Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd
groeso i bawb i'r cyfarfod.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Chris James, Maldwyn Lewis, Siân
Maehrlein a Mark Strong wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i'r
cyfarfod.
|
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd
Cerys Jones fudd personol
ac sy'n rhagfarnu yng Nghais A210686 Datganodd Ms Elin
Prysor, Swyddog Monitro, fudd
personol ac sy'n rhagfarnu yng Nghais A220060. (Wrth i'r eitem hon gael
ei hystyried, mynychodd Mrs Ffion Lloyd y cyfarfod
ar ran y Swyddog Monitro) Datganodd Mr Russell Hughes-Pickering fudd personol ac sy'n rhagfarnu yng Nghais A220208. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Awst 2022 PDF 213 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Awst 2022 yn gywir. Materion yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 1 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau
cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn
i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:- A210091 Cais cynllunio
ôl-weithredol am sied peiriannau amaethyddol a storio a gwelliannau i'r
mynediad presennol i gerbydau, Tir gyferbyn â Than Yr Allt, Coxhead,
Tregaron ____________________________________________________________ A210982 3 pod glampio
arfaethedig, addasiadau i'r mynediad presennol a gosod cyfleuster parod i drin
carthion, Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau. Roedd yr aelodau o'r farn bod modd cymeradwyo'r
cais am y rhesymau canlynol:- ·
Mae'r gwasanaeth cynllunio yn
derbyn bod y cais o fewn y polisi, roeddent yn erbyn lleoliad y podiau arfaethedig yn unig ·
Nid oedd lleoliad y podiau yn amlwg yn y tirlun ·
Roedd y lleoliad hwn yn fwy derbyniol
na lleoliadau eraill gan nad oedd yr ymgeisydd yn berchen ar y tir cyffiniol,
roedd tir arall ar y fferm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eu busnes pwmpenni,
ac roedd gerllaw adeilad rhestredig ·
Byddai gwelliant o ran
diogelwch ar y ffordd ·
Roedd y Panel Archwilio Safle
wedi cyflawni ei waith trwy ymweld â'r safle a chytuno bod y safle arfaethedig
yn dderbyniol ______________________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 1 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio
datblygu, hysbysebu;
statudol a'r awdurdod lleol:- A210686 Codi annedd
menter gwledig gan gynnwys adeilad gweithdy a lle storio, gosod cyfleuster
parod i drin carthion a gwneud addasiadau i fynediad presennol trwy gât. GOHIRIO'R penderfyniad am y cais yn unol â Dewis 4 Gweithdrefnau Gweithredol y Pwyllgor Rheoli Datblygu, gan bod gwybodaeth gynllunio
ychwanegol wedi cael ei chyflwyno i'r aelodau neu'r swyddog cynllunio ar ôl y
cyhoeddwyd agenda a phapurau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu. _________________________________________________________ Anerchodd Mr M Rees (ymgeisydd) a Mrs G
Jenkins (asiant) y Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros dro i'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19 A220060 Datblygiad Preswyl, Brynawelon,
Caerwedros, Llandysul CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau ac yn unol â Rhwymedigaeth Cynllunio Adran 106,
er mwyn sicrhau dau o'r pum annedd fel cartrefi fforddiadwy, fel y cynigiwyd
fel rhan o'r cynnig (ac nid 20% o'r datblygiad fel y nodir mewn polisi). Byddai Rhwymedigaeth A.106 yn cynnwys
mecanwaith ar gyfer rheolaeth a gwaith cynnal a chadw y safle agored yn y
dyfodol hefyd, fel sy'n ofynnol dan bolisi LU24 CDLl. Bydd y caniatâd cynllunio yn destun amodau, gan
gynnwys amodau y byddent yn:- cyfyngu ar
nifer yr unedau i uchafswm o 5, a fyddai'n sicrhau bod y datblygiad yn cael ei
gychwyn cyn pen 18 mis o'r caniatâd amlinellol (neu 9 mis o gymeradwyo'r
materion neilltuedig, pa un bynnag sydd hwyraf), y dylid cyfyngu ar arwynebedd
llawr yr aneddiadau fforddiadwy i 137 metr sgwâr o ran maint, bod yr aneddiadau
yn cael eu cysylltu â'r garthffos gyhoeddus a bod darpariaeth y lle agored
arfaethedig yn cael ei gynnwys fel rhan o'r cais dilynol er mwyn cymeradwyo
materion neilltuedig, yn unol â gofynion polisi LU24. Nid oedd yr aelodau yn cytuno gydag argymhelliad
y Swyddogion ac roeddent o'r farn y byddai modd cymeradwyo'r cais am y rhesymau
canlynol:- ·
Roedd Caerwedros yn lleoliad
addas gan nad oes unrhyw botensial datblygu yng Ngheinewydd
ar hyn o bryd, ac roedd datblygiadau wedi cael eu cyflwyno yng Nghaerwedros ·
Mae'r CDLl
yn caniatáu datblygiad yng Nghaerwedros, a byddai hyn
yn estyniad i safle presennol a oedd yn lleoliad addas yn y pentref. ·
Byddai'r aneddiadau hyn yn
darparu tai i bobl leol, ynghyd ag elfen fforddiadwy, ac roedd angen yn bodoli
ar hyn o bryd ·
Roedd y cais hwn o fewn
anheddiad cyswllt ac mae'n cynnwys gwasanaethau hanfodol fel y neuadd gyferbyn ·
Mae'r cais yn cydymffurfio ag
S04 ac S05 gan bod y ddarpariaeth tai Fforddiadwy a gynigir yn mynd y tu hwnt
i'r gofyniad polisi, felly roedd hyn yn rheswm dros gymeradwyo'r cais ·
Ceir cymuned gref yng Nghaerwedros Roedd yr aelodau yn
dymuno nodi yn y cofnodion bod ganddynt bryder am y ffaith eu bod wedi cael
anhawster clywed siaradwyr ar zoom unwaith eto yn y
Siambr. ___________________________________________________________ A220208 Ffurfio Cysgodfeydd Ceir wedi'u gorchuddio â phanel Solar Ffotofoltäig uwchben safleoedd parcio presennol, Canolfan Rheidol Padarn, Llanbadarn, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd
wedi dod i law.
|
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |