Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 14eg Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elizabeth Evans ynghyd â’r  Aelodau Cabinet canlynol, y Cynghorwyr Catrin Miles a Ray Quant. 

 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Is-grwp Tlodi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion - adroddiad cynnydd Strategaeth Mynd i'r Afael a Chaledi pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Gorffennaf 2021 is-grŵp Tlodi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar y cynnydd a wnaed o ran y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi.  Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn. 

 

Adroddodd fod Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi 2020-22 wedi ei chyhoeddi ym mis Awst 2020, yn olynydd i Strategaeth Brwydro yn erbyn Tlodi Ceredigion 2016-20.  Roedd gan y Strategaeth dri amcan allweddol ac mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys 65 cam gweithredu i’w cyflawni gan amrywiaeth o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).

 

Roedd y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi yn cael ei monitro gan Is-grŵp Tlodi BGC Ceredigion, a oedd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd o ran cyflawni'r strategaeth, yn ogystal â'r camau nesaf arfaethedig ac mae’r rhain wedi’u nodi isod:

 

1.Byddai Is-grŵp Tlodi'r BGC yn parhau i ddatblygu'r dangosfyrddau data i sicrhau dealltwriaeth cyffredin o effaith esblygol COVID-19 ar galedi yng Ngheredigion drwy gasglu a dadansoddi data.

 

2. Roedd angen adolygu'r rhestr o bartneriaid sy'n cyfrannu.  Roedd cyfleoedd i gydweithio â mwy o asiantaethau partner, er mwyn hyrwyddo a manteisio ar yr holl gymorth a’r holl help sydd ar gael.

 

3.Roedd y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw a oedd wedi'i chynllunio i gael ei diweddaru yn ystod oes y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi. Roedd rhai partneriaid sy'n cyfrannu wedi cwblhau eu camau gweithredu tra bo camau gweithredu eraill yn dal i fynd rhagddynt. Byddai’r Cynllun Gweithredu yn cael ei adolygu i sicrhau bod y partneriaid yn cydweithio'n effeithiol i gryfhau cydnerthedd unigolion a chymunedau ac addasu i effaith COVID-19.

 

4. Nid yw'r fframwaith a sefydlwyd i fonitro'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi yn cynnwys modd i bartneriaid dynnu sylw at faterion penodol sy'n peri pryder – yn arbennig, y materion hynny y mae’n bosibl y gallai’r BGC fynd i'r afael â hwy'n effeithiol ar sail amlasiantaethol. Byddai’r fframwaith monitro yn cael ei addasu er mwyn iddo gynnwys ffordd glir o nodi’n rhagweithiol y materion penodol sy'n peri pryder ac y gall darparwyr cymorth, dinasyddion ac aelodau is-grŵp y BGC eu codi.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y canlynol:

 

(i)  nodi’r cynnydd a wnaethpwyd tuag at gyflawni tri amcan Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi Ceredigion a chefnogi’r ‘camau nesaf’ a gyflwynwyd; a

(ii) diolch i Gydgysylltydd Teuluoedd yn Gyntaf a Ffoaduriaid am ei gwaith ar y strategaeth hon

 

 

4.

Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd - fersiwn ddrafft y Polisi Ymgysylltu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar ‘Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’ - fersiwn ddrafft Polisi Ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion.  Adroddodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y polisi yn amlinellu’r ymagwedd gorfforaethol at ymgysylltu â phobl Ceredigion.

Wrth sôn am ymgysylltu, adroddwyd am y ffyrdd y mae’r Cyngor yn gwneud y canlynol -

·         Rhoi gwybod. Rhoi gwybodaeth gytbwys a gwrthrychol i’r cyhoedd.

·         Ymgynghori. Cael adborth y cyhoedd ynghylch cynigion.

·         Cynnwys. Gweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd drwy gydol y broses, er mwyn sicrhau cysondeb o ran deall ac ystyried pryderon a dyheadau’r cyhoedd.

·         Cydweithio. Gweithio law yn llaw â’r cyhoedd ym mhob agwedd ar benderfyniad neu ym mhob agwedd ar y modd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys diffinio’r broblem, datblygu dewisiadau eraill a nodi a darparu’r atebion a ffefrir.

·         Galluogi. Edrych am ffyrdd o roi camau terfynol y broses benderfynu a darparu gwasanaeth yn nwylo’r cyhoedd - dirprwyo.

 

 

Mae’r polisi yn cynnwys dulliau arloesol o ymgysylltu, gan gynnwys defnyddio platfformau ymgysylltu ar-lein. Mae’r polisi yn cynnwys pecyn cymorth o adnoddau a thechnegau.  Mae’r polisi hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n amlinellu gwell rheolaeth gorfforaethol a gwell rheolaeth ar ymgysylltu ac atebolrwydd, er enghraifft drwy amserlen ymgysylltu gorfforaethol ac adroddiadau blynyddol.

 

Adroddodd y Swyddog Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod y Polisi Ymgysylltu â’r Gymuned sydd gennym ar hyn o bryd yn dyddio’n ôl i 2012 a bod angen polisi newydd yn lle hwnnw, a fydd yn ystyried dulliau newydd o ymgysylltu, ac a fydd hefyd yn ystyried deddfwriaeth a chanllawiau diweddar. Yn ogystal â hynny, roedd angen rhoi ystyriaeth i’r defnydd cynyddol o ymgysylltu digidol.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ar y canlynol:-

 

(i) derbyn a chymeradwyo ‘Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’, sef fersiwn ddrafft Polisi Ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion cyn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod gaeaf 2021-22; a

(ii) nodi y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 2 Tachwedd 2021. 

 

5.

Diweddariad ar y Gwasanaeth CLIC pdf eicon PDF 479 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â’r Gwasanaeth Clic.  Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Dafydd Edwards, ynghyd â Rheolwr Corfforaethol – Clic a’r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid.  Adroddwyd bod y gwasanaeth CLIC yn cynnwys y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol, Ystafell y Post Corfforaethol, Cyswllt Uniongyrchol (Wyneb yn Wyneb), Tîm y Bathodyn Glas a’r Llyfrgelloedd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau i’r Ganolfan Gyswllt (CLIC) ddechrau cymryd galwadau ym mis Medi 2017 ac erbyn hyn roedd yn darparu’r gwasanaeth cyswllt cychwynnol i bron bob un o’r meysydd gwasanaeth.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddai’r maes gwasanaeth olaf, Gofal Cymdeithasol, yn cael ei drosglwyddo i CLIC drwy’r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant, gan sicrhau mai CLIC fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl wasanaethau.  Roedd dwy garfan o staff y Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi dilyn hyfforddiant i baratoi ar gyfer cyflwyno galwadau Gofal Cymdeithasol yn unol â’r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant.  Roedd Cyswllt Cwsmeriaid hefyd wedi ymwneud â datblygu’r ffurflenni cyswllt cychwynnol a fyddai, maes o law, yn cael eu defnyddio gan staff i ymdrin ag ymholiadau Gofal Cymdeithasol.

 

Adroddwyd bod tîm y Ganolfan Gyswllt wedi bod yn gweithio’n gyfan gwbl o gartref, ers dechrau’r pandemig a’r cyfnod clo cyntaf, 23 Mawrth 2020,

gan weithredu gwasanaeth llawn gydag ychydig iawn o newid i oriau neu ddyletswyddau. Roedd y Tîm hefyd wedi darparu oriau ychwanegol o

wasanaeth, yn ystod penwythnos y Pasg yn 2020 ac wedi cefnogi’r gwasanaethau etholiadol yn ystod etholiadau Llywodraeth Cymru ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2021, gan gynnig gwasanaeth dros y ffôn rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod yr etholiadau.

 

Yn ogystal â darparu cymorth dros y ffôn, mae’r tîm hefyd yn derbyn taliadau, yn rheoli blychau post corfforaethol ac yn darparu gwasanaeth ychwanegol sy’n cynnig gwybodaeth am COVID-19. Mae’r gwasanaeth wedi profi llawer o gyfnodau heriol oherwydd prinder staff a rhai problemau technegol ond mae bob amser yn ymdrechu i ddarparu

gwasanaeth o safon uchel i’r cwsmeriaid.   

 

Cyflwynwyd yr wybodaeth ganlynol a oedd yn seiliedig ar ymholiadau a dderbyniwyd rhwng 01/09/2020 a 31/08/2021.

 

 

Cyfanswm y galwadau a dderbyniwyd = 113,203

            Saesneg        Cymraeg        Cyfanswm

Medi-20          8820   1549   10369

Hydref-20      8667   1527   10194

Tachwedd-20            7478   1277   8755

Rhagfyr-20    5530   887     6417

Ionawr-21      8106   1405   9511

Chwefror-21  7483   1335   8818

Mawrth-21     9509   1755   11264

Ebrill-21         8236   1513   9749

Mai-21            7517   1379   8896

Mehefin-21   8419   1399   9818

Gorffennaf-21           8389   1453   9842

Awst-21          8191   1379   9570

Cyfanswm     96,345            16,858           

Cyfanswm y ddwy iaith       113,203         

 

 

Galwadau y rhoddwyd y gorau iddynt = Saesneg 4% / Cymraeg 1%

 

           Cyfanswm yr e-byst a dderbyniwyd = 17,980

           Cyfanswm yr ymholiadau a gofnodwyd = 68,698

 

 

 

O ran Ymholiadau CLIC (Rheoli Cofnodion Cwsmeriaid) nodwyd bod gan y system 79 categori gwahanol (fe’u diffinnir yn feysydd gwasanaeth) a 407 isgategori.  Roedd galwadau/ymholiadau yn cael eu cofnodi ar y system Rheoli Cofnodion Cwsmeriaid (CRM) er mwyn sicrhau bod cofnod o unrhyw gyswllt â chwsmeriaid. Roedd pob ymholiad yn cael rhif cyfeirnod. 

 

Cyflwynwyd dadansoddiad o’r ymholiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd pdf eicon PDF 980 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar Safonau Llyfrgelloedd.  Nodwyd bod yn rhaid i’r Llyfrgell adrodd i Lywodraeth Cymru unwaith y flwyddyn ar safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.  Yr adroddiad dan sylw oedd yr adroddiad a oedd wedi ei lunio ar gyfer 2019/20. 

 

CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad. 

 

 

.

 

7.

Adroddiad ar Ystadegau 2020 Uwch Grwner Ceredigion pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar Ystadegau Uwch Grwner Ceredigion 2020. Nodwyd bod adroddiad ar farwolaethau a adroddwyd i Grwner Ceredigion yn cael ei baratoi’n flynyddol gan yr Uwch Grwner (‘Adroddiad Ystadegau’) ac yn cael ei anfon i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn ei gyhoeddi fel rhan o Ystadegau’r Crwner ar wefan Llywodraeth y DU.

 

Dywedwyd bod Adroddiad y Prif Grwner i’r Arglwydd Ganghellor yn cynnwys glasbrint Model y Crwner. Mae hwn yn argymell y dylai’r Uwch Grwner gyflwyno adroddiad blynyddol byr hefyd i’r Prif Grwner a’r Cyngor bob mis Gorffennaf a dylid ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor gan gynnwys ystadegau perthnasol ar yr achosion cyfredol/ achosion sydd wedi cau (gyda ffigyrau i gymharu â blynyddoedd blaenorol), diweddariad ar waith y Crwner a materion perthnasol, crynodeb am dîm y Crwner a threfniadau staffio ac unrhyw gynlluniau i’r dyfodol. Nid oes Adroddiad o’r fath wedi ei ddarparu i’r Cyngor.

 

Adroddwyd bod yr Adroddiad ar Ystadegau yn cynnwys gwybodaeth berthnasol parthed gwasanaethau Crwner Ceredigion er mwyn sicrhau tryloywder i’r cyhoedd. Gan fod yr Ystadegau Gwladol bellach wedi eu cyhoeddi cyflwynwyd yr Adroddiad ar Ystadegau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Nododd y Swyddog Llywodraethu yr argymhellir y dylid cyhoeddi’r Adroddiad ar Ystadegau’n flynyddol ar dudalen Gwasanaethau’r Crwner ar wefan y Cyngor, ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr Adroddiad ar Ystadegau (gan fod yn ofalus i beidio â chyhoeddi’r Adroddiad cyn i’r Ystadegau Cenedlaethol gael eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder). Hysbyswyd Uwch Grwner Ceredigion a Gwasanaethau Dadansoddi Ystadegau Cyfiawnder / Cyfiawnder Sifil a Gweinyddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder am y cynnig hwn.

 

Estynnwyd gwahoddiad i Uwch Grwner Ceredigion gyflwyno Adroddiad i’r Cyngor a/neu ddarparu sylwadau/ testun ychwanegol ac roedd wedi cadarnhau yn sgil y llwyth gwaith cyfredol, argaeledd i eistedd mewn llys a swydd wag (sydd bellach wedi ei llenwi) nad oedd modd iddo baratoi yr adroddiad blynyddol eleni. Gobeithir y bydd y Crwner yn medru darparu

Adroddiad blynyddol y flwyddyn nesaf.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y canlynol:-

(i) nodi cynnwys Adroddiad Ystadegol 2020 Uwch Grwner Ceredigion; a

(ii) sicrhau bod fersiwn wedi’i golygu o’r cyhoeddiad blynyddol sef Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion yn cael ei rhoi ar wefan y Cyngor (ar dudalen Gwasanaethau’r Crwner).

 

 

8.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 158 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd ond bod angen nodi y byddai’r grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystyried Ffermydd y Sir ymhellach ym mis Ionawr 2022, gan fod gwasanaeth yr ystadau yn methu cyflwyno adroddiad cyn hyn, oherwydd blaenoriaethau eraill o ran gwaith. 

 

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 07 Gorffennaf 2021.