Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â’r Gwasanaeth Clic. Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet,
y Cynghorydd Dafydd Edwards, ynghyd â Rheolwr Corfforaethol – Clic a’r Rheolwr
Gwasanaethau Cwsmeriaid. Adroddwyd bod y
gwasanaeth CLIC yn cynnwys y Ganolfan Gyswllt
Gorfforaethol, Ystafell y Post Corfforaethol, Cyswllt Uniongyrchol (Wyneb yn
Wyneb), Tîm y Bathodyn Glas a’r Llyfrgelloedd.
Dywedwyd wrth yr Aelodau i’r Ganolfan Gyswllt (CLIC) ddechrau cymryd
galwadau ym mis Medi 2017 ac erbyn hyn roedd yn darparu’r gwasanaeth cyswllt
cychwynnol i bron bob un o’r meysydd gwasanaeth.
Yn ystod y misoedd nesaf, byddai’r maes gwasanaeth olaf, Gofal
Cymdeithasol, yn cael ei drosglwyddo i CLIC drwy’r Rhaglen Gydol Oes a
Llesiant, gan sicrhau mai CLIC fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl
wasanaethau. Roedd dwy garfan o staff y
Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi dilyn hyfforddiant i baratoi ar gyfer cyflwyno
galwadau Gofal Cymdeithasol yn unol â’r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant. Roedd Cyswllt Cwsmeriaid hefyd wedi ymwneud â
datblygu’r ffurflenni cyswllt cychwynnol a fyddai, maes o law, yn cael eu
defnyddio gan staff i ymdrin ag ymholiadau Gofal Cymdeithasol.
Adroddwyd bod tîm y Ganolfan Gyswllt wedi bod yn gweithio’n gyfan gwbl o
gartref, ers dechrau’r pandemig a’r cyfnod clo
cyntaf, 23 Mawrth 2020,
gan weithredu gwasanaeth llawn gydag ychydig iawn o newid i oriau neu
ddyletswyddau. Roedd y Tîm hefyd wedi darparu oriau ychwanegol o
wasanaeth, yn ystod penwythnos y Pasg yn 2020 ac wedi cefnogi’r
gwasanaethau etholiadol yn ystod etholiadau Llywodraeth Cymru ac etholiadau
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2021, gan gynnig gwasanaeth dros y
ffôn rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod yr etholiadau.
Yn ogystal â darparu
cymorth dros y ffôn, mae’r tîm hefyd yn derbyn taliadau, yn rheoli blychau post
corfforaethol ac yn darparu gwasanaeth ychwanegol sy’n cynnig gwybodaeth am COVID-19. Mae’r
gwasanaeth wedi profi llawer o gyfnodau heriol oherwydd prinder staff a rhai
problemau technegol ond mae bob amser yn ymdrechu i ddarparu
gwasanaeth o safon uchel
i’r cwsmeriaid.
Cyflwynwyd yr wybodaeth ganlynol a oedd yn
seiliedig ar ymholiadau a dderbyniwyd rhwng 01/09/2020 a 31/08/2021.
Cyfanswm y galwadau a dderbyniwyd = 113,203
Saesneg Cymraeg Cyfanswm
Medi-20 8820 1549 10369
Hydref-20 8667 1527 10194
Tachwedd-20 7478 1277 8755
Rhagfyr-20 5530 887 6417
Ionawr-21 8106 1405 9511
Chwefror-21 7483 1335 8818
Mawrth-21 9509 1755 11264
Ebrill-21 8236 1513 9749
Mai-21 7517 1379 8896
Mehefin-21 8419 1399 9818
Gorffennaf-21 8389 1453 9842
Awst-21 8191 1379 9570
Cyfanswm 96,345 16,858
Cyfanswm y ddwy iaith 113,203
Galwadau y rhoddwyd y gorau iddynt = Saesneg 4% /
Cymraeg 1%
• Cyfanswm
yr e-byst a dderbyniwyd = 17,980
• Cyfanswm
yr ymholiadau a gofnodwyd = 68,698
O ran Ymholiadau CLIC (Rheoli Cofnodion
Cwsmeriaid) nodwyd bod gan y system 79 categori
gwahanol (fe’u diffinnir yn feysydd gwasanaeth) a 407
isgategori.
Roedd galwadau/ymholiadau yn cael eu cofnodi ar y system Rheoli Cofnodion
Cwsmeriaid (CRM) er mwyn sicrhau bod cofnod o unrhyw gyswllt â chwsmeriaid.
Roedd pob ymholiad yn cael rhif cyfeirnod.
Cyflwynwyd dadansoddiad o’r ymholiadau a gofnodwyd ar y system Rheoli
Cofnodion Cwsmeriaid, gyda’r 15 categori uchaf fel a ganlyn:-
Categori Cyfanswm
a gofnodwyd
Rheoli Gwastraff
11,357
Gofal Plant 10,956
COVID-19 6,686
Priffyrdd 4,954
Ymholiad Cyffredinol 3,792
Bathodyn Glas 2,879
Y Gofrestr Dai/Digartrefedd 2,856
Treth y Cyngor 2,819
Etholiadau 2,347
Taliadau 2,054
Cynllunio 1,724
Gwasanaethau Cymdeithasol 1,166
Rheoli’r Amgylchedd 1,025
Gorfodi Parcio a Pharcio Sifil 978
Apwyntiadau Cartrefi Preswyl 835
Cyfanswm 56,428
Ymholiadau Eraill 12,270
Cyfanswm yr ymholiadau a gofnodwyd yn ystod y
cyfnod hwn 68,698
Nodiadau Refeniw a Budd-daliadau a gofnodwyd ar
system Comino yn ystod y cyfnod hwn:-
Budd-dal Tai 3,023
Treth y Cyngor 14,900
Ardrethi Annomestig 1,396
Cyfanswm 19,319
Dadansoddiad fesul pob maes gwasanaeth:-
Gwasanaeth Cyfanswm
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol 18,547
Ysgolion a Diwylliant 11,733
Cyswllt Cwsmeriaid 10,151
Cyllid a Chaffael 9,411
Porth Gofal -Ymyrraeth wedi’i Thargedu 5,949
Economi ac Adfywio 4,736
Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd 4,191
Gwasanaethau Democrataidd 2,506
Porth Cymorth Cynnar 1,485
Pobl a Threfniadaeth 192
Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu 158
Porth Cynnal 64
Ymholiadau gan Gynghorwyr
Yn ystod y cyfnod rhwng 01.09.20 a 31.08.21, 2,034
cofnodwyd 696 ymholiad yn y Gymraeg ac 1338 ymholiad yn Saesneg gan Gynghorwyr
Sir. Mae hyn yn cyfateb i 3% o’r holl
ymholiadau.
Cymraeg 696
Saesneg 1,338
Cyfanswm yr ymholiadau a gofnodwyd gan Gynghorwyr 2,034
Canran yr holl ymholiadau a gofnodwyd 3%
Ystafell y Post oedd wedi newid fwyaf yn ystod y cyfnod hwn, gyda phost pob
un o’r swyddfeydd eraill yn cael ei ailgyfeirio bellach i Ganolfan Rheidol. Mae
tîm ystafell y post yn cael ei gynorthwyo gan y tîm cyswllt uniongyrchol i
gyflawni dyletswyddau dyddiol. Roedd tîm
Ystafell y Post wedi bod yn gyfrwng dosbarthu 38,000 o lythyron brechu i
drigolion Ceredigion; 1,040 pecyn Te Prynhawn i Ofalwyr; Pecynnau Llesiant i
Ofalwyr; wedi cynorthwyo gyda 70 pecyn o adnoddau addysgol i ddisgyblion a oedd
yn cael eu haddysgu gartref; wedi cynorthwyo i bostio’r holl ddogfennau a oedd
yn ymwneud â’r gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol a drosglwyddwyd yn ddiweddar,
gan barhau i sicrhau busnes fel arfer.
Bob dydd, roedd y post yn cael ei agor, yn cael ei ddosbarthu i wasanaethau
ac yn cael ei sganio i dimau generig ar gyfer ei brosesu. Roedd pob taflen
amser, hawliadau teithio, anfonebau yn cael eu sganio’n uniongyrchol i’r adran
daliadau a’r gyflogres; roedd gohebiaeth refeniw a budd-daliadau yn cael ei sganio
a’i mynegeio; roedd ceisiadau am fathodyn glas, asesiadau ariannol yn cael eu
hanfon ymlaen at y timau ynghyd ag unrhyw
ohebiaeth a dderbyniwyd ar gyfer Cwynion, Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau
Cyfreithiol, Swyddogion Arweiniol Corfforaethol a’r Prif Weithredwr. Roedd yr
holl ddogfennau gwreiddiol a dderbyniwyd yn cael eu cofnodi ac yn cael eu
dychwelyd at y cwsmeriaid o fewn dau
ddiwrnod gwaith.
Roedd ystafell y post yn parhau i argraffu unrhyw sieciau/hysbysiadau BACS
ar ran yr Awdurdod ac yn postio unrhyw eitemau papur yr oedd angen eu hanfon yn
ddiogel. Erbyn hyn roedd ystafell y post hefyd yn ymdrin ag argraffu a phacio
unrhyw bost a fyddai’n cael ei anfon allan, a hynny ar ran pob adran. Roedd staff ystafell y post hefyd
yn ymdrin ag arian a dderbyniwyd drwy’r post neu a bostiwyd drwy’r blwch
llythyron y tu allan i Ganolfan Rheidol. Roedd sieciau ac arian a dderbyniwyd
yn cael eu cofnodi ac yn cael eu prosesu y diwrnod yr oeddent yn cael eu
derbyn, gan anfon derbynebau drwy’r post os gofynnwyd amdanynt neu roeddent yn
cael eu sganio i adrannau. Roedd y blychau post ym Mhenmorfa,
Neuadd y Sir, Swyddfa Aberteifi a Swyddfa Llanbedr Pont Steffan yn cael eu
gwacáu a’r cynnwys yn cael ei brosesu’n rheolaidd.
Yn ystod pandemig y
COVID-19, y rhai yr amharwyd fwyaf ar eu gwaith oedd y tîm Cyswllt
Uniongyrchol, gan fod y swyddfeydd ar gau er 20 Mawrth 2020. Roedd yr aelodau
hyn o staff bellach yn cynorthwyo tîm ystafell y post a thîm y Bathodyn Glas,
tra bo dau aelod o’r tîm wedi eu hadleoli i’r tîm Olrhain Cyswllt. Roedd hyn
wedi rhoi’r cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad pellach. Oddi
ar fis Mehefin 2021, bu staff Cyswllt
Uniongyrchol hefyd yn cynorthwyo gyda’r broses o
ailagor Llyfrgelloedd.
Roedd tîm y Bathodyn Glas wedi parhau i weithredu drwy gydol y pandemig, gyda staff yn gweithio gartref drwy gydol yr
amser. Rhwng 01.09.20020 a 31.08.2021 cyflwynwyd cyfanswm o 1,713 Bathodyn
Glas.
Mae’r gwasanaeth yn perfformio’n dda iawn, ac ar gyfartaledd yn ymdrin ag
oddeutu 9, 400 o alwadau, 1,500 o e-byst ac yn cofnodi 5,600 o ymholiadau gan
gwsmeriaid bob mis.
Mynegodd sawl aelod eu pryderon nad oeddent yn cael
gwybod gan y gwasanaeth perthnasol a oedd camau wedi eu cymryd i ymateb i ddarn
o waith a oedd wedi ei gofnodi ganddyn nhw.
Mewn ymateb, adroddodd yr Aelod Cabinet fod pob gwasanaeth yn mynd i’r
afael â’r mater hwn.
Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r
sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd a diolch i holl swyddogion y gwasanaeth am eu
gwaith.
Dogfennau ategol: