Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorwyr Steve
Davies, Endaf Edwards a Caryl Roberts am na fedrent fod yn
bresennol yn y cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Amanda
Edwards am na fedrai fod yn bresennol
yn y cyfarfod gan ei bod yn
cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd
Euros Davies fuddiant personol
yng nghyswllt yr Hysbysiadau o Ddigwyddiadau Dros Dro. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022 yn gywir yn amodol
ar nodi bod y Cynghorydd
Paul Hinge wedi anfon ei ymddiheuriadau. Materion yn codi 6(iii) Cadarnhawyd bod llythyr wedi’i anfon at y Comisiwn Gamblo. Adroddwyd bod y Comisiwn wedi ymateb
drwy ddweud wrth y Swyddogion y dylai’r sylwadau hyn gael eu
cyflwyno pan fyddai’r Adran dros Dechnoleg
Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn cynnal yr
ymgynghoriad nesaf. |
|
Diweddariad Cyffredinol Cofnodion: Ystyriwyd yr
Adroddiad ynghylch y Diweddariad Cyffredinol. Cyflwynwyd yr adroddiad
er mwyn diweddaru’r Aelodau am faterion perthnasol a oedd yn ymwneud â Deddf
Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005. Rhoddwyd y diweddariad
canlynol ynglŷn â materion a oedd yn gysylltiedig â Deddf Trwyddedu 2003:-
O ran materion a oedd yn gysylltiedig
â Deddf Gamblo 2005, rhoddwyd y diweddariad canlynol:-
CYTUNWYD ynghylch y canlynol: (i) nodi’r adroddiad
er gwybodaeth; (ii) y byddai’r sylwadau / pryderon a godwyd gan yr
Aelodau ynghylch y problemau a gafodd ymwelwyr anabl / rhieni ar faes
yr Eisteddfod yn cael eu trosglwyddo
i Swyddogion yr Eisteddfod fel y gallent roi
sylw iddynt cyn yr Eisteddfod nesaf ; a (iii) nodi y byddai’r manylion am yr ymgynghoriad nesaf ynghylch y Ddeddf Gamblo yn cael
ei rhannu, yn unol â’r
drefn arferol, drwy dudalen Facebook y Cyngor a thrwy swyddfa’r wasg. |