Cynigydd: Cynghorydd Wyn
Evans
Eilydd: Cynghorydd
Gareth Lloyd
Noda’r Cyngor:
“Mae’r
Cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth
Cymru ddefnyddio’r cyfle sy’n codi gyda’r
strategaeth newydd ar ddileu TB mewn
gwartheg i ystyried pa mor effeithiol ydyw o ran lles anifeiliaid (bywyd gwyllt a da byw), iechyd y cyhoedd a’r gost.
Mae’r lefelau uchel parhaus o’r
clefyd, ei effaith ar les anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, ynghyd â’r gost
gynyddol i’r pwrs cyhoeddus, yn awgrymu nad
yw’r mesurau presennol yn addas i’r diben. Rydym
yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi a gweithredu’r pwyntiau canlynol:
Clefydau Trosglwyddadwy yw
TB buchol
a dylid mynd i’r afael ag ef
yn holistaidd fel mater o les anifeiliaid, yn fywyd gwyllt
ac yn anifeiliaid fferm, a hynny gan ddefnyddio cyfres gyflawn o fesurau ar sail y cyngor gwyddonol gorau sydd ar
gael.
Mae’r gofyniad i brofi gwartheg
yn aml yn
rhoi straen ar dda byw
ac yn peri risg uchel y bydd y rheiny sy’n cynnal
y profion am TB buchol yn cael eu
hanafu neu eu lladd.
Mae’r methiant parhaus i fynd
i’r afael â TB buchol yn peri llawer o broblemau iechyd meddwl ymysg teuluoedd
amaeth a phobl sy’n gysylltiedig â’r maes.
Pan fydd achosion yn
ymddangos ar ddaliad amaethyddol mae angen ymdrin
â nhw mewn modd sensitif gan
gyfathrebu yn effeithiol ac yn uniongyrchol.
Mae angen i Fwrdd
y Rhaglen a’r Grŵp Cynghori Technegol a benodwyd yn gyhoeddus yn
ddiweddar gael cynrychiolaeth gytbwys sy’n cynnwys yr
holl randdeiliaid yr effeithir arnynt.”
Cofnodion:
Cynigydd: Y Cynghorydd Wyn Evans
Eilydd: Y
Cynghorydd Gareth Lloyd
Noda’r Cyngor:
“Mae’r Cyngor hwn yn
gofyn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r cyfle sy’n codi gyda’r strategaeth newydd
ar ddileu TB mewn gwartheg i ystyried pa mor effeithiol ydyw o ran lles
anifeiliaid (bywyd gwyllt a da byw), iechyd y cyhoedd a’r gost.
Mae’r lefelau uchel
parhaus o’r clefyd, ei effaith ar les anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, ynghyd
â’r gost gynyddol i’r pwrs cyhoeddus, yn awgrymu nad yw’r mesurau presennol yn
addas i’r diben.
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi’r pwyntiau
canlynol a gweithredu yn unol â nhw:-
Clefydau
Trosglwyddadwy yw TB buchol a dylid mynd i’r afael ag
ef yn holistaidd fel mater o les anifeiliaid, yn fywyd gwyllt ac yn anifeiliaid
fferm, a hynny gan ddefnyddio cyfres gyflawn o fesurau ar sail y cyngor
gwyddonol gorau sydd ar gael.
Mae’r gofyniad i
brofi gwartheg yn aml yn rhoi straen ar dda byw ac yn peri risg uchel y bydd y
rheiny sy’n cynnal y profion am TB buchol yn cael eu
hanafu neu eu lladd.
Mae’r methiant
parhaus i fynd i’r afael â TB buchol yn peri llawer o
broblemau iechyd meddwl ymysg teuluoedd amaeth a phobl sy’n gysylltiedig â’r
maes.
Pan fydd achosion yn
ymddangos ar ddaliad amaethyddol mae angen ymdrin â nhw mewn modd sensitif gan
gyfathrebu yn effeithiol ac yn uniongyrchol.
Mae angen i Fwrdd y
Rhaglen a’r Grŵp Cynghori Technegol a benodwyd yn gyhoeddus yn ddiweddar
gael cynrychiolaeth gytbwys sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid
yr effeithir arnynt.”
Nododd y Cynghorydd Wyn Evans fod anallu
Llywodraeth Cymru i gymryd golwg gyfannol o’r sefyllfa yn gamgymeriad dybryd,
ac y byddwn yn delio â’r clefyd hwn am ddegawdau i ddod. Nododd ei fod yn straen ar iechyd meddwl
ffermwyr oherwydd y cysylltiadau emosiynol ag anifeiliaid a’r posibilrwydd o
golli incwm a’r angen am adnoddau ychwanegol gan na all y ffermwr fynd â’i
anifeiliaid i’r farchnad. Nododd fod
dogfen Llywodraeth Cymru yn siomedig, a bod angen ystyried y materion o ran
bywyd gwyllt yn ogystal â brechiadau.
Mae’r difa yn Lloegr wedi gweld cryn ddirywiad mewn achosion, a bod
angen ateb gwyddonol yn hytrach nag un gwleidyddol, gyda chyfathrebu effeithiol
a symlach yn hanfodol bwysig.
Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd bod Rhybudd o
Gynnig wedi’i gyflwyno i’r Cyngor ar 24 Mawrth 2016 ar y mater hwn; fodd
bynnag, cyflwynwyd mwy o waith papur a biwrocratiaeth yn ystod y cyfnod
hwn. Yn 2012, cafodd dros 9,200 o
wartheg eu difa yng Nghymru. Yn 2022, y ffigur hwn oedd 9,500. Yng
Ngheredigion, cafodd 600 o wartheg eu difa yn 2012, gyda 450 o wartheg yn cael
eu difa yng Ngheredigion yn 2022. Roedd
y mwyafrif o'r rhain yn wartheg iach, oherwydd profion annigonol a chanlyniadau
amhendant. Rhaid cael gwared ar y clefyd
hwn er mwyn sicrhau anifeiliaid iach a bywyd gwyllt iach. Yn 2021, gwariwyd dros £30 miliwn gan
Lywodraeth Cymru ar ei rhaglen TB.
Nododd y Cynghorydd Bryan Davies ei fod yn cytuno
â’r hyn a ddywedwyd, gan nodi’r amodau sifil sydd
ynghlwm pan fo sawl canlyniad positif ar fferm a’r heriau i’w dileu o’r mesurau
hyn. Nododd hefyd fod elusennau megis
Tir Dewi, DPJ a Nerth Dy Ben hefyd wedi dangos cysylltiad rhwng achosion o TB
ac iechyd meddwl. Cyfeiriodd hefyd at
ddamweiniau sydd wedi digwydd yn ystod profion, lloi sy’n agos at gyfnod llawn
yn cael eu herthylu a gweld lloi’n cicio yng nghroth y fuwch ar ôl i’r fuwch
gael ei difa. Nododd fod digon o
enghreifftiau o ddulliau amgen, a’i fod yn fater o reoli natur, nid ei dileu’n
llwyr. Mae’n effeithio ar yr economi, ac
mae angen rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i edrych ar fodelau amgen.
Nododd y Cynghorydd Meirion Davies nad oes dim
datblygiadau clir wedi bod, a bod profion yn aml yn dychwelyd yn negatif ar ôl
i’r anifail gael ei ddifa. Mae iawndal
yn ddrud iawn ond nid yw hyn yn cymryd i ystyriaeth y balchder sy'n
gysylltiedig â datblygu buches dros nifer o flynyddoedd. Gall y buchod fynd yn gas yn ystod profion,
ac mae damweiniau gan gynnwys marwolaethau wedi digwydd.
Nododd y Cynghorydd Ifan Davies fod Llywodraeth
Cymru yn gwrthod derbyn tystiolaeth wyddonol, gan gymryd agwedd wleidyddol
tra’n gwrthdroi eu barn ar laswellt plastig mewn ychydig ddyddiau. Nododd fod ganddo sawl set o foch daear ar ei
fferm, y mae’n gofalu amdanynt er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn glir rhag TB a
bod bywyd gwyllt iach ac anifeiliaid fferm iach yn gallu byw ochr wrth ochr.
Nododd y Cynghorydd Keith Evans y gost i iechyd
meddwl unigolion ac i’r sector amaethyddol.
Gofynnodd i Blaid Cymru, sydd â chytundeb cydweithredu â’r Blaid Lafur
yng Nghymru, roi pwysau ar yr awdurdodau perthnasol.
Nododd y Cynghorydd Rhodri Evans fod ganddo fuches
o 100 o wartheg 12 mlynedd yn ôl a'i fod wedi colli 75 ohonynt yn dilyn un
prawf. Cawsant eu difa ar y clos tra'n
cario lloi. Nawr, os cewch chi un prawf
amhendant, mae popeth yn stopio, ac ni allwch werthu dim. Mae’n bwysig bod cydweithio o fewn
amaethyddiaeth er mwyn dileu TB.
Cynigiodd y Cynghorydd Wyn Evans fod yna bleidlais
a gofnodwyd. Eiliwyd hyn a chytunwyd yn unfrydol.
Cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi fel y cytunwyd
ac yn unol â Rheol 14.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng
Nghyfansoddiad y Cyngor ac y byddai’r bleidlais ar gyfer y Rhybudd o Gynnig,
fel y’i cyflwynwyd.
O blaid: Y Cynghorwyr
Bryan Davies, Catrin M S Davies, Clive Davies, Euros Davies, Gareth Davies,
Gethin Davies, Ifan Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies, Amanda Edwards,
Elaine Evans, Elizabeth Evans, Eryl Evans, Gwyn Wigley Evans, Keith Evans,
Rhodri Evans, Wyn Evans, Hughes, Chris James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis,
Gareth Lloyd, Sian Maehrlein, Ann Bowen Morgan, John Roberts, Wyn Thomas,
Matthew Vaux, Alun Williams (28);
Yn erbyn: Dim (0);
Ymatal: Y Cynghorydd Carl
Worrall (1).
Yn dilyn pleidlais a
gofnodwyd, PENDERFYNWYD cytuno ar y Cynnig fel y’i cyflwynwyd.
Dogfennau ategol: