Eitem Agenda

Rhwydwaith Bysiau Ceredigion

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Keith Henson fod Llywodraeth Cymru yn rheoli cyfran fawr o’r system drafnidiaeth yng Nghymru a bod y diwydiant trafnidiaeth ar hyn o bryd yn wynebu amser heriol. Darparwyd trosolwg o gynnwys yr adroddiad gan gynnwys cyd-destun lleol ac ehangach.

 

Dywedodd Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Amgylcheddol y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 14 Chwefror 2023. Darparwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r canlynol:

  • Cefndir
  • Rhwydwaith Cyfredol / Cyn Covid Ceredigion
  • Cryfderau / Gwendidau
  • Cyfleodd / Bygythiadau
  • Tymor Byr / Canolig / Hir
  • Rhwydwaith Ceredigion yn y Dyfodol?
  • Ystyriaethau
  • Brandio TrawsCymru/ BwcaBws
  • Gwybodaeth ar Drafnidiaeth
  • Trosi i ULEV

 

Nodwyd gan yr Athro Stuart Cole CBE fod y sefyllfa’n debyg mewn nifer o leoliadau er bod y dull i’w datrys yn wahanol ar gyfer bob awdurdod lleol, ond roedd yn debyg ar gyfer ardaloedd gwledig megis Ceredigion ac awdurdodau a oedd yn ffinio. Adroddwyd fod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar y nifer o bobl a oedd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys TrawsCymru. Yn dilyn cyflwyno BwcaBws yn 2008, gwnaed ymchwil ar drafnidiaeth cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ac o ganlyniad, cyflwynwyd TrawsCymru yn 2012, gyda BwcaBws a bysiau lleol yn bwydo’r rhwydwaith. Bu i 2.6miliwn o deithwyr deithio ar TrawsCymru yn 2019, sef cynnydd sylweddol i’r niferoedd cyn 2012, fodd bynnag nid oedd teithwyr wedi dychwelyd i’r niferoedd cyn Covid, gan gynnwys trywydd T1 (Caerfyrddin - Aberystwyth) a oedd ond wedi dychwelyd i 60% o’i defnydd blaenorol. Roedd pa mor aml, pa mor ddibynadwy ac a ellir archebu’r gwasanaeth yn elfennau allweddol i ddenu mwy o deithwyr yn ogystal â hygyrchedd megis arwyddion gwybodaeth ac amserlenni.

 

Adroddwyd er bod Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn awyddus i fwy o bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus roedd gwahaniaeth clir iawn rhwng y gwasanaethau oedd ar gael mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol. Roedd y cymhorthdal ar gyfer cludo deiliaid Cardiau Teithio Rhatach yn fach iawn i gymharu â phris y tocyn ond gobeithir na fyddai Llywodraeth Cymru yn gorffen y Cytundeb.

 

Darparwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe’u hatebwyd gan Swyddogion, yr Athro Stuart Cole CBE a’r Cynghorydd Keith Henson. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

