Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 10fed Medi, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Personal

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyn James fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor  at farwolaeth  sydyn  y Cynghorydd Paul Hinge yn ddiweddar, a oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor a thalodd deyrnged i’w waith helaeth o fewn y Cyngor Sir. Estynnwyd cydymdeimlad â’i deulu. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan am nad oedd hi’n gallu bod yn y cyfarfod.

 

3.

Datganiad o fuddiant personol/buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Wyn Evans fuddiant personol ar eitem 5.

 

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod 21 Maweth 2024 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Dim.

 

5.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Adroddiad ynghylch y diweddariad cyffredinol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn adolygu a thrafod cynnydd a datblygiad Deddf Trwyddedu 2003, ynghyd ag unrhyw faterion ategol sy'n deillio o gyfrifoldebau’r Pwyllgor hwn yn benodol. Mae materion ategol o'r fath yn cynnwys Deddf Gamblo 2005.

 

Darparwyd diweddariad ar Faterion Cysylltiedig â Deddf Trwyddedu 2003 - ESAG’s (Grŵp Cynghori Diogelwch Digwyddiadau) - Digwyddiadau Deddf Trwyddedu 2003

Tân Yn Y Mynydd /Fire In The Mountain, Abermagwr, Aberystwyth

30 Mai 2024 – 3 Mehefin 2024

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr ar gynnwys yr adroddiad, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

 

6.

Datganiad o Bolisi Gamblo Ceredigion a'r Cynigion ar gyfer Casinos pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddatganiad Drafft Ceredigion o Bolisi Gamblo a Chynigion ar gyfer Casinos. Cyflwynwyd yr adroddiad i ystyried y dull i’w fabwysiadu gan Gyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â cheisiadau am safleoedd Casino cyn eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn ac i ystyried y ‘Datganiad Drafft o Bolisi Hapchwarae 2025’ cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

Darparwyd y cefndir i’r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd y Polisi Gamblo diwygiedig yn disodli’r polisi cyfredol ar 31 Ionawr 2025  (mae’r mân newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud i’r polisi presennol wedi’u hamlygu yn goch). Adroddwyd bod y polisi Hapchwarae presennol wedi bod yn effeithiol o ran rhoi arweiniad i’r Swyddogion, yr Aelodau, deiliaid trwyddedau ac eraill sydd wedi derbyn awdurdodiadau a roddwyd o dan Ddeddf Gamblo 2005, ynghyd ag aelodau’r cyhoedd, i ddeall sut y bydd yr Awdurdod yn rhoi ei ddisgresiwn ar waith ac yn defnyddio ei bwerau o dan y Ddeddf. Felly, ni ystyrir bod angen gwneud newidiadau mawr i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y polisi Gamblo presennol.

 

Hefyd, mae'r Comisiwn Hapchwarae ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r Cod Ymddygiad ynghylch Cyfrifoldeb Cymdeithasol, a fydd yn cael ei wneud fesul cam. Mae’n debygol y bydd y newidiadau terfynol yn dod i rym ar 17 Ionawr 2025. Bydd y Comisiwn yn adolygu’r trefniadau ynghylch pryniannau prawf, yn cryfhau’r trefniadau o ran gwirio oedran gan symud o’r polisi ‘Meddwl 21’ i’r polisi ‘Meddwl 25’ (h.y. os bydd rhywun neu rywrai yn edrych fel petaent o dan 25 oed, bydd gofyn iddynt gadarnhau eu hoedran i brofi eu bod mewn gwirionedd dros 18 oed a bod ganddynt hawl i gamblo) ac yn ystyried gwiriadau bregusrwydd ariannol.

 

Mae'r Comisiwn Hapchwarae wedi nodi y dylai Awdurdodau Lleol barhau i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddiweddaru eu Polisïau  gan na ddylai'r cynigion yn y Cod Ymarfer effeithio ar ddatganiad polisi’r Awdurdod Lleol. Mae'r Ddeddf Gamblo yn dal i gael ei hadolygu ac mae Rheolwr Polisi'r Comisiwn Hapchwarae wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:

"As required by the Gambling Act 2005 each Licensing Authority is required to renew their Statement every 3 years. The renewal date in this current cycle is January 2025. The Commission is advising that you should make plans as to how to conduct this renewal process.”

"Given the ongoing consultations regarding the Gambling Act it is very unlikely that we will be able to amend the Guidance to Licensing Authorities document in sufficient time for you to incorporate changes within your own Statement."Whilst it is a matter for local determination, we suggest that the Statement is refreshed in line with the requirements of the Act so as to be enforceable from January 2025. Thereafter we will publish a revised GLA which you can include in a refreshed Statement. You are permitted to revise your Statement within the 3-year timescale”.

 

Casinos

Bydd angen i'r Cyngor ystyried yn gyntaf a ydyw am barhau â'r penderfyniad i beidio â chael casino yn y Sir. Bydd y penderfyniad hwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.