Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 05 Hydref 2023 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2023 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Dim.

 

 

4.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Adroddiad diweddariad cyffredinol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn adolygu a thrafod cynnydd a chyflwyniad y Ddeddf Trwyddedu 2003, ynghyd ag unrhyw faterion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau sydd o ddyletswydd i’r Pwyllgor hwn yn benodol. Mae materion ategol o'r fath yn cynnwys Deddf Gamblo 2005.

 

Darparwyd y diweddariad canlynol:-

 

  • Ceisiadau lle roedd gwrthwynebiad (Adolygiadau/Apeliadau)
  • Ymgynghoriad - Ymestyn oriau Trwyddedu yn ystod gemau pêl-droed UEFA 2024
  • Canllawiau Adran 182 diwygiedig
      • Canllawiau Statudol – Sbeicio Diod
      • Sbeicio Diod

 

Yn dilyn cwestiynau ar gynnwys yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad er gwybodaeth.