Cofnodion:
Eglurodd Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol, Twf a
Menter bod amrywiaeth o grantiau ar gael yng Ngheredigion i sefydliadau a busnesau
at wahanol ddibenion, yn bennaf i gefnogi eu twf, eu harloesodd a'u cyfraniad
i'r economi. Rhoddwyd rhai o’r rhesymau pam roedd busnesau’n derbyn grantiau
gan y sector cyhoeddus. Yn gyffredinol, roedd grantiau'n cymell twf busnes, arloesi
a datblygiad economaidd-gymdeithasol trwy ddarparu cymorth ariannol a
chefnogaeth i fusnesau oedd yn dangos eu bod yn cyfrannu i’r amcanion cyhoeddus
hyn. Roedd grantiau hefyd ar gael i sefydliadau cymunedol i gefnogi datblygiad
mentrau oedd yn cefnogi datblygiad cyfleusterau a gweithgareddau yn y cymunedau
hynny.
Roedd y
wybodaeth yn yr adroddiad ond yn gynrychiolaeth o rywfaint o'r cyllid cymorth
oedd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau a sefydliadau yng Ngheredigion, ac nid
oedd yn rhestr gynhwysfawr. Roedd llywodraethau neu gyrff y Llywodraeth yn
lansio rhaglenni ariannu ar wahanol adegau i gefnogi blaenoriaethau a
pholisïau'r Llywodraeth, felly cynghorwyd busnesau i ddefnyddio’r gefnogaeth
oedd ar gael a chwilio'n eang am gymorth a allai fod ar gael ar unrhyw un adeg.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Arwyn
Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:
· Rhaglen 3
blynedd oedd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cynnal y Cardi 2022-25, ac fe
rannwyd y £12m a ddyrannwyd i Geredigion rhwng llawer o fusnesau a sefydliadau.
Roedd nifer o brosesau ynghlwm â chyflawni'r gwaith o fewn y cyfnod hwn, gan
gynnwys sefydlu'r rhaglenni, cymeradwyo ceisiadau a phrosesu'r ceisiadau
unwaith y mae’r gwaith wedi'i gwblhau.
· Cytunodd y
Bartneriaeth i gau cyfnod ymgeisio am grantiau Cynnal y Cardi 2022-25 ar 25
Mawrth 2024 oherwydd y nifer uchel o geisiadau ac er mwyn caniatáu i'r
ceisiadau presennol gael eu hasesu. Roedd ailagor cyfleoedd cyllid grant yn
ddibynnol ar addasrwydd y ceisiadau. Roedd yr un peth yn wir am y grantiau
cymunedol.
· Ystyriwyd fod
grantiau i gefnogi busnesau a sefydliadau yn hanfodol, ac roedd yn gadarnhaol bod
lefel uchel o ddiddordeb wedi bod o fewn y sir, a oedd yn adlewyrchu'r angen am
gefnogaeth. Anogodd yr Aelodau ar y gwasanaeth i sicrhau nad oedd unrhyw gyllid
a ddyrannwyd i'r ALl heb ei ddefnyddio.
· Asesodd Panel
geisiadau Cynnal y Cardi a sgoriwyd pob cais yn annibynnol. Ystyriwyd nifer o
ffactorau, gan gynnwys y cynllun busnes, a sut y mae'n cyd-fynd â'r strategaeth
economaidd leol. Pe bai busnes wedi methu'r trothwy o drwch blewyn, darparwyd
adborth a lle’r oedd amser a chyllid yn caniatáu, roedd cyfle i ailymgeisio.
· Datblygwyd
cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Horeb fel rhan
o Raglen Tyfu Canolbarth Cymru.
· Yn hanesyddol,
nid oedd Cymru wedi cael llawer o lwyddiant o ran denu grantiau arloesol, fodd
bynnag, cyhoeddodd y Canghellor yn ystod Cyllideb y Gwanwyn diweddar fod swm o
£5m wedi'i ddyrannu drwy gynllun Arloesi Ymchwil y DU (UKRI) i greu platfform
at gyfer Lansio Bwyd Amaeth ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru. Daeth y
cyhoeddiad hwn yn dilyn cais aflwyddiannus gan CSC ar ran y rhanbarthau am
gyllid i'r sector Technoleg Amaeth. Gobeithir y bydd y datblygiad yn darparu
llwyfan ar gyfer arloesi ac yn gosod y rhanbarth mewn lle gwell i ddenu
grantiau a buddsoddiadau yn y dyfodol. Un o'r prif dasgau ar gyfer CSC oedd sicrhau
bod cymaint o'r £5m yn cael ei fuddsoddi yng Ngheredigion.
Rhoddodd Arwyn Davies drosolwg o’r Benthyciadau a gefnogir gan y
Llywodraeth drwy Fanc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain – Cronfa Buddsoddi
Cymru. Yn gynyddol, roedd llywodraethau'n tueddu i ffafrio'r defnydd o arian
ailgylchadwy ar ffurf benthyciadau, neu gymysgedd o grantiau a chyllid
ailgylchadwy, i wneud y cronfeydd presennol yn fwy cynaliadwy i'r dyfodol.
Nodwyd bod yr heriau i fusnesau a sefydliadau mewn ardaloedd gwledig yn
unigryw, ac felly, roedd argaeledd grantiau yn hanfodol i annog twf economaidd.
Byddai asesiad o'r effaith ar economi Ceredigion a'r angen am y cymorth hwn yn
cael ei gynnal a byddai'n cael ei gyflwyno i randdeiliaid
gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Diolchodd y
Cadeirydd i Arwyn Davies am adroddiad llawn gwybodaeth a'i annog i ddychwelyd
gyda diweddariad pan fyddai’r amgylchiadau yn caniatáu.
CYTUNWYD i nodi'r
adroddiad.
Dogfennau ategol: