Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Mercher, 5ed Ebrill, 2023 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

i.      Datganodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4.

ii.     Datganodd Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau  fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 4, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.

3.

Y diweddaraf am deithio llesol - Ebrill 2023 a defnyddio hen linellau rheilffordd ar gyfer seiclo / cerdded pdf eicon PDF 165 KB

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) taw pwrpas yr adroddiad oedd darparu diweddariad ar y datblygiadau ers y drafodaeth / adroddiad blaenorol.  Cynhaliwyd cyfarfod gyda Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar 1 Rhagfyr 2022 er mwyn darparu trosolwg o Deithio Llesol yng Ngheredigion. Ar hyn o bryd dim ond tri Anheddiad Teithio Llesol sydd yng Ngheredigion a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan) felly roedd yn ddymuniad i ymestyn hyn. Diolchwyd i’r gwasanaeth am ddatblygu’r gwaith i wella hygyrchedd Teithio Llesol a diogelwch ar gyfer y Sir.

 

Esboniodd Phil Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Priffyrdd fod Deddf Teithio Llesol (Cymru)  2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a seiclo ar gyfer siwrneiau bob dydd. Roedd yr awdurdod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr arian i wella’r rhwydwaith Teithio Llesol ond byddai cael gwell cynllun ar gyfer y 3 – 5 mlynedd nesaf o fudd i bawb.  Darparwyd trosolwg o’r cefndir a nodwyd yn yr adroddiad. Yn sgil y dyheadau i wella’r cysylltiadau rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, cafwyd sicrwydd oddi wrth Elin Jones AC a Ben Lake AS mewn cyfarfod yn ddiweddar na chaiff yr argymhellion yma eu datblygu am nifer sylweddol o flynyddoedd, felly yn ei hanfod roedd yn bosib parhau i ymestyn Teithio Llesol ar y llinellau hynny.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau a bu i’r Swyddogion, Yr Athro Stuart Cole CBE a’r Cynghorydd Keith Henson eu hateb. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

·       Bu i’r Athro Stuart Cole CBE esbonio er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau a oeddent yn bwriadu datblygu’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth fydd yn costio oddeutu £800 miliwn, nid oedd digon o arian nac ychwaith digon o boblogaeth i redeg y rheilffordd, a dyna phaham oedd T1 TrawsCymru mewn lle.  Roedd o’r farn ei fod yn annhebygol iawn y caiff y rheilffordd ei datblygu yn y 30 – 40 mlynedd nesaf.

·       Roedd yn bwysig iawn i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU am y diffyg sicrwydd o ran ffynonellau ariannu. Yn ogystal byddai ymlacio ymhellach ar y cyfyngiadau o fudd i’r Sir yn gyfan gwbl, ac nid yn unig y tair thref a enwyd fel Aneddiadau Teithio Llesol.  Bydd hefyd yn caniatáu awdurdodau lleol i gynllunio adnoddau’n well a chyflawni yn lleol.

·       Cefnogwyd defnyddio pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol a all fod eu hangen er mwyn cael tir ar gyfer llwybrau cerdded a seiclo.  Er iddo cael ei ystyried yn broses hir a chymhleth, roedd defnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol law yn llaw â thrafodaethau yn bwysig ar gyfer cyflawni cynllunio o fewn y Sir. Gwnaed gwaith yn y cefndir i ddatblygu hyn gan gynnwys lleoliad Rhiw Goch, Aberaeron. 

·       Nodwyd na fyddai pob llwybr yn denu arian o’r Gronfa Teithio Llesol (ATF) felly roedd yn rhaid edrych ar ffynonellau arian eraill hefyd. Ni dderbyniwyd adborth eto yn dilyn grant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rhwydwaith Bysiau Ceredigion pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Keith Henson fod Llywodraeth Cymru yn rheoli cyfran fawr o’r system drafnidiaeth yng Nghymru a bod y diwydiant trafnidiaeth ar hyn o bryd yn wynebu amser heriol. Darparwyd trosolwg o gynnwys yr adroddiad gan gynnwys cyd-destun lleol ac ehangach.

