Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Sian Maehrlein am nad oedd modd iddi fod yn
bresennol yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Endaf Edwards
ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y Cyngor, Cynan Evans
o Ben-uwch ar ennill y Fedal Arian ym Mhencampwriaeth Dechreuwyr Cymdeithas
Focsio Amatur Cymru 2024. Cyhoeddodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis y bydd Cymanfa Ganu Brenhines a
Ffermwr Ifanc Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn cael ei chynnal am 7:30pm nos
Sul, Mawrth y 3ydd 2024 yn Eglwys Deiniol Sant, Llanddeiniol, ac y
bydd ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ yn cael ei ddarlledu o Gapel Glynarthen
ar 20 Mawrth 2024. Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies y Cynghorydd Wyn Evans ar
Gadeirio'r brotest dros bolisïau newid hinsawdd yn Adeilad y Senedd y diwrnod
cynt, gan dynnu sylw at yr argyfwng sy'n wynebu ardaloedd gwledig yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 PDF 85 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd
ar 23 Ionawr 2024 yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, yr adroddiad i'r
Cyngor gan nodi bod y wybodaeth a'r cynigion yn yr adroddiad wedi cael eu
hystyried gan y Cabinet a'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Pwysleisiodd y byddai'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac na fu dim
newid i'r sefyllfa ariannol ers cael y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr y
llynedd. Nododd fod 70 o feysydd arbed
wedi'u nodi a allai effeithio ar rai Aelodau yn fwy nag eraill, fodd bynnag
byddai'r arbedion cyffredinol o fudd i'r holl drigolion drwy sicrhau bod y
cynnydd i Dreth y Cyngor yn parhau mor isel â phosibl. Diolchodd i Aelodau’r
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu mewnbwn, gan nodi bod y Cabinet wedi cytuno
ar yr argymhelliad a gyflwynwyd ger eu bron a oedd yn ymwneud â chynnal y
casgliad gwastraff Hylendid Amsugnol. Nododd fod aelodau'r cyhoedd yn disgwyl gwasanaeth safon aur, heb gynnydd
yn Nhreth y Cyngor; fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o'r Setliad a
gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd fod Rebecca Evans AS. y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gwrdd ag ef ar sail un-i-un,
fodd bynnag, roedd yr amser a gynigiwyd yn cyd-daro â chyfarfod y Cyngor
heddiw; bydd y cyfarfod hwn yn cael ei aildrefnu. Nododd hefyd fod Arweinydd Cyngor Sir y
Fflint, yn ystod cyfarfod diweddar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi
codi’r un pryderon â’r rheini sy’n effeithio ar Geredigion gan fod ardaloedd
gwledig ar eu colled o’u cymharu ag ardaloedd mwy trefol o ran y Setliad. Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod y Cabinet wedi rhoi mandad i
swyddogion sicrhau bod Treth y Cyngor yn cael ei chadw ar ei lefel isaf
posibl. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n
rhaid gwneud toriadau. Awgrymodd
amcangyfrifon cychwynnol y gallai fod yn rhaid i Dreth y Cyngor gynyddu 20% ond
mae hyn bellach wedi'i ostwng i 10% ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor, ynghyd ag
ardoll yr Awdurdod Tân sy'n cyfateb i 1.1% arall. Nododd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael,
fod 4 gweithdy cyllideb i Aelodau wedi’u cynnal yn ychwanegol at yr holl waith
a wnaed gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Ategodd sylwadau’r Arweinydd, gan
ddiolch i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am arwain y trafodaethau
yn ymwneud â’r gyllideb. Nododd fod Llywodraeth
Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024/25 yw’r ‘llymaf
a’r fwyaf poenus ers datganoli’, a bod y gyllideb ddrafft bellach wedi’i
chwblhau, gan roi cynnydd 2.9% i’r Grant Cynnal Refeniw. Mae'r cynnydd hwn yn y cyllid craidd yn rhoi
Ceredigion yn y 14eg safle o'r 22 Awdurdod Lleol; fodd bynnag, wrth
ystyried y cyllid fesul pen o'r boblogaeth, Ceredigion sy'n cael y swm isaf. Nododd fod y pwysau a amcangyfrifir o ran costau refeniw y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ar gyfer 2024/25 yn dod i gyfanswm o £18m, sy’n cyfateb i ffactor chwyddiant sy’n benodol i Geredigion o 10% sy’n gadael Ceredigion â diffyg yn y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Yn dilyn pleidlais,
PENDERFYNWYD: 3.1
I nodi y cymeradwywyd y
symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yng nghyfarfod Cabinet y
Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2023 yn
unol â rheoliadau Adran 33(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992: (a)
33,768.51 sef y swm a gyfrifir gan y Cyngor fel sylfaen treth
y Cyngor ar gyfer yr ardal, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo
Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau
Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Threth y Cyngor (Dosbarthau
Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004. (b)
RHAN O ARDAL Y CYNGOR
SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 33,768.51
sef y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â
Rheoliad 6 o Reoliadau 1995 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau 2004), fel symiau
Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau mewn rhannau penodol o’r ardal y
mae un eitem neu fwy yn berthnasol iddynt; 3.2
I cymeradwyo’r symiau a
gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag adrannau 32 hyd
36, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y nodir isod:- (a) £285,511,141 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a
nodir yn Adran 32(2)(a) hyd (e) o’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys £180,000 o ran
Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. (b) £90,392,000 sef cyfanswm y
symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a)
hyd (c) o’r Ddeddf. (c) £195,119,141 sef swm y diffyg rhwng cyfanswm (a) uchod a chyfanswm (b) uchod, a
gyfrifir gan y Cyngor fel yr anghenion cyllidebol am y flwyddyn, yn unol ag
Adran 32(4) o’r ddeddf. (d)
£135,285,976 sef cyfanswm y symiau y
mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy i Gronfa’r Cyngor am y flwyddyn
ar gyfer ailddosbarthu ardrethi annomestig, y grant cymorth refeniw a Chynllun
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. (e) £1,771.86 sef y swm a roddir o dan (c) uchod, namyn y swm a roddir o dan (d) uchod, wedi’i rannu â Sylfaen Treth y Cyngor, a gyfrifir gan y Cyngor fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn yn unol ag ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Cyllid a Caffael drosolwg o gynnwys yr adroddiad a nododd fod y Cabinet, yn ei
gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024, wedi ystyried yr adroddiad hwn ar
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a Pholisi’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar
gyfer 2024/ 25, gan argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r
Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddiadau ar gyfer 2024/25; Polisi’r
Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25 ac i ddirprwyo awdurdod i’r
Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a
Chaffael, i ddiwygio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a’r Rhaglen Fuddsoddi, yn
ystod y flwyddyn. Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD: a) cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Benthyca a
Buddsoddiadau ar gyfer 2024/25 b) cymeradwyo Polisi y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25; a c) bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i'r swyddog Adran 151, mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael, i ddiwygio
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a’r Rhaglen Fuddsoddi, yn ystod y flwyddyn. |