Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i’r
adroddiad diweddaru ar y Sefyllfa o ran Ffosffadau ar gais y Pwyllgor. Rhoddodd
Dr Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Polisi Cynllunio y cefndir i’r sefyllfa o ran
ffosffadau i’r Aelodau.
Ers cyflwyno’r canllawiau dros
dro a diwygiedig, adroddwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gweithio’n
agos gydag awdurdodau cyfagos sy’n rhannu dalgylchoedd afonydd, sef Sir
Gaerfyrddin (Tywi) a Sir Benfro (Cleddau) er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa:
Ers cyflwyno’r canllawiau ac
wrth i wybodaeth ac arbenigedd ddatblygu yn y maes hwn yn fewnol, adroddwyd bod
yr Awdurdod Cynllunio Lleol bellach o’r farn bod angen strategaeth amlochrog i
fynd i’r afael â’r mater hwn ac roedd felly wedi blaenoriaethu 4 ffrwd waith
benodol, fel a nodir isod:
Gan fod y Cyngor bellach yn
gwybod mai safleoedd trin dŵr gwastraff oedd prif ffynhonnell ffosffadau,
adroddwyd ei bod yn hawdd tybio mai Dŵr Cymru ddylai fod yn datrys y mater
hwn, ond yn anffodus, nid oedd hwn yn ddisgwyliad realistig. Er bod
rhwymedigaeth bellach ar Ddŵr Cymru i roi ystyriaeth fwy cadarn i ganfod
atebion i’r sefyllfa ar lannau’r Teifi, roedd dal yn annhebygol y byddai
cyfarpar angenrheidiol ar gyfer tynnu ffosffadau allan o’r dŵr yn cael ei
osod oherwydd y costau uchel a’r dwysedd isel o ran poblogaeth ymysg ffactorau
eraill fel hydroleg afonydd a math o bridd ac ati. Caiff technoleg lleihau
ffosffad ei chyflwyno i Lanybydder yng Nghynllun
Rheoli Asedau (AMP 7) ond nid yw’r math wedi’i gadarnhau eto ac, yn unol â’u
gweithdrefnau ac amserlenni AMP a chadarnhau lleoliadau ar gyfer gwlypdiroedd
yng Nghynllun Rheoli Asedau 8, nid oedd penderfyniad terfynol wedi’i wneud hyd
yma. Mae’n bwysig, felly, ystyried pob
ffordd bosibl o leihau ffosffadau ac mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol felly wedi
blaenoriaethu’r 4 pwynt canlynol;
1. Mesurau yn y tymor byr i
alluogi datblygu yn y misoedd nesaf: creu cyfrifiannell maethynnau a fydd yn
caniatáu i ddatblygwyr ddeall eu llwyth maethynnau – byddai’r canllawiau ar
gyfer lleddfu’r sefyllfa o ran ffosffadau yn dangos sut y gallent wneud yn iawn
am y llwyth maethynnau y maent yn ei achosi. Byddai’r system fapio GIS yn nodi
a oedd y mesurau lliniaru a gyflwynwyd ganddynt yn gwneud gwahaniaeth. Yn
anffodus, o ystyried maint y datblygiadau yn yr ardal hon, nid oedd llawer o
gyfleoedd i wneud yn iawn am y llwyth maethynnau a achoswyd, ond byddai’n
parhau i ymchwilio i hyn gan newid y canllawiau lliniaru ac ychwanegu atebion
newydd pan fyddent ar gael.
2. Mesurau tymor canolig:
roedd rhain yn cynnwys defnyddio cyngor arbenigol i ganfod, o ystyried y
methiannau o ran monitro’r sefyllfa ar y Teifi o bryd i’w gilydd, a oedd unrhyw
gyrff dŵr yn y dalgylch a oedd yn cyflawni eu targedau yn gyson (gan wneud
yn well na’r targedau). Pe byddai hyn yn bod, gallent greu trothwy gan nodi o
dan y trothwy hwnnw eu bod yn credu mai effaith gyfyngedig y byddai
datblygiadau newydd yn ei chael ar lefelau ffosffadau yn y rhan honno o’r
afon. Golygai hyn bod modd dweud mai dim
ond effaith fach y byddai datblygiadau tai/twristiaeth hyd at ryw faint penodol
yn ei chael ar yr amcanion cadwraeth yn lleoliad XYZ ac felly byddai modd dwyn
y datblygiadau hyn yn eu blaen.
3. Mesurau yn y tymor
canolig/tymor hirach: roedd rhain yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid sydd
eisoes yn gwneud gwaith adfer ar afonydd megis Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddai
hyn yn gyfle i wella ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan greu
hyblygrwydd o fewn dalgylchoedd ar gyfer datblygiadau newydd. Roeddent yn gweithio ar y pryd o dan Adran 6
y Rheoliadau Cynefinoedd i gaffael rhestr o’r holl waith a oedd yn cael ei
wneud a’r bwriad wedyn oedd canfod cyllid i amlhau manteision y cynlluniau
presennol, gan ddefnyddio pwerau rheoleiddiol y sefydliadau a oedd yn
bartneriaid. Byddai hyn ar ffurf o
ymestyn y lleiniau clustogi ar lan yr afon mwy na thebyg. Dyma’r ffordd
fesuradwy fwyaf llwyddiannus o atal ffosffadau rhag mynd i mewn i’r afon.
4. Mesurau hirdymor: roedd
rhain yn cynnwys gweithio gyda Dŵr Cymru ac unrhyw bartïon eraill a
chanddynt fuddiant gan gyflawni gwaith peirianyddol wrth greu gwlypdiroedd.
Byddai hyn yn bodloni gofynion trwyddedau Dŵr Cymru o ran safleoedd trin
gwastraff dŵr gan hefyd greu hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer datblygiadau
tai/twristiaeth ychwanegol yn nalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig Afon
Teifi. Oherwydd y gwaith cynllunio
hirdymor a oedd ynghlwm wrth ddatblygiadau o’r fath gan gynnwys caffael tir,
sicrhau caniatâd cynllunio a chanfod cyllid, byddai hyn yn cymryd cryn amser
i’w wireddu ond yn y pen draw dyma fyddai’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o
sicrhau atebion go iawn.
Adroddwyd bod nifer o gynlluniau
lliniaru eraill yn bosib ac archwiliwyd pob un ohonynt, gan gofio bod hyfywedd
y rhanbarth yn gyfyngedig. Byddid felly yn ceisio sicrhau bod cost yr holl
fesurau yn un rhesymol i ddatblygwyr.
Wrth gwrs, byddai hyn yn golygu y byddai angen i’r awdurdod lleol neu
Lywodraeth Cymru ariannu rhan fwyaf y costau hyn. Roedd yn rhy gynnar dyfalu
beth yn union fyddai’r costau hyn ond pan fyddai’r wybodaeth hon ar gael,
byddai adroddiadau priodol yn cael eu paratoi.
Roedd effaith y canllawiau ar
feysydd gwasanaeth eraill hefyd yn ystyriaeth bwysig:
Ers cyhoeddi’r canllawiau
diwygiedig, adroddwyd bod y gwasanaeth Rheoli Datblygu wedi paratoi pecyn
cymorth i ddatblygwyr fel y gellid gwirio a oedd unrhyw un o’r ceisiadau nad
oedd penderfyniadau wedi’u gwneud yn eu cylch bellach yn cydymffurfio â’r
rheoliadau a oedd yn ymwneud â safleoedd preifat ar gyfer trin carthion. O dan
feini prawf penodol iawn, roedd modd bellach cymeradwyo’r rhain ond roedd
paramedrau a fyddai’n sicrhau eu bod yn dderbyniol yn llym iawn ac felly ni
fyddai hwn yn ateb a fyddai ar gael i bawb. Roedd y gwasanaeth yn parhau i
weithio drwy’r achosion sydd wedi’u hôl-gronni a’r rheiny sydd newydd eu
cyflwyno i wirio lle y gallai’r canllawiau fod yn berthnasol a lle y byddai
modd dwyn datblygiad yn ei flaen. O ystyried bod yn rhaid i’r datblygwyr ddilyn
gofynion eithaf beichus wrth gyflwyno gwybodaeth i fodloni’r gofynion, roedd y
broses yn un gymharol araf gan ei bod yn bosib y byddai dal angen gwneud
profion i fesur unrhyw effaith sylweddol debygol a chynnal asesiadau priodol,
lle bo angen, cyn y gellid symud ymlaen i gam y penderfyniad (byddai angen
arbenigedd ecolegol ar gyfer unrhyw brawf neu asesiad).
Bu’r tîm ecolegol yn
llwyddiannus yn ei gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer y
Prosiect Lleihau a Lliniaru Ffosffadau (PRAM). Cafodd swyddog prosiect ei
benodi (er i hynny ddigwydd yn hwyrach na’r hyn a fwriadwyd) ac roedd y swyddog
yn gorfod dilyn amserlenni tynn o ran y cyllid wrth ddechrau ar raglen waith i
sefydlu lleiniau clustogi ar lannau’r afon ac ystyried dichonolrwydd
gwlypdiroedd ar dir yr oedd y sector cyhoeddus yn berchen arno. Yn anffodus, lluniwyd y prosiect hwn cyn i ni
sylweddoli hyd a lled y mater hwn yn llawn a dod i ddeall pa fesurau lliniaru
fyddai orau. Felly, o wybod yr hyn yr ydym yn ei wybod yn awr, efallai y byddai
pethau wedi cael eu gwneud yn wahanol. Wedi dweud hynny, prif ganlyniad y
gwaith yn gyffredinol fyddai lleihau ffosffadau yn Ardal Cadwraeth Arbennig
Afon Teifi ac roedd hyn i’w groesawu.
Roedd yn debygol ar ryw adeg
yn ystod chwarter 1 yn 2023 y byddai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn derbyn
cyhoeddiad ynglŷn â maethynnau morol yng nghyswllt yr Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig morol, ac nid oedd yn gwybod beth fyddai hyd a lled hyn. Rhagwelwyd y byddai hyn yn ymwneud â
methiannau o ran cyrraedd y targedau a oedd yn gysylltiedig â nitrogen (ystyrid
hyn yn fwy o bryder mewn amgylcheddau morol). Roedd tair Ardal Cadwraeth
Arbennig Morol ar hyd arfordir Ceredigion (ACA Bae Ceredigion, ACA Pen Llŷn
a’r Sarnau ac ACA Morol Gorllewin Cymru) a phe byddai’r Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig hyn yn methu eu targedau a/neu pe byddai canllawiau tebyg i’r rhai a
gyhoeddwyd yn Lloegr yn dod i rym yn yr ardal hon, gallai arwain at waharddiad
ar draws y sir gyfan ar bob datblygiad a oedd yn cynyddu dŵr
gwastraff. Fodd bynnag, roedd yn bwysig
nodi nad oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwybod beth fyddai’n cael ei
gyhoeddi nac ychwaith a oedd mewn sefyllfa lle nad oedd yn llwyddo i gyrraedd y
targedau. Hefyd, rhaid cofio bod y gwersi yr ydym ni wedi’u dysgu hyd yma
ynglŷn â ffosffadau yn golygu ein bod mewn gwell sefyllfa i reoli materion
fel hyn a rhaid cofio hefyd fod gennym lwybr clir ar gyfer rheoli’r effaith.
Roedd hefyd yn gwybod ei bod yn haws cyflwyno mesurau lliniaru i fynd i’r afael
â nitrogen o gymharu â’r hyn yr oedd angen ei wneud i ymdrin â ffosffadau ac
roedd yr holl waith yr oeddem ar fin ei wneud o ran lleihau ffosffadau hefyd yn
gweithio wrth ddelio â nitrogen. Felly, wrth i ni fwrw ymlaen â’r ffrydiau
gwaith, roeddem hefyd yn cynnwys trefniadau mwy eang ar gyfer monitro
maethynnau a gwella’r sefyllfa gan ystyried mesurau lliniaru ar gyfer
maethynnau eraill yn ogystal â ffosffadau, lle’r oedd modd gwneud hyn.
Roedd y canlynol yn Ffrydiau
Gwaith y Dyfodol:
• Comisiynu Asesiad Rheoliadau
Cynefinoedd er mwyn cael cyngor arbenigol ar adroddiad cydymffurfio Cyfoeth
Naturiol Cymru ynghylch Afon Teifi, a lle bo’n briodol herio Cyfoeth Naturiol
Cymru mewn modd adeiladol yn ei rôl fel corff cadwraeth natur.
• Parhau i lobïo Llywodraeth
Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn eu rôl fel rheoleiddwyr amgylcheddol er mwyn
cael eglurder o ran dehongliad ac arweinyddiaeth glir.
• Cynnal adolygiad defnydd tir
strategol o asedau’r Awdurdod gan nodi safleoedd at ddibenion lliniaru – byddwn
yn cysylltu hyn â’r strategaeth gwaredu a’r prosiect Lleihau a Lliniaru
Ffosffadau (PRAM).
• Nodi mesurau lliniaru posibl
ar y safle ac oddi ar y safle gan greu rhestr fer ohonynt – casglu tystiolaeth
a pharatoi costau amlinellol lefel uchel ar gyfer y cynlluniau lliniaru sydd ar
y rhestr fer, gan gynnwys gwahanu dŵr wyneb, gosod cyfarpar hidlo, plannu
llystyfiant, creu gwlypdiroedd– cynnal arfarniadau dichonolrwydd a thechnegol a
nodi ffrydiau ariannu.
• Paratoi mapiau GIS a oedd yn
dangos yr opsiynau lliniaru.
• Datblygu strategaeth ar
gyfer cyflawni cynlluniau lliniaru oddi ar y safle.
• Sefydlu fframwaith ar gyfer
System Cyfnewid Credydau Maethynnau, ei ddatblygu a’i roi ar waith.
• Datblygu Canllawiau
Cynllunio Atodol ynghylch Rheoli Maethynnau gan alluogi iddynt gael eu cyflenwi
yn lleol.
• Archwilio’r posibilrwydd o
ôl-osod Stoc Dai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gan gynnwys mesurau
arbed dŵr fel y gellid darparu Tai Fforddiadwy.
• Datblygu Canllawiau
Cynllunio Atodol ynghylch cadw dŵr a lleihau’r defnydd ohono
• Datblygu cyfleoedd ar gyfer
amodau Grampian a chytundebau adran 106 i sicrhau
mesurau lliniaru
Yn dilyn cwestiynau a sylwadau o’r llawr, CYTUNWYD y byddid yn rhoi diweddariad ar y Sefyllfa o ran Ffosffadau yng Nghyfarfod Ebrill 2023
Dogfennau ategol: