Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi
ac Adfywio am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Chris James a Maldwyn Lewis
fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu o dan eitem 4 a gadawsant y
cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. |
|
Y Gwasanaeth Casglu Gwastraff PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar
gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) drosolwg o’r
cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023, gan gynnwys y materion allweddol a
drafodwyd, y pwyntiau gweithredu a’r cynnydd hyd yma. Ers y cyfarfod
ar 21 Mawrth 2023, roedd rhagor o wybodaeth ar gael oedd yn tystio nid yn unig
i’r gwelliant ym mherfformiad y gwasanaeth o safbwynt casglu gwastraff dros y 9
mis diwethaf ond oedd hefyd yn darparu gwybodaeth am berfformiad rhagorol y
gwasanaeth yn genedlaethol a hynny drwy ddadansoddi data yn wrthrychol.
Darparwyd trosolwg o’r data ar ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff
trefol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC)
ac o Adroddiad Blynyddol ar Ddata Cyllid Gwastraff, ynghyd ag adroddiad cryno
ar ffurf ddrafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ar lefel Ceredigion,
roedd y gwasanaeth wedi pennu cyfres o fesurau perfformiad er mwyn mesur a
monitro’r gwasanaeth roedd yn ei ddarparu i'w drigolion, gyda’r nod o sicrhau
bod dros 90% o'r llwybrau yn cael eu cyflenwi ar y diwrnod casglu rheolaidd, a
95% yn cael eu cyflenwi yn ystod yr wythnos gasglu reolaidd. Rhoddodd Rhodri
Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol: · Aflonyddwch
22-23 · Prif Faterion
i’w Ystyried · Opsiynau Posibl
Am Y Dyfodol · Gweithredoedd · Sefyllfa
Bresennol (Perfformiad Ailgylchu, Ffigurau Ailgylchu CSC 23/24 ac Adroddiadau CLlLC 21/22) · Pwyntiai eraill
i’w nodi Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Rhodri Llwyd a’r Cynghorydd Keith Henson.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · O ran yr
Adolygiad o Safleoedd Gwastraff Cartref (SGC), roedd opsiynau'n cael eu
harchwilio a byddai'r manylion yn cael eu rhannu â'r Aelodau yn unol â hynny.
Nodwyd bod gan Gyngor Sir Ceredigion (CSC) fwy o ddarpariaeth o SGC y pen nag
unrhyw Awdurdod Lleol (ALl) arall ledled Cymru. Er
gwaethaf pryderon y byddai cau un o'r SGC yn arwain at fwy o dipio
anghyfreithlon, mae tystiolaeth o Awdurdodau Lleol eraill yn awgrymu nad yw hyn
yn wir. · Roedd y
gostyngiad yn y cyfraddau ailgylchu yn 23/24 o 75.91% yn chwarter 1 i 70.47% yn
chwarter 3 o ganlyniad i ostyngiad yn y broses o ailgylchu sgubo priffyrdd yn
chwarter 3. Ar hyn o bryd roedd gan CSC 3 ysgubwr priffyrdd a oedd ar y rhaglen
i'w newid. · O ran adolygu
contractau staff gweithrediadol, trefnwyd cyfarfod gyda'r gwasanaeth Pobl a
Threfniadaeth i drafod y ffordd ymlaen a pha un ai fod angen trafodaethau
pellach. · Yn dilyn
cymeradwyo'r uchafswm o 3 bag du o wastraff gweddilliol y cartref fesul
casgliad pob 3 wythnos, codwyd pryderon ynghylch ymarferoldeb ac effaith y
penderfyniad hwn ar breswylwyr (e.e. Tai Aml-feddiannol). Roedd trafodaethau'n
parhau ynghylch y newidiadau a byddai gwersi'n cael eu dysgu o Awdurdodau Lleol
eraill ledled Cymru a oedd eisoes wedi gweithredu hyn. Byddai Strategaeth
Gyfathrebu yn cael ei datblygu i rannu gwybodaeth gydag Aelodau Etholedig a'r
cyhoedd. · Ystyriwyd bod addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd ailgylchu yn allweddol, wrth i ddata awgrymu bod dros 50% o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Argaeledd grantiau i sefydliadau a busnesau yng Ngheredigion PDF 122 KB Cofnodion: Eglurodd Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol, Twf a
Menter bod amrywiaeth o grantiau ar gael yng Ngheredigion i sefydliadau a busnesau
at wahanol ddibenion, yn bennaf i gefnogi eu twf, eu harloesodd a'u cyfraniad
i'r economi. Rhoddwyd rhai o’r rhesymau pam roedd busnesau’n derbyn grantiau
gan y sector cyhoeddus. Yn gyffredinol, roedd grantiau'n cymell twf busnes, arloesi
a datblygiad economaidd-gymdeithasol trwy ddarparu cymorth ariannol a
chefnogaeth i fusnesau oedd yn dangos eu bod yn cyfrannu i’r amcanion cyhoeddus
hyn. Roedd grantiau hefyd ar gael i sefydliadau cymunedol i gefnogi datblygiad
mentrau oedd yn cefnogi datblygiad cyfleusterau a gweithgareddau yn y cymunedau
hynny. Roedd y
wybodaeth yn yr adroddiad ond yn gynrychiolaeth o rywfaint o'r cyllid cymorth
oedd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau a sefydliadau yng Ngheredigion, ac nid
oedd yn rhestr gynhwysfawr. Roedd llywodraethau neu gyrff y Llywodraeth yn
lansio rhaglenni ariannu ar wahanol adegau i gefnogi blaenoriaethau a
pholisïau'r Llywodraeth, felly cynghorwyd busnesau i ddefnyddio’r gefnogaeth
oedd ar gael a chwilio'n eang am gymorth a allai fod ar gael ar unrhyw un adeg. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Arwyn
Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Rhaglen 3
blynedd oedd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cynnal y Cardi 2022-25, ac fe
rannwyd y £12m a ddyrannwyd i Geredigion rhwng llawer o fusnesau a sefydliadau.
Roedd nifer o brosesau ynghlwm â chyflawni'r gwaith o fewn y cyfnod hwn, gan
gynnwys sefydlu'r rhaglenni, cymeradwyo ceisiadau a phrosesu'r ceisiadau
unwaith y mae’r gwaith wedi'i gwblhau. · Cytunodd y
Bartneriaeth i gau cyfnod ymgeisio am grantiau Cynnal y Cardi 2022-25 ar 25
Mawrth 2024 oherwydd y nifer uchel o geisiadau ac er mwyn caniatáu i'r
ceisiadau presennol gael eu hasesu. Roedd ailagor cyfleoedd cyllid grant yn
ddibynnol ar addasrwydd y ceisiadau. Roedd yr un peth yn wir am y grantiau
cymunedol. · Ystyriwyd fod
grantiau i gefnogi busnesau a sefydliadau yn hanfodol, ac roedd yn gadarnhaol bod
lefel uchel o ddiddordeb wedi bod o fewn y sir, a oedd yn adlewyrchu'r angen am
gefnogaeth. Anogodd yr Aelodau ar y gwasanaeth i sicrhau nad oedd unrhyw gyllid
a ddyrannwyd i'r ALl heb ei ddefnyddio. · Asesodd Panel geisiadau Cynnal y Cardi a sgoriwyd pob cais yn annibynnol. Ystyriwyd nifer o ffactorau, gan gynnwys y cynllun busnes, a sut y mae'n cyd-fynd â'r strategaeth economaidd leol. Pe bai busnes wedi methu'r trothwy o drwch blewyn, darparwyd adborth a lle’r oedd amser ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9
Chwefror 2024. Materion sy’n codi: Esboniodd y Cynghorydd Carl Worrall ei fod yn bresennol
yn y cyfarfod blaenorol, er nad oedd ei enw wedi’i gynnwys yn y cofnodion. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 76 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn
ddibynnol ar gynnwys y canlynol: · Cynllun Asedau
Priffyrdd (Mehefin neu Orffennaf 2024) · Dogfennau
monitro Adroddiad Refeniw Chwarterol / Cyllideb (Mehefin 2024) · Adroddiad ar
effaith grantiau a chymorth ar fusnesau a sefydliadau Ceredigion (diwedd 2024) · Diweddariad ar
briffyrdd Cyngor Sir Ceredigion · Diweddariad ar
effaith cyflwyno'r terfynau cyflymder o 20mya Eglurodd y Cadeirydd mai hwn oedd ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y
Pwyllgor. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. |