Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, yr adroddiad i'r
Cyngor gan nodi bod y wybodaeth a'r cynigion yn yr adroddiad wedi cael eu
hystyried gan y Cabinet a'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Pwysleisiodd y byddai'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac na fu dim
newid i'r sefyllfa ariannol ers cael y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr y
llynedd. Nododd fod 70 o feysydd arbed
wedi'u nodi a allai effeithio ar rai Aelodau yn fwy nag eraill, fodd bynnag
byddai'r arbedion cyffredinol o fudd i'r holl drigolion drwy sicrhau bod y
cynnydd i Dreth y Cyngor yn parhau mor isel â phosibl. Diolchodd i Aelodau’r
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu mewnbwn, gan nodi bod y Cabinet wedi cytuno
ar yr argymhelliad a gyflwynwyd ger eu bron a oedd yn ymwneud â chynnal y
casgliad gwastraff Hylendid Amsugnol.
Nododd fod aelodau'r cyhoedd yn disgwyl gwasanaeth safon aur, heb gynnydd
yn Nhreth y Cyngor; fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o'r Setliad a
gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd fod Rebecca Evans AS. y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gwrdd ag ef ar sail un-i-un,
fodd bynnag, roedd yr amser a gynigiwyd yn cyd-daro â chyfarfod y Cyngor
heddiw; bydd y cyfarfod hwn yn cael ei aildrefnu. Nododd hefyd fod Arweinydd Cyngor Sir y
Fflint, yn ystod cyfarfod diweddar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi
codi’r un pryderon â’r rheini sy’n effeithio ar Geredigion gan fod ardaloedd
gwledig ar eu colled o’u cymharu ag ardaloedd mwy trefol o ran y Setliad.
Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod y Cabinet wedi rhoi mandad i
swyddogion sicrhau bod Treth y Cyngor yn cael ei chadw ar ei lefel isaf
posibl. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n
rhaid gwneud toriadau. Awgrymodd
amcangyfrifon cychwynnol y gallai fod yn rhaid i Dreth y Cyngor gynyddu 20% ond
mae hyn bellach wedi'i ostwng i 10% ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor, ynghyd ag
ardoll yr Awdurdod Tân sy'n cyfateb i 1.1% arall.
Nododd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael,
fod 4 gweithdy cyllideb i Aelodau wedi’u cynnal yn ychwanegol at yr holl waith
a wnaed gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Ategodd sylwadau’r Arweinydd, gan
ddiolch i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am arwain y trafodaethau
yn ymwneud â’r gyllideb. Nododd fod Llywodraeth
Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024/25 yw’r ‘llymaf
a’r fwyaf poenus ers datganoli’, a bod y gyllideb ddrafft bellach wedi’i
chwblhau, gan roi cynnydd 2.9% i’r Grant Cynnal Refeniw. Mae'r cynnydd hwn yn y cyllid craidd yn rhoi
Ceredigion yn y 14eg safle o'r 22 Awdurdod Lleol; fodd bynnag, wrth
ystyried y cyllid fesul pen o'r boblogaeth, Ceredigion sy'n cael y swm isaf.
Nododd fod y pwysau a amcangyfrifir o ran costau
refeniw y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ar gyfer 2024/25 yn dod i gyfanswm o £18m,
sy’n cyfateb i ffactor chwyddiant sy’n benodol i Geredigion o 10% sy’n gadael
Ceredigion â diffyg yn y gyllideb o £14m, i'w ganfod o gyfuniad o ostyngiadau
yn y gyllideb a chynnydd yn Nhreth y Cyngor. Nododd fod angen 70 o gynigion i
leihau'r gyllideb yn yr adroddiad i gynhyrchu cyllideb fantoledig.
Nododd hefyd bwysau o ran costau o gostau sy’n
gysylltiedig â gweithwyr gwerth cyfanswm o £6.1m, yn rhannol oherwydd
dyfarniadau cyflog cenedlaethol (sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor), galwadau
a phwysau ar gyllidebau sy'n gysylltiedig â Gofal Cymdeithasol ar £8.6m yn
ychwanegol at ddyfarniadau cyflog gweithwyr sy'n ymwneud ag ariannu codiadau
chwyddiant sylfaenol ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir yn allanol fel gofal
cartref, Taliadau Uniongyrchol a lleoliadau preswyl i Bobl Hŷn a sicrhau
bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yng Ngheredigion yn parhau i gael
eu talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol sydd wedi codi o £10.90 i £12 yr awr.
Nododd na fu'n bosibl ariannu'n llawn yr holl
bwysau o ran costau yr oedd ysgolion yn eu profi; fodd bynnag, roedd y Cabinet
wedi cytuno i gynnydd cyfartalog o 3.1% er bod y Setliad gan Lywodraeth Cymru
yn is na hyn ar 2.9%. Mae'r cynnydd gan
Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn cyfateb i gynnydd o 12% yn
yr Ardoll Tân, sy'n cyfateb i 1.1% fel baich Treth y Cyngor i holl drigolion
Ceredigion.
Eglurodd y Cynghorydd Gareth Davies fod y
pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi argymell nad oedd y Cabinet yn rhoi cap o £2m
ar yr incwm a gynhyrchir gan y 25% o bremiwm Treth y Cyngor ar gyfer ail
gartrefi ac eiddo gwag hirdymor; fodd bynnag, roedd y Cabinet wedi penderfynu
argymell bod cap wedi'i gynnwys er mwyn osgoi unrhyw risg y bydd cronfeydd
gormodol yn cael eu cronni yn anfwriadol ac er mwyn defnyddio'r cyllid i
wrthbwyso pwysau gan holl wasanaethau'r Cyngor, ac osgoi'r angen i gynyddu
Treth y Cyngor ymhellach fyth.
Nododd er gwaethaf heriau gweithredol, bod
Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n
bodloni bodlonrwydd rheoleiddwyr allanol fel Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn ac
Archwilio Cymru.
Nododd mai lefel bresennol Band D Treth y Cyngor
2023/24 yng Ngheredigion yw £1,908 sy'n is na chyfartaledd cyfatebol Awdurdodau
Lloegr o £2,139. Cyfeiriodd hefyd at y 4
grant penodol i'w trosglwyddo i'r Setliad Terfynol gwerth cyfanswm o £2.228m a
chadarnhaodd fod y Setliad Terfynol a gyhoeddwyd ddydd Mawrth (27/02/24) yn
unol â'r ffigurau yn yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Gareth Davies fod cyfanswm o
70 o gynigion i leihau’r gyllideb wedi’u hargymell gan y Cabinet yn ystod eu
cyfarfod ar 20 Chwefror 2024, sef cyfanswm o £5.819m. Nododd hefyd y byddai 75% o gyllideb y Cyngor
yn cael ei wario ar Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, Llesiant a Gofal Cymdeithasol
Gydol Oes a Phriffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, ac ar ôl darparu ar gyfer
costau sefydlog eraill yn bennaf, megis Lwfansau Aelodau, Ardoll yr Awdurdod
Tân, Costau Ariannu Cyfalaf a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, mae hyn ond
yn gadael 14% ar gyfer holl Wasanaethau eraill y Cyngor.
Yna rhoddodd y Cynghorydd Gareth Davies drosolwg
o'r ystod o Wasanaethau y mae Treth y Cyngor yn talu amdanynt gyda Chyngor Sir
Ceredigion yn darparu dros 100 o wasanaethau i'w drigolion ac yn cyflogi 3,600
o weithwyr (2,614 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn). Mae trigolion yn defnyddio’r gwasanaethau hyn
ar wahanol adegau yn eu bywydau o gofrestru genedigaeth i gael eu cludo i
addysg Feithrin, Gynradd ac Uwchradd hyd at addysg ôl-16 a chael mynediad i’r
addysg honno, boed hynny’n 6ed dosbarth neu’n hyfforddiant
galwedigaethol, i gael mynediad at wasanaethau cerddoriaeth a gwasanaethau
ieuenctid, defnyddio canolfan chwaraeon, llyfrgelloedd neu lwybr arfordir
Ceredigion, cofrestru i bleidleisio mewn etholiad, ceisiadau cynllunio a
cheisiadau rheoliadau adeiladu, bwyta mewn sefydliad bwyd diogel sy’n cael ei
reoleiddio, ymweld ag Amgueddfa Ceredigion neu Theatr, cael eich gwastraff
wedi'i gasglu a'i waredu neu ei ailgylchu, defnyddio safleoedd gwastraff cartrefi,
gyrru ar ffyrdd a phontydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw, a graeanu, defnyddio
gwasanaethau bysiau cyhoeddus, cael goleuadau stryd wedi'u goleuo, gallu
ffonio'r Gwasanaethau Tân ac Achub mewn argyfyngau ac mewn blynyddoedd
diweddarach, elwa ar docynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus,
gwasanaethau gofal a chymorth fel offer i alluogi byw'n annibynnol drwodd i
leoliad mewn Cartref Gofal Preswyl, ac yn y pen draw Gwasanaeth y Crwner a
chofrestru marwolaeth. Nid yw llawer o'r gwasanaethau hyn bob amser yn cael eu
gwerthfawrogi, a bod bwlch sylweddol rhwng yr hyn y gallem ei ddymuno a'r hyn y
gallwn ei gyflawni ac efallai na fydd modd cynnal y lefel bresennol o
wasanaethau yn y dyfodol.
Nododd na fu dim newidiadau i'r Strategaeth
Gyfalaf arfaethedig na'r Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn, a chyfeiriodd hefyd at y
Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli Cyfalaf a Rheoli’r Trysorlys sydd wedi'u
cynnwys yn yr adroddiad.
Yn olaf, diolchodd i’w gyd-aelodau o’r Cabinet am eu holl waith caled yn
sicrhau bod y cynigion yn adlewyrchu amcanion cyllideb fantoledig, a diolchodd
i Duncan Hall a’i dîm sydd wedi wynebu heriau eithriadol yn ystod y flwyddyn,
yn enwedig gyda’r oedi i’r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2022/23 yn cyd-daro â
gofynion pennu cyllideb eithriadol o heriol.
Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Gyllid a Chaffael ei
farn ar y Gyllideb fel Swyddog Adran 151, gan nodi pe bai’n edrych ar y
gyllideb o lens cyfrifydd yn unig, byddai dim ond yn ystyried a yw’r ffigurau’n
gwneud synnwyr ai peidio, fodd bynnag roedd rôl Adran 151 yn gofyn am farn
llawer ehangach na hyn gan gynnwys gorfod ystyried pa mor gyflawnadwy a
chyraeddadwy oedd y cynigion. Nododd
hefyd fod y Grŵp Arweiniol wedi bod yn adolygu'r Gyllideb bob
wythnos.
Cadarnhaodd fod y gostyngiadau arfaethedig wedi cael eu hasesu o ran risg
gan ddefnyddio fformat statws BRAG a bod ychydig o dan hanner yr eitemau wedi'u
graddio'n Las neu'n Wyrdd (naill ai wedi’u cyflawni eisoes neu ar y trywydd
iawn), tra bod yr arbedion a aseswyd yn risg uwch (eitemau coch - sy'n ymwneud
ag oddeutu 4 neu 5 eitem) yn dod i gyfanswm o tua £1.2m. Bydd arbedion eraill
yn cael eu cwrdd yn rhannol yn ystod y flwyddyn wrth iddynt gael eu gweithredu
a'u cyflawni'n llawn yn ystod y blynyddoedd dilynol. Bydd hyn yn cael ei fonitro'n rheolaidd. Nid oes y fath beth â chyllideb berffaith
oni bai bod yr holl bwysau o ran costau wedi’u hariannu’n llawn ac nad oes dim
arbedion i’w canfod. Felly, mae'n rhaid
i'r Cyngor weithredu ar amrywiol oddefiannau ac roedd yr eitemau a aseswyd yn
goch yn cyfateb i 0.6% o'r gyllideb arfaethedig o £193.6m, sy'n cael ei
ystyried yn lefel dderbyniol.
Cadarnhaodd fod amcangyfrifon y Gyllideb felly yn ddigon cadarn yn ei farn
ef a bod lefel y cronfeydd wrth gefn a’r balansau’n ddigonol, tra’n derbyn bod
y cronfeydd wrth gefn yn gostwng ond mewn ffordd reoledig (er enghraifft
oherwydd ymrwymiadau arian cyfatebol ar gynlluniau cyfalaf mawr).
Gorffennodd drwy amlygu bod heriau sylweddol o ran y rhagolygon tymor
canolig, a bod llawer mwy o benderfyniadau anodd o'u blaenau i'r Cyngor.
Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol fod
Ardoll yr Awdurdod Tân yn sylweddol uwch na’r disgwyl yn wreiddiol, a bod
Cyngor Sir Ceredigion ar ei golled ar sail ffigurau amcangyfrifedig y
boblogaeth cyn ac ar ôl y Cyfrifiad Cenedlaethol yn 2021, a bod y cynnydd o 12%
yn cynnwys elfen o gynnydd pensiwn a fydd yn cael ei ad-dalu’n rhannol fel
grant gan Lywodraeth Cymru.
Nododd fod gan y Cabinet waith enfawr o’i flaen i ddod â chyllideb
fantoledig ger ein bron. Y llynedd,
cytunodd y Grŵp Annibynnol ar y gyllideb gan nad oedd dewis arall ar gael;
fodd bynnag, mae'r pwysau a roddwyd ar Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru
bellach wedi ei gwneud bron yn amhosibl gweithredu. Mae gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i
gynyddu trethi, fodd bynnag maen nhw’n dewis peidio â gwneud hynny, tra’n
ariannu croesfan pont am ddim a gwasanaethau presgripsiwn cyffredinol am ddim a
disgwyl i ni godi trethi ac ymdrin â’r cwynion a geir oddi wrth y cyhoedd.
Nododd ei fod yn siomedig bod y Cabinet wedi cytuno i argymell cap ar y
cyllid o'r premiwm ar ail gartrefi a chartrefi gwag, gan bwysleisio pwysigrwydd
gwarchod y Cynllun Tai Cymunedol. Gofynnodd
hefyd beth fyddai goblygiadau ymgynghori â thrigolion ar y cynigion lleihau
amrywiol pe bai'r manylion ariannol yn cael eu cymeradwyo heddiw.
Yn olaf, nododd nad yw’r fformiwla gyllido ar gyfer y setliad yn deg, ac y
dylai pob cyngor ddod ynghyd i wrthwynebu hyn. Cytunodd hefyd i siarad â'r
Awdurdod Tân ynglŷn â'r system ariannu annheg. Nododd na fyddai'n gallu cefnogi'r
argymhellion sy'n ymwneud â'r gyllideb am y rhesymau uchod.
Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol,
y bydd trigolion Ceredigion yn canolbwyntio ar un ffaith yn anad dim arall - y
ffaith bod Treth y Cyngor yn cynyddu a bod gwasanaethau'n lleihau. Mae'n nodi bod bod yn wrthblaid yn anodd, ac
fel rhan o'r wrthblaid, mae'n ymwneud â dwyn y weinyddiaeth i gyfrif wrth ddod
o hyd i ffyrdd o gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n cymunedau lleol a
sicrhau llywodraethu da. Nododd ei bod
yn croesawu’r wybodaeth a’r cyfathrebu a gafwyd gan Swyddogion ac Arweinydd y
Cyngor yn ogystal â pharodrwydd Swyddogion i gael eu herio, ac na ddylai neb
danbrisio awydd pobl gymwys yn eu maes i ddarparu gwasanaethau.
Nododd fod yr holl Aelodau wedi bod trwy gyfres o weithdai a chyfarfodydd y
gyllideb, ac wedi ymgymryd â’r broses o graffu ar gynigion y gyllideb, gan
ddadansoddi’r gwahanol senarios posibl wrth aros am ddiwygiadau i’r setliad gan
Lywodraeth Cymru. Mae'n amlwg bod cyllidebau ar y gorau yn ddyheadol, ac ar y
gwaethaf yn anghyflawnadwy. Mae’r
Setliad gan Lywodraeth Cymru yn ormesol o wael, ac mae San Steffan yn syml wedi
datganoli llymder i lywodraethau lleol ers 2008, gan olchi eu dwylo o unrhyw
gyfrifoldeb. Rydym bellach wedi
cyrraedd y pwynt lle mae darparu’r gwasanaeth mwyaf sylfaenol yn dod yn her
ddyddiol, ac mae trigolion yng nghefn gwlad Cymru yn haeddu gwasanaeth cyfartal
â’r trefi a’r dinasoedd mwyaf trefol. Mae yna drigolion heddiw na wyddant ond
llymder, ac y mae byw mewn cyfnod o ffyniant yn ddieithr iddynt. Ac eto
craidd y mater yw’r arbedion a ragwelir yn ystod y flwyddyn a’r cynhyrchu incwm
arfaethedig, y mae llawer ohonynt yn destun ymgynghoriad, ac mae’n debyg y bydd
eraill yn amhosibl eu cyflawni. Mae
llawer o’r ffocws wedi bod ar leihau canran gychwynnol treth y cyngor, wedi’i
gydbwyso yn erbyn incwm a ragwelir a thoriadau i wasanaethau, act falansio nad
oes neb yn mynd i’w hennill. Mae'r
gronfa wrth gefn ar gyfer eitemau digwyddiadol a'r gronfa wrth gefn ar gyfer
rheoli'r gyllideb yn wag, a phe baem yn defnyddio’r balansau cyffredinol, yna
rydym yn gohirio problemau i drethdalwyr Ceredigion yn y dyfodol ar
unwaith.
Nododd, os caiff arbedion rhagamcanol eu trin yn gorfforaethol, yna rydym
yn mynd i mewn i’r gyllideb hon â mwgwd dros ein llygaid, a bydd unrhyw ddiffyg
yn destun toriadau newydd yn ystod y flwyddyn nad ydynt yn rhan o’r gyllideb
hon, ac felly ni all Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi’r gyllideb
hon.
Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod y nifer sy’n manteisio ar y Cynllun
Tai Cymunedol, a lansiwyd ym mis Hydref wedi bod yn gymharol isel, ac y byddai
angen i’r cynllun gael ei adolygu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu dros y
misoedd nesaf. Gofynnodd hefyd i'r Aelodau ystyried cynigion amgen ar gyfer
arbedion os nad ydynt yn hapus gyda'r cynigion presennol.
Cadarnhaodd Eifion Evans, Prif Weithredwr hefyd y byddai unrhyw
benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen ag arbediad yn y gyllideb yn creu heriau
pellach yn ystod y flwyddyn ariannol, gan olygu bod angen trafodaeth
ddemocrataidd bellach yn ogystal â dangos ystwythder ariannol.
Nododd sawl Aelod fod yr opsiynau ar gyfer arbedion yn y gyllideb yn
bellgyrhaeddol a gwnaethant ofyn a oedd modd eu cyflawni. Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ei fod wedi rhoi ei farn broffesiynol yn
ffurfiol ar y Gyllideb yn Argymhelliad 1 yr adroddiad, sy'n ofyniad
cyfreithiol. Cadarnhaodd os nad oes gan
yr Aelodau ffydd a hyder yn y ffigurau a gyflwynwyd yna ei fod yn adlewyrchu
arno’n broffesiynol ac yn y pen draw byddai’n golygu nad oes gan Aelodau ffydd
ynddo fel swyddog Adran 151.
Nododd y Cynghorydd Hugh Hughes fod ganddo ffydd lwyr yn y ffigyrau oedd yn
cael eu cyflwyno, fodd bynnag bu'n rhaid iddo wneud dyfarniad yn seiliedig ar
ei brofiad ei hun ac nad oedd mor argyhoeddedig y byddai hyn yn bosibl er
gwaethaf gwaith caled Swyddogion ac Aelodau'r Cabinet. Gwnaeth sawl aelod arall gan gynnwys y
Cynghorydd Rhodri Evans, y Cynghorydd Elizabeth Evans a'r Cynghorydd Gareth
Lloyd sylwadau tebyg. Canmolodd yr
aelodau Duncan Hall am ei waith.
Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at yr effaith yn y dyfodol ar drigolion sydd
eisoes yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, ac a ellid nodi arbedion o weithio
gydag awdurdodau eraill. Gofynnon nhw
hefyd a oedd y Cyngor wedi ystyried lleihau swyddi.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Bryan Davies fod gostyngiadau sylweddol wedi bod i
swyddi dros y flwyddyn, a bod y staff presennol eisoes yn ysgwyddo
cyfrifoldebau ychwanegol ac na fyddai gostyngiadau pellach yn gynaliadwy. Nododd fod gwrthdaro rhwng peidio â rhoi
baich ychwanegol ar drethdalwyr a pheidio â lleihau'r gwasanaethau sy'n cael eu
darparu. Os nad yw Aelodau’n fodlon cefnogi’r toriadau arfaethedig yna ni
fyddai ganddynt ddim dewis ond codi eu dwylo a phleidleisio dros gynnydd uwch
yn Nhreth y Cyngor.
Nododd y Prif Weithredwr fod rolau Uwch Reolwyr wedi'u lleihau o 29 i 15
dros y blynyddoedd diwethaf, a bod strwythur yr Uwch Reolwyr yn debyg i
awdurdodau cymharol eraill fel Cyngor Sir Gwynedd.
Nododd y Cynghorydd Keith Henson fod y penderfyniadau hyn wedi bod yn anodd
dros ben, a bod ardaloedd gwledig yn cael eu targedu'n gyson. Mae gan sawl awdurdod eisoes gyfyngiad ar 3
bag du, a bod Cyngor Sir Ceredigion o fewn y tri awdurdod uchaf yng Nghymru ar
gyfer ailgylchu, a bod mwy o ganolfannau ailgylchu y pen o’r boblogaeth yng Ngheredigion
nag unrhyw awdurdod arall. Fodd bynnag,
mae’n rhaid nodi toriadau, a bydd yn rhaid i ni fynd i’r afael â materion megis
50% o gynnwys y bagiau bin du yn ailgylchadwy.
Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd bleidlais wedi’i chofnodi ar bob cynnig
unigol ac eithrio’r cynigion oedd i’w nodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth
Davies ac fe’i cytunwyd drwy bleidlais fwyafrifol.
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:
1. Nodi, ym marn y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a
Chaffael (Swyddog Adran 151):
·
bod amcangyfrifon y
Gyllideb wedi'u paratoi mewn modd cadarn.
·
bod lefel arfaethedig y
Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd a’r Balansau Cyffredinol yn ddigonol ar gyfer
y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
2. Cymeradwyo’r canlynol parthed Premiymau Treth y Cyngor:
a)
O 01/04/24 ymlaen, y
dylai 25% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac
Eiddo Gwag Hirdymor (net o ad-daliadau / costau Treth y Cyngor) gael ei
glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol, ar yr amod drwy’r
amser na fydd cyfanswm y cyllid a ddelir yn y Cynllun Tai Cymunedol yn fwy na
£2.0m ac y bydd unrhyw gyllid y tu hwnt i'r lefel hon mewn unrhyw flwyddyn
benodol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi sefyllfa'r gyllideb gyffredinol.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau
Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar eitem 2.a).
O blaid: Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies,
Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies,
Amanda Edwards, Endaf Edwards, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Eryl Evans,
Raymond Evans, Keith Henson, Paul Hinge, Hugh Hughes, Chris James, Ceris Jones,
Ann Bowen Morgan, Caryl Roberts, John Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew
Vaux, Alun Williams, Carl Worrall, Maldwyn Lewis (28)
Yn erbyn: Ifan Davies, Marc Davies, Gwyn Wigley Evans, Keith
Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Gwyn James, Gareth Lloyd (8)
Ymatal: (0)
b) O 01/04/24 ymlaen, y bydd 75% o’r holl arian a godir o
bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net o
ad-daliadau / costau Treth y Cyngor) yn cael ei gadw a’i ddefnyddio i gefnogi
sefyllfa’r gyllideb gyffredinol, er mwyn lleihau baich Treth y Cyngor ar
drigolion Ceredigion.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau
Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar eitem 2.b).
O blaid: Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies,
Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies,
Amanda Edwards, Endaf Edwards, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Eryl Evans,
Raymond Evans, Keith Henson, Paul Hinge, Chris James, Ceris Jones, Ann Bowen
Morgan, Caryl Roberts, John Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux,
Alun Williams, Carl Worrall, Maldwyn Lewis (27)
Yn erbyn: Ifan Davies, Marc Davies, Gwyn Wigley Evans,
Keith Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Hugh Hughes, Gwyn James, Gareth Lloyd (9)
Ymatal: (0)
3. Cymeradwyo’r
canlynol parthed y Gyllideb Refeniw:
a)
Gofyniad y Gyllideb ar gyfer 24/25 yw £193.572m,
fel y nodir yn Atodiad 1, sy’n cynnwys yr holl gynigion ar gyfer Lleihau’r Gyllideb
a amlinellir yn Atodiad 2.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau
Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar eitem 3.a).
O blaid: Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies,
Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Rhodri Davies, Amanda Edwards,
Endaf Edwards, Eryl Evans, Keith Henson, Chris James, Ceris Jones, Ann Bowen
Morgan, Caryl Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams,
Maldwyn Lewis (20)
Yn erbyn: Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Elaine
Evans, Elizabeth Evans, Gwyn Wigley Evans, Keith Evans, Raymond Evans, Rhodri
Evans, Wyn Evans, Paul Hinge, Hugh Hughes, Gwyn James, Gareth Lloyd, John
Roberts, Carl Worrall (16)
Ymatal: (0)
b) Cyllideb a
Rhagolygon diwygiedig 24/25, fel yr amlinellir yn Atodiad 3.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau
Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar eitem 3.b).
O blaid: Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies,
Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Rhodri Davies, Amanda Edwards,
Endaf Edwards, Eryl Evans, Keith Henson, Chris James, Ceris Jones, Ann Bowen
Morgan, Caryl Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams,
Maldwyn Lewis (20)
Yn erbyn: Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Elaine
Evans, Elizabeth Evans, Gwyn Wigley Evans, Keith Evans, Raymond Evans, Rhodri
Evans, Wyn Evans, Paul Hinge, Hugh Hughes, Gwyn James, Gareth Lloyd, John
Roberts, Carl Worrall (16)
Ymatal: (0)
4. Cymeradwyo’r
canlynol parthed Dangosyddion Cyfalaf a Darbodus:
a)
Y Strategaeth Gyfalaf, fel yr amlinellir yn Atodiad
4.
b)
Y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn, fel yr amlinellir
yn Atodiad 5.
c)
Y Dangosyddion Darbodus, fel yr amlinellir yn
Atodiad 6.
d)
Dirprwyo awdurdod i'r Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Cyllid a Chaffael i weithredu symudiad o fewn cyfanswm y terfyn
Awdurdodedig ar gyfer benthyca allanol, a'r ffin Weithredol.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau Gweithdrefn
y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar eitemau 4 a), b), c)
and d).
O blaid: Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies,
Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies,
Amanda Edwards, Endaf Edwards, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Eryl Evans,
Raymond Evans, Keith Henson, Paul Hinge, Hugh Hughes, Chris James, Ceris Jones,
Ann Bowen Morgan, Caryl Roberts, John Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew
Vaux, Alun Williams, Carl Worrall, Maldwyn Lewis (28)
Yn erbyn: Ifan Davies, Marc Davies, Gwyn Wigley Evans,
Keith Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Gwyn James, Gareth Lloyd (8)
Ymatal: (0)
Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD:
5. Nodi parthed y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor:
a)
Mai £5.440m yw’r ardoll
y cymeradwyodd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Cyngor Sir
Ceredigion, sef cynnydd o £584k (12%).
Ar ôl darparu ar gyfer cyllid tybiedig gan Lywodraeth Cymru tuag at
gostau Pensiynau, mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 1.1% yn Nhreth y Cyngor.
b)
Bod y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar
gyfer Gwasanaethau eraill y Cyngor (heb yr Ardoll Tân) yn cyfateb i 10.0%.
6. Pennu Treth
y Cyngor Band D o £1,726.05 ar gyfer 2024/25 at ddibenion Cyngor Sir
Ceredigion, sef cynnydd o £172.45 neu 11.10%.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau
Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar eitem 6.
O blaid: Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies,
Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Rhodri Davies, Amanda Edwards,
Endaf Edwards, Eryl Evans, Keith Henson, Chris James, Ceris Jones, Ann Bowen
Morgan, Caryl Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams,
Maldwyn Lewis (20)
Yn erbyn: Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Elaine
Evans, Elizabeth Evans, Gwyn Wigley Evans, Keith Evans, Raymond Evans, Rhodri
Evans, Wyn Evans, Paul Hinge, Hugh Hughes, Gwyn James, Gareth Lloyd, John Roberts,
Carl Worrall (16)
Ymatal: (0)
Dogfennau ategol: