Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Llun, 4ydd Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd Miss Caryl Davies a Ms Carol Edwards am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd, cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr                      Is-gadeirydd, Mr John Weston.

 

Roedd y Cynghorydd Delyth James wedi dod i’r cyfarfod. Fodd bynnag, oherwydd y rheolau yn ymwneud â’r cworwm, cytunwyd y byddai’n gadael y Pwyllgor er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng nifer yr Aelodau Annibynnol a’r Cynghorwyr.

 

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:-

4.

Cynghorydd Bryan Davies, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cafwyd cais dyddiedig 17 Hydref 2023 oddi wrth y Cynghorydd Bryan Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar Dai Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. Gyda’i wraig a’i frawd, roedd yn gyd-berchen ar . Roedd y yn cael ei osod ar rent i deulu yn yr hirdymor.

 

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

4a

Cynhgorydd Ifan Davies, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais dyddiedig 21 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Ifan Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch treth y cyngor ar ail gartrefi. Roedd yn berchen ar nifer o eiddo yng Ngheredigion.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd digon o wybodaeth yn y cais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad yn unig (am nad oedd digon o wybodaeth yn ei ffurflen gais ynglŷn â’r eiddo yr oedd yn berchen arno), ar y sail bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliad (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

5.

Cynhghorydd Catrin M S Davies, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais dyddiedig 03 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Catrin M S Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch codi trethi ar ail gartrefi.

                  Roedd yn berchen ar eiddo gwag ond nid oedd yn berchen ar gartref gwyliau. Ni fyddai codi trethi ar gartrefi gwyliau yn effeithio arni.

                   

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i chais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y cyfarfod fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei chais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

6.

Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais dyddiedig 27 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar Dai Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. Roedd yn berchen ar eiddo (ar wahân i’w gartref) a oedd yn cael ei osod ar rent.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod ac i gyfran sylweddol o’r cyhoedd a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) (e) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

7.

Cynghorydd Marc Davies, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

8.

Cynghorydd Meirion Davies, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais dyddiedig 27 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Meirion Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor. Roedd yn berchen ar lety gwyliau ar ei fferm.

 

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae  busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

8a

Cynghorydd Wyn Evans, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais dyddiedig 27 Tachwedd 2023 oddi wrth y Cynghorydd Meirion Davies, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ynghylch Premiwm Treth y Cyngor. Roedd yn berchen ar lety gwyliau ar ei fferm.

 

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae  busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

9.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi

Cofnod 3 – Dywedodd y Swyddog Monitro fod Ms Gail Storr wedi cytuno i fod yn Aelod Annibynnol o is-bwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru. Byddai’r trefniadau hyn yn cael eu cadarnhau yng nghyfarfod y Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023. Nodwyd bod Carol Edwards eisoes wedi cytuno i fod yn Aelod Annibynnol ar yr is-bwyllgor ac mai’r Cynghorydd  Gwyn Wigley Evans fyddai cynrychiolydd y Cynghorwyr ar yr is-bwyllgor.

 

Cofnod 7 – Dywedwyd bod Ms Llinos James wedi’i phenodi fel aelod annibynnol newydd ar 16 Tachwedd 2023 ac y byddai’n olynu Mr John Weston ar 22 Chwefror 2024. Byddai’r penodiad hwn yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod y Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023.

 

Cofnod 13 – Roedd Hysbysiadau o Benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi’u dosbarthu drwy e-bost cyfrinachol. Dywedodd y Swyddog Monitro iddi fod yng nghyfarfod o Grŵp y Swyddogion Monitro ar 01 Rhagfyr 2023 ac adroddwyd mai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fyddai’n dosbarthu’r canllawiau o hyn ymlaen ynghylch y llythyron o benderfyniadau ynglŷn â gwrandawiadau pwyllgorau safonau.

         

Cofnod 14- Yn ystod cyfarfod o Grŵp y Swyddogion Monitro, cytunwyd nad oedd y wybodaeth a ddarperid ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch penderfyniadau – yr hyn a oedd wedi disodli’r Coflyfr - yn hawdd mynd ato. Roedd sylw yn cael ei roi i’r mater hwn ar hyn o bryd a byddai cylchlythyr hefyd yn cael ei ddosbarthu yn y dyfodol.

 

Cofnod 15- Roedd y Swyddog Monitro wedi rhoi gwybod i’r grŵp fod Cadeirydd Pwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion wedi gofyn am gael rhoi Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar agenda nesaf Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau fel y gellid ei ystyried. Byddai’r Cadeirydd yn rhoi adborth o’r Fforwm yn y cyfarfod nesaf (29/1/24).

 

Cofnod 16- Dywedodd y Swyddog Monitro iddi roi gwybod i Grŵp y Swyddogion Monitro fod Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno y byddai trothwy rhodd/lletygarwch ar gyfer Aelodau Cyngor Sir Ceredigion yn aros ar £21. Nodwyd mai adolygiad Penn oedd wedi argymell y £25. Serch hynny, argymhelliad yn unig oedd hwn a byddai angen deddfwriaeth i sicrhau cysondeb.

 

10.

Adborth o'r gweithdy ynghylch asesiad cydymffurfio arweinwyr y grwpiau gwleidyddol pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad yn amodol ar y canlynol:-

(i) ers cyhoeddi’r agenda, bod dyddiadau’r gweithdai wedi’u pennu ac y byddent yn cael eu cynnal ar 24 Ebrill 2024 a 20 Mai 2024;

(ii) y byddai Arweinwyr y Grwpiau yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod a fyddai’n cael ei gynnal ar 06 Mawrth 2024; ac

(iii) roedd angen hysbysu Arweinwyr y Grwpiau mai dim ond dau o’r Aelodau oedd wedi gwneud yr hyfforddiant ar-lein ynghylch y Cyfryngau Cymdeithasol ac y dylai pob Cynghorydd gwblhau’r hyfforddiant hwn cyn gynted ag y bo modd.

 

11.

Adolygu'r ffurflen gais am ollyngiad pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gymeradwyo’r ffurflen gais ddiwygiedig am ollyngiad yn amodol ar hefyd gynnwys enw’r Ward yr oedd y Cynghorwyr Sir yn eu cynrychioli o dan ‘Eich Manylion’.

 

 

12.

Penodi Is-Gadeirydd

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai Ms Gail Storr yn cael ei phenodi’n Is-gadeirydd o 22 Chwefror 2024 am gyfnod o bedair blynedd.

Roedd angen cytuno i’r penodiad yn y cyfarfod hwn gan na fyddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal tan fis Mawrth 2024. Byddai’r Cyngor yn cael ei hysbysu ar 14/12/23.

 

Diolchodd yr holl Aelodau i Mr John Weston am ei waith ar y Pwyllgor dros y chwe blynedd ddiwethaf gan ddymuno’n dda iddo at y dyfodol.