Eitem Agenda

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr

Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu,

hysbysebu;  statudol a'r awdurdod lleol:-

 

       

A210686 Codi annedd menter gwledig gan gynnwys adeilad gweithdy a lle storio, gosod cyfleuster parod i drin carthion a gwneud addasiadau i fynediad presennol trwy gât.

 

GOHIRIO'R penderfyniad am y cais yn unol â Dewis 4 Gweithdrefnau Gweithredol y Pwyllgor Rheoli Datblygu, gan bod gwybodaeth gynllunio ychwanegol wedi cael ei chyflwyno i'r aelodau neu'r swyddog cynllunio ar ôl y cyhoeddwyd agenda a phapurau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

_________________________________________________________

Anerchodd Mr M Rees (ymgeisydd) a Mrs G Jenkins (asiant) y

Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros dro i'r weithdrefn

Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y

Pwyllgor Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19

       

A220060 Datblygiad Preswyl, Brynawelon, Caerwedros, Llandysul

 

CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau ac yn unol â Rhwymedigaeth Cynllunio Adran 106, er mwyn sicrhau dau o'r pum annedd fel cartrefi fforddiadwy, fel y cynigiwyd fel rhan o'r cynnig (ac nid 20% o'r datblygiad fel y nodir mewn polisi).  Byddai Rhwymedigaeth A.106 yn cynnwys mecanwaith ar gyfer rheolaeth a gwaith cynnal a chadw y safle agored yn y dyfodol hefyd, fel sy'n ofynnol dan bolisi LU24 CDLl.

 

Bydd y caniatâd cynllunio yn destun amodau, gan gynnwys amodau y byddent yn:-  cyfyngu ar nifer yr unedau i uchafswm o 5, a fyddai'n sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gychwyn cyn pen 18 mis o'r caniatâd amlinellol (neu 9 mis o gymeradwyo'r materion neilltuedig, pa un bynnag sydd hwyraf), y dylid cyfyngu ar arwynebedd llawr yr aneddiadau fforddiadwy i 137 metr sgwâr o ran maint, bod yr aneddiadau yn cael eu cysylltu â'r garthffos gyhoeddus a bod darpariaeth y lle agored arfaethedig yn cael ei gynnwys fel rhan o'r cais dilynol er mwyn cymeradwyo materion neilltuedig, yn unol â gofynion polisi LU24. 

 

Nid oedd yr aelodau yn cytuno gydag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o'r farn y byddai modd cymeradwyo'r cais am y rhesymau canlynol:-

·       Roedd Caerwedros yn lleoliad addas gan nad oes unrhyw botensial datblygu yng Ngheinewydd ar hyn o bryd, ac roedd datblygiadau wedi cael eu cyflwyno yng Nghaerwedros

·       Mae'r CDLl yn caniatáu datblygiad yng Nghaerwedros, a byddai hyn yn estyniad i safle presennol a oedd yn lleoliad addas yn y pentref.

·       Byddai'r aneddiadau hyn yn darparu tai i bobl leol, ynghyd ag elfen fforddiadwy, ac roedd angen yn bodoli ar hyn o bryd

·       Roedd y cais hwn o fewn anheddiad cyswllt ac mae'n cynnwys gwasanaethau hanfodol fel y neuadd gyferbyn

·       Mae'r cais yn cydymffurfio ag S04 ac S05 gan bod y ddarpariaeth tai Fforddiadwy a gynigir yn mynd y tu hwnt i'r gofyniad polisi, felly roedd hyn yn rheswm dros gymeradwyo'r cais

·       Ceir cymuned gref yng Nghaerwedros

 

Roedd yr aelodau yn dymuno nodi yn y cofnodion bod ganddynt bryder am y ffaith eu bod wedi cael anhawster clywed siaradwyr ar zoom unwaith eto yn y Siambr.

   ___________________________________________________________

       

A220208 Ffurfio Cysgodfeydd Ceir wedi'u gorchuddio â phanel Solar Ffotofoltäig uwchben safleoedd parcio presennol, Canolfan Rheidol Padarn, Llanbadarn, Aberystwyth

 

CYMERADWYO yn unol ag amodau.

 

­­­­­­­­­­­­­-___________________________________________________________

Dogfennau ategol: