Cofnodion:
Gwnaeth yr Aelodau ystyried Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd
CYSUR/CWMPAS Chwarter 1, yn
y cyfnod rhwng 01.04.2023 hyd at 30.06.2023, 2023/2024.
Gwnaeth
y Cadeirydd groesawu’r
Cynghorydd Alun Williams, Aelod o’r
Cabinet ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i gyflwyno crynodeb o bwyntiau allweddol, a oedd fel
a ganlyn:
Crynodeb o bwyntiau allweddol:
➢ Yn Chwarter 1, roedd lleihad yn y nifer
o gysylltiadau/adroddiadau
a dderbyniwyd yn ymwneud â phlant/pobl ifanc o’i
gymharu â Chwarter 4-lle derbyniwyd 888 o gysylltiadau/adroddiadau yn Chwarter 1 o’i gymharu â 1010 o gysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 4.
➢ Roedd hefyd lleihad yn
y nifer cyffredinol o gysylltiadau/adroddiadau a arweiniodd at yr angen i
weithredu dan y Gweithdrefnau
Amddiffyn Plant, o 172 yn Chwarter 1 o’i gymharu â 200 yn Chwarter 4.
➢ Canran yr adroddiadau a
aeth ymlaen i Drafodaeth Strategol
oedd 19.4% yn Chwarter 1 o’i gymharu â 19.8% yn Chwarter 4. Yn Chwarter 1, aeth 8.8% o
adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran
47, o’i gymharu â 8.4% yn Charter 4, ac yna gwnaeth roedd angen
i 0.7% fynd ymlaen i
Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol o’i gymharu â 1.6% yn Chwarter 4.
➢ Mae cyfanswm nifer y plant a fu’n destun Cynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol yn y chwarter hwn
wedi gostwng lle mae 10 yn
y chwarter hwn o'i gymharu â 23 yn chwarter 4, ac mae hyn yn
cymharu â 35 yn Chwarter 3.
➢ Cyfanswm nifer y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant yn y chwarter hwn yn dilyn
y Gynhadledd Amddiffyn Plant
Cychwynnol oedd 10 yn y chwarter hwn
o'i gymharu ag 20 yn Chwarter 4
➢ Cyfanswm nifer y plant a gafodd eu tynnu’n ôl
Adolygiad Cynhadledd Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd
8 o'i gymharu â 15 yn Chwarter 4.
➢ Mae cyfanswm yr ymholiadau Adran
47 a gynhaliwyd wedi gostwng yn y chwarter
hwn hefyd, gyda 78 yn cael
eu cynnal yn y chwarter hwn
o'i gymharu ag 85 yn Chwarter 4, cynhaliwyd 65 o'r ymholiadau hynny ar y cyd â'r
Heddlu a gwnaed 13 fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau Cymdeithasol.
➢ Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn cael ei
gynnal yn chwarter 1 oedd Cam-drin Corfforol a cham-drin rhywiol a cham-fanteisio ar blant.
➢ Roedd 52 o blant ar y Gofrestr
Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, ac roedd 52 ar ddiwedd Chwarter
4. Cofrestrwyd 19 o blant o
dan y categori cam-drin emosiynol/seicolegol, yn y chwarter hwn,
26 o dan y categori esgeulustod
a 7 o dan y categori esgeulustod
a cham-drin emosiynol/seicolegol.
➢ Y prif Ffactorau Risg ar gyfer y 52 o blant a oedd
ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'r 30/06/23 oedd cam-drin domestig,
iechyd meddwl rhieni, rhieni’n gwahanu, a throseddau trais oedolion.
➢ O ran Diogelu
Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr
oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael
eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso, gyda 217 o oedolion mewn perygl yn
cael eu hadrodd
yn y chwarter hwn o'i gymharu
â 190 yn Chwarter 4 gan adlewyrchu cynnydd yn yr
adroddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, chwarter wrth chwarter.
➢ Y categori
cam-drin a adroddwyd fwyaf y chwarter hwn oedd
esgeulustod (98) ac yna
cam-drin emosiynol/seicolegol, gyda 91 o adroddiadau o oedolion mewn perygl lle'r
oedd hyn yn brif gategori
cam-drin, 61, yn ymwneud â cham-drin corfforol, roedd 44 ar gyfer cam-drin
ariannol a 18 yn ymwneud â cham-drin rhywiol. Bu cynnydd yn nifer yr
adroddiadau yn ymwneud ag esgeulustod o'r chwarter blaenorol.
➢ O'r adroddiadau a dderbyniwyd, mewn perthynas â phob categori o gam-drin, dywedwyd mai dynion oedd
yn dioddef mwy mewn perthynas
â’r categori perthynas a’r categori
esgeulustod na menywod ac roedd mwy o ddynion yn
dioddef cam-drin ariannol na menywod
yn y chwarter hwn.
➢ Yn Chwarter 1, adroddwyd bod y rhan fwyaf o'r
gamdriniaeth/esgeulustod wedi digwydd yng
nghartrefi ‘r dioddefwyr, gyda pherthynas / ffrind 3 i’r person yn gyfrifol am adrodd y mater o gamdriniaeth/esgeulustod a gofnodwyd.
➢ Asiantaeth
darparwyr oedd prif ffynhonnell yr adroddiadau a dderbyniwyd y chwarter hwn,
gyda staff yr Awdurdod Lleol ac yna staff y Bwrdd Iechyd ac yna'r Heddlu yn
brif asiantaethau sydd wedi adrodd pryderon. Mae hyn yn cymharu â Chwarter 4
lle gwelwyd yr Heddlu fel y darparwr â’r nifer fwyaf o adroddiadau.
Argymhellion:
Cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad
a lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol, fel bod gwaith llywodraethu'r Awdurdod Lleol a'i asiantaethau partner yn cael eu
monitro.
Dogfennau ategol: