Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 05 Mehefin 2023 PDF 95 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 05 Mehefin 2023 yn gywir yn amodol ar newid dyddiad tymor Mr John Weston yn Is-gadeirydd oherwydd mae’n parhau’n Is-gadeirydd hyd 22 Chwefror 2024 ac nid 2023 fel y nodwyd ar dudalen 5 o’r agenda. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Cofnod 6 – Dywedodd y Swyddog Monitro fod Adroddiad
Blynyddol 2022/23 y Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi’i gyflwyno i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn unol â Chanllaw Statudol 7.8. Cofnod 12 - Ffurflen ymateb i ymgynghoriad: WG47012,
Argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o'r Fframwaith Safonau Moesegol (Adroddiad
Richard Penn) - Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr ymateb wedi'i grynhoi a'i
anfon i Lywodraeth Cymru. Anfonwyd copi o'r ymateb at Aelodau'r Pwyllgor drwy
e-bost a gellir cyflwyno'r ymateb fel eitem i'w nodi ar yr agenda nesaf. Cofnod 9 - Adroddwyd bod y Cyngor Llawn wedi cytuno i
ymestyn tymor Ms Carol Edwards yn y swydd o 22/2/2024 hyd 21/2/2028. Adroddodd y Swyddog Monitro fod Cyngor Sir Powys wedi gofyn
am Aelod Lleyg pellach ar gyfer is-bwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforaethol
Canolbarth Cymru. Dywedodd y Cadeirydd y bydd angen penodi Is-gadeirydd o
Chwefror 2024 ymlaen. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu PDF 101 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Cofnod o Gamau Gweithredu fel y'i cyflwynwyd ar yr amod y newidir dyddiad y Gweithdy o 16 i 15 Tachwedd 2023. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol: |
|
Y Cynghorydd Gareth Davies - Cyngor Sir Ceredigion PDF 144 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 11 Hydref 2023 oddi wrth y Cynghorydd
Gareth Davies, Cyngor Sir Ceredigion, yn gofyn am ollyngiad i siarad a
phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar Dai Gwag Hirdymor ac Ail
Gartrefi yng Ngheredigion. Gyda’i wraig, roedd yn gyd-berchen ar eiddo a oedd
ar osod. Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y cyfarfod fideo er
mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Catrin M S Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 183 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 3 Hydref 2023 oddi wrth y Cynghorydd
Catrin M S Davies, Cyngor Sir Ceredigion, yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio
ynghylch codi trethi ar dai gwag. Mae hi’n berchen ar eiddo gwag. Gall codi
treth ar eiddo gwag gael effaith arni. Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno’i chais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y cyfarfod fideo er
mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad yn unig ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Gareth Ioan - Cyngor Cymuned Llanllwchaearn PDF 216 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 13 Hydref 2023 oddi wrth y Cynghorydd Gareth Ioan, Cyngor Cymuned Llanllwchaearn, yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ynghylch Premiwm Treth y Cyngor. Roedd yn rhan-berchen ar dŷ gwyliau yng Ngheredigion. Roedd y Cynghorydd Ioan yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais.
Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y cyfarfod fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.
PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Ioan siarad yn unig ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Calon Tysul) PDF 156 KB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 8 Medi 2023 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans yn gofyn am ollyngiad
i siarad a phleidleisio ar gyllid posib
i Calon Tysul.
Mae’r Cynghorydd
Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori’r Pwyllgor
Rheoli. Ac yntau’n aelod lleol o'r
Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned,
mae sefydliadau lleol yn edrych
tuag at aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chefnogaeth. Roedd y Cynghorydd
Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd i’r
Cynghorydd Evans adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried
ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Calon Tysul) PDF 156 KB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 8 Medi 2023 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans yn gofyn am ollyngiad
i siarad a phleidleisio ar gyllid posib
i Calon Tysul.
Mae’r Cynghorydd
Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori’r Pwyllgor
Rheoli. Ac yntau’n aelod lleol o'r
Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned,
mae sefydliadau lleol yn edrych
tuag at aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chefnogaeth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) PDF 157 KB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 8 Medi 2023 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans yn gofyn am ollyngiad
i siarad a phleidleisio ar gyllid posib
i Gymdeithas Chwaraeon
Llandysul. Mae’r Cynghorydd
Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori’r Pwyllgor
Rheoli. Ac yntau’n aelod lleol o'r
Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned,
mae sefydliadau lleol yn edrych
tuag at aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chefnogaeth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) PDF 157 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 8 Medi 2023 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ar gyllid posib i Gymdeithas Chwaraeon Llandysul. Mae’r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori’r Pwyllgor Rheoli. Ac yntau’n aelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn edrych tuag at aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chefnogaeth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Llandysul Pontweli) PDF 156 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 8 Medi 2023 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ar gyllid posib i Gymdeithas Chwaraeon Llandysul. Mae’r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori’r Pwyllgor Rheoli. Ac yntau’n aelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn edrych tuag at aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chefnogaeth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Llandysul Pontweli) PDF 158 KB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 8 Medi 2023 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans yn gofyn am ollyngiad
i siarad a phleidleisio ar gyllid posib
i Llandysul Pont-Tyweli Ymlaen
Cyf. Mae’r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori’r Pwyllgor
Rheoli fel Cyfarwyddwr. Ac yntau’n aelod lleol o'r
Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned,
mae sefydliadau lleol yn edrych
tuag at aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chefnogaeth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Matthew Vaux, Cyngor Sir Ceredigion PDF 146 KB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 3 Hydref 2023 oddi
wrth y Cynghorydd Matthew
Vaux, Cyngor Sir Ceredigion, yn gofyn
am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Treth y Cyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi. Mae ei famgu a’i
dadcu yn berchen ar fwthyn
gwyliau yn Synod Ganol, Synod Inn. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Vaux siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o chwe mis. |
|
Cynghorydd Gareth Lloyd, Cyngor Sir Ceredigion (cais hwyr, felly Saesneg yn unig) PDF 154 KB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 10 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd
Gareth Davies, Cyngor Sir Ceredigion, yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar Dai Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion.
Roedd yn berchen ar eiddo
(ar wahân i’w gartref) a oedd ar osod/ar rent. Roedd y Cynghorydd
Lloyd yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd i’r
Cynghorydd Lloyd adael y cyfarfod fideo er mwyn i’r Pwyllgor
ystyried ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Lloyd siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Sir Ceredigion PDF 153 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 13 Tachwedd 2023 oddi wrth y
Cynghorydd Elizabeth Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ynghylch
Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron (gan gynnwys harbwr Aberaeron a Phwll
Cam). Mae mam y Cynghorydd Evans yn byw
yn Heol y Farchnad, Aberaeron ac mae ei chartref yn edrych dros y maes parcio
sydd wrth ochr i Bwll Cam. Mae teulu’r
Cynghorydd Evans hefyd yn berchen ar adeilad yn rhif 18 Heol y Farchnad, Aberaeron
– nid oes ganddi incwm ohono ac nid oes ganddi ran-berchnogaeth yn yr eiddo
chwaith. Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno’i chais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y cyfarfod fideo er
mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad yn
unig ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn
ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod
perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y
busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol
yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi
Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Sir Ceredigion PDF 153 KB Cofnodion: Cafwyd cais dyddiedig 13 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd
Elizabeth Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ynghylch Cynllun
Amddiffyn Arfordir Aberaeron (gan gynnwys harbwr Aberaeron a Phwll Cam). Mae mam y Cynghorydd Evans yn byw yn Heol y
Farchnad, Aberaeron ac mae ei chartref yn edrych dros y maes parcio sydd wrth
ochr i Bwll Cam. Mae teulu’r Cynghorydd
Evans hefyd yn berchen ar adeilad yn rhif 18 Heol y Farchnad, Aberaeron – nid
oes ganddi incwm ohono ac nid oes ganddi ran-berchnogaeth ar yr eiddo chwaith. Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno’i chais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y cyfarfod fideo er
mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad yn
unig ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn
ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod
perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y
busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol
yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi
Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Chris James, Cyngor Sir Ceredigion PDF 2 MB Cofnodion: Cafwyd cais
dyddiedig 13 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd
Chris James, Cyngor Sir Ceredigion, yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar gartrefi. Roedd ganddo ddau eiddo
ym mhentref Cenarth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd James siarad yn unig ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o chwe mis. |
|
Cofnodion: Adroddwyd bod newid wedi bod yn y canllawiau statudol ac
anstatudol sydd wedi’u cydgrynhoi ar gyfer prif gynghorau yng Nghymru, yn Rhan
2, Adran 6.0, paragraff 6.4 o’r canllawiau.
Mae’r
canllawiau wedi’u newid i nodi y dylai’r pwyllgorau safonau (yn hytrach na
chadeiryddion y pwyllgorau safonau) gwrdd ag arweinwyr grwpiau ar ddechrau pob
blwyddyn gyngor i gytuno ar nifer o faterion. Tynnwyd sylw’r Aelodau at baragraffau 4.36 a 4.24 o’r
Canllawiau Statudol ac Anstatudol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 ynghylch
Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yn bodloni eu dyletswydd statudol yn ôl Deddf
2021 a’u hymwneud â’r Pwyllgor Safonau (yn anad dim y trothwy i’w ddefnyddio
gan y Pwyllgor Safonau unigol). 4.36 Ar ddechrau
pob blwyddyn gyngor, dylai arweinwyr grwpiau gwleidyddol gwrdd â'r pwyllgor
safonau i gytuno ar yr hyn a ganlyn: • Sut y bydd
arweinwyr grwpiau a'r pwyllgor safonau yn cydweithio i sicrhau safonau
ymddygiad priodol; • Amlder y
cyfarfodydd rhwng arweinwyr grwpiau a'r pwyllgor safonau drwy gydol y flwyddyn;
• Y trothwy y
bydd y pwyllgor safonau yn ei ddefnyddio i ganfod a yw'n fodlon bod arweinwyr
grwpiau gwleidyddol wedi cydymffurfio â dyletswyddau Deddf 2021; • Y mecanwaith
i arweinwyr grwpiau gwleidyddol ddarparu adroddiadau i'r pwyllgor safonau am y
camau y maent wedi’u cymryd i gydymffurfio â'r dyletswyddau yn Neddf 2021. 4.24 Mae’r camau
rhesymol y gall Arweinydd y Grŵp eu cymryd yn cynnwys: • dangos
ymrwymiad personol i gyfleoedd datblygu neu hyfforddiant perthnasol ynghylch
cydraddoldeb a safonau, gan gynnwys y Cod Ymddygiad, a mynychu a chyfranogi
mewn cyfleoedd o’r fath; • mynd ati’n
weithredol i annog aelodau’r grŵp i fynychu cyfleoedd datblygu neu
hyfforddiant perthnasol ynghylch cydraddoldeb a safonau, gan gynnwys mewn
perthynas â’r Cod Ymddygiad; • sicrhau bod
enwebeion i bwyllgor wedi derbyn yr hyfforddiant a argymhellir ar gyfer
cyfranogi yn y pwyllgor hwnnw; • gosod esiampl
o ran moesgarwch a pharch o fewn cyfathrebiadau a phwyllgorau’r grŵp ac
mewn pwyllgorau cyngor ffurfiol; • cefnogi
gweithdrefnau datrys anffurfiol yn y cyngor; a gweithio gyda’r pwyllgor safonau
a’r swyddogion monitro i ddod i ddatrysiad yn lleol; • annog
diwylliant o fewn y grŵp sy’n cefnogi safonau uchel o ran ymddygiad ac
uniondeb; • mynychu
cyfarfod o Bwyllgor Safonau’r Cyngor os gofynnir iddo wneud hynny er mwyn
cyfranogi mewn trafodaethau sy’n ymwneud â’r Cod Ymddygiad; • bwrw ymlaen â
gwaith i weithredu unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Safonau ynghylch gwella
safonau; • gweithio
gyda’r Pwyllgor Safonau i fynd ati’n rhagweithiol i adnabod patrymau ymddwyn
amhriodol, eu hystyried, a mynd i’r afael â hwy; • cydweithio ag
arweinwyr grwpiau eraill, o fewn rheswm, i gefnogi gyda’i gilydd safonau
ymddygiad uchel o fewn y cyngor, a phan fo unrhyw faterion a nodir yn cynnwys
mwy nag un grŵp gwleidyddol. CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Recriwtio aelod annibynnol (Chwefror 2024) Cofnodion: Adroddwyd bod panel wedi'i gynnal ar 9 Hydref 2023 i lunio rhestr fer a bod cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 16/11/23 i benodi Aelod annibynnol newydd o Chwefror 2024 ymlaen. Rhoddir diweddariad yng nghyfarfod mis Ionawr. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r diweddariad ar y Cod Ymddygiad, Chwarteri 1 a 2 2023-2024, fel y’i cyflwynwyd. |
|
Adolygu templed asesiad cydymffurfio arweinwyr y grwpiau gwleidyddol PDF 240 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i dempled diwygiedig dyletswyddau arweinwyr y grwpiau gwleidyddol gan gymryd i ystyriaeth
ganllawiau statudol diwygiedig Llywodraeth
Cymru. Cytunodd yr Aelodau â'r diwygiadau a wnaed i dempled asesu cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol fel yr amlygwyd mewn melyn yn yr adroddiad a gyflwynwyd. |
|
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023 OS 2023/988 PDF 235 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Hyfforddiant gyda Chynghorau Tref a Chymuned yn 2024 Cofnodion: CYTUNWYD, gan
fod hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ar gael gan
Un Llais Cymru, y dylai Cynghorau Tref a Chymuned gysylltu â nhw am hyfforddiant. |
|
Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru PDF 72 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i (i) Nodi cynnwys
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 22/23 ac Adroddiad
Blynyddol 22/23 yr Ombwdsmon (ii) bod Aelodau’n
derbyn gwybodaeth ynghylch Hysbysiadau o Benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac (iii) y byddent yn cael eu cylchredeg drwy e-bost cyfrinachol. |
|
Canfyddiadau Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 79 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion Fforwm Pwyllgorau Safonau Cymru PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodi cynnwys y cofnodion a diolch i'r holl swyddogion cynorthwyol am eu cefnogaeth i waith y Pwyllgor. |
|
Cysoni trothwyon rhoddion/lletygarwch ar draws holl Awdurdodau Cymru PDF 106 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i gysoni trothwyon rhoddion/lletygarwch ar draws holl Awdurdodau
Cymru. CYTUNWYD i (i) nodi’r datblygiadau
ers ystyried y mater hwn yn y cyfarfod
ar 23/1/23; a (ii) cadw trothwy
rhodd/lletygarwch ar gyfer Aelodau
Cyngor Sir Ceredigion ar £21. Ategodd yr Aelodau y dylai trothwy rhodd/lletygarwch Swyddogion a Chynghorwyr fod yr un peth i fod yn gyson a theg i bawb. |
|
Cynlluniau hyfforddiant Cyngor Tref a Chymuned PDF 70 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i gysoni trothwyon rhoddion/lletygarwch ar draws holl Awdurdodau
Cymru. CYTUNWYD i (i) nodi’r datblygiadau
ers ystyried y mater hwn yn y cyfarfod
ar 23/1/23; a (ii) cadw trothwy
rhodd/lletygarwch ar gyfer Aelodau
Cyngor Sir Ceredigion ar £21. Ategodd yr Aelodau y dylai trothwy rhodd/lletygarwch Swyddogion a Chynghorwyr fod yr un peth i fod yn gyson a theg i bawb. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith yn amodol ar
y canlynol:- (i) cyflwyno adroddiad
ar benodi is-gadeirydd newydd o fis Chwefror 2024 ymlaen a phenodi aelod lleyg o’r
newydd yng nghyfarfod Ionawr 2024; (ii) cyflwyno adroddiad
ar adolygu Rhoddion a Lletygarwch yng nghyfarfod mis Mai; a (iii) cyflwyno adroddiad diweddaru yn y cyfarfod yn dilyn Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau ym mis Mawrth. |
|
Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda Cofnodion: Ystyriwyd yr
eitemau eisoes o dan eitem 5 ar yr
agenda. |