Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod. |
||
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Ceris Jones a Carl Worrall wedi ymddiheuro na fyddai modd iddynt fynychu’r cyfarfod. |
||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion:
|
||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2023 PDF 101 KB Cofnodion:
|
||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 2 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:- A220398 Annedd mewnlenwi arfaethedig, Tir Wrth Ymyl Uwch-y-nant Borth O blaid yr argymhelliad i WRTHOD y cais:- Mark Strong (1) Yn erbyn yr argymhelliad i WRTHOD y cais:- Gethin Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies, Rhodri Evans, Hugh Hughes, Maldwyn Lewis, Gareth Lloyd, Siân Maehrlein, Chris James (11) Yn dilyn y bleidlais, y penderfyniad felly oedd CYMERADWYO’R cais ar yr amod bod yr hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu gwaredu. CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau a chwblhau cytundeb A106 dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mewn perthynas â dynodi tai fforddiadwy. Nid oedd yr Aelodau yn cytuno gydag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:- • roedd ystyriaethau perthnasol eraill yn yr achos hwn a fyddai’n cyfiawnhau cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion, yn gyntaf, gan gydnabod bod y safle y tu allan i ffiniau diffiniedig yr anheddiad, nododd yr Aelodau fodd bynnag bod y safle yn agos iawn i’r anheddiad, lle y mae gwasanaethau a chyfleusterau digonol ar gael i fodloni anghenion dyddiol y deiliaid yn y dyfodol. • Roedd yr Aelodau o’r farn bod y ffaith bod Borth yn agos fel Canolfan Gwasanaeth Gwledig yn ffactor pwysig yn yr achos hwn, a oedd yn wahanol i’r achosion a ystyriwyd gan y grŵp yn flaenorol, yr oedd ganddynt gyd-destun mwy gwledig • bod ffurf adeiledig y naill ochr i’r llall i’r plot, a’i fod felly yn cynrychioli cyfle mewnlenwi yn hytrach na ffurf datblygu mwy gwasgaredig neu hirgul. • Yn ogystal, nododd yr Aelodau bod y safle yn agos iawn i Barc Gwyliau Brynowen hefyd. • Rhoddodd yr Aelodau gryn bwys ar y ffaith bod caniatâd wedi cael ei roi ar ddau achlysur yn y gorffennol ar gyfer datblygiad preswyl y safle hwn. Er gwaethaf y ffaith bod cyfnod y ddau ganiatâd hwn wedi dod i ben erbyn hyn, roedd yr Aelodau yn teimlo bod cynsail wedi cael ei osod gan y ddau ganiatâd cynllunio blaenorol hyn. • Roedd yr Aelodau yn pryderu y bu diffyg o ran y ddarpariaeth tai yn yr anheddiad ei hun, ac roeddent o’r farn bod angen i’r Cyngor ddarparu cymaint o dai fforddiadwy ag y bo modd, gan bod pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad. • Gan gloi felly, roedd yr Aelodau o’r farn bod ystyriaethau perthnasol eraill yn yr achos hwn, yr oeddent yn ddigonol i wrthbwyso’r ragdybiaeth yn erbyn y datblygiad yn y polisi. |
||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 2 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:- Anerchodd Mr Emmanuel Kincaid (Asiant) a Mr O Jones (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A201012 Newid Defnydd Tir Amaethyddol i fod yn Safle Pod Glampio, Caeau i’r De-Ddwyrain o Bantyfod, Llanddewi Brefi, Tregaron CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 2 a 3 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor. ______________________________________________________________ Anerchodd Miss Abby Jaques (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A210384 Newid defnydd a thrawsnewid adeilad amaethyddol gwag yn feithrinfa blant, Adeilad Gwag yng Nghrymant, Brongest, Castellnewydd Emlyn CYMERADWYO’R cais. Nid oedd yr aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y byddai modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:- • Mae ystyriaethau perthnasol yn gwrthbwyso’r polisïau dros ei wrthod • Roedd y cyfleuster gofal plant hwn yn bodloni’r galw • Byddai’n cynnig cyflogaeth • Mae’n cadw at y polisi o fodloni anghenion gofal plant yn y sir • Byddai’r cyfleuster yn bodloni angen sydd eisoes wedi cael ei nodi • Mae’r elfennau cadarnhaol yn gwrthbwyso’r elfennau negyddol yn y cais hwn ______________________________________________________________ Anerchodd Mr Rhys ap Dylan (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A220035 Codi annedd menter gwledig a gweithdy, Fferm Cwmcoedog, Mydroilyn, Llanbedr Pont Steffan CYFEIRIO i’r grŵp Callio am y rhesymau a amlinellwyd yn ystod y drafodaeth, a oedd yn cynnwys: • Lleoliad y cais • Pe byddai modd ystyried y cais dan TAN 6 • Perchnogaeth Bryn Mair (tyst B) • ei faint
________________________________________________________________ A220250 Codi bloc o fflatiau ar wahân, a fydd yn cynnwys chwech llawr (chweched llawr yn cynnwys llofft), a fydd yn cynnwys 24 uned, a lle parcio ceir cysylltiedig a mannau amwynder cymunol, Darn o dir gerllaw Adeilad Brynderw, Ffordd Stanley, Aberystwyth CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 3 a 7 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor. __________________________________________________________________ Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) a Mr David Clark (Aelod o Deulu yr Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A220454 Datblygiad preswyl o Hyd at dri annedd, Tir Ym Mhlwmp, Plwmp, Llandysul CYMERADWYO’R cais yn unol ag Adran 106 am anheddau fforddiadwy a fyddai’n cynnwys bod yr anheddau hyn yn cael eu hadeiladu cyn yr annedd ar gyfer y farchnad agored. Nid oedd yr Aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:- • At ei gilydd, mae ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw, ar yr amod y nodir nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud am un eitem ar y rhestr hon. (A200855) |
||
Cofnodion: CYTUNWYD nodi’r apeliadau a oedd wedi dod i law. |
||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |