Cofnodion:
Yn absenoldeb y Cynghorydd Bryan Davies, cyflwynodd Hazel
Lloyd-Lubran yr adroddiad ynghylch Cynllun Llesiant Lleol
Ceredigion. Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch fersiwn ddrafft Cynllun
Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028 i ben ar 31 Ionawr 2023. Gwnaed newidiadau
a gwelliannau gan gynnwys y rhai a awgrymwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r
Dyfodol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023,
ystyriwyd y newidiadau arfaethedig gan bob sefydliad sy’n aelod o’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r bwriad o gymeradwyo’r Cynllun drwy eu trefniadau
llywodraethu arferol cyn y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi
cymeradwyaeth derfynol i gyhoeddi’r Cynllun ym mis Mai 2023.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Hazel Lloyd-Lubran, Naomi McDonagh a Diana Davies. Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd:
·
Roeddent yn disgwyl fwy o
ymateb i’r ymgynghoriad; fodd bynnag, cydnabuwyd mai un ffactor posib ar gyfer
y nifer isel o ymatebion oedd bod pobl wedi blino ar ymgynghoriadau. Yn
ogystal, gan fod gwaith ymgynghori gyda phartneriaid wedi’i wneud yn gynnar yn
y broses, roedd llai o adborth oddi wrth y cyrff hyn gan eu bod nhw eisoes wedi
cyfrannu at ddatblygu’r cynllun.
·
O ran y broses ymgynghori,
cysylltwyd ag ystod o sefydliadau, cynhaliwyd ymgyrch ar y cyfryngau
cymdeithasol, cafodd y manylion eu cynnwys ar dudalen ymgynghoriadau’r Cyngor
ar y we, a soniwyd am yr ymgynghoriad mewn nifer o gyfarfodydd gan gynnwys
cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Cwblhawyd ymarfer ymgysylltu gyda 13
ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd ar draws y sir ac ymgynghorwyd â grwpiau megis
y Fforwm Anabledd. Roedd posteri a chopïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a
chanolfannau hamdden / canolfannau llesiant. Roedd cyfrifoldeb ar bob partner
o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod safbwyntiau pobl yn cael eu
clywed. Wrth symud ymlaen, byddai trafod ac ymgysylltu’n barhaus â chymunedau’n
fuddiol ynghyd â newid sut y caiff safbwyntiau a barn eu casglu.
·
Er ei bod hi’n bwysig ystyried
y 12% nad oedd yn cytuno mai’r 5 amcan llesiant oedd y blaenoriaethau cywir,
roedd hi’n hyfryd nodi bod 88% yn cytuno. Roedd hi hefyd yn bwysig ystyried y
niferoedd a oedd ynghlwm wrth hyn yn hytrach na’r canrannau gan fod y gyfradd
ymateb yn isel. Roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi gwneud
sylwadau ynghylch cadernid yr Asesiad o Lesiant Lleol gan gynnwys y gwaith
ymgysylltu a arweiniodd at ffurfio’r cynllun, ac felly roedd y swyddogion yn
hyderus fod y blaenoriaethau’n gywir ac yn adlewyrchu safbwyntiau’r partneriaid
a’r cyhoedd.
·
Codwyd pryderon am y ffaith fod Llywodraeth Cymru’n
uchelgeisiol gyda’i chynlluniau, ond nid oedd unrhyw gyllid ar gael i
awdurdodau lleol i gyflawni hyn. Byddai’r Cynllun Llesiant Lleol yn arwain at
gydweithio pellach rhwng Partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a
Llywodraeth Cymru a gobeithiwyd, drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau, y
byddai hyn yn cynorthwyo i gyflawni’r cynllun. Nododd y Cynghorydd Keith Henson
(Aelod Cabinet) fod Llywodraeth Cymru’n mynd i’r Grŵp Rheoli Carbon a
Newid Hinsawdd ac yn cyfrannu at y trafodaethau ond cytunodd fod mwy o
gydweithio’n bwysig.
·
Roedd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, Sir
Benfro a Sir Gâr yn gweithio’n annibynnol ond yn agos er mwyn sicrhau bod
cysondeb rhwng yr hyn y mae pawb yn ei wneud. Efallai bod y blaenoriaethau’n
amrywio yng Nghynllun Llesiant Lleol bob Bwrdd, ond roedd y blaenoriaethau
rhanbarthol a blaenoriaethau cyrff unigol yn cael eu hystyried yn y broses o
ddatblygu’r cynllun.
·
O ran monitro’r gwaith, caiff Adroddiad Blynyddol ei greu
sy’n manylu ar berfformiad y Bwrdd, a chaiff ei anfon at Gomisiynydd Cenedlaethau’r
Dyfodol Cymru a derbynwyr statudol eraill bob blwyddyn.
·
Roedd aelodaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion
wedi bod yn gyson gyda 4 sefydliad statudol (yn unol â’r cyfarwyddyd yn Neddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) a nifer o sefydliadau eraill a
wahoddwyd i gymryd rhan. Ar hyn o bryd roedd cyfle i adolygu’r aelodaeth o ran
y sefydliadau a wahoddir ac i sicrhau bod y bobl a’r sefydliadau cywir yn
gwneud gwaith ar ran y Bwrdd. Pwysleisiwyd pa mor bwysig ydy cynnwys pobl a
allai wneud gwahaniaeth pan fo’r trafodaethau yn fwy lleol.
Estynnodd y
Cadeirydd ei dymuniadau gorau i Naomi McDonagh wrth iddi adael ei rôl gyda'r
awdurdod a diolch iddi am ei gwaith caled dros y blynyddoedd.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i dderbyn
Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion a’r Asesiad Effaith Integredig cysylltiedig.
Cyflwynodd Hazel Lloyd-Lubran
gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 6
Mawrth 2023 i’r Pwyllgor. Cyfeiriwyd at y pwyntiau canlynol a drafodwyd yn y
cyfarfod:
Esboniodd y
Cadeirydd fod gweithdy wedi cael ei gynnal gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel
Dda ac aelodau etholedig ynghylch lleoliad yr ysbyty newydd ar gyfer gofal brys
a gofal wedi’i gynllunio.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i dderbyn
cofnodion drafft cyfarfod BGC Ceredigion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023.
Dogfennau ategol: