Cofnodion:
Croesawyd y Cynghorydd Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet, i’r cyfarfod
i gyflwyno’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028, gyda
chefnogaeth Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Rhoddodd y Cynghorydd Davies
wybod i Aelodau’r Pwyllgor mai dyma oedd y sefyllfa ar y pryd:
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad
cyhoeddus rhwng 25/10/23 a 31/12/23. Cafodd ei hyrwyddo’n eang a’i gyflwyno i Gyngor
Ieuenctid Ceredigion er mwyn casglu barn pobl ifanc. Ymatebodd 43 person i’r
arolwg ar-lein, ni ddychwelwyd unrhyw gopïau papur a rhoddodd 16 aelod o’r
Cyngor Ieuenctid adborth.
Yn gyffredinol, roedd yr
ymatebwyr yn teimlo mai ein pum Amcan Cydraddoldeb oedd yr Amcanion
Cydraddoldeb cywir ar gyfer Cyngor Ceredigion – dywedodd cyfartaledd o 94%
‘ie’. Roedd cyfartaledd o 83% o’r bobl a ymatebodd yn teimlo y byddai’r camau
gweithredu yn y cynllun yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.
Cyhoeddwyd adroddiad
monitro’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’ ym mis
Tachwedd 2023. Roedd yr adroddiad yn atgyfnerthu’r angen am y camau gweithredu
a nodwyd yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28. Roedd
canfyddiadau’r adroddiad wedi’u cynnwys yn y sylfaen dystiolaeth a oedd yn
cefnogi’r Cynllun.
Roedd ein Gweithgor
Cydraddoldeb yn cael ei gydlynu gan y gwasanaeth Polisi, Perfformiad a
Diogelu’r Cyhoedd a’i gadeirio gan y Cynghorydd Catrin MS Davies (Hyrwyddwr
Cydraddoldeb). Y grŵp oedd yn gyfrifol am ddatblygu a monitro ein Cynllun
Cydraddoldeb Strategol. Cyfarfu’r grŵp ym mis Ionawr 2024 i adolygu’r
Cynllun Cydraddoldeb drafft yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd y
grŵp i wneud y newidiadau canlynol i’r Cynllun Cydraddoldeb
Strategol:
· Addasu cam gweithredu 3.1 i gynnwys ‘pobl ifanc’ yn y mesur llwyddiant.
· Darganfod mwy am Orsensitifrwydd Trydanol.
· Annog staff i fynd â blwch adborth anhysbys i ymgynghoriadau wyneb yn
wyneb.
· Addasu ein pecyn cymorth ymgysylltu mewnol i gynnig
rhagor o ffyrdd i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn pan ymgynghorir â hwy.
·
Addasu
camau gweithredu penodol o dan Amcan 4 i gynnwys y term ‘profiad bywyd’.
· Newid ein ffurflen monitro cydraddoldeb fel ei bod yn
gofyn am ‘ryw’ unigolyn, ac mewn cwestiwn pellach yn gofyn am ei ‘hunaniaeth
rhywedd’.
·
Dileu’r cam gweithredu, “sefydlu model integredig o ofal
cymunedol a thai cymunedol yn Nhregaron”. Roedd y
grŵp yn teimlo bod amrywiaeth o faterion yn cyfrannu at gyflawni’r
canlyniad hwn, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt y tu allan i gylch gwaith y
gweithgor Cydraddoldeb. Roedd y cam gweithredu hwn wedi’i gynnwys yn
Strategaeth Gorfforaethol 2022-27.
Yn
dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor â’r argymhellion canlynol:
ARGYMHELLION:
• Argymell bod y Cabinet yn
cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28.
• Gwneud argymhellion fel y
bo’n briodol pan gyflwynir yr adroddiad i’r Cabinet ar 19 Mawrth 2024. Nid oedd
unrhyw argymhellion pellach, fodd bynnag roedd Aelodau’r Pwyllgor yn canmol yr
Aelod Cabinet a’r Swyddogion am y gwaith ynghlwm wrth greu’r Cynllun Cydraddoldeb
Strategol.
Rhesymau dros y
penderfyniad:
Byddai Cynllun Cydraddoldeb
Strategol arfaethedig 2024-28 yn bwrw ymlaen â nod y Cyngor i fynd i’r afael ag
anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon a
meithrin cysylltiadau da rhwng pobl yng Ngheredigion sy’n rhannu nodwedd
warchodedig a’r rheini nad ydynt yn rhannu nodwedd o’r fath.
Dogfennau ategol: