Cofnodion:
a)
Mynegodd y Cynghorydd Bryan
Davies ei gydymdeimlad â theulu’r cyn weinidog Cabinet ac AS
Llafur Cymru yr Arglwydd John Morris o Aberafan oedd â chysylltiadau â Chapel Bangor a Llandysul, a fu farw’n
ddiweddar. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd
Keith Evans;
b)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Maldwyn Lewis bawb oedd wedi cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan
ennill 152 o fedalau. Ategwyd hyn gan y
Cynghorydd Gareth Lloyd;
c)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Maldwyn Lewis yr holl Glybiau Ffermwyr Ifanc a gymerodd ran yn Rali’r Ffermwyr
Ifanc. Ategwyd hyn gan y Cynghorwyr Ifan
Davies, Gareth Lloyd ac Wyn Evans. Mynegodd
y Cynghorydd Gareth Lloyd ei ddymuniadau gorau hefyd i’r holl unigolion a fydd
yn mynd ymlaen i gynrychioli Ceredigion yn Sioe Frenhinol Cymru, a Chlwb
Ffermwyr Ifanc Tregaron, yr enillwyr cyffredinol;
d)
Nododd y Cynghorydd Maldwyn
Lewis ei fod wedi bod yn anrhydedd iddo fynychu digwyddiad yng Ngwersyll yr
Urdd Llangrannog i’r ffoaduriaid, a mynegodd ddiolch yr holl ffoaduriaid i’r
Sir ac i’r rheini sydd wedi rhoi cartref iddynt;
e)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Ifan Davies Gerwyn Evans a Jason Hockenhull ar gynrychioli tîm Cymru mewn
pysgota â phlu ddiwedd mis Mai;
f)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Catrin M S Davies yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens ar ei phenodiad
diweddar yn Gadeirydd Dros Dro Bwrdd y BBC;
g)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Euros Davies Rose Florence ar ddathlu ei phen-blwydd yn 105;
h)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Wyn Evans Emrys Jones ar ennill y gystadleuaeth gwaith coed yn y categori dan
16 oed;
i)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Rhodri Evans Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi ar ennill gwobr Cynnal y Cardi, gan
ddiolch i dîm Cynnal y Cardi a Cavo am eu holl waith caled. Ategwyd hyn gan y
Cynghorydd Clive Davies;
j)
Diolchodd y Cynghorydd
Maldwyn Lewis i'r Cynghorydd Geraint Hughes am y cyfraniad hwn i'r Cyngor yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd. Ategwyd hyn
gan y Cynghorydd Elizabeth Evans a nododd ei gyfraniad yn gweithio ar draws y
Cyngor a'r arbenigedd yr oedd yn ei gynnig i Ystadau a Ffermydd y Cyngor;
k)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Elizabeth Evans Kyle Evans ar ennill Barbwr y Flwyddyn y DU. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sian Maehrlein;
l)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd Claire ac Ianto Lloyd ar gael eu coroni'n bencampwyr bocsio
cenedlaethol, a Claire Lloyd ar ennill cystadlaethau'r piano a'r delyn yn
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd;
m)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd dîm Ysgol Tregaron ar ennill cystadleuaeth Genedlaethol pêl-droed
5 bob ochr yr Urdd;
n)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Gareth Lloyd y Cynghorydd Wyn Evans ar gael Cymrodoriaeth gyda'r Cyngor Gwobrau
Cymdeithasau Amaethyddol;
o)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Gwyn Wigley Evans Ali Wright o Needle Rock ar ennill Micro-Fusnes y Flwyddyn i
Gymru gan Ffederasiwn y Busnesau Bach a chyrraedd rownd derfynol y DU;
p)
Llongyfarchodd y Cynghorydd
Ann Bowen Morgan Ifan Meredith, Osian Roberts ac Angharad Massow ar ennill
ysgoloriaeth gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Cymru y Drindod
Dewi Sant, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan er cof am Mr Hag Harris, ac Amy
Louise a Deiniol Morgan am ymdrech dda.