Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Arweinydd y
Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi a
Pherfformiad a Phobl a Threfniadaeth, Caryl Roberts a Chris James am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar
gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r
Cyhoedd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd
ymrwymiadau eraill y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb y Cynghorydd Bryan Davies, cyflwynodd Hazel
Lloyd-Lubran yr adroddiad ynghylch Cynllun Llesiant Lleol
Ceredigion. Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch fersiwn ddrafft Cynllun
Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028 i ben ar 31 Ionawr 2023. Gwnaed newidiadau
a gwelliannau gan gynnwys y rhai a awgrymwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r
Dyfodol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023,
ystyriwyd y newidiadau arfaethedig gan bob sefydliad sy’n aelod o’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r bwriad o gymeradwyo’r Cynllun drwy eu trefniadau
llywodraethu arferol cyn y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi
cymeradwyaeth derfynol i gyhoeddi’r Cynllun ym mis Mai 2023. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Hazel Lloyd-Lubran, Naomi McDonagh a Diana Davies. Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd: ·
Roeddent yn disgwyl fwy o
ymateb i’r ymgynghoriad; fodd bynnag, cydnabuwyd mai un ffactor posib ar gyfer
y nifer isel o ymatebion oedd bod pobl wedi blino ar ymgynghoriadau. Yn
ogystal, gan fod gwaith ymgynghori gyda phartneriaid wedi’i wneud yn gynnar yn
y broses, roedd llai o adborth oddi wrth y cyrff hyn gan eu bod nhw eisoes wedi
cyfrannu at ddatblygu’r cynllun. ·
O ran y broses ymgynghori,
cysylltwyd ag ystod o sefydliadau, cynhaliwyd ymgyrch ar y cyfryngau
cymdeithasol, cafodd y manylion eu cynnwys ar dudalen ymgynghoriadau’r Cyngor
ar y we, a soniwyd am yr ymgynghoriad mewn nifer o gyfarfodydd gan gynnwys
cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Cwblhawyd ymarfer ymgysylltu gyda 13
ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd ar draws y sir ac ymgynghorwyd â grwpiau megis
y Fforwm Anabledd. Roedd posteri a chopïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a
chanolfannau hamdden / canolfannau llesiant. Roedd cyfrifoldeb ar bob partner
o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod safbwyntiau pobl yn cael eu
clywed. Wrth symud ymlaen, byddai trafod ac ymgysylltu’n barhaus â chymunedau’n
fuddiol ynghyd â newid sut y caiff safbwyntiau a barn eu casglu. ·
Er ei bod hi’n bwysig ystyried
y 12% nad oedd yn cytuno mai’r 5 amcan llesiant oedd y blaenoriaethau cywir,
roedd hi’n hyfryd nodi bod 88% yn cytuno. Roedd hi hefyd yn bwysig ystyried y
niferoedd a oedd ynghlwm wrth hyn yn hytrach na’r canrannau gan fod y gyfradd
ymateb yn isel. Roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi gwneud
sylwadau ynghylch cadernid yr Asesiad o Lesiant Lleol gan gynnwys y gwaith
ymgysylltu a arweiniodd at ffurfio’r cynllun, ac felly roedd y swyddogion yn
hyderus fod y blaenoriaethau’n gywir ac yn adlewyrchu safbwyntiau’r partneriaid
a’r cyhoedd. ·
Codwyd pryderon am y ffaith fod Llywodraeth Cymru’n
uchelgeisiol gyda’i chynlluniau, ond nid oedd unrhyw gyllid ar gael i
awdurdodau lleol i gyflawni hyn. Byddai’r Cynllun Llesiant Lleol yn arwain at
gydweithio pellach rhwng Partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a
Llywodraeth Cymru a gobeithiwyd, drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau, y
byddai hyn yn cynorthwyo i gyflawni’r cynllun. Nododd y Cynghorydd Keith Henson
(Aelod Cabinet) fod Llywodraeth Cymru’n mynd i’r Grŵp Rheoli Carbon a
Newid Hinsawdd ac yn cyfrannu at y trafodaethau ond cytunodd fod mwy o
gydweithio’n bwysig. · Roedd Byrddau Gwasanaethau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad ynglyn â Diwygiadau i'r Polisi Chwythu'r Chwiban PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn absenoldeb y
Cynghorydd Matthew Vaux, esboniodd Harry Dimmack mai’r tro diwethaf y cafodd
adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor ynghylch newidiadau i’r Polisi Chwythu’r
Chwiban oedd ar 16 Mai 2018, ac yna cymeradwywyd y newidiadau gan y Cabinet ar
19 Mehefin 2018. Rhoddwyd trosolwg o’r newidiadau allweddol, a oedd wedi’u
marcio yn Atodiad 1. Byddai’r cyfeiriad ar gyfer Archwilio Cymru’n cael ei
newid cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Harry Dimmack. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Gan mai mân newidiadau
yn unig oedd i’r polisi, roedd cyflwyno’r polisi i’r Pwyllgor Craffu a’r
Cabinet yn ddigonol. · Pe bai person
eisiau codi pryder yn allanol, roedd y manylion cyswllt perthnasol wedi’u nodi
ar dudalen 8 y polisi. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i argymell bod y
Cabinet yn cymeradwyo’r diwygiadau i’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel y’u
dangosir yn Atodiad 1, yn amodol ar
ddiweddaru’r manylion cyswllt ar gyfer Archwilio Cymru. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny PDF 110 KB Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023. Materion sy’n codi: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i Gadeirydd pob Pwyllgor (neu’r Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd),
ddarparu gwybodaeth yn eu tro am Flaenraglenni Gwaith
eu Pwyllgorau. 1. Pwyllgor Cydlynu Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am flaenraglen
waith y Pwyllgor Cydlynu. 2. Cymunedau sy’n Dysgu Nododd y Cadeirydd fod adborth ynghylch proses pennu’r
gyllideb ar gyfer 23/24 a Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion wedi’u
cyflwyno yn ystod cyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror 2023, wedi i’r materion
gael eu hystyried gan y Pwyllgor. Rhoddwyd diweddariad ynghylch blaenraglen waith y Pwyllgor a nodwyd bod Aelodau wedi
ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug ac Ysgol
Bro Siôn Ciwlt ar 1 Chwefror 2023 fel rhan o’r ffrwd
waith. 3. Cymunedau Ffyniannus Esboniodd y Cadeirydd fod Grŵp Gorchwyl a Gorffen
wedi cyfarfod ar 30 Ionawr 2023 ac yna cynhaliwyd cyfarfod arbennig ar 21
Mawrth 2023 i drafod casglu gwastraff ymhellach gyda swyddogion. Rhoddwyd
diweddariad ynghylch blaenraglen waith y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Gwahoddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru i
ddod i gyfarfod ym mis Mehefin i drafod Newid Hinsawdd ac Erydu Arfordirol /
Llifogydd, ond ni dderbyniwyd ymateb hyd yn hyn. Cytunwyd i wahodd Dŵr
Cymru a Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Gwasanaeth – Polisi Cynllunio, i’r
cyfarfod hefyd. 4. Adnoddau Corfforaethol Esboniodd y Cadeirydd fod gwaith y Grŵp Gorchwyl a
Gorffen ynghylch Ffermydd y Cyngor yn parhau. O ran y rheolau ynghylch Parhau
Perygl Nitradau (NVZs) ar gyfer y sector amaethyddol,
eglurodd y Cadeirydd fod swyddogion wedi ymweld â’r ffermydd ac wedi cynnal
asesiadau. Rhoddwyd diweddariad ynghylch y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth
2023. O gofio’r toriadau arfaethedig yn y gyllideb,
anogodd y Cadeirydd bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i ystyried hyn wrth symud
ymlaen ac i chwilio am feysydd lle gellid gwneud arbedion. 5. Cymunedau Iachach Yn absenoldeb y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Ceris
Jones, yr Is-gadeirydd, ddiweddariad ynghylch blaenraglen
waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Nododd y Cynghorydd
Ceris Jones y byddai’n cadarnhau teitl yr adroddiad ynghylch archwilio
safleoedd bwyd, gan fod y flaenraglen waith yn
wahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. |