Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd Miss Caryl Davies a Ms
Carol Edwards am na fedrent ddod i’r cyfarfod. Yn absenoldeb y
Cadeirydd, cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Is-gadeirydd, Mr John
Weston. Roedd y Cynghorydd Delyth James wedi dod
i’r cyfarfod. Fodd bynnag, oherwydd y rheolau yn ymwneud â’r cworwm, cytunwyd y
byddai’n gadael y Pwyllgor er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng nifer yr Aelodau
Annibynnol a’r Cynghorwyr. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:- |
|
Cynghorydd Bryan Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 3 MB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 17 Hydref 2023 oddi
wrth y Cynghorydd Bryan
Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn
am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar Dai Gwag Hirdymor
ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. Gyda’i wraig a’i frawd,
roedd yn gyd-berchen ar dŷ. Roedd y tŷ yn cael
ei osod ar
rent i deulu yn yr hirdymor. Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn
y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd
i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor
ystyried ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai
cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef
yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae
busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei
gynnal, (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau)
(Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynhgorydd Ifan Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 145 KB Cofnodion: Roedd y Pwyllgor
o’r farn nad oedd digon o wybodaeth yn y cais. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad yn unig (am nad oedd digon o wybodaeth
yn ei ffurflen gais ynglŷn â’r eiddo yr oedd yn berchen arno), ar y sail
bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol
iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliad (f) o Reoliadau
Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am
gyfnod o 12 mis. |
|
Cynhghorydd Catrin M S Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 145 KB Cofnodion: Cafwyd
cais dyddiedig 03 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Catrin M S
Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn
am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch codi trethi ar
ail gartrefi. Roedd yn berchen ar eiddo gwag ond nid oedd yn berchen ar gartref gwyliau. Ni fyddai codi trethi ar gartrefi gwyliau yn effeithio arni.
Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i chais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y cyfarfod fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion PDF 146 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig
27 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Rhodri
Evans, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn
am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar Dai Gwag Hirdymor
ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. Roedd yn berchen ar
eiddo (ar wahân i’w gartref)
a oedd yn
cael ei osod
ar rent. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r
Cynghorydd Evans siarad
a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud
ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd
y mae busnes yr awdurdod perthnasol
yn cael ei
gynnal, bod y buddiant yn gyffredin i’r
aelod ac i gyfran sylweddol o’r cyhoedd a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd
rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol
iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(rheoliadau 2 (d) (e) ac (f) o Reoliadau
Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Marc Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 143 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 21 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Marc Davies, Cyngor Sir
Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch treth y
Cyngor ar ail gartrefi. Roedd ganddo eiddo arall yr oedd yn ei osod allan ar
gytundebau hirdymor. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r
Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr
aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd
yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, bod y
buddiant yn gyffredin i’r aelod ac i gyfran sylweddol o’r cyhoedd a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d)
(e) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Meirion Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 153 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig
27 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Meirion
Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn
am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor. Roedd yn berchen
ar lety gwyliau
ar ei fferm. Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Wyn Evans, Cyngor Sir Ceredigion PDF 146 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig
27 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Meirion
Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn
am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor. Roedd yn berchen
ar lety gwyliau
ar ei fferm. Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2023 PDF 109 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2023 yn gywir. Materion
yn codi Cofnod 3 – Dywedodd y Swyddog Monitro fod Ms Gail Storr wedi
cytuno i fod yn Aelod Annibynnol o is-bwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig
Canolbarth Cymru. Byddai’r trefniadau hyn yn cael eu cadarnhau yng nghyfarfod y
Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023. Nodwyd bod Carol Edwards eisoes wedi cytuno i fod yn
Aelod Annibynnol ar yr is-bwyllgor ac mai’r Cynghorydd Gwyn Wigley Evans fyddai cynrychiolydd y
Cynghorwyr ar yr is-bwyllgor. Cofnod 7 – Dywedwyd bod Ms Llinos James wedi’i phenodi fel
aelod annibynnol newydd ar 16 Tachwedd 2023 ac y byddai’n olynu Mr John Weston
ar 22 Chwefror 2024. Byddai’r penodiad hwn yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod
y Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023. Cofnod 13 – Roedd Hysbysiadau o Benderfyniadau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi’u dosbarthu drwy e-bost cyfrinachol. Dywedodd
y Swyddog Monitro iddi fod yng nghyfarfod o Grŵp y Swyddogion Monitro ar
01 Rhagfyr 2023 ac adroddwyd mai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
fyddai’n dosbarthu’r canllawiau o hyn ymlaen ynghylch y llythyron o
benderfyniadau ynglŷn â gwrandawiadau pwyllgorau safonau. Cofnod 14- Yn ystod cyfarfod o Grŵp y Swyddogion
Monitro, cytunwyd nad oedd y wybodaeth a ddarperid ar wefan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch penderfyniadau – yr hyn a oedd wedi
disodli’r Coflyfr - yn hawdd mynd ato. Roedd sylw yn cael ei roi i’r mater hwn
ar hyn o bryd a byddai cylchlythyr hefyd yn cael ei ddosbarthu yn y dyfodol. Cofnod 15- Roedd y Swyddog Monitro wedi rhoi gwybod i’r
grŵp fod Cadeirydd Pwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion wedi gofyn am gael
rhoi Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar
agenda nesaf Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau fel y gellid ei ystyried.
Byddai’r Cadeirydd yn rhoi adborth o’r Fforwm yn y cyfarfod nesaf (29/1/24). Cofnod 16- Dywedodd y Swyddog Monitro iddi roi gwybod i
Grŵp y Swyddogion Monitro fod Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir
Ceredigion wedi cytuno y byddai trothwy rhodd/lletygarwch ar gyfer Aelodau
Cyngor Sir Ceredigion yn aros ar £21. Nodwyd mai adolygiad Penn oedd wedi
argymell y £25. Serch hynny, argymhelliad yn unig oedd hwn a byddai angen
deddfwriaeth i sicrhau cysondeb. |
|
Adborth o'r gweithdy ynghylch asesiad cydymffurfio arweinwyr y grwpiau gwleidyddol PDF 91 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad yn
amodol ar y canlynol:- (i) ers cyhoeddi’r
agenda, bod dyddiadau’r gweithdai
wedi’u pennu ac y byddent yn cael
eu cynnal ar 24 Ebrill 2024 a 20 Mai 2024; (ii) y byddai Arweinwyr
y Grwpiau yn cael eu gwahodd
i’r cyfarfod a fyddai’n cael ei
gynnal ar 06 Mawrth 2024;
ac (iii) roedd angen
hysbysu Arweinwyr y Grwpiau mai dim ond dau o’r
Aelodau oedd wedi gwneud yr
hyfforddiant ar-lein ynghylch y Cyfryngau Cymdeithasol ac y dylai pob Cynghorydd gwblhau’r hyfforddiant hwn cyn gynted
ag y bo modd. |
|
Adolygu'r ffurflen gais am ollyngiad PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i gymeradwyo’r
ffurflen gais ddiwygiedig am ollyngiad yn amodol ar hefyd gynnwys enw’r Ward yr
oedd y Cynghorwyr Sir yn eu cynrychioli o dan ‘Eich Manylion’. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Cofnodion: CYTUNWYD y
byddai Ms Gail Storr yn cael ei phenodi’n Is-gadeirydd o 22 Chwefror 2024 am
gyfnod o bedair blynedd. Roedd angen
cytuno i’r penodiad yn y cyfarfod hwn gan na fyddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal tan fis Mawrth 2024. Byddai’r Cyngor yn cael ei hysbysu ar 14/12/23. Diolchodd yr
holl Aelodau i Mr John Weston am ei waith ar y Pwyllgor dros y chwe blynedd
ddiwethaf gan ddymuno’n dda iddo at y dyfodol. |