 

Dywedodd Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Amgylcheddol y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 14 Chwefror 2023. Darparwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r canlynol:

  • Cefndir
  • Rhwydwaith Cyfredol / Cyn Covid Ceredigion
  • Cryfderau / Gwendidau
  • Cyfleodd / Bygythiadau
  • Tymor Byr / Canolig / Hir
  • Rhwydwaith Ceredigion yn y Dyfodol?
  • Ystyriaethau
  • Brandio TrawsCymru/ BwcaBws
  • Gwybodaeth ar Drafnidiaeth
  • Trosi i ULEV

 

Nodwyd gan yr Athro Stuart Cole CBE fod y sefyllfa’n debyg mewn nifer o leoliadau er bod y dull i’w datrys yn wahanol ar gyfer bob awdurdod lleol, ond roedd yn debyg ar gyfer ardaloedd gwledig megis Ceredigion ac awdurdodau a oedd yn ffinio. Adroddwyd fod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar y nifer o bobl a oedd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys TrawsCymru. Yn dilyn cyflwyno BwcaBws yn 2008, gwnaed ymchwil ar drafnidiaeth cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ac o ganlyniad, cyflwynwyd TrawsCymru yn 2012, gyda BwcaBws a bysiau lleol yn bwydo’r rhwydwaith. Bu i 2.6miliwn o deithwyr deithio ar TrawsCymru yn 2019, sef cynnydd sylweddol i’r niferoedd cyn 2012, fodd bynnag nid oedd teithwyr wedi dychwelyd i’r niferoedd cyn Covid, gan gynnwys trywydd T1 (Caerfyrddin - Aberystwyth) a oedd ond wedi dychwelyd i 60% o’i defnydd blaenorol. Roedd pa mor aml, pa mor ddibynadwy ac a ellir archebu’r gwasanaeth yn elfennau allweddol i ddenu mwy o deithwyr yn ogystal â hygyrchedd megis arwyddion gwybodaeth ac amserlenni.

 

Adroddwyd er bod Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn awyddus i fwy o bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus roedd gwahaniaeth clir iawn rhwng y gwasanaethau oedd ar gael mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol. Roedd y cymhorthdal ar gyfer cludo deiliaid Cardiau Teithio Rhatach yn fach iawn i gymharu â phris y tocyn ond gobeithir na fyddai Llywodraeth Cymru yn gorffen y Cytundeb.

 

Darparwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe’u hatebwyd gan Swyddogion, yr Athro Stuart Cole CBE a’r Cynghorydd Keith Henson. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

  • Bydd proses gaffael yn dechrau’n fuan ar gyfer y llwybrau y mae Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol amdanynt, gyda'r nod i’r contractau newydd fod mewn lle erbyn mis Medi 2023. Rhybuddiwyd gan Swyddogion ei fod yn bosib y bydd y sefyllfa’n gwaethygu eto cyn y gwelir unrhyw welliannau ac y bydd hyn yn heriol i’r dyfodol.
  • Nodwyd fod y gwasanaeth Megabus a oedd yn mynd o Aberystwyth i Lundain cyn Covid-19 yn cael ei redeg gan Stagecoach, sef cwmni masnachol felly nid oedd unrhyw ofyniad ar y cwmni i ail-ddechrau’r gwasanaeth ar ôl Covid-19. Roedd cwmnïau masnachol yn rhedeg gwasanaethau ar sail elw’r trywydd fodd bynnag os oedd galw am y gwasanaeth mae’n bosib fod gwerth trafod gyda’r cwmni.
  • Codwyd pryderon am y newidiadau i wasanaeth 585 (Aberystwyth- Tregaron- Llanbedr Pont Steffan) am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023.

 

Materion sy’n codi: Dim.

6.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Adroddiad ar dwristiaeth yng Ngheredigion

·       Yn sgil diffyg ymateb o Gyfoeth Naturiol Cymru i weld a oeddent ar gael ar 22 Mehefin 2023, awgrymwyd y dylai Swyddog gysylltu â nhw eto.