelu Corfforaethol diwygiedig yn barod ar gyfer ei weithredu a’i dywys
drwy’r broses ddemocrataidd. Cafodd fersiwn ddiwethaf y
Polisi Diogelu Corfforaethol ei pharatoi yn 2017 ac yn sail i’r polisi yr oedd
Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan gan gynnwys oedolion agored i niwed
(2008). Cafodd Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu gweithredu yn 2019 ac roeddent
bellach wedi’u hymgorffori yn y polisi. Roedd y polisi’n berthnasol
i staff, Cynghorwyr, gwirfoddolwyr, a phobl oedd yn gwneud gwaith ar ran y
Cyngor. Ar ôl ystyried yr adroddiad,
cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell y dylai’r Cabinet wneud y canlynol: 1.
Cytuno ar y Polisi Diogelu Corfforaethol fel y ddogfen ddiffiniol i sicrhau
bod Ceredigion yn sefydliad diogel sy’n cydnabod ei gyfrifoldebau i ddiogelu
plant ac oedolion sy’n wynebu risg. Rhesymau dros yr
argymhelliad: Roedd yn hanfodol bod y
Cyngor yn darparu fframwaith polisi i ddiogelu pobl sy’n cyflenwi gwasanaethau
ar ran yr Awdurdod Lleol. Roedd y Polisi Diogelu
Corfforaethol Diwygiedig yn defnyddio’r canllawiau a’r ddeddfwriaeth perthnasol
a chyfredol. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru 2022-2023 PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Alun Williams, yr Aelod Cabinet, ac Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, Adroddiad
Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru
2022-2023. Roedd Ceredigion yn parhau i
fod yn bartner a oedd yn cyfrannu’n llawn at weithgareddau’r Bwrdd Diogelu
Rhanbarthol ac yn cymryd y dyletswyddau a roddwyd i ni i fod yn gyfranogwyr
gweithredol o ddifri. Byddai’r adroddiad blynyddol
nesaf ar gyfer 2023-24 yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst 2024. Yn
dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad
canlynol: ARGYMHELLIAD: Mae’r Pwyllgor Cydlynu
Trosolwg a Chraffu’n nodi cynnwys yr adroddiad. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i
nodi cynnwys yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i’r
Aelod Cabinet, y Cynghorydd Williams, ac Audrey Somerton-Edwards am ddod i’r
cyfarfod a chyflwyno’r ddau adroddiad. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol Cyfun CYSUR/CWMPAS Chwarter 2 2023/24 PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd y Cynghorydd
Alun Williams, yr Aelod Cabinet, ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol,
i’r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad CYSUR / CWMPAS ar gyfer chwarter 2. Dyma grynodeb o’r
pwyntiau allweddol: Ø Yn Chwarter 2, bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau
a dderbyniwyd ynghylch plant / pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter 1 - gyda 928 o
gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 2 o'i gymharu ag 888 o gysylltiadau /
adroddiadau yn Chwarter 1. Ø Fodd bynnag, er y bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau /
adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 2, bu gostyngiad yn nifer cyffredinol y
cysylltiadau / adroddiadau a arweiniodd at orfod cymryd camau o dan
Weithdrefnau Amddiffyn Plant, o 172 yn Chwarter 1 i 132 yn Chwarter 2. Mae hyn
yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy o gysylltiadau / adroddiadau yn cael eu cyfeirio
at Wasanaethau Ymyrraeth Gynnar/Atal neu eu cyfeirio am asesiad ar gyfer gofal
a chymorth ac felly nid ydynt yn cael eu huwchgyfeirio
ar gyfer ymyriadau diogelu. Mae hyn o ganlyniad i ddatblygiad parhaus y model
Llesiant Gydol Oes ac, yn benodol, datblygu Brysbennu i Blant yn y Porth Gofal. Ø 14.2% oedd canran yr atgyfeiriadau a aeth ymlaen i
Drafodaeth Strategaeth yn Chwarter 2 o'i gymharu â 19.4% yn Chwarter 1. Yn
Chwarter 2 aeth 5.9% o'r adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47, o'i gymharu ag
8.8% yn Chwarter 1 ac yna o ran y rhai a aeth ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn
Plant Gychwynnol, aeth 0.9% ymlaen i'r cam hwnnw yn Chwarter 2, o'i gymharu â
0.7% yn Chwarter 1. Ø Mae cyfanswm y plant sy'n destun Cynhadledd Amddiffyn Plant
Gychwynnol yn y chwarter hwn wedi gostwng ymhellach i 16, o'i gymharu â 23 yn
Chwarter 1, a 35 yn Chwarter 4. Ø Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol oedd 10 o'i
gymharu ag 20 yn Chwarter 1. Ø Cyfanswm y plant y tynnwyd eu henwau oddi ar y gofrestr
yn dilyn Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 22. Ø Bu gostyngiad yn nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan
yr Heddlu yn y chwarter hwn ac mae'n ymddangos mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg yw prif ffynonellau’r adroddiadau yn y chwarter hwn. Ø Bu gostyngiad yn nifer yr ymholiadau Adran 47 a
gynhaliwyd yn y chwarter hwn hefyd, gyda 55 yn cael eu cynnal yn y chwarter hwn
o gymharu â 78 yn Chwarter 1. Cynhaliwyd 41 o'r ymholiadau hynny ar y cyd â'r
Heddlu yn y chwarter hwn a chynhaliwyd 14 gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel
Asiantaeth Sengl. Ø Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at gynnal
ymholiad o dan Adran 47 yn Chwarter 2 oedd cam-drin corfforol a cham-drin / camfanteisio rhywiol, fel yn achos Chwarter 1. Ø Roedd 40 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, o'i gymharu â 52 ar ddiwedd Chwarter 1. Yn y chwarter hwn, cofrestrwyd 21 o blant o dan y categori ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 41. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawyd y Cynghorydd Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet, i’r cyfarfod
i gyflwyno’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028, gyda
chefnogaeth Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Rhoddodd y Cynghorydd Davies
wybod i Aelodau’r Pwyllgor mai dyma oedd y sefyllfa ar y pryd: Cynhaliwyd yr ymgynghoriad
cyhoeddus rhwng 25/10/23 a 31/12/23. Cafodd ei hyrwyddo’n eang a’i gyflwyno i Gyngor
Ieuenctid Ceredigion er mwyn casglu barn pobl ifanc. Ymatebodd 43 person i’r
arolwg ar-lein, ni ddychwelwyd unrhyw gopïau papur a rhoddodd 16 aelod o’r
Cyngor Ieuenctid adborth. Yn gyffredinol, roedd yr
ymatebwyr yn teimlo mai ein pum Amcan Cydraddoldeb oedd yr Amcanion
Cydraddoldeb cywir ar gyfer Cyngor Ceredigion – dywedodd cyfartaledd o 94%
‘ie’. Roedd cyfartaledd o 83% o’r bobl a ymatebodd yn teimlo y byddai’r camau
gweithredu yn y cynllun yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion. Cyhoeddwyd adroddiad
monitro’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’ ym mis
Tachwedd 2023. Roedd yr adroddiad yn atgyfnerthu’r angen am y camau gweithredu
a nodwyd yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28. Roedd
canfyddiadau’r adroddiad wedi’u cynnwys yn y sylfaen dystiolaeth a oedd yn
cefnogi’r Cynllun. Roedd ein Gweithgor
Cydraddoldeb yn cael ei gydlynu gan y gwasanaeth Polisi, Perfformiad a
Diogelu’r Cyhoedd a’i gadeirio gan y Cynghorydd Catrin MS Davies (Hyrwyddwr
Cydraddoldeb). Y grŵp oedd yn gyfrifol am ddatblygu a monitro ein Cynllun
Cydraddoldeb Strategol. Cyfarfu’r grŵp ym mis Ionawr 2024 i adolygu’r
Cynllun Cydraddoldeb drafft yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd y
grŵp i wneud y newidiadau canlynol i’r Cynllun Cydraddoldeb
Strategol: · Addasu cam gweithredu 3.1 i gynnwys ‘pobl ifanc’ yn y mesur llwyddiant. · Darganfod mwy am Orsensitifrwydd Trydanol. · Annog staff i fynd â blwch adborth anhysbys i ymgynghoriadau wyneb yn
wyneb. · Addasu ein pecyn cymorth ymgysylltu mewnol i gynnig
rhagor o ffyrdd i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn pan ymgynghorir â hwy. ·
Addasu
camau gweithredu penodol o dan Amcan 4 i gynnwys y term ‘profiad bywyd’. · Newid ein ffurflen monitro cydraddoldeb fel ei bod yn
gofyn am ‘ryw’ unigolyn, ac mewn cwestiwn pellach yn gofyn am ei ‘hunaniaeth
rhywedd’. ·
Dileu’r cam gweithredu, “sefydlu model integredig o ofal
cymunedol a thai cymunedol yn Nhregaron”. Roedd y
grŵp yn teimlo bod amrywiaeth o faterion yn cyfrannu at gyflawni’r
canlyniad hwn, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt y tu allan i gylch gwaith y
gweithgor Cydraddoldeb. Roedd y cam gweithredu hwn wedi’i gynnwys yn
Strategaeth Gorfforaethol 2022-27. Yn
dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor â’r argymhellion canlynol: ARGYMHELLION: • Argymell bod y Cabinet yn
cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28. • Gwneud argymhellion fel y
bo’n briodol pan gyflwynir yr adroddiad i’r Cabinet ar 19 Mawrth 2024. Nid oedd
unrhyw argymhellion pellach, fodd bynnag roedd Aelodau’r Pwyllgor yn canmol yr
Aelod Cabinet a’r Swyddogion am y gwaith ynghlwm wrth greu’r Cynllun Cydraddoldeb
Strategol. Rhesymau dros y
penderfyniad: Byddai Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig 2024-28 yn bwrw ymlaen â nod y Cyngor i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 42. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny PDF 119 KB Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror
2024 yn gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn eu tro, rhoddodd pob
Cadeirydd ddiweddariad am Flaenraglenni Gwaith eu
Pwyllgorau. Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd
fod angen i’r Pwyllgor roi sylw iddo ar frys Nododd y
Cadeirydd fod ei gyfnod o ddwy flynedd fel Cadeirydd yn dod at ei derfyn, ac
roedd eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i’r Is-gadeirydd, sef y Cynghorydd Wyn
Evans, Lisa Evans a Dwynwen Jones, Swyddogion, a’r cyfieithwyr am eu cymorth.
Diolchodd hefyd i Aelodau’r Pwyllgor am eu cymorth a’u cwrteisi yn ystod y
cyfarfodydd. Dymunodd yn dda i Gadeirydd nesaf y Pwyllgor yn y rôl. |