Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 15fed Mehefin, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Mynegodd y Cynghorydd Bryan Davies ei gydymdeimlad â theulu’r cyn weinidog Cabinet ac AS Llafur Cymru yr Arglwydd John Morris o Aberafan oedd â chysylltiadau â Chapel Bangor a Llandysul, a fu farw’n ddiweddar.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Keith Evans;

b)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis bawb oedd wedi cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan ennill 152 o fedalau.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Lloyd;

c)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis yr holl Glybiau Ffermwyr Ifanc a gymerodd ran yn Rali’r Ffermwyr Ifanc.  Ategwyd hyn gan y Cynghorwyr Ifan Davies, Gareth Lloyd ac Wyn Evans.  Mynegodd y Cynghorydd Gareth Lloyd ei ddymuniadau gorau hefyd i’r holl unigolion a fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Ceredigion yn Sioe Frenhinol Cymru, a Chlwb Ffermwyr Ifanc Tregaron, yr enillwyr cyffredinol;

d)    Nododd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ei fod wedi bod yn anrhydedd iddo fynychu digwyddiad yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog i’r ffoaduriaid, a mynegodd ddiolch yr holl ffoaduriaid i’r Sir ac i’r rheini sydd wedi rhoi cartref iddynt;

e)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Gerwyn Evans a Jason Hockenhull ar gynrychioli tîm Cymru mewn pysgota â phlu ddiwedd mis Mai; 

f)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens ar ei phenodiad diweddar yn Gadeirydd Dros Dro Bwrdd y BBC;

g)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Euros Davies Rose Florence ar ddathlu ei phen-blwydd yn 105;

h)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Evans Emrys Jones ar ennill y gystadleuaeth gwaith coed yn y categori dan 16 oed;

i)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Rhodri Evans Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi ar ennill gwobr Cynnal y Cardi, gan ddiolch i dîm Cynnal y Cardi a Cavo am eu holl waith caled. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Clive Davies;

j)      Diolchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis i'r Cynghorydd Geraint Hughes am y cyfraniad hwn i'r Cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Elizabeth Evans a nododd ei gyfraniad yn gweithio ar draws y Cyngor a'r arbenigedd yr oedd yn ei gynnig i Ystadau a Ffermydd y Cyngor;

k)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Elizabeth Evans Kyle Evans ar ennill Barbwr y Flwyddyn y DU.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sian Maehrlein;

l)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Claire ac Ianto Lloyd ar gael eu coroni'n bencampwyr bocsio cenedlaethol, a Claire Lloyd ar ennill cystadlaethau'r piano a'r delyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd;

m)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Lloyd dîm Ysgol Tregaron ar ennill cystadleuaeth Genedlaethol pêl-droed 5 bob ochr yr Urdd;

n)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y Cynghorydd Wyn Evans ar gael Cymrodoriaeth gyda'r Cyngor Gwobrau Cymdeithasau Amaethyddol;

o)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans Ali Wright o Needle Rock ar ennill Micro-Fusnes y Flwyddyn i Gymru gan Ffederasiwn y Busnesau Bach a chyrraedd rownd derfynol y DU;

p)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan Ifan Meredith, Osian Roberts ac Angharad Massow ar ennill ysgoloriaeth gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023 a Chyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mai 2023 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023 fel rhai cywir.

 

Materion sy’n codi

Nodwyd yr anfonwyd llythyr at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus wledig yn dilyn y Cynnig i'r Cyngor. Mae trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru; fodd bynnag, ni chafwyd ymateb ffurfiol hyd yma.  Bydd gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau unwaith y bydd ymateb ffurfiol wedi'i gael.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mai 2023 fel rhai cywir.

 

Materion sy’n codi

Nid oedd dim materion sy’n codi.

5.

Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd o dan Reol 10.1 Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor: pdf eicon PDF 126 KB

Cynigydd:    Cynghorydd Wyn Evans

Eilydd:         Cynghorydd Gareth Lloyd

 

Noda’r Cyngor:

Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r cyfle sy’n codi gyda’r strategaeth newydd ar ddileu TB mewn gwartheg i ystyried pa mor effeithiol ydyw o ran lles anifeiliaid (bywyd gwyllt a da byw), iechyd y cyhoedd a’r gost.

 

Mae’r lefelau uchel parhaus o’r clefyd, ei effaith ar les anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, ynghyd â’r gost gynyddol i’r pwrs cyhoeddus, yn awgrymu nad yw’r mesurau presennol yn addas i’r diben. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi a gweithredu’r pwyntiau canlynol:

 

Clefydau Trosglwyddadwy yw TB buchol a dylid mynd i’r afael ag ef yn holistaidd fel mater o les anifeiliaid, yn fywyd gwyllt ac yn anifeiliaid fferm, a hynny gan ddefnyddio cyfres gyflawn o fesurau ar sail y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.

 

Mae’r gofyniad i brofi gwartheg yn aml yn rhoi straen ar dda byw ac yn peri risg uchel y bydd y rheiny sy’n cynnal y profion am TB buchol yn cael eu hanafu neu eu lladd.

 

Mae’r methiant parhaus i fynd i’r afael â TB buchol yn peri llawer o broblemau iechyd meddwl ymysg teuluoedd amaeth a phobl sy’n gysylltiedig â’r maes.

 

Pan fydd achosion yn ymddangos ar ddaliad amaethyddol mae angen ymdrin â nhw mewn modd sensitif gan gyfathrebu yn effeithiol ac yn uniongyrchol.

 

Mae angen i Fwrdd y Rhaglen a’r Grŵp Cynghori Technegol a benodwyd yn gyhoeddus yn ddiweddar gael cynrychiolaeth gytbwys sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid yr effeithir arnynt.”

Cofnodion:

Cynigydd:  Y Cynghorydd Wyn Evans

Eilydd: Y Cynghorydd Gareth Lloyd

 

Noda’r Cyngor:

“Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r cyfle sy’n codi gyda’r strategaeth newydd ar ddileu TB mewn gwartheg i ystyried pa mor effeithiol ydyw o ran lles anifeiliaid (bywyd gwyllt a da byw), iechyd y cyhoedd a’r gost.

 

Mae’r lefelau uchel parhaus o’r clefyd, ei effaith ar les anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, ynghyd â’r gost gynyddol i’r pwrs cyhoeddus, yn awgrymu nad yw’r mesurau presennol yn addas i’r diben.

 

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi’r pwyntiau canlynol a gweithredu yn unol â nhw:-

 

Clefydau Trosglwyddadwy yw TB buchol a dylid mynd i’r afael ag ef yn holistaidd fel mater o les anifeiliaid, yn fywyd gwyllt ac yn anifeiliaid fferm, a hynny gan ddefnyddio cyfres gyflawn o fesurau ar sail y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.

 

Mae’r gofyniad i brofi gwartheg yn aml yn rhoi straen ar dda byw ac yn peri risg uchel y bydd y rheiny sy’n cynnal y profion am TB buchol yn cael eu hanafu neu eu lladd.

 

Mae’r methiant parhaus i fynd i’r afael â TB buchol yn peri llawer o broblemau iechyd meddwl ymysg teuluoedd amaeth a phobl sy’n gysylltiedig â’r maes.

 

Pan fydd achosion yn ymddangos ar ddaliad amaethyddol mae angen ymdrin â nhw mewn modd sensitif gan gyfathrebu yn effeithiol ac yn uniongyrchol.

 

Mae angen i Fwrdd y Rhaglen a’r Grŵp Cynghori Technegol a benodwyd yn gyhoeddus yn ddiweddar gael cynrychiolaeth gytbwys sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid yr effeithir arnynt.”

 

Nododd y Cynghorydd Wyn Evans fod anallu Llywodraeth Cymru i gymryd golwg gyfannol o’r sefyllfa yn gamgymeriad dybryd, ac y byddwn yn delio â’r clefyd hwn am ddegawdau i ddod.  Nododd ei fod yn straen ar iechyd meddwl ffermwyr oherwydd y cysylltiadau emosiynol ag anifeiliaid a’r posibilrwydd o golli incwm a’r angen am adnoddau ychwanegol gan na all y ffermwr fynd â’i anifeiliaid i’r farchnad.  Nododd fod dogfen Llywodraeth Cymru yn siomedig, a bod angen ystyried y materion o ran bywyd gwyllt yn ogystal â brechiadau.  Mae’r difa yn Lloegr wedi gweld cryn ddirywiad mewn achosion, a bod angen ateb gwyddonol yn hytrach nag un gwleidyddol, gyda chyfathrebu effeithiol a symlach yn hanfodol bwysig.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd bod Rhybudd o Gynnig wedi’i gyflwyno i’r Cyngor ar 24 Mawrth 2016 ar y mater hwn; fodd bynnag, cyflwynwyd mwy o waith papur a biwrocratiaeth yn ystod y cyfnod hwn.  Yn 2012, cafodd dros 9,200 o wartheg eu difa yng Nghymru. Yn 2022, y ffigur hwn oedd 9,500. Yng Ngheredigion, cafodd 600 o wartheg eu difa yn 2012, gyda 450 o wartheg yn cael eu difa yng Ngheredigion yn 2022.  Roedd y mwyafrif o'r rhain yn wartheg iach, oherwydd profion annigonol a chanlyniadau amhendant.  Rhaid cael gwared ar y clefyd hwn er mwyn sicrhau anifeiliaid iach a bywyd gwyllt iach.  Yn 2021, gwariwyd dros £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar ei rhaglen TB.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies ei fod yn cytuno â’r hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020-2021 a 2021-2022 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Lesiant Gydol Oed yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi ei bod yn ddyletswydd statudol i gyflwyno’r adroddiadau, yn gofyn am arolygiaeth gan Graffu a nawr gan y Cyngor.  Cwblhawyd yr adroddiadau gan Sian Howys, Cyfarwyddwr Statudol blaenorol y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n disgrifio sut mae Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi perfformio yn ystod y ddwy flynedd ac a fydd yn cael eu defnyddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru i helpu i lywio eu gwerthusiad annibynnol o Geredigion a’u gwaith arolygu. Nododd fod gan Covid le amlwg yn yr adroddiad a’i fod hefyd wedi cyfrannu at yr oedi wrth ddod â’r adroddiadau hyn gerbron, fodd bynnag byddai’r adroddiadau hyn bellach yn diweddaru popeth yn llawn a rhagwelir na fyddai dim oedi pellach.

 

Nododd y Cynghorydd Ceris Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2023, gan nodi ei fod wedi cael yr adroddiad er gwybodaeth a diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith caled a'u hymrwymiad yn ystod y cyfnod hwn.

 

Nododd Audrey Somerton Edwards, Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod yr adroddiadau yn amlinellu gweithgarwch, perfformiad, gwariant a lles cyffredinol y gwasanaeth yn ystod cyfnod hynod gythryblus a gweithgar. Nododd y byddai'r adroddiad ar gyfer eleni ar amser, gan adlewyrchu gwaith ar draws y model Llesiant Gydol Oed.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis bod gwerthfawrogiad y Cyngor yn cael ei gyfleu i'r tîm, gan nodi bod yr adroddiadau yn gynhwysfawr ac yn fanwl iawn.

 

Nododd y Cyngor gynnwys Adroddiad Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020-2021 a 2021-2022.

 

7.

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar Gynrychiolydd Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cymunedol Aberaeron pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod y Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Marc Davies wedi’i enwebu fel cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Ysgol Gynradd Gymunedol Aberaeron.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gadarnhau enwebiad y Cynghorydd Marc Davies fel cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Aberaeron.

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar apwyntiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi yn dilyn secondiad Elen James fel y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Dysgu Gydol Oes (Prif Swyddog Addysg), y gofynnwyd am ddatganiadau o ddiddordeb mewn perthynas â’i rôl barhaol fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cymorth Cynnar, ar sail dros dro.

 

Cynhaliwyd cyfweliadau ar 11eg Mai 2023 ac yn dilyn ystyriaeth a phleidlais, penderfynodd y Pwyllgor benodi Mr Gregory Jones.

 

Nododd y Cyngor benodiad Mr Gregory Jones yn Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros dro: Porth Cymorth Cynnar am uchafswm o 2 flynedd, o 22ain Mai 2023, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, ar gyflog o £75,165 (y pwynt cynyddrannol cyntaf ar raddfa gyflog A1 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol).