Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Diweddariad ar y sefyllfa o ran Ffosffadau PDF 124 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r
adroddiad diweddaru ar y Sefyllfa o ran Ffosffadau ar gais y Pwyllgor. Rhoddodd
Dr Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Polisi Cynllunio y cefndir i’r sefyllfa o ran
ffosffadau i’r Aelodau. Ers cyflwyno’r canllawiau dros
dro a diwygiedig, adroddwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gweithio’n
agos gydag awdurdodau cyfagos sy’n rhannu dalgylchoedd afonydd, sef Sir
Gaerfyrddin (Tywi) a Sir Benfro (Cleddau) er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa:
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd Mr Russell
Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio bod
Archwilio Cymru, yn 2021, wedi cwblhau arolwg o’r Gwasanaeth Cynllunio yng Ngheredigion.
Cafodd y ddogfen adolygu derfynol ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2021. Roedd yr adroddiad yn nodi 10
argymhelliad yn ymwneud â threfniadau llywodraethu a gwella capasiti’r
gwasanaeth. Roedd Atodiad 1 yn cyflwyno
ymateb y Cyngor a’r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r argymhellion hyn. Adroddwyd bod y gwaith wedi’i
symud yn ei flaen drwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd yn gynharach yn
2021 i roi Cynllun Gweithredu ar waith ar gyfer gwella materion llywodraethu a
pherfformiad. Roedd y ffocws hyd at fis Mawrth 2022 yn bennaf ar fynd i’r afael
â materion llywodraethu a dynodi adnodd ychwanegol i ddelio ag ôl-groniadau
mewn ceisiadau cynllunio a gorfodi. Arweiniodd y gwaith ar
faterion llywodraethu at newidiadau i’r Cyfansoddiad y cytunwyd arnynt ym mis
Mawrth 2022 gan gynnwys:
Adroddwyd bod
hyfforddiant wedi’i ddarparu i bob Aelod ar ôl yr etholiadau ym mis Mai; roedd
y newidiadau hyn wedi’u sefydlu yn awr ac roedd y gweithdrefnau a’r arferion
wedi’u mabwysiadu’n dda. Er mwyn rhoi sylw i
faterion perfformiad, roedd rhaid ystyried mynd i’r afael â materion ym mhedwar
prif faes y broses rheoli datblygu - dilysu, oedi o ran ymgyngoreion,
ffosffad a chapasiti staff i ddelio ag achosion. Roedd dilysu yn rhedeg 8
wythnos yn hwyr ac felly roedd achosion yn aml yn cyrraedd swyddogion ar adeg
pan ddylai penderfyniad gael ei wneud fel rheol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn,
darparwyd adnoddau a hyfforddiant yn gorfforaethol. Roedd y sefyllfa bresennol
yn un lle yr oedd y rhan fwyaf o geisiadau’n cael eu prosesu o fewn diwrnod neu
ddau o gael eu cyflwyno, sef lle yr hoffai’r gwasanaeth fod. Roedd materion
eraill yn parhau gan fod nifer sylweddol o geisiadau o ansawdd gwael a olygai y
byddai angen mwy o wybodaeth neu newidiadau ar nifer er mwyn iddynt gael eu
dilysu. Roedd oedi o ran ymgyngoreion yn aml yn adlewyrchu problemau capasiti yn rhywle arall, er enghraifft yn yr adran
Briffyrdd neu Ecoleg. Lle’r oedd gan y Cyngor reolaeth, darparwyd adnoddau
ychwanegol er mwyn helpu i ddelio â materion. Ceisiwyd cael mwy o adnoddau i
gynorthwyo â mewnbwn ecolegol, yn enwedig er mwyn helpu i glirio achosion lle’r
oedd ffosffad wedi bod yn broblem. Arweiniodd mater ffosffad at
nifer o achosion yn cael eu rhoi i’r naill ochr gan greu ôl-groniad o achosion.
Byddai canllawiau newydd a proforma yn helpu i symud
rhai ceisiadau yn eu blaen ond byddai’n rhoi pwysau dros y 3-4 mis nesaf o ran
clirio achosion. At ei gilydd, roedd 511 cais
cynllunio yn awr (lle’n ddelfrydol byddai’r gwasanaeth yn dymuno cael tua 200)
a 550 o achosion gorfodi (ni ddylai fod yn fwy na 200 o achosion yn
ddelfrydol). Gan fod recriwtio staff wedi bod yn anodd, cynhaliwyd ymarfer tendro i ymgysylltu ymgynghorwyr yn gynharach yn y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Cytunwyd cadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd 19 Hydref 2022. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn
amodol ar: ·
Roi diweddariad ar y
sefyllfa o ran ffosffadau a’r gwasanaeth cynllunio yng nghyfarfod Ebrill fel y
cytunwyd yn flaenorol yn y cyfarfod. ·
Cyflwyno Strategaeth Drafnidiaeth
Cymru hefyd yng nghyfarfod Ebrill, a byddai’n cynnwys manylion y caniatâd
cynllunio/tir a oedd yn ofynnol i fwrw ymlaen ag ailagor rheilffordd
Aberystwyth i Gaerfyrddin. |