  • Bydd proses gaffael yn dechrau’n fuan ar gyfer y llwybrau y mae Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol amdanynt, gyda'r nod i’r contractau newydd fod mewn lle erbyn mis Medi 2023. Rhybuddiwyd gan Swyddogion ei fod yn bosib y bydd y sefyllfa’n gwaethygu eto cyn y gwelir unrhyw welliannau ac y bydd hyn yn heriol i’r dyfodol.
  • Nodwyd fod y gwasanaeth Megabus a oedd yn mynd o Aberystwyth i Lundain cyn Covid-19 yn cael ei redeg gan Stagecoach, sef cwmni masnachol felly nid oedd unrhyw ofyniad ar y cwmni i ail-ddechrau’r gwasanaeth ar ôl Covid-19. Roedd cwmnïau masnachol yn rhedeg gwasanaethau ar sail elw’r trywydd fodd bynnag os oedd galw am y gwasanaeth mae’n bosib fod gwerth trafod gyda’r cwmni.
  • Codwyd pryderon am y newidiadau i wasanaeth 585 (Aberystwyth- Tregaron- Llanbedr Pont Steffan) am taw’r ddau fws a dynnwyd oddi ar yr amserlen oedd y bysiau a oedd yn addas ar gyfer yr henoed sy’n dibynnu ar y gwasanaeth. Esboniodd Swyddogion er nad oedd y gwasanaeth yn ddelfrydol, petasai trafodaethau heb gael eu cynnal gyda’r cwmni a oedd yn rhedeg y trywydd, ni fyddai gwasanaeth ar gael o gwbl.
  • Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael i bawb ac roedd yn bwysig sicrhau fod yr anabl a’r henoed yn medru cael mynediad i fysiau heb unrhyw anhawster.
  • Er gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu defnydd trafnidiaeth gyhoeddus codwyd pryderon am y diffyg arian oedd ar gael i gyflawni hyn yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, felly roedd rhaid codi hyn gyda Llywodraeth Cymru.
  • Ar hyn o bryd, roedd awdurdodau lleol yn ymgymryd â gwaith comisiynu ar ran TrawsCymru, ond bydd Trafnidiaeth Cymru yn raddol yn ymgymryd â’r rôl yma. Bydd lefel y gwasanaeth yn ddibynnol ar arian oddi wrth Lywodraeth Cymru.
  • Roedd trafodaethau o ran ULEV/ hydrogen yn parhau, a rhoddwyd ystyriaeth i rôl trydan a’r diffyg capasiti o ran y Grid Trydan. Wythnos ddiwethaf roedd 8 bws trydan yn rhedeg ar drywydd T1 TrawsCymru (Aberystwyth-Caerfyrddin) gyda chyfleusterau gwefru yng Nghaerfyrddin. Roedd Aberystwyth wedi ei glustnodi fel hwb gan TrawsCymru, felly roedd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn archwilio opsiynau i’r dyfodol. Er nad oes dyddiad wedi ei osod gan Drafnidiaeth Cymru i drosi’r fflyd i ULEV, roedd yn hanfodol sicrhau bod y seilwaith cywir mewn lle. Yn ogystal roedd gwaith yn parhau i obeithio creu cyfnewidfa drafnidiaeth yn Synod Inn, a fydd o bosib yn cynnwys opsiwn i wefru cerbydau.
  • Amlygwyd y gall y ddadl amgylcheddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ddod i ben os byddai pob car yn cael eu trosi i drydan neu hydrogen.  Yn sgil hyn nodwyd taw’r nod gyffredinol yn amgylcheddol oedd lleihau’r angen i deithio, a oedd wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i Covid-19.
  • Roedd cynnig i drafod rhwydwaith bysiau Ceredigion wedi ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 20 Ebrill 2023.

 

Diolchodd y Cynghorydd Keith Henson i’r Swyddogion a oedd yn bresennol am eu gwaith gan nodi ei fod yn amlwg fod nifer o heriau o fewn y Sir a thu hwnt. Diolchwyd hefyd i’r Athro Stuart Cole CBE am ei fewnbwn o bersbectif Cenedlaethol. Roedd arian a newid yn agwedd y cyhoedd i ddeall manteision teithio ar Drafnidiaeth Cyhoeddus yn rhanbarthol yn hanfodol ond roedd y gallu i deithio’n lleol hefyd yn bwysig iawn. Ers lansio bysiau trydan T1 TrawsCymru yr wythnos ddiwethaf bu’r adborth yn bositif, ac er mwyn symud ymlaen bydd angen i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda chyflenwyr oherwydd yr amser hir fydd angen aros i dderbyn cerbydau ar ôl eu harchebu.  Yn ogystal codwyd pryderon am gapasiti’r grid gyda’r Grid Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru a bu i’r Adolygiad Cod Sylweddol ddod i rym yn ddiweddar iawn.

 

Bu i’r Cadeirydd hefyd ddiolch i bawb fu’n rhan o’r gwaith gan esbonio y bu’r cyfarfod o fudd er mwyn cael dealltwriaeth lawn o’r mater.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r canlynol:

1.    Y pwysau a’r sialensiau acíwt a niferus y mae’r diwydiant trafnidiaeth cyfan yn eu hwynebu, ac sy’n cael eu gwaethygu yn lleol

2.    Y pwysau dilynol sy’n codi ar y Cyngor a’r Gwasanaeth er mwyn ceisio rheoli’r sefyllfa, sy’n cynnwys disgwyliadau rhanddeiliaid a’r amserlenni sy’n gysylltiedig gyda phenderfyniadau a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd.

3.    Y camau sy’n cael eu cymryd gan y Gwasanaeth i reoli’r sefyllfa a lleihau’r hyn a fydd yn orwariant arwyddocaol yn ystod y flwyddyn 2022/23.

4.    Y dull gweithredu sy’n cael ei fabwysiadu gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau o fewn y gyllideb sydd wedi cael ei neilltuo.

Dogfennau ategol: