Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso, Gweithdrefn ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Gwnaeth y Cadeirydd
ddymuno’n dda i’r Cynghorydd John Roberts ar ran y Pwyllgor yn dilyn salwch
diweddar. Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Ceris Jones ac Elaine Evans am fethu mynychu’r cyfarfod. Gweithdrefn Cytunwyd y byddai eitem 4 yr agenda yn cael ei
ystyried cyn eitem 3 yr agenda sydd i’w gweld ar y papurau agenda. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Rhodri
Evans ddatgan buddiant personol, gan wneud
y pwyllgor y ymwybodol ei fod, ar
ran yr Awdurdod, yn aelod o’r
Bwrdd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. |
|
Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023 PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Hazel Lloyd Lubran, Prif Weithredwr CAVO a Chadeirydd PSB, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, Alun
Williams, Diana Davies a Timothy Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i
gyflwyno Cofnodion y cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023. Dan Adran 35 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015, mae gofyn i Awdurdodau Lleol
i sicrhau bod gan eu Pwyllgorau
Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu
ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer
ardal yr Awdurdod Lleol wrth arfer eu
swyddogaethau. Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor i ystyried y cofnodion
drafft o gyfarfod PSB
Ceredigion a oedd wedi’i ddyddio 4 Medi 2023. Yn ystod y trafodaethau, nodwyd y canlynol: ·
Yn dilyn llwyddiant Mannau Croeso Cynnes y llynedd, mae map o ganolfannau lleol wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor
y Gaeaf 2023, ·
Yn dilyn cwestiwn ynghylch argaeledd Banciau Bwyd, credir bod banciau bwyd ar
gyfer pob ardal yng Ngheredigion.
Cadarnhaodd Mrs Lloyd-Lubran
y byddai’n gwirio gyda’r Swyddog perthnasol os taw dyma yw’r achos
presennol. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i: 1.
Gytuno i
dderbyn cofnodion drafft cyfarfod PSB Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 o Fedi 2023. Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni eu rôl
o gymryd trosolwg o effeithiolrwydd cyffredinol y
PSB. Gwnaeth y Cadeirydd ddiolch
i Swyddogion a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am fynychu a chyflwyno’r wybodaeth yn y cyfarfod heddiw. Gwnaeth y Cadeirydd hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i
Carys Morgan, Swyddog yr
Iaith Gymraeg, sydd bellach wedi gadael
yr Awdurdod, am ei gwaith arbennig
yn ystod ei chyfnod gyda
Chyngor Sir Ceredigion. Gwnaeth
hefyd ddymuno’n dda iddi yn
ei rôl newydd
yn y dyfodol. |
|
Adroddiad Diogelu Gr?p Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS - Chwarter 1 2023/24 PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth yr Aelodau ystyried Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd
CYSUR/CWMPAS Chwarter 1, yn
y cyfnod rhwng 01.04.2023 hyd at 30.06.2023, 2023/2024. Gwnaeth
y Cadeirydd groesawu’r
Cynghorydd Alun Williams, Aelod o’r
Cabinet ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i gyflwyno crynodeb o bwyntiau allweddol, a oedd fel
a ganlyn: Crynodeb o bwyntiau allweddol: ➢ Yn Chwarter 1, roedd lleihad yn y nifer
o gysylltiadau/adroddiadau
a dderbyniwyd yn ymwneud â phlant/pobl ifanc o’i
gymharu â Chwarter 4-lle derbyniwyd 888 o gysylltiadau/adroddiadau yn Chwarter 1 o’i gymharu â 1010 o gysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 4. ➢ Roedd hefyd lleihad yn
y nifer cyffredinol o gysylltiadau/adroddiadau a arweiniodd at yr angen i
weithredu dan y Gweithdrefnau
Amddiffyn Plant, o 172 yn Chwarter 1 o’i gymharu â 200 yn Chwarter 4. ➢ Canran yr adroddiadau a
aeth ymlaen i Drafodaeth Strategol
oedd 19.4% yn Chwarter 1 o’i gymharu â 19.8% yn Chwarter 4. Yn Chwarter 1, aeth 8.8% o
adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran
47, o’i gymharu â 8.4% yn Charter 4, ac yna gwnaeth roedd angen
i 0.7% fynd ymlaen i
Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol o’i gymharu â 1.6% yn Chwarter 4. ➢ Mae cyfanswm nifer y plant a fu’n destun Cynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol yn y chwarter hwn
wedi gostwng lle mae 10 yn
y chwarter hwn o'i gymharu â 23 yn chwarter 4, ac mae hyn yn
cymharu â 35 yn Chwarter 3. ➢ Cyfanswm nifer y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant yn y chwarter hwn yn dilyn
y Gynhadledd Amddiffyn Plant
Cychwynnol oedd 10 yn y chwarter hwn
o'i gymharu ag 20 yn Chwarter 4 ➢ Cyfanswm nifer y plant a gafodd eu tynnu’n ôl
Adolygiad Cynhadledd Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd
8 o'i gymharu â 15 yn Chwarter 4. ➢ Mae cyfanswm yr ymholiadau Adran
47 a gynhaliwyd wedi gostwng yn y chwarter
hwn hefyd, gyda 78 yn cael
eu cynnal yn y chwarter hwn
o'i gymharu ag 85 yn Chwarter 4, cynhaliwyd 65 o'r ymholiadau hynny ar y cyd â'r
Heddlu a gwnaed 13 fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau Cymdeithasol. ➢ Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn cael ei
gynnal yn chwarter 1 oedd Cam-drin Corfforol a cham-drin rhywiol a cham-fanteisio ar blant. ➢ Roedd 52 o blant ar y Gofrestr
Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, ac roedd 52 ar ddiwedd Chwarter
4. Cofrestrwyd 19 o blant o
dan y categori cam-drin emosiynol/seicolegol, yn y chwarter hwn,
26 o dan y categori esgeulustod
a 7 o dan y categori esgeulustod
a cham-drin emosiynol/seicolegol. ➢ Y prif Ffactorau Risg ar gyfer y 52 o blant a oedd
ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'r 30/06/23 oedd cam-drin domestig,
iechyd meddwl rhieni, rhieni’n gwahanu, a throseddau trais oedolion. ➢ O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26. |
|
Adroddiad Hunanasesu 2022/23 PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, a’r
Aelod Cabinet Alun Williams, Diana Davies a Rob
Starr, Swyddogion, i gyflwyno’r adroddiad. Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drefn berfformio newydd ar sail Hunanasesiad ar gyfer Prif Gynghorau.
Mae'r Adroddiad Hunanasesiad ar gyfer 2022/23 yn cyflawni gofynion y ddau: • Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 – gosod ac adolygu
cynnydd yn erbyn ein Hamcanion
Llesiant Corfforaethol •
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 -
y ddyletswydd i adolygu'r perfformiad, ymgynghori ar berfformiad,
adrodd ar berfformiad, trefnu Asesiad Panel Perfformiad ac ymateb i’r Asesiad
Panel Perfformiad. Adroddwyd yn dilyn adborth cadarnhaol
gan gyfoedion Llywodraeth Cymru, cedwir fformat tebyg ar
gyfer eleni i helpu i
ledaenu negeseuon allweddol a'u cadw'n
gryno, fel y gofynnodd Llywodraeth Cymru. Mae'r gwelliannau a wnaed eleni i
gryfhau'r adroddiad fel a ganlyn: •
Darparu rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad a'r ymgysylltu a wnaed yn ystod y flwyddyn
a sut y caiff ei ddefnyddio. •
Darparu manylion ymgynghoriad y rhanddeiliaid i gefnogi hunanasesiad.
•
Darparu rhagor o fanylion yn y sylwebaeth
werthuso o berfformiad cyffredinol y Cyngor. •
Diweddaru'r Cynllun Gweithredu Hunanasesiad, gan ychwanegu'r camau gweithredu newydd a nodwyd ynghyd â diweddariad cynnydd. •
Ehangu'r adran feincnodi (mae gwaith pellach yn mynd rhagddo
i ddatblygu hyn ar y cyd
â Data Cymru). •
Ychwanegwyd adran "Strwythur y Cyngor" i ddarparu manylion
am sut mae'r Cyngor wedi'i strwythuro.
•
Yn cynnwys dolenni i adroddiadau
a strategaethau cysylltiedig
eraill, sy'n cael ei ystyried
yn arfer gorau. Mae gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio cyfrifoldeb statudol i ystyried yr Adroddiad
Hunanasesiad a gwneud argymhellion ar y canfyddiadau a'r camau y mae'r Cyngor
yn bwriadu eu cymryd. Cafodd yr Adroddiad ei ystyried yn ei gyfarfod ar 27 Medi
2023 ac fe gafodd yr adroddiad ei gymeradwyo i fwrw ymlaen i'w gymeradwyo yn y
Cabinet a'r Cyngor. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol i'r casgliadau na'r
gweithredoedd, er bod mân newidiadau fformatio wedi'u gwneud i wella ansawdd yr
adroddiad cyn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio, mae'r broses o gynhyrchu Adroddiad Hunanasesiad
2022/23 bellach wedi'i gwblhau ac ni ellir ei ddiwygio ymhellach. Disgwylir i'r Adroddiad Hunanasesu fynd ymlaen i'r Cabinet ar 7 Tachwedd 2023 a'r Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023, cyn cael ei gyflwyno i Weinidogion, Estyn ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ogystal â chael ei gyhoeddi ar y wefan. Rhan o'r drefn Perfformiad Hunanasesiad newydd yw'r ddyletswydd i gynnal Asesiad Panel Perfformiad unwaith ym mhob cylch etholiadol. Bwriad Asesiadau Panel yw darparu persbectif annibynnol ac allanol o'r graddau y mae'r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Y nod yw cefnogi Cynghorau i gyflawni eu dyheadau drwy ddatblygu a deall sut maent yn gweithredu a sut y gallant sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau effeithiol yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 27. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny PDF 129 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd 11 Medi 2023 fel cofnod cywir o’r achos ac nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd pob Cadeirydd yn ei
dro ddiweddariad ar Gynlluniau Blaenraglenni Gwaith eu Pwyllgor priodol. 1.
Pwyllgor Cydlynu Gwnaeth y Cadeirydd
roi diweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith y dyfodol y Pwyllgor Cydlynu. 2.
Adnoddau Corfforaethol Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â
chynllun gwaith Adnoddau Corfforaethol yn y dyfodol. Soniodd y Cadeirydd fod
rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â Thref Aberteifi ddydd Gwener, 3ydd o
Dachwedd 2023. Trefnodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet, i'r Aelodau
ymweld â busnesau a siarad â sawl perchennog siop ar y stryd fawr i ddysgu mwy
am ddadansoddiad y lleoliad a’r rhyngrwyd o dechnolegau a ddefnyddir. Roedd gan
yr aelodau ddiddordeb mawr yn yr ymweliad hwn a diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd
Clive Davies am drefnu. Diolchodd hefyd i'r busnesau a roddodd o’u hamser i
siarad ag Aelodau'r Pwyllgor. Mynychodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans hefyd
gan ei fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. 3.
Cymunedau Ffyniannus Rhoddodd y Cadeirydd
ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Ffyniannus yn y dyfodol. Manteisiodd y Cynghorydd
Gwyn Wigley Evans, Cadeirydd y Pwyllgor,
ar y cyfle hwn hefyd i
ddiolch i'r Cynghorydd
Clive Davies am drefnu ymweliad
Tref Aberteifi a'r busnesau a roddodd o’u hamser ar
y diwrnod hefyd. Mae ymweliad â Chanolfan Fwyd Horeb wedi'i drefnu yn
ystod yr wythnosau nesaf. 4.
Cymunedau Iachach Rhoddodd y Cadeirydd
ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Iachach yn y dyfodol.
5.
Cymunedau Dysgu Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad
mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Dysgu yn y dyfodol. Gofynnodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a allai'r Cadeiryddion/Is-gadeiryddion (Aelodau'r Pwyllgor hwn) dderbyn
gwybodaeth/rhesymau/canllawiau ynghylch pryd y gellir cau
cyfarfod, pryd y gellir cymryd egwyl
ac ati. Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor,
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion
am fynychu a chau’r trafodaethau am 11:15yb. |