Cofnodion:
Croesawyd y Cynghorydd
Alun Williams, yr Aelod Cabinet, ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol,
i’r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad CYSUR / CWMPAS ar gyfer chwarter 2.
Dyma grynodeb o’r
pwyntiau allweddol:
Ø Yn Chwarter 2, bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau
a dderbyniwyd ynghylch plant / pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter 1 - gyda 928 o
gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 2 o'i gymharu ag 888 o gysylltiadau /
adroddiadau yn Chwarter 1.
Ø Fodd bynnag, er y bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau /
adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 2, bu gostyngiad yn nifer cyffredinol y
cysylltiadau / adroddiadau a arweiniodd at orfod cymryd camau o dan
Weithdrefnau Amddiffyn Plant, o 172 yn Chwarter 1 i 132 yn Chwarter 2. Mae hyn
yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy o gysylltiadau / adroddiadau yn cael eu cyfeirio
at Wasanaethau Ymyrraeth Gynnar/Atal neu eu cyfeirio am asesiad ar gyfer gofal
a chymorth ac felly nid ydynt yn cael eu huwchgyfeirio
ar gyfer ymyriadau diogelu. Mae hyn o ganlyniad i ddatblygiad parhaus y model
Llesiant Gydol Oes ac, yn benodol, datblygu Brysbennu i Blant yn y Porth Gofal.
Ø 14.2% oedd canran yr atgyfeiriadau a aeth ymlaen i
Drafodaeth Strategaeth yn Chwarter 2 o'i gymharu â 19.4% yn Chwarter 1. Yn
Chwarter 2 aeth 5.9% o'r adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47, o'i gymharu ag
8.8% yn Chwarter 1 ac yna o ran y rhai a aeth ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn
Plant Gychwynnol, aeth 0.9% ymlaen i'r cam hwnnw yn Chwarter 2, o'i gymharu â
0.7% yn Chwarter 1.
Ø Mae cyfanswm y plant sy'n destun Cynhadledd Amddiffyn Plant
Gychwynnol yn y chwarter hwn wedi gostwng ymhellach i 16, o'i gymharu â 23 yn
Chwarter 1, a 35 yn Chwarter 4.
Ø Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol oedd 10 o'i
gymharu ag 20 yn Chwarter 1.
Ø Cyfanswm y plant y tynnwyd eu henwau oddi ar y gofrestr
yn dilyn Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 22.
Ø Bu gostyngiad yn nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan
yr Heddlu yn y chwarter hwn ac mae'n ymddangos mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg yw prif ffynonellau’r adroddiadau yn y chwarter hwn.
Ø Bu gostyngiad yn nifer yr ymholiadau Adran 47 a
gynhaliwyd yn y chwarter hwn hefyd, gyda 55 yn cael eu cynnal yn y chwarter hwn
o gymharu â 78 yn Chwarter 1. Cynhaliwyd 41 o'r ymholiadau hynny ar y cyd â'r
Heddlu yn y chwarter hwn a chynhaliwyd 14 gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel
Asiantaeth Sengl.
Ø Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at gynnal
ymholiad o dan Adran 47 yn Chwarter 2 oedd cam-drin corfforol a cham-drin / camfanteisio rhywiol, fel yn achos Chwarter 1.
Ø Roedd 40 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd
y chwarter hwn, o'i gymharu â 52 ar ddiwedd Chwarter 1. Yn y chwarter hwn,
cofrestrwyd 21 o blant o dan y categori esgeulustod, 14 o dan y categori
cam-drin emosiynol / seicolegol, 4 o dan y categori cam-drin ac esgeulustod
emosiynol / seicolegol ac yna 1 o dan y categori cam-drin rhywiol a cham-drin
emosiynol / seicolegol.
Ø Y prif faes a oedd yn peri pryder o ran y chwarter hwn
oedd y gostyngiad sylweddol yng nghanran y Cynadleddau Amddiffyn Plant
Cychwynnol a gynhaliwyd o fewn yr amserlen statudol o 15 diwrnod gwaith ar ôl
cytuno bod angen Cynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gostyngodd y ganran yn
Chwarter 2 i 43.7% o'i gymharu ag 80% yn Chwarter 1. Roedd y gostyngiad
oherwydd materion staffio. Fodd bynnag, cynhaliwyd y Cynadleddau Adolygu a'r
Grwpiau Craidd yn bennaf o fewn y terfynau amser, gyda 91.7% o’r Cynadleddau
Adolygu yn cael eu cynnal o fewn y terfynau amser a 90% o’r grwpiau craidd yn
cael eu cynnal o fewn y terfynau amser statudol.
Ø O ran Diogelu Oedolion, bu gostyngiad yn nifer yr
oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a / neu eu
hesgeuluso, gyda 176 o oedolion mewn perygl yn cael eu hadrodd yn y chwarter
hwn o'i gymharu â 221 yn Chwarter 1.
Ø Staff yn yr Awdurdod Lleol oedd prif ffynhonnell yr
atgyfeiriadau yn y chwarter hwn.
Ø Y categori cam-drin a adroddwyd fwyaf yn ystod y chwarter
hwn oedd cam-drin emosiynol / seicolegol (87), esgeulustod (84 o adroddiadau am
oedolion mewn perygl lle mai hwn oedd y prif gategori o gam-drin); roedd 47 yn
ymwneud â cham-drin corfforol, 49 mewn perthynas â cham-drin ariannol a 9 yn
ymwneud â cham-drin rhywiol. Cam-drin ac esgeulustod emosiynol / seicolegol
oedd y categorïau uchaf o gam-drin a adroddwyd yn y chwarter blaenorol hefyd
ond roedd esgeulustod yn fwy cyffredin yn y chwarter hwnnw.
Ø O'r adroddiadau a dderbyniwyd, mewn perthynas â phob
categori o gam-drin, dywedwyd fod mwy o ddynion na menywod yn dioddef
esgeulustod a cham-drin ariannol tra bod mwy o fenywod yn dioddef o gam-drin
corfforol, rhywiol ac emosiynol / seicolegol.
Ø Yn Chwarter 2, adroddwyd bod y rhan fwyaf o'r gamdriniaeth
/ esgeulustod wedi digwydd yng nghartrefi’r dioddefwyr, gyda pherthynas /
ffrind y person gan amlaf yn gyfrifol am y cam-drin / esgeulustod a gofnodwyd.
Yr ail uchaf oedd mewn cartref gofal, gyda gweithiwr cyflogedig yn gyfrifol am
y gamdriniaeth / esgeulustod honedig.
Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried yr argymhelliad canlynol:
Argymhelliad: Nodi cynnwys yr adroddiad a’r lefel o weithgarwch o
fewn yr awdurdod lleol.
Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn monitro trefniadau
llywodraethu gweithgarwch yr awdurdod lleol a’i asiantaethau partner.
Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad
a’r lefel o weithgarwch o fewn yr awdurdod lleol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a’r Swyddog am
gyflwyno’r wybodaeth.
Dogfennau ategol: