Cofnodion:
Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:-
Anerchodd Mr Emmanuel Kincaid (Asiant) a Mr O Jones (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A201012 Newid Defnydd Tir Amaethyddol i fod yn Safle Pod Glampio, Caeau i’r De-Ddwyrain o Bantyfod, Llanddewi Brefi, Tregaron
CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 2 a 3 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
______________________________________________________________
Anerchodd Miss Abby Jaques (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A210384 Newid defnydd a thrawsnewid adeilad amaethyddol gwag yn feithrinfa blant, Adeilad Gwag yng Nghrymant, Brongest, Castellnewydd Emlyn
CYMERADWYO’R cais.
Nid oedd yr aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y byddai modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-
• Mae ystyriaethau perthnasol yn gwrthbwyso’r polisïau dros ei wrthod
• Roedd y cyfleuster gofal plant hwn yn bodloni’r galw
• Byddai’n cynnig cyflogaeth
• Mae’n cadw at y polisi o fodloni anghenion gofal plant yn y sir
• Byddai’r cyfleuster yn bodloni angen sydd eisoes wedi cael ei nodi
• Mae’r elfennau cadarnhaol yn gwrthbwyso’r elfennau negyddol yn y cais hwn
______________________________________________________________
Anerchodd Mr Rhys ap Dylan (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A220035 Codi annedd menter gwledig a gweithdy, Fferm Cwmcoedog, Mydroilyn, Llanbedr Pont Steffan
CYFEIRIO i’r grŵp Callio am y rhesymau a amlinellwyd yn ystod y drafodaeth, a oedd yn cynnwys:
• Lleoliad y cais
• Pe byddai modd ystyried y cais dan TAN 6
• Perchnogaeth Bryn Mair (tyst B)
• ei faint
________________________________________________________________
A220250 Codi bloc o fflatiau ar wahân, a fydd yn cynnwys chwech llawr (chweched llawr yn cynnwys llofft), a fydd yn cynnwys 24 uned, a lle parcio ceir cysylltiedig a mannau amwynder cymunol, Darn o dir gerllaw Adeilad Brynderw, Ffordd Stanley, Aberystwyth
CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 3 a 7 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
__________________________________________________________________ Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) a Mr David Clark (Aelod o Deulu yr Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu
A220454 Datblygiad preswyl o Hyd at dri annedd, Tir Ym Mhlwmp, Plwmp, Llandysul
CYMERADWYO’R cais yn unol ag Adran 106 am anheddau fforddiadwy a fyddai’n cynnwys bod yr anheddau hyn yn cael eu hadeiladu cyn yr annedd ar gyfer y farchnad agored.
Nid oedd yr Aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-
• At ei gilydd, mae darparu dau annedd fforddiadwy yn ganran uchel o’r datblygiad
• Nid oes unrhyw ddatblygiadau tai ar hyd yr arfordir ac mewn aneddiadau gwledig yn cael eu cyflwyno, felly mae modd cyfiawnhau’r anheddau fforddiadwy yn yr Anheddiad Cyswllt, gan bod angen
• Mae siop, llwybr bws, 2 ysgol gerllaw, capel a chyfleusterau cymunedol yn yr anheddiad cyswllt hwn
________________________________________________________________
A220714 Dymchwel siop gynnyrch bresennol a’i disodli gyda siop newydd a fflat ar y llawr cyntaf, Siop Gynnyrch Parc y Pant, Cross Inn, Ceinewydd
CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau.
A220763 Annedd amnewid arfaethedig (Dymchwel ar ôl ei gwblhau), estyniad i’r ardd a gwaith cysylltiedig, Allt y Bryn, Beulah, Castellnewydd Emlyn
Nodi bod y cais wedi cael ei DYNNU’N ÔL gan bod Swyddogion wedi cael gwybodaeth ychwanegol nad oeddent wedi ei hystyried.
Dogfennau ategol: