Cofnodion:
Rhoddodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar
gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) drosolwg o’r
cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023, gan gynnwys y materion allweddol a
drafodwyd, y pwyntiau gweithredu a’r cynnydd hyd yma.
Ers y cyfarfod
ar 21 Mawrth 2023, roedd rhagor o wybodaeth ar gael oedd yn tystio nid yn unig
i’r gwelliant ym mherfformiad y gwasanaeth o safbwynt casglu gwastraff dros y 9
mis diwethaf ond oedd hefyd yn darparu gwybodaeth am berfformiad rhagorol y
gwasanaeth yn genedlaethol a hynny drwy ddadansoddi data yn wrthrychol.
Darparwyd trosolwg o’r data ar ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff
trefol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC)
ac o Adroddiad Blynyddol ar Ddata Cyllid Gwastraff, ynghyd ag adroddiad cryno
ar ffurf ddrafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ar lefel Ceredigion,
roedd y gwasanaeth wedi pennu cyfres o fesurau perfformiad er mwyn mesur a
monitro’r gwasanaeth roedd yn ei ddarparu i'w drigolion, gyda’r nod o sicrhau
bod dros 90% o'r llwybrau yn cael eu cyflenwi ar y diwrnod casglu rheolaidd, a
95% yn cael eu cyflenwi yn ystod yr wythnos gasglu reolaidd.
Rhoddodd Rhodri
Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol:
· Aflonyddwch
22-23
· Prif Faterion
i’w Ystyried
· Opsiynau Posibl
Am Y Dyfodol
· Gweithredoedd
· Sefyllfa
Bresennol (Perfformiad Ailgylchu, Ffigurau Ailgylchu CSC 23/24 ac Adroddiadau CLlLC 21/22)
· Pwyntiai eraill
i’w nodi
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Rhodri Llwyd a’r Cynghorydd Keith Henson.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· O ran yr
Adolygiad o Safleoedd Gwastraff Cartref (SGC), roedd opsiynau'n cael eu
harchwilio a byddai'r manylion yn cael eu rhannu â'r Aelodau yn unol â hynny.
Nodwyd bod gan Gyngor Sir Ceredigion (CSC) fwy o ddarpariaeth o SGC y pen nag
unrhyw Awdurdod Lleol (ALl) arall ledled Cymru. Er
gwaethaf pryderon y byddai cau un o'r SGC yn arwain at fwy o dipio
anghyfreithlon, mae tystiolaeth o Awdurdodau Lleol eraill yn awgrymu nad yw hyn
yn wir.
· Roedd y
gostyngiad yn y cyfraddau ailgylchu yn 23/24 o 75.91% yn chwarter 1 i 70.47% yn
chwarter 3 o ganlyniad i ostyngiad yn y broses o ailgylchu sgubo priffyrdd yn
chwarter 3. Ar hyn o bryd roedd gan CSC 3 ysgubwr priffyrdd a oedd ar y rhaglen
i'w newid.
· O ran adolygu
contractau staff gweithrediadol, trefnwyd cyfarfod gyda'r gwasanaeth Pobl a
Threfniadaeth i drafod y ffordd ymlaen a pha un ai fod angen trafodaethau
pellach.
· Yn dilyn
cymeradwyo'r uchafswm o 3 bag du o wastraff gweddilliol y cartref fesul
casgliad pob 3 wythnos, codwyd pryderon ynghylch ymarferoldeb ac effaith y
penderfyniad hwn ar breswylwyr (e.e. Tai Aml-feddiannol). Roedd trafodaethau'n
parhau ynghylch y newidiadau a byddai gwersi'n cael eu dysgu o Awdurdodau Lleol
eraill ledled Cymru a oedd eisoes wedi gweithredu hyn. Byddai Strategaeth
Gyfathrebu yn cael ei datblygu i rannu gwybodaeth gydag Aelodau Etholedig a'r
cyhoedd.
· Ystyriwyd bod
addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd ailgylchu yn allweddol, wrth i ddata awgrymu
bod dros 50% o wastraff mewn bagiau du naill ai'n fwyd neu'n gallu cael ei
ailgylchu. Yn ogystal â hyn, mae’n fwy cost-effeithiol i ailgylchu gwastraff a
bwyd o'i gymharu â gwaredu gwastraff gweddilliol.
· Dywedodd yr
Aelodau fod dod â chasgliadau ymlaen i ddydd Sadwrn cyn Dydd Llun Gŵyl y
Banc yn effeithiol iawn a dylid canmol y Gwasanaeth am hyn. Roedd costau staff
ar ddydd Sadwrn ac ar Ŵyl y Banc yn cynnwys taliadau goramser.
· Roedd y fflyd
bresennol tua 5 mlwydd oed, a'r bwriad oedd ei newid yn y 2-3 blynedd nesaf.
Byddai anghenion y fflyd newydd yn dibynnu ar y Strategaeth Casglu Gwastraff a
byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gerbydau trydan/hydrogen; Fodd bynnag,
byddai'r newid hwn yn amodol ar gyllideb.
· Roedd
datrysiadau digidol yn cael eu harchwilio er mwyn adnabod cynhyrchwyr gwastraff
masnachol. O 6 Ebrill 2024, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau
sortio’u gwastraff i'w ailgylchu. Yn ddiweddar, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru
(CNC) wedi cyflogi 8 swyddog ledled Cymru i fonitro a chymryd camau gorfodi lle
bo angen a byddai swyddogion o CSC a CNC yn cydweithio i addysgu busnesau am y
newidiadau.
· Derbyniwyd
cadarnhad bod gwastraff ailgylchu'r ALl yn cael ei
gludo i Gyfleuster Adfer Deunydd yng Ngogledd Iwerddon, tra bod gwastraff
gweddilliol y Cyngor yn cael ei gludo i gyfleusterau 'Energy
from Waste' yng Nghymru a
Lloegr.
· Canmolwyd y
gwasanaeth ac yn enwedig y timau rheng flaen am eu gwaith mewn amgylchiadau
heriol megis yn ystod y lefel uchel diweddar o absenoldeb staff a oedd yn
derbyn sylw, a phroblemau gyda'r fflyd.
Diolchodd Rhodri Llwyd ar ran y Gwasanaeth Casglu Gwastraff i Aelodau'r
Pwyllgor am eu cefnogaeth ac roedd yn amlwg bod cyfathrebu a chydweithio yn
allweddol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth gorau yn cael ei ddarparu i
drigolion Ceredigion. Anogwyd yr aelodau i roi gwybod am unrhyw broblemau
casglu gwastraff drwy CLIC.
Diolchodd y Cynghorydd Keith Henson i bawb a oedd yn
bresennol am drafodaeth ddiddorol a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd a gwaith
gwasanaeth a effeithiwyd gan doriadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd.
CYTUNWYD i nodi’r gwasanaeth rhagorol sy’n parhau i gael ei ddarparu
yn ogystal â’r cynnydd a wneir gyda’r camau y cytunwyd arnynt o’r blaen.
Dogfennau ategol: