Eitem Agenda

Y diweddaraf am deithio llesol - Ebrill 2023 a defnyddio hen linellau rheilffordd ar gyfer seiclo / cerdded

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) taw pwrpas yr adroddiad oedd darparu diweddariad ar y datblygiadau ers y drafodaeth / adroddiad blaenorol.  Cynhaliwyd cyfarfod gyda Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar 1 Rhagfyr 2022 er mwyn darparu trosolwg o Deithio Llesol yng Ngheredigion. Ar hyn o bryd dim ond tri Anheddiad Teithio Llesol sydd yng Ngheredigion a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan) felly roedd yn ddymuniad i ymestyn hyn. Diolchwyd i’r gwasanaeth am ddatblygu’r gwaith i wella hygyrchedd Teithio Llesol a diogelwch ar gyfer y Sir.

 

Esboniodd Phil Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Priffyrdd fod Deddf Teithio Llesol (Cymru)  2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a seiclo ar gyfer siwrneiau bob dydd. Roedd yr awdurdod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr arian i wella’r rhwydwaith Teithio Llesol ond byddai cael gwell cynllun ar gyfer y 3 – 5 mlynedd nesaf o fudd i bawb.  Darparwyd trosolwg o’r cefndir a nodwyd yn yr adroddiad. Yn sgil y dyheadau i wella’r cysylltiadau rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, cafwyd sicrwydd oddi wrth Elin Jones AC a Ben Lake AS mewn cyfarfod yn ddiweddar na chaiff yr argymhellion yma eu datblygu am nifer sylweddol o flynyddoedd, felly yn ei hanfod roedd yn bosib parhau i ymestyn Teithio Llesol ar y llinellau hynny.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau a bu i’r Swyddogion, Yr Athro Stuart Cole CBE a’r Cynghorydd Keith Henson eu hateb. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

·       Bu i’r Athro Stuart Cole CBE esbonio er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau a oeddent yn bwriadu datblygu’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth fydd yn costio oddeutu £800 miliwn, nid oedd digon o arian nac ychwaith digon o boblogaeth i redeg y rheilffordd, a dyna phaham oedd T1 TrawsCymru mewn lle.  Roedd o’r farn ei fod yn annhebygol iawn y caiff y rheilffordd ei datblygu yn y 30 – 40 mlynedd nesaf.

·       Roedd yn bwysig iawn i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU am y diffyg sicrwydd o ran ffynonellau ariannu. Yn ogystal byddai ymlacio ymhellach ar y cyfyngiadau o fudd i’r Sir yn gyfan gwbl, ac nid yn unig y tair thref a enwyd fel Aneddiadau Teithio Llesol.  Bydd hefyd yn caniatáu awdurdodau lleol i gynllunio adnoddau’n well a chyflawni yn lleol.

·       Cefnogwyd defnyddio pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol a all fod eu hangen er mwyn cael tir ar gyfer llwybrau cerdded a seiclo.  Er iddo cael ei ystyried yn broses hir a chymhleth, roedd defnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol law yn llaw â thrafodaethau yn bwysig ar gyfer cyflawni cynllunio o fewn y Sir. Gwnaed gwaith yn y cefndir i ddatblygu hyn gan gynnwys lleoliad Rhiw Goch, Aberaeron. 

·       Nodwyd na fyddai pob llwybr yn denu arian o’r Gronfa Teithio Llesol (ATF) felly roedd yn rhaid edrych ar ffynonellau arian eraill hefyd. Ni dderbyniwyd adborth eto yn dilyn grant aflwyddiannus ar gyfer Cylch y Cardi Cyfnod Prawf 1 Y Gronfa Ffyniant Bro 2 (LUF2) (Trafnidiaeth).

·       Cyflwynwyd cais i’r Gronfa Teithio Llesol am 100% o’r arian ar gyfer cam cyntaf o’r gwaith ar lwybr teithio llesol arfaethedig o IBERS i Waun Fawr.  Roedd gwaith yn mynd yn ei flaen i sicrhau tir ar gyfer y trywydd a ffefrir.

·       Gan nad oedd yn ymddangos fod cynlluniau mewn lle i wella’r llwybr o Gastell newydd Emlyn i Lechryd, nodwyd gan Swyddogion y byddant yn darparu diweddariad i’r aelod lleol maes o law.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: