Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd y Cynghorwyr Euros Davies, Gareth Davies, Gwyn Wigley Evans a Gareth Lloyd fuddiant personol yng nghyswllt eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: a) Estynnodd y Cynghorydd Ifan
Davies ei gydymdeimlad â theulu Mr Dai Lloyd Evans, cyn arweinydd Cyngor
Ceredigion a Chynghorydd dros sawl degawd. Bu i’r Cynghorwyr Bryan Davies a
Keith Evans hefyd gydymdeimlo â’r teulu gan dalu teyrnged i Mr Dai Lloyd Evans; Cafwyd munud o dawelwch i gofio amdano. b) Diolchodd y Cynghorydd Paul Hinge
i Vernon Jones, Clerc ei Gyngor Cymuned lleol a fyddai’n rhoi’r gorau iddi ar
ôl rhoi 52 o flynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus; c) Llongyfarchodd y Cynghorydd Carl
Worrall Daphne Muriel Day ar ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed. d) Estynnodd y Cynghorydd Keith
Evans ei gydymdeimlad â theulu Emlyn Watkin, cyn Bennaeth Cyllid Cyngor Sir
Ceredigion; e) Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith
Evans Ella Davies, Llandysul ar ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed. f) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann
Bowen Morgan gangen Llanbedr Pont Steffan o Ferched y Wawr ar ddathlu ei
phen-blwydd yn 50 oed; g) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann
Bowen Morgan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’r Brifysgol yn Llanbedr Pont
Steffan am sefydlu Gwobr Goffa Hag Harris; h) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Maldwyn Lewis aelodau Clwb Bowlio Rhydlewis am eu llwyddiant ar gyrraedd brig y
gynghrair ac am gynrychioli Ceredigion a Chymru; i) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Rhodri Evans Ann Jones ar gael ei phenodi’n Ddirprwy Raglaw dros Geredigion. j) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Rhodri Evans Sion Davies, disgybl yn Ysgol Henry Richard a fyddai’n cynrychioli
Tîm Dartiau Cymru yn Gibraltar; k) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Catrin M S Davies Gwyneth Keyworth am ennill gwobr y Perfformiwr Cefnogol Gorau
mewn drama theatr yng Ngwobrau WhatsOnStage am ei rôl yn To Kill a
Mockingbird; l) Diolchodd y Cynghorydd Catrin M
S Davies i bob un a gynorthwyodd i sicrhau bod Cystadleuaeth Hanner Awr
Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn llwyddiant ysgubol; m) Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Beca Williams am ennill
gwobr yr Actores Orau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau
Ffermwyr Ifanc; n) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Catrin M S Davies Dafydd Williams am ennill gwobr yr Actor Gorau yn y categori
dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc; o) Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Elen Pencwm am ennill
gwobr y Cynhyrchydd Gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau
Ffermwyr Ifanc; p) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Dderi am eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Hanner
Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc; q) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Elliw Dafydd am ennill gwobr y
Cynhyrchydd Gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr
Ifanc; r) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Betrys Davies am ennill gwobr yr Actores Orau yn y categori dan 16 oed
yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc; s) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl
Evans Martha Thomas am ennill y drydedd wobr yng nghategori’r Actores Orau o
dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc; t) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Ifan Meredith a Gruffydd Davies am ddod yn gydradd drydydd yng nghategori’r Actor Gorau o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 PDF 92 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a
gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor,
yr adroddiad gan nodi bod y wybodaeth wedi’i hystyried gan y Cabinet a’r holl
Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Ychwanegodd fod y Cabinet wedi cytuno â’r cynnig
a gyflwynwyd gan un o’r Pwyllgorau Craffu i beidio â chodi tâl am barcio yn Nhregaron a Llandysul a bod y cynnig hwn wedi’i gynnwys yn
yr adroddiad. Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i’r Swyddogion, gan
nodi bod y Cabinet wedi gosod her iddynt fantoli’r gyllideb heb effeithio ar
swyddi na gwasanaethau ar y rheng flaen, gymaint â sydd bosib. Nododd fod
chwyddiant, pwysau o ran costau gan gynnwys ynni, tanwydd, dyfarniadau cyflog a
galwadau cynyddol yn y gyllideb Gofal Cymdeithasol, a chostau byw cynyddol wedi
golygu diffyg o £22m yn y gyllideb a bod y cynnydd o 8.1% yn Setliad
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 wedi golygu y byddai angen sicrhau £12m o
arbedion o ffynonellau incwm. Roedd y Cabinet wedi cynnig cynnydd o 7.3% yn
Nhreth y Cyngor ac roedd hyn yn cynnwys 6% i ariannu’r cynnydd yn y pwysau a
fyddai ar y Cyngor o ran cost, a chynnydd i ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a
Gorllewin Cymru o’u cyllideb o 13% nad oedd yn agored i drafodaeth, sy’n golygu
1.3% yn ychwanegol ar Dreth y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet
dros Gyllid a Chaffael nad oeddent yn medru rhoi sicrwydd na fyddai unrhyw
swyddi yn cael eu torri, ac y gallai’r ansicrwydd parhaus ynghylch cyflogau
effeithio ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor gan fod, o bosib, yn uwch na’r swm a
neilltuwyd ar ei gyfer. Diolchodd i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu
trafodaethau agored ac aeddfed a nododd pe byddai’r Aelodau wedi dymuno cynnig
atebion gwahanol, y byddent wedi gorfod cyflwyno'r rhain yn ystod y broses
graffu fel y gallai’r Swyddog Adran 151 ystyried costau’r cynigion a rhoi
sicrwydd am gadernid unrhyw gynlluniau o'r fath. Bu i Eifion Evans, y Prif Weithredwr, gydnabod y gwaith
cefndir yr oedd pob Swyddog wedi’i wneud i nodi’r arbedion ac i sicrhau bod
swyddi a gwasanaethau yn cael eu diogelu gymaint â sydd bosib. Nododd fod y
rheoleiddwyr allanol yn cydnabod bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i ddarparu
gwasanaethau o’r ansawdd uchaf er gwaethaf yr heriau. Er hynny, rhagwelwyd y
byddai cyllideb y flwyddyn ganlynol hyd yn oed yn fwy heriol. Cadarnhaodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ei farn ar
y Gyllideb fel y Swyddog Adran 151, a oedd yn
cynnwys rhoi diweddariad ar Setliad Terfynol LlC a chyflwyniad diweddar Cynigion Cyflog yn ddiweddar
ar gyfer staff cyffredinol ar gyfer 2023/24. Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol, fod ardoll yr awdurdod tân wedi bod yn isel iawn yn hanesyddol, ac mai dim ond un Orsaf Dân gyda chriw llawn amser oedd yn bodoli ar draws Ceredigion a Phowys. Roedd hyn wedi cael effaith ar y staffio ac roedd yr Awdurdod Tân yn ceisio denu pobl newydd drwy adolygu contractau cyflogaeth, a dyna yn rhannol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet
dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael adroddiad i’r Cyngor ynglŷn â Phennu
Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24. Nododd mai
adroddiad technegol oedd hwn a bod gofyniad statudol i bleidleisio ar y mater
hwn. Serch hynny, nid oedd hyn yn ailagor y drafodaeth a gafwyd ar yr eitem a
gytunwyd iddi yn flaenorol. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r canlynol: (a)
I nodi y cymeradwywyd y symiau
canlynol ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2022 yn unol â rheoliadau Adran 33(5) o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992: (b)
32,767.99 sef y swm
a gyfrifir gan y Cyngor fel sylfaen treth
y Cyngor ar gyfer yr ardal, yn
unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor)
(Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau
Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a
Threth y Cyngor (Dosbarthau
Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004. (c)
RHAN O ARDAL Y CYNGOR
SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 32,767.99 sef y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â
Rheoliad 6 o Reoliadau 1995 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau 2004), fel symiau
Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau mewn rhannau penodol o’r ardal y
mae un eitem neu fwy yn berthnasol iddynt; 3.2 I cymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn
2023/24 yn unol ag adrannau 32 hyd 36, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel
y nodir isod:- (a) £269,760,426 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y
Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) hyd (e) o’r Ddeddf. Mae hyn
yn cynnwys £190,000 o ran Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. (b) £88,284,000 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar
gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) hyd (c) o’r Ddeddf. (c) £181,476,426 sef swm y diffyg rhwng cyfanswm (a) uchod a chyfanswm (b)
uchod, a gyfrifir gan y Cyngor fel yr anghenion cyllidebol am y flwyddyn, yn
unol ag Adran 32(4) o’r ddeddf. (d) £129,192,414 sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet
dros Gyllid a Chaffael yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Cabinet wedi
penderfynu yn ystod ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2023 i gymeradwyo Datganiad
Polisi Rheoli’r Trysorlys, Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Isafswm
Darpariaeth Refeniw (MRP) ar gyfer 2023/24. Nodwyd y byddai unrhyw benderfyniad
ynghylch dirprwyo dyletswyddau o dan adran 4 yn cael ei adrodd yn ôl i’r
Cabinet, pe byddai unrhyw faterion yn codi. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD: a) nodi’r adroddiad (eitemau 2(i) i 2(iv))
a chymeradwyo argymhelliad y Cabinet; b) cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer
Benthyca a Buddsoddi 2023/24; a c) cymeradwyo Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor
a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl
a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi yn dilyn ymgyrch recriwtio yn
ddiweddar fod rôl y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal, a
Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau’n wag. Dywedodd fod
uchafswm cyflog y rôl ar hyn o bryd lawer yn is na’r rolau cyfatebol mewn
awdurdodau cyfagos ac mewn awdurdodau sydd â phoblogaeth debyg i Geredigion. Cynigiwyd felly fod Taliad Atodol ar sail Grymoedd y
Farchnad o hyd at £10,385 yn cael ei gyflwyno i gynyddu’r cyflog a hysbysebir a
fyddai’n arwain at uchafswm cyflog a thaliad atodol a hysbysebir o £97,500, gan
barhau mewn grym tra bo cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn uwch na lefel y
cyflog a werthuswyd ar gyfer y swydd. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai’r cynnydd arfaethedig yn
ddigonol, gan nodi na fyddai’n gynaliadwy dibynnu ar staff asiantaeth. Dywedodd Eifion Evans fod y cyflogau yng Ngheredigion
wedi bod ar eu hôl hi o gymharu â dyletswyddau a chyfrifoldebau tebyg mewn
awdurdodau cyfagos. Serch hynny, byddai’r cyflog uwch yn arwain at lai o
wahaniaeth rhwng cyflogau’r rolau a oedd yn uwch i fyny’r strwythur cyflogau.
Roedd angen i'r Cyngor ystyried yr hyn a fyddai’n fforddiadwy a phe byddai
argymhelliad yn cael ei gyflwyno y tu hwnt i'r hyn a oedd yn cael ei gynnig,
roedd yn bosib y byddai angen i'r Cyngor ystyried adolygiad cyffredinol o
strwythur cyflogau'r Cyngor. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo cyflwyno taliad atodol ar sail grymoedd y
farchnad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a
Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Cynnal. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros
Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd amlinelliad o
Gynllun y Comisiwn Elusennau mewn perthynas â’r elusen a adwaenir fel Gwobrau
Evan Morgan gan nodi bod angen tri ymddiriedolwr o dan y Cynllun. Yr ymddiriedolwr cyntaf a
gaiff ei enwi yn y Cynllun yw Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Dyfed. Erbyn heddiw
mae swyddogaethau statudol Cyfarwyddwr Addysg Dyfed yn cael eu cyflawni gan y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Ysgolion yn rhinwedd ei swydd fel Prif
Swyddog Addysg. Y Cyngor fel yr Awdurdod
Addysg Lleol fydd yn enwebu’r ddau ymddiriedolwr arall. Gall yr ymddiriedolwyr
hyn fod yn Aelodau o’r Cyngor ond nid oes yn rhaid iddynt fod. Er mwyn adfywio’r cynllun
elusennol ac er mwyn bod mewn sefyllfa i ddyfarnu gwobrau newydd, cynigir bod y
Cyngor yn penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion fel y ddau ymddiriedolwr arall. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion fel y ddau ymddiriedolwr a enwebir i’r elusen a adwaenir fel Gwobrau Evan Morgan. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, adroddiad i’r
Cyngor gan nodi bod gofyniad statudol ar y Swyddog Etholiadol i adolygu ffiniau
yn rheolaidd a bod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi’i benodi i
gynnal adolygiad o gymunedau a threfniadau etholiadol ar ran Cyngor Sir
Ceredigion. Fel rhan o’r adolygiad, byddai’r Comisiwn yn rhoi sylw
i’r canlynol: ·
creu, diddymu neu uno cymunedau a wardiau cymunedol ·
enw’r gymuned, a lle mae’n cynnwys wardiau, enw wardiau cymunedol ·
lle mae newidiadau wedi’u gwneud i ffiniau cymunedau neu wardiau cymunedol,
nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli’r gymuned a, lle mae’n cynnwys wardiau,
nifer y cynghorwyr fesul ward. Fel rhan o’r broses adolygu, byddai gofyn i'r Cyngor
sefydlu grŵp trawsbleidiol o Gynghorwyr i gefnogi'r adolygiad i benderfynu
ar Bolisi Maint y Cyngor (a fyddai’n cael ei gyflwyno i'r Cyngor cyn dechrau'r
cyfarfod ymgynghori cyntaf gyda chynghorau Tref a Chymuned) ac i fod yn brif
grŵp ar gyfer yr awdurdod lleol. Argymhellwyd bod gan y Grŵp
Trawsbleidiol 7 Aelod ac roedd Arweinwyr y Grwpiau wedi enwebu Aelodau ar gyfer
y grŵp hwn. Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor,
fod rhai Cynghorau Tref a Chymuned yn wynebu heriau o ran denu unigolion i
sefyll fel Aelodau. Soniodd hefyd am y costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu
Pwyllgorau. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD: a)
nodi bod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
Cymru wedi'i gomisiynu i gynnal Adolygiad y Cymunedau ar ran y Cyngor; b)
cymeradwyo mai 7 fyddai nifer yr Aelodau ar
Grŵp Trawsbleidiol yr Adolygiad o Gymunedau a’r Adolygiad Etholiadol; c)
cadarnhau aelodaeth Grŵp
Trawsbleidiol yr Adolygiad o Gymunedau a’r Adolygiad Etholiadol fel a ganlyn: ·
Clive Davies ·
Elizabeth Evans ·
Eryl Evans ·
Gwyn Wigley Evans ·
Rhodri Evans ·
Paul Hinge ·
Alun Williams. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet
dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a
Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi yn dilyn ymddiswyddiad
Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fod Mr Andrew Blackmore
wedi’i benodi a’i gymeradwyo gan y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2022. Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023, ystyriwyd y
trefniadau ar gyfer Is-gadeirydd, a chytunwyd i benodi Mr Andrew Blackmore fel
Is-gadeirydd ar unwaith o 17 Ionawr 2023 ymlaen am weddill y cyfnod o ddwy
flynedd hyd at fis Mai 2024. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Andrew Blackmore fel Is-gadeirydd y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hyd at fis Mai 2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth y Grŵp Datblygu
*Ar gyfer tymor y swydd, bydd
y Grŵp Annibynnol a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu rolau’r Cadeirydd/Is-Gadeirydd
– gan gyfnewid bob dwy flynedd Cofnodion:
*Ar gyfer tymor y swydd, byddai’r Grŵp Annibynnol a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu rolau’r Cadeirydd/Is-gadeirydd – gan gyfnewid bob dwy flynedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynrychiolydd cyflogwr i Gronfa Pensiwn Dyfed Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor
a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl
a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Gareth Lloyd
wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r rôl hon.
Enwebodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorydd Wyn
Thomas fel Cynrychiolydd Cyflogwr i Gronfa Bensiwn Dyfed. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Wyn Thomas fel Cynrychiolydd Cyflogwr i Gynllun Bensiwn Dyfed. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodau o'r Cyngor i Bwyllgorau'r cyngor ar gyfer y Flwyddyn Fwrdeisdrefol ddilynol PDF 104 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau’r Cyngor fel y’i
cyflwynwyd gerbron y cyfarfod. |