Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Mercher, 7fed Rhagfyr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Diweddariad ar y sefyllfa o ran Ffosffadau pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad diweddaru ar y Sefyllfa o ran Ffosffadau ar gais y Pwyllgor. Rhoddodd Dr Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Polisi Cynllunio y cefndir i’r sefyllfa o ran ffosffadau i’r Aelodau.

 

Ers cyflwyno’r canllawiau dros dro a diwygiedig, adroddwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau cyfagos sy’n rhannu dalgylchoedd afonydd, sef Sir Gaerfyrddin (Tywi) a Sir Benfro (Cleddau) er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa:

  • Gyda’i gilydd, roedd gan y Cyngor 3 Bwrdd Rheoli Maethynnau ac roedd wedi cynnal y cyfarfodydd sefydlu, datblygu cylch gorchwyl a sefydlu Grŵp Swyddogion Technegol a Grŵp Rhanddeiliaid.
  • Wedi lobïo Llywodraeth Cymru dros gyllid ar gyfer y Byrddau Rheoli Maethynnau, a dyfarnwyd swm o £75,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023, a disgwylid £100,000 y dalgylch am y 3 blynedd nesaf.
  • Wedi penodi Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Byrddau Rheoli Maethynnau i fwrw ymlaen â gwaith y Byrddau Rheoli Maethynnau a datblygu’r Cynllun Rheoli Maethynnau ar gyfer y dalgylch – maent yn bwriadu hysbysebu am swyddog i gefnogi’r rôl hon yn yr wythnosau nesaf.
  • Wedi penodi ymgynghorwyr i ehangu canllawiau lliniaru a chyfrifiannell Maethynnau Sir Gaerfyrddin i ddalgylchoedd Teifi a Chleddau.  Disgwylid i hyn fod yn barod ym mis Ionawr/Chwefror 2023. Byddai rhai pryderon a fynegwyd gan CNC yn cael sylw yn y datganiad newydd a rhagwelwyd y byddai’r gyfrifiannell hon yn cael ei mabwysiadu’n genedlaethol a’i chyflwyno fel Cyfrifiannell Maethynnau Cymru Gyfan.
  • Roedd y Cyngor wedi cynnal ymarfer mapio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ar draws y 3 dalgylch, ac erbyn hyn roedd ganddo fodelau manwl o ble roedd y mannau â’r nifer uchaf o ffosffadau, ac wedi awgrymu mesurau lliniaru i leihau’r ffosffadau sy’n golchi i’r afon.
  • Roedd y Cyngor yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i greu Cynllun Cyfnewid Credyd Maethynnau yn rhanbarthol, gan gysylltu â Dŵr Cymru a oedd hefyd yn gweithio ar brosiect tebyg o safbwynt Cwmni Dŵr.
  • Roedd yn ceisio cyngor manwl ar greu strategaethau tymor hir ar gyfer y Byrddau Rheoli Maethynnau drwy’r arbenigwr blaenllaw yn y maes, gan gynnwys ailystyried/profi cyrff dŵr y dalgylch i gadarnhau a oedd rhai lle gallem weithredu trothwy ‘de-minimis’ lle gallai datblygiad fod yn dderbyniol.
  • Roedd Dŵr Cymru wedi cwblhau’r gwaith dosrannu ffynonellau ar Afon Teifi a datgelodd hyn bod 68% o’r ffosfforws a samplwyd yn yr afon yn dod o Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn hytrach na llygredd ffosffad gwasgaredig (dŵr ffo amaethyddol a dŵr wyneb ffo) fel y disgwyliwyd yn flaenorol.
  • Er mwyn mynd i’r afael â ffynhonnell y ffosffadau roedd y Cyngor yng nghamau cynnar gweithio gyda Dŵr Cymru i sefydlu safleoedd ar gyfer gwlypdiroedd a sut y gallai hyn eu datblygu i nid yn unig mynd i’r afael â lefel trwyddedi Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff ond hefyd i sicrhau bod modd caniatáu rhywfaint o ddatblygu yn y dyfodol.
  • Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn dechrau cysylltu â CNC ynglŷn â ble roedden nhw’n ymgymryd â phrosiectau adfer afonydd er mwyn gallu neidio ar gefn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Mr Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio bod Archwilio Cymru, yn 2021, wedi cwblhau arolwg o’r Gwasanaeth Cynllunio yng Ngheredigion. Cafodd y ddogfen adolygu derfynol ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi 10 argymhelliad yn ymwneud â threfniadau llywodraethu a gwella capasiti’r gwasanaeth.

 

Roedd Atodiad 1 yn cyflwyno ymateb y Cyngor a’r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r argymhellion hyn.

 

Adroddwyd bod y gwaith wedi’i symud yn ei flaen drwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd yn gynharach yn 2021 i roi Cynllun Gweithredu ar waith ar gyfer gwella materion llywodraethu a pherfformiad. Roedd y ffocws hyd at fis Mawrth 2022 yn bennaf ar fynd i’r afael â materion llywodraethu a dynodi adnodd ychwanegol i ddelio ag ôl-groniadau mewn ceisiadau cynllunio a gorfodi.

 

Arweiniodd y gwaith ar faterion llywodraethu at newidiadau i’r Cyfansoddiad y cytunwyd arnynt ym mis Mawrth 2022 gan gynnwys:

 

  • Cylch Gorchwyl Newydd
  • Gweithdrefnau Gweithredol Newydd
  • Cod Ymarfer Newydd
  • Pwerau Dirprwyedig Newydd

 

Adroddwyd bod hyfforddiant wedi’i ddarparu i bob Aelod ar ôl yr etholiadau ym mis Mai; roedd y newidiadau hyn wedi’u sefydlu yn awr ac roedd y gweithdrefnau a’r arferion wedi’u mabwysiadu’n dda.

 

Er mwyn rhoi sylw i faterion perfformiad, roedd rhaid ystyried mynd i’r afael â materion ym mhedwar prif faes y broses rheoli datblygu - dilysu, oedi o ran ymgyngoreion, ffosffad a chapasiti staff i ddelio ag achosion.

 

Roedd dilysu yn rhedeg 8 wythnos yn hwyr ac felly roedd achosion yn aml yn cyrraedd swyddogion ar adeg pan ddylai penderfyniad gael ei wneud fel rheol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, darparwyd adnoddau a hyfforddiant yn gorfforaethol. Roedd y sefyllfa bresennol yn un lle yr oedd y rhan fwyaf o geisiadau’n cael eu prosesu o fewn diwrnod neu ddau o gael eu cyflwyno, sef lle yr hoffai’r gwasanaeth fod. Roedd materion eraill yn parhau gan fod nifer sylweddol o geisiadau o ansawdd gwael a olygai y byddai angen mwy o wybodaeth neu newidiadau ar nifer er mwyn iddynt gael eu dilysu.

 

Roedd oedi o ran ymgyngoreion yn aml yn adlewyrchu problemau capasiti yn rhywle arall, er enghraifft yn yr adran Briffyrdd neu Ecoleg. Lle’r oedd gan y Cyngor reolaeth, darparwyd adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i ddelio â materion. Ceisiwyd cael mwy o adnoddau i gynorthwyo â mewnbwn ecolegol, yn enwedig er mwyn helpu i glirio achosion lle’r oedd ffosffad wedi bod yn broblem.

 

Arweiniodd mater ffosffad at nifer o achosion yn cael eu rhoi i’r naill ochr gan greu ôl-groniad o achosion. Byddai canllawiau newydd a proforma yn helpu i symud rhai ceisiadau yn eu blaen ond byddai’n rhoi pwysau dros y 3-4 mis nesaf o ran clirio achosion.

 

At ei gilydd, roedd 511 cais cynllunio yn awr (lle’n ddelfrydol byddai’r gwasanaeth yn dymuno cael tua 200) a 550 o achosion gorfodi (ni ddylai fod yn fwy na 200 o achosion yn ddelfrydol).

 

Gan fod recriwtio staff wedi bod yn anodd, cynhaliwyd ymarfer tendro i ymgysylltu ymgynghorwyr yn gynharach yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

 

Cytunwyd cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Hydref 2022.

 

6.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar:

·       Roi diweddariad ar y sefyllfa o ran ffosffadau a’r gwasanaeth cynllunio yng nghyfarfod Ebrill fel y cytunwyd yn flaenorol yn y cyfarfod.

·       Cyflwyno Strategaeth Drafnidiaeth Cymru hefyd yng nghyfarfod Ebrill, a byddai’n cynnwys manylion y caniatâd cynllunio/tir a oedd yn ofynnol i fwrw ymlaen ag ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin.